ATODLEN 3GWEITHREDU CYNIGION STATUDOL
RHAN 1CYFRIFOLDEB DROS WEITHREDU
Cynigion ynghylch ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir
4
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy’n arfaethedig.
(2)
Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 42(1)(b) neu (c) gael eu gweithredu—
(a)
i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a
(b)
fel arall gan yr awdurdod a’r corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.
(3)
Rhaid i gynigion a wneir o dan adran 41(2) gael eu gweithredu—
(a)
os yr awdurdod lleol yw’r cynigydd, gan yr awdurdod lleol, a
(b)
os nad yr awdurdod lleol yw’r cynigydd—
(i)
i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a
(ii)
fel arall gan y person a wnaeth y cynigion.
(4)
Nid oes dim sydd yn is-baragraff (3)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu mangre berthnasol—
(a)
pan fo’r ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir i’w sefydlu yn lle un neu ragor o ysgolion annibynnol, sefydledig neu wirfoddol sy’n rhai presennol ac sydd i’w terfynu ar neu cyn dyddiad gweithredu’r cynigion, a
(b)
pan oedd y fangre honno yn rhan o fangre unrhyw un neu rai o’r ysgolion presennol ond na chafodd ei darparu gan yr awdurdod.
(5)
Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 42(2) gael eu gweithredu—
(a)
i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a
(b)
fel arall gan y corff llywodraethu.
(6)
Ystyr “mangre berthnasol” yw—
(a)
caeau chwarae, neu
(b)
adeiladau sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol ond nad ydynt i fod yn adeiladau ysgol.
(7)
Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 43(1) gael eu gweithredu gan yr awdurdod.
(8)
Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 43(2) gael eu gweithredu gan y corff llywodraethu a chan yr awdurdod lleol.