xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

ATODLEN 2LL+CNEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG

RHAN 4LL+CYSGOLION ARBENNIG

18LL+CMae paragraffau 19 i 21 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion arbennig cymunedol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 2 para. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2Atod. 2 para. 18 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Cynnydd yn nifer disgyblionLL+C

19(1)Ac eithrio pan fo ysgol wedi ei sefydlu mewn ysbyty, cynnydd yn nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, a fyddai o’i gymryd ynghyd â phob cynnydd blaenorol ar ôl y dyddiad priodol, yn cynyddu nifer y disgyblion gan o leiaf 10% neu gan y nifer perthnasol o’i gymharu â nifer y disgyblion ar y dyddiad priodol.

(2)Yn y paragraff hwn—

Gwybodaeth Cychwyn

I3Atod. 2 para. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I4Atod. 2 para. 19 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Darpariaeth fyrddioLL+C

20Newid y ddarpariaeth ar gyfer llety byrddio fel bod y nifer o ddisgyblion y gwneir darpariaeth o’r fath ar eu cyfer yn cael ei gynyddu neu ei leihau gan 5 disgybl neu ragor.

Gwybodaeth Cychwyn

I5Atod. 2 para. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I6Atod. 2 para. 20 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)

Darpariaeth anghenion addysgol arbennigLL+C

21Newid yn y math o anghenion addysgol arbennig y trefnwyd yr ysgol i wneud darpariaeth ar ei gyfer.

Gwybodaeth Cychwyn

I7Atod. 2 para. 21 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I8Atod. 2 para. 21 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)