RHAN 1LL+CPOB YSGOL A GYNHELIR
1LL+CMae paragraffau 2 a 3 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 2 para. 1 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)
Trosglwyddo safleLL+C
2Trosglwyddo ysgol i safle neu safleoedd newydd oni fyddai prif fynedfa’r ysgol ar ei safle neu safleoedd newydd o fewn 1.609344 cilomedr (un filltir) o brif fynedfa’r ysgol ar ei safle neu safleoedd presennol.
Gwybodaeth Cychwyn
I3Atod. 2 para. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I4Atod. 2 para. 2 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)
Ysgolion rhyw gymysg ac ysgolion un rhywLL+C
3(1)Newid a wneir i ysgol fel a ganlyn—
(a)bod ysgol a oedd yn derbyn disgyblion o un rhyw yn unig yn derbyn disgyblion o’r ddau ryw, neu
(b)bod ysgol a oedd yn derbyn disgyblion o’r ddau ryw yn derbyn disgyblion o un rhyw yn unig.
(2)At ddibenion y paragraff hwn mae ysgol i’w thrin fel un sy’n derbyn disgyblion o un rhyw yn unig os yw trefn derbyn disgyblion o’r rhyw arall—
(a)yn gyfyngedig i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol; a
(b)heb fod yn fwy na 25% o nifer y disgyblion yn y grwp oedran a dan sylw sydd fel arfer yn yr ysgol.
Gwybodaeth Cychwyn
I5Atod. 2 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I6Atod. 2 para. 3 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(f)