ATODLEN 2NEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG

RHAN 2POB YSGOL A GYNHELIR AR WAHÂN I YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR

Cyfrwng iaith – addysg uwchradd

8

(1)

Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—

(a)

ysgolion uwchradd,

(b)

ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac

(c)

ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.

(2)

Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu disgyblion mewn grwp blwyddyn mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 2 isod, ac os cynigir newid addysgu’r disgyblion yn y grwp blwyddyn hwnnw fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.

(3)

Yn y paragraff hwn “pwnc perthnasol” yw unrhyw bwnc ar wahân i Gymraeg a Saesneg a addysgir yn yr ysgol i ddisgyblion yn y grwp blwyddyn o dan sylw.

TABL 2

1

2

Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl

Lleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl

Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl

Lleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl

Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgybl

Addysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl

Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i bob disgybl

Addysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl

Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl

Nid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl

Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl

Nid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl