ATODLEN 2NEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG
RHAN 2POB YSGOL A GYNHELIR AR WAHÂN I YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR
Cyfrwng iaith – addysg gynradd
7
(1)
Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—
(a)
ysgolion cynradd,
(b)
ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac
(c)
ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.
(2)
Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu dosbarth o ddisgyblion mewn grwp oedran (neu grwpiau oedran) mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 1 isod, ac os cynigir newid addysgu’r dosbarth cyfatebol o ddisgyblion yn y grwp oedran hwnnw (neu’r grwpiau oedran hynny) fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.
(3)
Yn y paragraff hwn—
(a)
ystyr “grwp oedran” yw—
(i)
grwp blwyddyn o’r cyfnod sylfaen (o fewn yr ystyr a roddir i “foundation phase” gan adran 102 o Ddeddf Addysg 2002), neu
(ii)
grwp blwyddyn o’r ail gyfnod allweddol (o fewn yr ystyr a roddir i “second key stage” gan adran 103 o Ddeddf Addysg 2002);
(b)
nid yw cyfeiriad at addysgu dosbarth o ddisgyblion yn cynnwys gwasanaeth ysgol na gweithgareddau eraill mewn ysgol a gynhelir fel arfer gyda grwpiau mawr o ddisgyblion.
1 | 2 |
---|---|
Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg | Cynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg |
Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg | Cynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg |
Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg | Cynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg |
Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg | Cynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg |
Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg | Cynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg |
Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Saesneg | Cynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Saesneg |
Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Saesneg | Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Saesneg |
Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg | Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg |