ATODLEN 2NEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG

RHAN 2POB YSGOL A GYNHELIR AR WAHÂN I YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR

I2I17Cyfrwng iaith – addysg gynradd

1

Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—

a

ysgolion cynradd,

b

ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac

c

ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.

2

Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu dosbarth o ddisgyblion mewn grwp oedran (neu grwpiau oedran) mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 1 isod, ac os cynigir newid addysgu’r dosbarth cyfatebol o ddisgyblion yn y grwp oedran hwnnw (neu’r grwpiau oedran hynny) fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.

3

Yn y paragraff hwn—

a

ystyr “grwp oedran” yw—

i

grwp blwyddyn o’r cyfnod sylfaen (o fewn yr ystyr a roddir i “foundation phase” gan adran 102 o Ddeddf Addysg 2002), neu

ii

grwp blwyddyn o’r ail gyfnod allweddol (o fewn yr ystyr a roddir i “second key stage” gan adran 103 o Ddeddf Addysg 2002);

b

nid yw cyfeiriad at addysgu dosbarth o ddisgyblion yn cynnwys gwasanaeth ysgol na gweithgareddau eraill mewn ysgol a gynhelir fel arfer gyda grwpiau mawr o ddisgyblion.

TABL 1

1

2

Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg

Cynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg

Cynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg

Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg

Cynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg

Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg

Cynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg

Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Cynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Saesneg

Cynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Saesneg

Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Saesneg

Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Saesneg

Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg