ATODLEN 2NEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG

RHAN 5YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR

Anghenion addysgol arbennig

24

(1)

Sefydlu darpariaeth neu ddirwyn darpariaeth i ben a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

(2)

Os oes darpariaeth a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, newid yn y math o’r cyfryw ddarpariaeth.