Valid from 01/10/2013
Y man addysguLL+C
23(1)Ehangu’r man addysgu, ac eithrio ehangu dros dro, gan 50% neu fwy.
(2)Gwneud ehangu dros dro y man addysgu gan 50% neu fwy yn ehangu parhaol.
(3)Yn y paragraff hwn—
ystyr “man addysgu” (“teaching space”) yw unrhyw fan a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer darparu addysg feithrin ac eithrio’r canlynol—
(a)unrhyw fan a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf ar gyfer addysg disgyblion y mae eu hanghenion addysgol yn cael eu hasesu o dan adran 323 o Ddeddf Addysg 1996 a disgyblion sydd â datganiadau anghenion addysgol arbennig a gedwir o dan adran 324 o’r Ddeddf honno;
(b)unrhyw fan a gafodd ei adeiladu, ei addasu neu ei drefnu yn y fath fodd nad yw’n addas at ddibenion addysgu cyffredinol;
(c)unrhyw fan a gafodd ei adeiladu, ei addasu neu ei drefnu yn bennaf ar gyfer storio cyfarpar, offer neu ddeunyddiau a ddefnyddir wrth addysgu;
(d)unrhyw ran o ardal y mae ei hangen ar gyfer symudiad disgyblion drwy’r ardal honno ac a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n bennaf at y diben hwnnw;
“ehangu dros dro” (“temporary enlargement”) yw ehangu man addysgu y rhagwelir y bydd yr ehangiad, ar yr adeg y’i gwneir, yn ei le am lai na thair blynedd.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 2 para. 23 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)