ATODLEN 2NEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG

RHAN 4YSGOLION ARBENNIG

Cynnydd yn nifer disgyblion

19

(1)

Ac eithrio pan fo ysgol wedi ei sefydlu mewn ysbyty, cynnydd yn nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, a fyddai o’i gymryd ynghyd â phob cynnydd blaenorol ar ôl y dyddiad priodol, yn cynyddu nifer y disgyblion gan o leiaf 10% neu gan y nifer perthnasol o’i gymharu â nifer y disgyblion ar y dyddiad priodol.

(2)

Yn y paragraff hwn—

y “dyddiad priodol” (“appropriate date”) yw’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)

19 Ionawr 2012;

(b)

y dyddiad pan dderbyniodd yr ysgol ddisgyblion gyntaf;

(c)

dyddiad (neu ddyddiad diweddaraf) gweithredu cynigion i wneud newid i’r ysgol i gynyddu nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn darparu ar eu cyfer ac y cyhoeddwyd y cynigion hynny o dan y canlynol—

  1. (i)

    adran 48, 59, 68 neu 72, neu

  2. (ii)

    adran 31 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 neu baragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno; ac

“y nifer perthnasol” (“relevant number”) mewn perthynas â nifer y disgyblion mewn ysgol yw—

(a)

pan fo’r ysgol yn darparu llety byrddio yn unig, 5, a

(b)

ym mhob achos arall, 20.