Effaith hysbysiad o dan adran 7 neu 14LL+C
3(1)Ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14, mae’r llywodraethwyr presennol yn gadael eu swydd.
(2)Nid yw is-paragraff (1) yn atal llywodraethwr presennol rhag cael ei benodi’n aelod gweithrediaeth interim.
(3)Yn ystod y cyfnod interim, mae unrhyw gyfeiriad mewn unrhyw ddarpariaeth sydd yn y Deddfau Addysg, neu sydd wedi ei gwneud oddi tanynt, at lywodraethwr neu lywodraethwr sefydledig ysgol yn cael effaith, o ran yr ysgol, fel cyfeiriad at aelod gweithrediaeth interim.
(4)Yn ystod y cyfnod interim, mae adran 83 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (addasu’r darpariaethau sy’n gwneud llywodraethwyr ysgol sefydledig neu wirfoddol yn ymddiriedolwyr ex officio) yn cael effaith o ran yr ysgol drwy roi yn lle paragraffau (a) i (c) gyfeiriad at yr aelodau gweithrediaeth interim.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Atod. 1 para. 3 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)
I2Atod. 1 para. 3 mewn grym ar 20.2.2014 gan O.S. 2014/178, ergl. 2(e) (ynghyd ag ergl. 3)