ATODLEN 1CYRFF LLYWODRAETHU SYDD WEDI EU FFURFIO O AELODAU GWEITHREDIAETH INTERIM
I1I216Yr amser pan fydd aelodau gweithrediaeth interim yn peidio â dal eu swydd
1
Mae aelodau gweithrediaeth interim i adael eu swydd—
a
mewn achos lle y mae is-baragraff (4) o baragraff 14 yn gymwys, ar y dyddiad terfynu o fewn ystyr y paragraff hwnnw,
b
mewn achos lle nad yw’r is-baragraff hwnnw yn gymwys a bod yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14 yn pennu hyd y cyfnod interim, ar ddiwedd y cyfnod penodedig, ac
c
mewn unrhyw achos arall, ar y dyddiad a bennir o dan baragraff 15(2).
2
Nid yw is-baragraff (1) yn atal terfynu penodiad aelod gweithrediaeth interim ynghynt o dan baragraff 5(2)(b) neu’n unol â thelerau ei benodiad.