ATODLEN 1CYRFF LLYWODRAETHU SYDD WEDI EU FFURFIO O AELODAU GWEITHREDIAETH INTERIM
I1I215Hysbysu bod y corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal wedi ailddechrau llywodraethu
1
Bydd yr is-baragraff canlynol yn gymwys—
a
os nad yw’r hysbysiad o dan adran 7 neu 14 yn pennu hyd y cyfnod interim, a
b
os nad yw paragraff 14(4) yn gymwys.
2
Caiff yr awdurdod priodol roi hysbysiad i’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (3) yn pennu dyddiad pan fydd y corff llywodraethu’n dod yn gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal.
3
Y personau hynny yw’r canlynol—
a
pob aelod gweithrediaeth interim,
b
os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priodol, Gweinidogion Cymru,
c
os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol, yr awdurdod lleol, a
d
yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—
i
y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
ii
os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.