RHAN 6CYFFREDINOL
I2I10I597Gorchmynion a rheoliadau
1
Rhaid i bwer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon gael ei arfer drwy offeryn statudol.
2
Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pwer—
a
i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau gwahanol ar achos, gwahanol ardaloedd neu ddibenion gwahanol;
b
i wneud darpariaeth wahanol yn gyffredinol neu’n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau penodol ar achos yn unig;
c
i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.
3
Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a gaiff eu gwneud o dan y Ddeddf hon neu orchymyn o dan adran 56(2) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu’n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
4
Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan baragraff 26(1) o Atodlen 2 gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.
I9I11I698Dehongli’n gyffredinol a mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio
1
Mae darpariaethau’r Ddeddf hon a darpariaethau Ddeddf Addysg 1996 i’w darllen fel petai nhw i gyd wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.
2
Ond pan roddir i ymadrodd at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon ystyr sy’n wahanol i’r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, mae’r ystyr a roddir at ddibenion y ddarpariaeth honno i fod yn gymwys yn lle’r un a roddwyd at ddibenion Deddf Addysg 1996.
3
Yn y Ddeddf hon—
mae i “awdurdod esgobaethol priodol” yr un ystyr ag (“appropriate diocesan authority”) yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) (ac eithrio yn adran 54(2)(b)) yw cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru;
mae “awdurdod ysgol” (“school authority”) wedi ei ddiffinio yn adran 32 at ddibenion Pennod 3 o Ran 2;
ystyr “y Cod” (“the Code”) ym Mhennod 2 o Ran 3 yw’r cod ar drefniadaeth ysgolion a ddyroddir o dan adran 38(1);
ystyr “corff crefyddol priodol“ (“appropriate religious body“)—
- a
yn achos un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig, neu ysgol arfaethedig o’r fath, yw’r awdurdod esgobaethol priodol, a
- b
yn achos ysgolion eraill neu ysgolion arfaethedig eraill, yw’r corff sy’n cynrychioli’r crefydd neu’r enwad crefyddol a ddatganwyd, neu y bwriedir iddo gael ei ddatgan, mewn perthynas â’r ysgol mewn gorchymyn o dan adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
- a
mae i “corff sefydledig” yr un ystyr â (“foundation body”) yn adran 21(4)(a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
mae “cyfnod gwrthwynebu” (“objection period”) wedi ei ddiffinio yn adran 49(2) at ddibenion Pennod 2 o Ran 3;
mae “cynigydd” (“proposer”) wedi ei ddiffinio yn adran 56 at ddibenion Pennod 2 o Ran 3;
mae “darpariaeth ranbarthol” (“regional provision”) wedi ei diffinio yn adran 64 at ddibenion Pennod 4 o Ran 3;
mae “darparu” (“provide”) wedi ei ddiffinio yn adran 90 at ddibenion adrannau 88 a 89;
mae “disgybl” (“pupil”) wedi ei ddiffinio yn adran 90 at ddibenion adrannau 88 a 89;
ystyr “llywodraethwr sefydledig” (“foundation governor”), mewn perthynas ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, yw person a benodwyd yn llywodraethwr sefydledig yn unol â rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002;
ystyr “newid rheoleiddiedig” (“regulated alteration”) ym Mhennod 2 o Ran 3 yw newid a ddisgrifir yn Atodlen 2;
mae “pwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol” (“powers to make proposals to alter its school”) wedi eu diffinio yn adran 83 at ddibenion Rhan 3;
mae “pwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion” (“powers to make proposals to establish, alter or discontinue schools”) wedi eu diffinio yn adran 83 at ddibenion Rhan 3;
ystyr “rhagnodedig” (“prescribed”) yw wedi ei ragnodi drwy reoliadau;
ystyr “rheoliadau” (“regulations”) yw rheoliadau a wneir gan Weinidogion Cymru;
mae “swyddogaethau addysg arbennig” (“special education functions”) wedi eu diffinio yn adran 64 at ddibenion Pennod 4 o Ran 3;
mae i “un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig” yr un ystyr â (“Roman Catholic Church school”) yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
mae i “un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru” yr un ystyr â (“Church in Wales school”) yn adran 142(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998;
ystyr “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yw ysgol yng Nghymru sy’n ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol, yn ysgol arbennig gymunedol neu’n ysgol feithrin a gynhelir;
mae “ysgol fach” (“small school”) wedi ei diffinio yn adran 56 at ddibenion Pennod 2 o Ran 3;
mae “ysgol gynradd” (“primary school”) wedi ei diffinio yn adran 90 at ddibenion adrannau 88 a 89.
4
Ar gyfer cyfeiriadau yn Rhan 3 at—
a
terfynu ysgol a gynhelir, gweler adran 83;
b
categori ysgol, gweler adran 83.
5
Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at ysgol â chymeriad crefyddol yn cyfeirio at ysgol sydd wedi ei dynodi’n un sydd â chymeriad o’r fath drwy orchymyn o dan adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.
I8I7I499Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Mae Atodlen 5 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.
I3I3100Cychwyn
1
Daw’r darpariaethau canlynol i rym y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon Gydsyniad Brenhinol—
adran 1;
yr adran hon;
adran 101.
2
Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar 1 Ebrill 2013 —
adrannau 88 i 90;
adrannau 92 a 93.
3
Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddeufis gan ddechrau ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon Gydsyniad Brenhinol—
Pennod 3 o Ran 2;
adran 91;
adrannau 94 a 95;
paragraffau 31, 33, 34(1) a (3), 35 a 36 o Ran 3 o Atodlen 5 (ac adran 99 i’r graddau y mae’n ymwneud â’r paragraffau hynny).
4
Daw gweddill y darpariaethau yn y Ddeddf hon i rym ar ddyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
I1I1101Enw byr y Ddeddf hon a’i chynnwys yn un o’r Deddfau Addysg
1
Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.
2
Mae’r Ddeddf hon i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.