RHAN 5SWYDDOGAETHAU AMRYWIOL YSGOLION

Brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd

I188Dyletswydd i ddarparu brecwast am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd

1

Rhaid i awdurdod lleol ddarparu brecwast ar bob diwrnod ysgol i ddisgyblion mewn ysgol gynradd a gynhelir gan yr awdurdod—

a

os yw corff llywodraethu’r ysgol wedi ysgrifennu at yr awdurdod i ofyn bod brecwast yn cael ei ddarparu, a

b

os yw 90 o ddiwrnodau wedi mynd heibio, gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cafwyd y cais.

2

Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys (neu y mae’n peidio â bod yn gymwys) mewn perthynas â chais gan gorff llywodraethu os yw’r naill neu’r llall o’r paragraffau canlynol yn gymwys—

a

bod y corff llywodraethu wedi ysgrifennu at yr awdurdod i ofyn iddo roi’r gorau i ddarparu brecwast;

b

y byddai’n afresymol darparu’r brecwast ac o ganlyniad bod yr awdurdod lleol wedi hysbysu’r corff llywodraethu’n ysgrifenedig—

i

nad yw’n mynd i ddarparu brecwast, neu

ii

ei fod yn mynd i roi’r gorau i ddarparu brecwast.

3

Os yw’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu brecwast i bob disgybl sy’n gofyn i’r awdurdod amdano; at y diben hwn, caniateir i’r cais gael ei wneud gan neu ar ran y disgybl.

4

O ran brecwast a ddarperir gan awdurdod lleol o dan yr adran hon—

a

caiff fod ar unrhyw ffurf y gwêl yr awdurdod yn dda, yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 4 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (gofynion ynglyn â bwyd a diod a ddarperir ar fangre ysgol);

b

rhaid ei ddarparu am ddim;

c

rhaid iddo fod ar gael ar fangre’r ysgol;

d

rhaid iddo fod ar gael cyn dechrau pob diwrnod ysgol, ac eithrio yn achos ysgol arbennig gymunedol lle y caniateir i frecwast fod ar gael cyn neu ar ddechrau pob diwrnod ysgol.

5

Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol gynradd a gynhelir gan awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru am ddarparu brecwast i ddisgyblion.

Annotations:
Commencement Information
I1

A. 88 mewn grym ar 1.4.2013, gweler a. 100(2)

I289Darpariaeth drosiannol

1

Pan fo awdurdod lleol sy’n cynnal ysgol gynradd, neu ei gorff llywodraethu, eisoes yn darparu brecwast i ddisgyblion yr ysgol ar yr adeg y daw adran 88 i rym, mae’r adran honno’n gymwys mewn perthynas â’r ysgol fel petai—

a

cais wedi ei wneud o dan yr adran honno i frecwast gael ei ddarparu gan y corff llywodraethu,

b

90 o ddiwrnodau wedi mynd heibio, gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cafwyd y cais, ac

c

pob disgybl y mae brecwast eisoes yn cael ei ddarparu ar ei gyfer wedi gwneud cais i’r awdurdod.

2

Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo cais ysgrifenedig am ddarparu brecwast i ddisgyblion wedi ei wneud, cyn i adran 88 ddod i rym, gan gorff llywodraethu’r ysgol gynradd i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, ond nad yw’r awdurdod lleol na’r corff llywodraethu wedi bod yn darparu brecwast i ddisgyblion yr ysgol.

3

Mae cais a wneir cyn i adran 88 ddod i rym yn cael effaith fel cais o dan yr adran honno a wnaed ar y diwrnod y daeth yr adran i rym.

Annotations:
Commencement Information
I2

A. 89 mewn grym ar 1.4.2013, gweler a. 100(2)

I390Dehongli adrannau 88 a 89

Yn adrannau 88 a 89—

  • mae “darparu” (“provide”) yn cynnwys trefnu darpariaeth;

  • ystyr “disgybl” (“pupil”) yw plentyn sy’n cael addysg gynradd yn yr ysgol (p’un a yw’r plentyn yn ddisgybl cofrestredig ai peidio);

  • ystyr “ysgol gynradd” (“primary school”) yw ysgol sy’n darparu addysg gynradd (p’un a yw hefyd yn darparu mathau eraill o addysg ai peidio).