RHAN 4CYNLLUNIAU STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG
I1I584Llunio cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg
1
Cynllun yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg sy’n cynnwys—
a
cynigion awdurdod lleol ynghylch sut y bydd yn cyflawni ei swyddogaethau addysg er mwyn—
i
gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg drwy gyfrwng y Gymraeg (“addysg cyfrwng Cymraeg”) yn cael ei darparu yn ei ardal;
ii
gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau addysgu Cymraeg yn ei ardal;
b
targedau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei darparu yn ei ardal ac ar gyfer gwella safonau’r addysg honno ac addysgu Cymraeg yn ei ardal;
c
adroddiad ar y cynnydd a wnaed i fodloni’r targedau a gynhwyswyd yn y cynllun blaenorol neu’r cynllun diwygiedig blaenorol.
2
Rhaid i awdurdod lleol lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg ar gyfer ei ardal.
3
Rhaid i awdurdod lleol gadw golwg ar ei gynllun, ac os yw’n angenrheidiol, ei ddiwygio.
4
Wrth lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg neu gynllun diwygiedig, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—
a
ei awdurdodau lleol cyfagos;
b
pennaeth pob ysgol a gynhelir ganddo;
c
corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo;
d
pob sefydliad o fewn y sector addysg bellach yn ei ardal;
e
mewn perthynas ag unrhyw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn ei ardal—
i
y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
ii
os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol;
f
personau rhagnodedig eraill.
5
Os yw awdurdod lleol yn cynnal asesiad o’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â rheoliadau o dan adran 86, rhaid iddo ystyried canlyniadau’r asesiad hwnnw y tro nesaf y bydd yn llunio neu’n diwygio ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg.
I2I685Cymeradwyo, cyhoeddi a gweithredu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg
1
Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi llunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo.
2
Caiff Gweinidogion Cymru—
a
cymeradwyo’r cynllun fel y’i cyflwynwyd,
b
cymeradwyo’r cynllun gydag addasiadau, neu
c
gwrthod y cynllun a llunio cynllun arall sydd i’w drin fel cynllun cymeradwy’r awdurdod.
3
Os yw awdurdod lleol yn dymuno diwygio ei gynllun, rhaid iddo gyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru.
4
Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun diwygiedig, gydag addasiadau neu hebddynt.
5
Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdod lleol cyn—
a
addasu cynllun yr awdurdod o dan is-adran (2)(b),
b
llunio cynllun arall i gymryd lle cynllun yr awdurdod o dan is-adran (2)(c), neu
c
addasu cynllun diwygiedig yr awdurdod o dan is-adran (4).
6
Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg (neu ei gynllun diwygiedig) a gymeradwywyd.
7
Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg (neu ei gynllun diwygiedig) a gymeradwywyd.
I3I786Asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg
1
Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, wneud asesiad o’r galw ymhlith rhieni yn ei ardal am addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant.
2
Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth (ymhlith pethau eraill) ynghylch pryd a sut i wneud asesiad.
I4I887Rheoliadau a chanllawiau
1
Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg.
2
Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach am y materion canlynol (ymhlith pethau eraill)—
a
ffurf a chynnwys cynllun;
b
amseriad a hyd cynllun;
c
cadw golwg ar gynllun a’i ddiwygio;
d
ymgynghori yn ystod y broses o lunio cynllun a’i ddiwygio;
e
cyflwyno cynllun i gael ei gymeradwyo;
f
pryd a sut i gyhoeddi cynllun.
3
Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i alluogi dau neu fwy o awdurdodau lleol i lunio cydgynllun, a chaiff unrhyw reoliadau o’r fath addasu unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon o ran y modd y mae’n gymwys i gydgynlluniau.
4
Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.