Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

PENNOD 4LL+CDARPARIAETH RANBARTHOL AR GYFER ANGHENION [F1ADDYSGOL ARBENNIG] [F1DYSGU YCHWANEGOL]

Diwygiadau Testunol

F1Geiriau yn nheitl Rhn. 3 Pnd. 4 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(3)(a); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2)

64Ystyr “darpariaeth ranbarthol” a “swyddogaethau [F2addysg arbennig] [F2anghenion dysgu ychwanegol]LL+C

Yn y Bennod hon—

  • ystyr “darpariaeth ranbarthol” (“regional provision”) yw—

    (a)

    darpariaeth addysg i blant sy’n perthyn i ardaloedd gwahanol awdurdodau lleol, mewn ysgol a gynhelir gan un o’r awdurdodau hynny, neu

    (b)

    darpariaeth a wneir gan ddau awdurdod lleol neu fwy i nwyddau neu wasanaethau gael eu cyflenwi gan un o’r awdurdodau—

    (i)

    i’r llall neu’r lleill, neu

    (ii)

    i un neu fwy o gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod arall neu’r awdurdodau eraill;

  • [F3ystyr “swyddogaethau addysg arbennig” (“special education functions”) yw swyddogaethau o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996 (anghenion addysgol arbennig). ]

  • [F3ystyr “swyddogaethau anghenion dysgu ychwanegol” (“additional learning needs functions”) yw swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018.]

Diwygiadau Testunol

F2Geiriau yn mhennawd a. 64 wedi eu hamnewid (1.9.2021 at ddibenion penodedig) gan Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (anaw 2), a. 100(3), Atod. 1 para. 22(3)(b)(i); O.S. 2021/373, erglau. 3, 4, 6, 7 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2021/938, ergl. 2)

Gwybodaeth Cychwyn

I1 A. 64 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 64 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)

65Cyfarwyddyd i ystyried gwneud darpariaeth ranbartholLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol i ystyried a fyddent hwy (neu unrhyw rai ohonynt) yn gallu cyflawni eu [F4swyddogaethau addysg arbennig] [F4wyddogaethau anghenion dysgu ychwanegol], mewn cysylltiad â phlant sydd â’r [F5anghenion addysgol arbennig] [F5anghenion dysgu ychwanegol] a bennir yn y cyfarwyddyd, yn fwy effeithlon neu effeithiol pe câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud.

(2)Rhaid i’r awdurdodau y rhoddir cyfarwyddyd iddynt gyflwyno adroddiad ar eu casgliadau i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r amser a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Caniateir i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gael ei roi i awdurdodau lleol yn gyffredinol neu i un neu fwy o awdurdodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 65 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I4A. 65 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)

66Cyfarwyddiadau i wneud cynigion i sicrhau darpariaeth ranbartholLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu swyddogaethau [F6addysg arbennig] [F6anghenion dysgu ychwanegol], mewn cysylltiad â phlant sy’n syrthio o fewn disgrifiad penodol, yn fwy effeithiol neu effeithlon os câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi un neu fwy o’r cyfarwyddiadau a bennir yn is-adran (3) er mwyn sicrhau bod darpariaeth ranbarthol yn cael ei gwneud mewn perthynas â’r disgrifiad o blant o’r ardaloedd a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Y cyfarwyddiadau yw—

(a)bod awdurdod lleol yn arfer ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion;

(b)bod corff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol yn arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol;

(c)bod dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau—

(i)y bydd darpariaeth ar gyfer addysg yn cael ei gwneud odanynt gan un o’r awdurdodau mewn cysylltiad â phersonau o ardal (neu ardaloedd) yr awdurdod arall (neu’r awdurdodau eraill), a

(ii)y bydd darpariaeth yn cael ei gwneud odanynt i benderfynu’r taliadau sydd i’w gwneud o dan y trefniadau mewn cysylltiad â darparu’r addysg honno;

(d)bod dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau sy’n darparu bod un o’r awdurdodau hynny’n cyflenwi i’r llall (neu’r lleill) nwyddau neu wasanaethau sydd i’w pennu yn y trefniadau ar delerau (gan gynnwys telerau o ran talu) a fyddai’n cael eu pennu felly;

(e)bod awdurdod lleol a chyrff llywodraethu un neu fwy o ysgolion sefydledig neu wirfoddol yn gwneud trefniadau sy’n darparu bod yr awdurdod yn cyflenwi i’r cyrff llywodraethu nwyddau neu wasanaethau sydd i’w pennu yn y trefniadau, ar delerau (gan gynnwys telerau o ran talu) a fyddai’n cael eu pennu felly.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(c) a chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a) neu (3)(b), caniateir i’r taliadau y mae is-adran (3)(c) yn cyfeirio atynt gynnwys swm mewn cysylltiad â’r costau sy’n gysylltiedig â sefydlu, newid neu derfynu’r ysgol o dan sylw.

(5)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a) neu (3)(b)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion o dan sylw i gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r corff sy’n gwneud y cynigion anfon copi o’r cynigion cyhoeddedig, ynghyd â gwybodaeth arall (o fath a bennir yn y cyfarwyddyd) mewn cysylltiad â’r cynigion hynny i Weinidogion Cymru.

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I5A. 66 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I6A. 66 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)

67Darpariaeth bellach am gynigion a wneir ar ôl cyfarwyddyd o dan adran 66LL+C

(1)Ni chaniateir i gynigion a wneir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 66 gael eu tynnu’n ôl heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cydsyniad at ddibenion is-adran (1) yn ddarostyngedig i amodau.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol ad-dalu gwariant yr aed iddo’n rhesymol gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo wrth wneud cynigion yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 66.

(4)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol gwrdd â’r gost o weithredu cynigion a wneir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 66 a’r rheini’n gynigion sydd wedi eu cymeradwyo neu y penderfynwyd eu gweithredu.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 67 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I8A. 67 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)

68Cynigion gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 66, a

(b)naill ai—

(i)cynigion wedi eu cyhoeddi’n unol â’r cyfarwyddyd, neu

(ii)yr amser a ganiatawyd o dan y cyfarwyddyd ar gyfer cyhoeddi’r cynigion wedi dirwyn i ben.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw gynigion y gellid fod wedi eu gwneud yn unol â’r cyfarwyddyd.

(3)Cyn cyhoeddi cynigion o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ynglyn â’r cynigion yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

(4)Rhaid i’r cynigion gael eu cyhoeddi’n unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cynigion—

(a)at yr awdurdodau lleol y mae’r cynigion yn effeithio ar eu hardaloedd, a

(b)at gorff llywodraethu pob ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 68 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I10A. 68 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)

69GwrthwynebiadauLL+C

(1)Caiff unrhyw berson wrthwynebu cynigion a gyhoeddir o dan adran 68.

(2)Rhaid i wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig at Weinidogion Cymru cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd y cynigion eu cyhoeddi.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 69 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I12A. 69 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)

70Mabwysiadu cynigionLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag adran 69 (ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl)—

(a)mabwysiadu’r cynigion gydag addasiadau neu hebddynt, neu

(b)penderfynu peidio â mabwysiadu’r cynigion.

(2)Caniateir i fabwysiad cynigion ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y mabwysiad yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.

(3)Mae cynigion sydd wedi eu mabwysiadu gan Weinidogion Cymru yn cael effaith fel petaent wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 ar ôl cael eu gwneud—

(a)gan yr awdurdod lleol o dan ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, neu

(b)yn achos cynigion i newid ysgol sefydledig neu wirfoddol, gan y corff llywodraethu o dan ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.

(4)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol dan sylw gwrdd â’r gost o weithredu cynigion sy’n cael eu mabwysiadu o dan is-adran (1) ac sy’n cael effaith fel a grybwyllwyd yn is-adran (3)(b).

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 70 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I14A. 70 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(c)