xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 3LL+CTREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 3LL+CRHESYMOLI LLEOEDD YSGOL

Cynigion gan Weinidogion Cymru i resymoli lleoedd ysgolLL+C

59Gwneud a chyhoeddi cynigion gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd o dan adran 57(2), a

(b)naill ai—

(i)cynigion wedi eu cyhoeddi’n unol â’r cyfarwyddyd, neu

(ii)yr amser a ganiatawyd o dan y cyfarwyddyd ar gyfer cyhoeddi’r cynigion wedi dirwyn i ben.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw gynigion y gellid fod wedi eu gwneud yn unol â’r cyfarwyddyd.

(3)Rhaid i’r cynigion gael eu cyhoeddi’n unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cynigion—

(a)at yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal, a

(b)at gorff llywodraethu pob ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hwy.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 59 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

I2A. 59 mewn grym ar 1.10.2013 gan O.S. 2013/1800, ergl. 3(b)