RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 3RHESYMOLI LLEOEDD YSGOL

Cyfarwyddiadau i wneud cynigion i resymoli lleoedd ysgol

I1I357Cyfarwyddiadau i wneud cynigion i gywiro darpariaeth ormodol neu annigonol

1

Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod darpariaeth ormodol neu fod, neu ei bod yn debygol y bydd, darpariaeth annigonol ar gyfer addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir—

a

yn ardal awdurdod lleol, neu

b

mewn rhan o’r ardal honno.

2

Caiff Gweinidogion Cymru—

a

cyfarwyddo’r awdurdod lleol i arfer ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, a

b

cyfarwyddo corff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol a gynhelir gan yr awdurdod i arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.

3

Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (2)—

a

ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd,

b

ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion, wrth iddynt roi effaith i’r cyfarwyddyd, gymhwyso unrhyw egwyddorion a bennir ynddo, ac

c

pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod, neu ei bod yn debygol y bydd, darpariaeth annigonol, pennu’r nifer ychwanegol o ddisgyblion y mae lle i’w drefnu ar eu cyfer.

4

Ni chaniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion ymwneud ag ysgol a enwir.

I2I458Darpariaeth bellach am gynigion a wneir ar ôl cyfarwyddyd o dan adran 57(2)

1

Ni chaniateir i gynigion a wneir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 57(2) gael eu tynnu’n ôl heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

2

Caiff Gweinidogion Cymru roi cydsyniad at ddibenion is-adran (1) yn ddarostyngedig i amodau.

3

Rhaid i’r awdurdod lleol ad-dalu gwariant yr aed iddo’n rhesymol gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo wrth wneud cynigion yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 57(2).

4

Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol gwrdd â’r gost o weithredu cynigion a wneir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 57(2) a rheini’n gynigion sydd wedi eu cymeradwyo neu y penderfynwyd eu gweithredu.