xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2SAFONAU

PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Y seiliau dros ymyrryd

2Y seiliau dros ymyrryd

At ddibenion y Bennod hon, mae’r seiliau dros ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir fel a ganlyn—

Ymyrraeth gan awdurdod lleol

3Hysbysiad rhybuddio

(1)Os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas ag un o’i ysgolion a gynhelir, caiff yr awdurdod roi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu’r ysgol.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)y seiliau dros ymyrryd;

(b)y rhesymau pam y mae’r awdurdod wedi ei fodloni bod y seiliau’n bodoli;

(c)y camau y mae’r awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu eu cymryd er mwyn ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd;

(d)y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan y corff llywodraethu (“y cyfnod cydymffurfio”);

(e)y camau y mae’r awdurdod â’i fryd ar eu cymryd os bydd y corff llywodraethu’n methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.

(3)Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol, rhaid iddo yr un pryd roi copi o’r hysbysiad rhybuddio i—

(a)y pennaeth;

(b)os yw’r ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol;

(c)Gweinidogion Cymru.

4Pŵer i ymyrryd

(1)Mae gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir o dan y Bennod hon os yw is-adran (2), (3) neu (4) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 3 i gorff llywodraethu’r ysgol, a

(b)os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu â sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad yr awdurdod o fewn y cyfnod cydymffurfio.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol a bod ganddo reswm dros gredu bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw sail 7 (ysgol y mae arni angen gwelliant sylweddol) neu sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig) yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a

(b)os yw cyfnod heb fod yn llai na 10 niwrnod wedi mynd heibio er y dyddiad y rhoes y Prif Arolygydd hysbysiad i’r awdurdod lleol o dan adran 37(2) o Ddeddf Addysg 2005, yn ddarostyngedig i is-adran (5).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu, mewn perthynas ag ysgol benodol, bod is-adran (4)(b) yn cael effaith fel petai’r cyfeiriad at 10 niwrnod yn cyfeirio at gyfnod byrrach a bennir yn y penderfyniad.

(6)Pan fo gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd, rhaid iddo gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.

(7)Os yw’r awdurdod yn dod i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth ei fodd, neu na fyddai arfer ei bwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddo ysgrifennu at y corff llywodraethu i’w hysbysu am ei gasgliad.

(8)Os yw awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (7), rhaid iddo anfon copi yr un pryd—

(a)os yw’r ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol—

(i)at y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, at y corff crefyddol priodol, a

(b)at Weinidogion Cymru.

(9)Mae pŵer awdurdod lleol i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd un o’r camau canlynol yn digwydd—

(a)bod yr awdurdod yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (7);

(b)bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu nad oes effaith mwyach i’r pŵer i ymyrryd a’u bod yn ysgrifennu at yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu i’w hysbysu am eu penderfyniad;

(c)bod Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu’r ysgol o dan adran 10.

(10)Nid yw awdurdod lleol sydd â phwer i ymyrryd wedi ei gyfyngu i gymryd y camau y dywedodd ei fod â’i fryd ar eu cymryd mewn hysbysiad rhybuddio.

5Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sicrhau cyngor neu gydlafurio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)Caiff yr awdurdod lleol, gyda golwg ar wella perfformiad yr ysgol, gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu’r ddau ohonynt—

(a)ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig (a gaiff fod yn gorff llywodraethu ysgol arall) i ddarparu i’r corff llywodraethu wasanaethau penodedig sy’n gynghorol eu natur;

(b)arfer y pwerau o dan adran 5(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (pwerau cydlafurio) a bennir yn y cyfarwyddyd, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 6 o’r Mesur hwnnw.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu’r ysgol, a

(b)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(4)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu’r trefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

6Pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)Caiff yr awdurdod lleol benodi cymaint o lywodraethwyr ychwanegol i gorff llywodraethu’r ysgol ag y gwêl yn dda; ac mae’r offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol yn cael effaith fel petai’n darparu ar gyfer penodiadau o’r fath (er gwaethaf unrhyw beth mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002).

(3)Caiff yr awdurdod lleol enwebu un o’r llywodraethwyr hynny i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn lle unrhyw berson a etholwyd yn gadeirydd y corff hwnnw.

(4)Cyn gwneud unrhyw benodiad neu enwebiad o’r fath mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(b)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(5)Bydd llywodraethwr a benodir o dan yr adran hon yn dal ei swydd am gyfnod a benderfynir gan yr awdurdod lleol.

(6)Bydd llywodraethwr a enwebir gan yr awdurdod lleol i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn gadeirydd am gyfnod a benderfynir gan yr awdurdod lleol.

(7)Caiff yr awdurdod lleol dalu tâl cydnabyddiaeth a lwfansau i lywodraethwyr a benodir o dan yr adran hon.

7Pŵer awdurdod lleol i gyfansoddi corff llywodraethu o aelodau gweithrediaeth interim

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)Caiff yr awdurdod lleol ysgrifennu at gorff llywodraethu’r ysgol i’w hysbysu bod y corff llywodraethu, o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, i’w gyfansoddi’n unol ag Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim).

(3)Cyn rhoi hysbysiad rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)ymgynghori â chorff llywodraethu’r ysgol,

(b)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ymgynghori â’r canlynol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol, ac

(c)sicrhau cydsyniad Gweinidogion Cymru.

8Pŵer awdurdod lleol i atal dros dro yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir, a

(b)os oes gan yr ysgol gyllideb ddirprwyedig o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2)Caiff yr awdurdod lleol atal dros dro hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig drwy roi i’r corff llywodraethu hysbysiad am yr ataliad dros dro.

(3)Mae’r ataliad dros dro ar yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig yn dod yn weithredol o’r adeg y bydd y corff llywodraethu’n cael yr hysbysiad.

(4)Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad yn atal dros dro yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig, rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad i’r pennaeth yr un pryd.

(5)Mae ataliad dros dro sy’n cael ei osod o dan yr adran hon yn cael effaith at ddibenion Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (ariannu ysgolion a gynhelir) fel petai wedi ei wneud o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno (atal dros dro ddirprwyiad ariannol).

9Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan yr awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)Os yw’r awdurdod lleol yn credu ei bod yn briodol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd, caiff—

(a)rhoi cyfarwyddiadau i’r corff llywodraethu neu’r pennaeth, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru

10Hysbysiad rhybuddio

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir—

(a)os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a

(b)os yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol naill ai—

(i)heb roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu o dan adran 3 ar un neu fwy o’r seiliau hynny, neu

(ii)wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, ond yn nhermau sy’n annigonol ym marn Gweinidogion Cymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)y seiliau dros ymyrryd;

(b)y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;

(c)y camau y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu eu cymryd er mwyn ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd;

(d)y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan y corff llywodraethu (“y cyfnod cydymffurfio”);

(e)y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd y corff llywodraethu yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol, rhaid iddynt yr un pryd ag y byddant yn rhoi’r hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu roi copi o’r hysbysiad rhybuddio i—

(a)yr awdurdod lleol;

(b)y pennaeth;

(c)os yw’r ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

11Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd

(1)Mae gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir o dan y Bennod hon os yw is-adran (2), (3), (4) neu (5) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 3 i gorff llywodraethu’r ysgol,

(b)os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio, ac

(c)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r awdurdod lleol wedi cymryd, ac nad yw’n debyg o gymryd, camau digonol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 10 i gorff llywodraethu’r ysgol, a

(b)os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol a bod ganddynt reswm dros gredu bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw sail 7 (ysgol y mae arni angen gwelliant sylweddol) neu sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig) yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a

(b)os yw cyfnod heb fod yn llai na 10 niwrnod wedi mynd heibio er y dyddiad y rhoes y Prif Arolygydd hysbysiad i Weinidogion Cymru o dan adran 37(2) o Ddeddf Addysg 2005, yn ddarostyngedig i is-adran (6).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu, mewn perthynas ag ysgol benodol, bod is-adran (5)(b) yn cael effaith fel petai’r cyfeiriad at 10 niwrnod yn cyfeirio at gyfnod byrrach a bennir yn y penderfyniad.

(7)Pan fo gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, rhaid iddynt gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.

(8)Os yw Gweinidogion Cymru’n credu bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth eu bodd, neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt ysgrifennu at y corff llywodraethu a’r awdurdod lleol i’w hysbysu am eu casgliad.

(9)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (8) mewn perthynas ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, rhaid iddynt anfon copi yr un pryd at—

(a)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(b)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(10)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (8).

(11)Os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.

12Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sicrhau cyngor neu gydlafurio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, gyda golwg ar wella perfformiad yr ysgol, gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu’r ddau ohonynt—

(a)ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig (a gaiff fod yn gorff llywodraethu ysgol arall) i ddarparu i’r corff llywodraethu wasanaethau penodedig sy’n gynghorol eu natur;

(b)arfer y pwerau o dan adran 5(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (pwerau cydlafurio) a bennir yn y cyfarwyddyd, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 6 o’r Mesur hwnnw.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu’r ysgol, a

(b)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(4)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu’r trefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

13Pŵer Gweinidogion Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi cymaint o lywodraethwyr ychwanegol i gorff llywodraethu’r ysgol ag y gwelant yn dda; ac mae’r offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol yn cael effaith fel petai’n darparu ar gyfer penodiadau o’r fath (er gwaethaf unrhyw beth mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru enwebu un o’r llywodraethwyr hynny i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn lle unrhyw berson a etholwyd yn gadeirydd y corff hwnnw.

(4)Cyn gwneud unrhyw benodiad neu enwebiad o’r fath mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(b)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(5)Bydd llywodraethwr a benodir o dan yr adran hon yn dal ei swydd am gyfnod a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(6)Bydd llywodraethwr a enwebir gan Weinidogion Cymru i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn gadeirydd am gyfnod a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth a lwfansau i lywodraethwyr a benodir o dan yr adran hon.

(8)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pŵer o dan yr adran hon mewn perthynas ag unrhyw ysgol—

(a)ni chaiff yr awdurdod lleol atal dros dro hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i Ddeddf Safonau a Fframwaith 1998, a

(b)os yw’r awdurdod lleol eisoes wedi arfer y pŵer hwnnw neu ei bwer o dan adran 8, caiff Gweinidogion Cymru ddirymu’r ataliad dros dro.

(9)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pwerau o dan yr adran hon mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, nid oes dim mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002 i’w ddarllen fel petai’n awdurdodi penodi llywodraethwyr sefydledig er mwyn eu gwneud yn fwy niferus na’r llywodraethwyr eraill fel y bydd eu nifer hwy wedi ei gynyddu gan y rhai a gaiff eu penodi gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(10)O ran dirymu ataliad dros dro o dan is-adran (8)(b)—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol gael ei hysbysu’n ysgrifenedig amdano, a

(b)daw’n weithredol o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.

14Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfansoddi corff llywodraethu o aelodau gweithrediaeth interim

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ysgrifennu at gorff llywodraethu’r ysgol i’w hysbysu bod y corff llywodraethu, o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, i’w gyfansoddi’n unol ag Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim).

(3)Cyn rhoi hysbysiad rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol,

(b)corff llywodraethu’r ysgol, ac

(c)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(4)Nid yw Gweinidogion Cymru yn gorfod ymgynghori â’r personau a grybwyllwyd yn isadran (3)(b) ac (c) os yw’r awdurdod lleol wedi ymgynghori â hwy am gyfansoddiad corff llywodraethu o dan adran 7 ar sail pŵer i ymyrryd y daethpwyd ag ef i ben drwy effaith adran 4(9)(b) neu (c).

15Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgolion yn cael eu ffedereiddio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir (“yr ysgol sy’n peri pryder”).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw un o’r personau canlynol i ddarparu ar gyfer un neu fwy o’r trefniadau a nodir yn is-adran (3)—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(c)corff llywodraethu ffederasiwn.

(3)Dyma’r trefniadau—

(a)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(b)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder a ffederasiwn sy’n bodoli eisoes;

(c)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder a ffederasiwn sy’n bodoli eisoes ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(d)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(e)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw a ffederasiwn arall sy’n bodoli eisoes;

(f)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw a ffederasiwn arall sy’n bodoli eisoes ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(g)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, bod yr ysgol yn ymadael â’r ffederasiwn hwnnw.

(4)Cyn rhoi cyfarwyddiad o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol,

(b)y cyrff llywodraethu sydd o dan sylw, ac

(c)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(5)Yn yr adran hon mae i “ffederasiwn” yr ystyr a roddir gan adran 21(1) o Fesur Addysg (Cymru) 2011.

16Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir ar dir sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i’r ysgol gael ei therfynu ar ddyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol,

(b)corff llywodraethu’r ysgol,

(c)yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol, ac

(d)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(4)Wrth roi cyfarwyddyd i derfynu’r ysgol, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig hefyd am y cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r ysgol a’i phennaeth.

(5)Pan fo cyfarwyddyd yn cael ei roi i’r awdurdod lleol o dan is-adran (2), rhaid iddo derfynu’r ysgol o dan sylw ar y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd; ac nid oes dim yn Rhan 3 sy’n gymwys i derfynu’r ysgol o dan yr adran hon.

(6)Yn yr adran hon mae unrhyw gyfeiriad at derfynu ysgol a gynhelir yn cyfeirio at yr awdurdod lleol yn peidio â’i chynnal.

17Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd, cânt—

(a)rhoi cyfarwyddiadau i’r corff llywodraethu neu’r pennaeth, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

Darpariaethau atodol

18Cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim

Mae Atodlen 1 (penodi aelodau o fyrddau gweithrediaeth interim, swyddogaethau’r byrddau, eu gweithdrefnau a materion cysylltiedig) yn cael effaith.

19Cyfarwyddiadau

(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu bennaeth sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan y Bennod hon gydymffurfio ag ef.

(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn y corff llywodraethu neu’r pennaeth.

(3)O ran cyfarwyddyd o dan y Bennod hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais gan, neu ar ran, y person a roes y cyfarwyddyd.

20Canllawiau

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.