xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir—
(a)os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a
(b)os yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol naill ai—
(i)heb roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu o dan adran 3 ar un neu fwy o’r seiliau hynny, neu
(ii)wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, ond yn nhermau sy’n annigonol ym marn Gweinidogion Cymru.
(2)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—
(a)y seiliau dros ymyrryd;
(b)y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;
(c)y camau y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu eu cymryd er mwyn ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd;
(d)y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan y corff llywodraethu (“y cyfnod cydymffurfio”);
(e)y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd y corff llywodraethu yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.
(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol, rhaid iddynt yr un pryd ag y byddant yn rhoi’r hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu roi copi o’r hysbysiad rhybuddio i—
(a)yr awdurdod lleol;
(b)y pennaeth;
(c)os yw’r ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol—
(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
(1)Mae gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir o dan y Bennod hon os yw is-adran (2), (3), (4) neu (5) yn gymwys.
(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw’r awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 3 i gorff llywodraethu’r ysgol,
(b)os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio, ac
(c)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r awdurdod lleol wedi cymryd, ac nad yw’n debyg o gymryd, camau digonol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd.
(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 10 i gorff llywodraethu’r ysgol, a
(b)os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.
(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol a bod ganddynt reswm dros gredu bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon.
(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—
(a)os yw sail 7 (ysgol y mae arni angen gwelliant sylweddol) neu sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig) yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a
(b)os yw cyfnod heb fod yn llai na 10 niwrnod wedi mynd heibio er y dyddiad y rhoes y Prif Arolygydd hysbysiad i Weinidogion Cymru o dan adran 37(2) o Ddeddf Addysg 2005, yn ddarostyngedig i is-adran (6).
(6)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu, mewn perthynas ag ysgol benodol, bod is-adran (5)(b) yn cael effaith fel petai’r cyfeiriad at 10 niwrnod yn cyfeirio at gyfnod byrrach a bennir yn y penderfyniad.
(7)Pan fo gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, rhaid iddynt gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.
(8)Os yw Gweinidogion Cymru’n credu bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth eu bodd, neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt ysgrifennu at y corff llywodraethu a’r awdurdod lleol i’w hysbysu am eu casgliad.
(9)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (8) mewn perthynas ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, rhaid iddynt anfon copi yr un pryd at—
(a)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
(b)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
(10)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (8).
(11)Os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru, gyda golwg ar wella perfformiad yr ysgol, gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu’r ddau ohonynt—
(a)ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig (a gaiff fod yn gorff llywodraethu ysgol arall) i ddarparu i’r corff llywodraethu wasanaethau penodedig sy’n gynghorol eu natur;
(b)arfer y pwerau o dan adran 5(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (pwerau cydlafurio) a bennir yn y cyfarwyddyd, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 6 o’r Mesur hwnnw.
(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)corff llywodraethu’r ysgol, a
(b)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—
(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
(4)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu’r trefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi cymaint o lywodraethwyr ychwanegol i gorff llywodraethu’r ysgol ag y gwelant yn dda; ac mae’r offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol yn cael effaith fel petai’n darparu ar gyfer penodiadau o’r fath (er gwaethaf unrhyw beth mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002).
(3)Caiff Gweinidogion Cymru enwebu un o’r llywodraethwyr hynny i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn lle unrhyw berson a etholwyd yn gadeirydd y corff hwnnw.
(4)Cyn gwneud unrhyw benodiad neu enwebiad o’r fath mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
(b)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
(5)Bydd llywodraethwr a benodir o dan yr adran hon yn dal ei swydd am gyfnod a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
(6)Bydd llywodraethwr a enwebir gan Weinidogion Cymru i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn gadeirydd am gyfnod a benderfynir gan Weinidogion Cymru.
(7)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth a lwfansau i lywodraethwyr a benodir o dan yr adran hon.
(8)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pŵer o dan yr adran hon mewn perthynas ag unrhyw ysgol—
(a)ni chaiff yr awdurdod lleol atal dros dro hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i Ddeddf Safonau a Fframwaith 1998, a
(b)os yw’r awdurdod lleol eisoes wedi arfer y pŵer hwnnw neu ei bwer o dan adran 8, caiff Gweinidogion Cymru ddirymu’r ataliad dros dro.
(9)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pwerau o dan yr adran hon mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, nid oes dim mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002 i’w ddarllen fel petai’n awdurdodi penodi llywodraethwyr sefydledig er mwyn eu gwneud yn fwy niferus na’r llywodraethwyr eraill fel y bydd eu nifer hwy wedi ei gynyddu gan y rhai a gaiff eu penodi gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.
(10)O ran dirymu ataliad dros dro o dan is-adran (8)(b)—
(a)rhaid i’r awdurdod lleol gael ei hysbysu’n ysgrifenedig amdano, a
(b)daw’n weithredol o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.
(2)Caiff Gweinidogion Cymru ysgrifennu at gorff llywodraethu’r ysgol i’w hysbysu bod y corff llywodraethu, o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, i’w gyfansoddi’n unol ag Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim).
(3)Cyn rhoi hysbysiad rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol,
(b)corff llywodraethu’r ysgol, ac
(c)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—
(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
(4)Nid yw Gweinidogion Cymru yn gorfod ymgynghori â’r personau a grybwyllwyd yn isadran (3)(b) ac (c) os yw’r awdurdod lleol wedi ymgynghori â hwy am gyfansoddiad corff llywodraethu o dan adran 7 ar sail pŵer i ymyrryd y daethpwyd ag ef i ben drwy effaith adran 4(9)(b) neu (c).
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir (“yr ysgol sy’n peri pryder”).
(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw un o’r personau canlynol i ddarparu ar gyfer un neu fwy o’r trefniadau a nodir yn is-adran (3)—
(a)awdurdod lleol;
(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;
(c)corff llywodraethu ffederasiwn.
(3)Dyma’r trefniadau—
(a)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;
(b)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder a ffederasiwn sy’n bodoli eisoes;
(c)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder a ffederasiwn sy’n bodoli eisoes ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;
(d)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;
(e)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw a ffederasiwn arall sy’n bodoli eisoes;
(f)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw a ffederasiwn arall sy’n bodoli eisoes ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;
(g)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, bod yr ysgol yn ymadael â’r ffederasiwn hwnnw.
(4)Cyn rhoi cyfarwyddiad o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)yr awdurdod lleol,
(b)y cyrff llywodraethu sydd o dan sylw, ac
(c)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—
(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.
(5)Yn yr adran hon mae i “ffederasiwn” yr ystyr a roddir gan adran 21(1) o Fesur Addysg (Cymru) 2011.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir ar dir sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig).
(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i’r ysgol gael ei therfynu ar ddyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.
(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—
(a)yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol,
(b)corff llywodraethu’r ysgol,
(c)yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—
(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a
(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol, ac
(d)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.
(4)Wrth roi cyfarwyddyd i derfynu’r ysgol, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig hefyd am y cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r ysgol a’i phennaeth.
(5)Pan fo cyfarwyddyd yn cael ei roi i’r awdurdod lleol o dan is-adran (2), rhaid iddo derfynu’r ysgol o dan sylw ar y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd; ac nid oes dim yn Rhan 3 sy’n gymwys i derfynu’r ysgol o dan yr adran hon.
(6)Yn yr adran hon mae unrhyw gyfeiriad at derfynu ysgol a gynhelir yn cyfeirio at yr awdurdod lleol yn peidio â’i chynnal.
(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.
(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd, cânt—
(a)rhoi cyfarwyddiadau i’r corff llywodraethu neu’r pennaeth, neu
(b)cymryd unrhyw gamau eraill.