xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 2LL+CSAFONAU

Valid from 20/02/2014

PENNOD 1LL+CYMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Darpariaethau atodolLL+C

18Cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interimLL+C

Mae Atodlen 1 (penodi aelodau o fyrddau gweithrediaeth interim, swyddogaethau’r byrddau, eu gweithdrefnau a materion cysylltiedig) yn cael effaith.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 18 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

19CyfarwyddiadauLL+C

(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu bennaeth sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan y Bennod hon gydymffurfio ag ef.

(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn y corff llywodraethu neu’r pennaeth.

(3)O ran cyfarwyddyd o dan y Bennod hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais gan, neu ar ran, y person a roes y cyfarwyddyd.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 19 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)

20CanllawiauLL+C

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 20 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 100(4)