74.Mae adran 55 yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid i gynigion sydd wedi eu cymeradwyo, neu fod y cynigydd wedi penderfynu y dylid eu gweithredu, gael eu gweithredu ar y ffurf y cawsant eu cymeradwyo neu eu penderfynu, ac yn unol ag Atodlen 4 ar gyfer cynigion newid categori, neu'n unol ag Atodlen 3 ar gyfer pob math arall o gynnig.
75.Mae Atodlen 3 yn darparu manylion pellach ynghylch gweithredu cynigion statudol gan gynnwys cyfrifoldebau ar gyfer gweithredu mathau gwahanol o gynigion, a darparu mangreoedd a chymorth. Mae Atodlen 4 yn darparu manylion pellach ynghylch gweithredu'r cynigion newid categori, gan gynnwys trosglwyddo staff a thir. Mae'r Atodlen hon yn darparu ar gyfer ac yn nodi'r broses y mae'n rhaid i gyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ei rhoi ar waith i weithredu'r cynigion i newid categori ac yn gwneud darpariaeth debyg i'r un a geir yn Rheoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001. Mae'n nodi, ymhlith pethau eraill, y manylion ynghylch sut y mae trosglwyddo staff a thir. Mae pŵer yn cael ei ddarparu i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau mewn cysylltiad â sut y mae newid categori yn cael effaith ar lywodraethu'r ysgol.
76.Caiff y cynigydd ohirio penderfyniad hyd at dair blynedd, neu benderfynu peidio â gweithredu'r cynigion o gwbl, os yw wedi ei fodloni y byddai gweithredu'r cynigion yn afresymol o anodd neu fod amgylchiadau wedi newid i'r fath raddau fel y byddai'r gweithredu hwnnw yn amhriodol. Caiff y cynigydd hefyd benderfynu dod â’r gweithredu ynghynt am gyfnod sydd hyd at 13 o wythnosau.
77.Wrth wneud y penderfyniadau hynny, rhaid i'r cynigydd hysbysu'r corff llywodraethu priodol a'r awdurdod lleol (pan nad yw un o'r ddau hyn yn gynigydd). Pan fo'r cynigion wedi cael cymeradwyaeth gan Weinidogion Cymru neu awdurdod lleol, rhaid i'r cynigydd gael cytundeb Gweinidogion Cymru cyn gwneud unrhyw benderfyniad i ohirio, rhoi'r gorau i unrhyw weithredu neu ddod â’r cyfnod gweithredu ynghynt.
78.Mae adran 55 ac Atodlen 3 yn disodli, gyda diwygiadau, Atodlen 6 i Ddeddf 1998. Mae Atodlen 4 yn seiliedig ar Reoliadau Newid Categori Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2001.