5.Mae Penodau 1 a 2 o Ran 2 o’r Ddeddf hon yn diwygio'r gyfraith bresennol mewn cysylltiad ag ymyrraeth gan awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac ymyrraeth gan Weinidogion Cymru ym materion arfer swyddogaethau addysg gan awdurdodau lleol.
6.Yn gyffredinol, mater i’r awdurdod lleol yn y lle cyntaf fydd cymryd camau mewn cysylltiad ag ysgolion sy'n peri pryder, a dim ond pan fo’r awdurdod wedi methu â’u cymryd, neu pan fo wedi cymryd camau ond wedi gwneud hynny mewn modd annigonol, y bydd Gweinidogion Cymru fel arfer yn cymryd camau.
7.Mae'r adran hon yn nodi’r wyth sail dros ymyrraeth gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru mewn ysgol a gynhelir.
8.Mae'r seiliau dros ymyrryd a nodir yn yr adran hon yn disodli'r seiliau a nodir yn adran 15(2)(a) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (‘Deddf 1998’), gyda diwygiadau. Yn ychwanegol, mae seiliau 5 a 6 wedi eu sylfaenu ar bwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru yn adrannau 497 a 496, yn y drefn honno, o Ddeddf Addysg 1996 (gweithredu afresymol gan gorff llywodraethu neu ei fethiant i gydymffurfio â dyletswydd). Mae cynnwys darpariaethau adrannau 496 a 497 o Ddeddf Addysg 1996 fan hyn yn golygu y caiff awdurdodau lleol yn ogystal â Gweinidogion Cymru ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir ar sail methiant corff llywodraethu i gydymffurfio â dyletswydd neu weithredu afresymol ganddo. Erbyn hyn, mae seiliau 5 a 6 hefyd yn cynnwys cyfeiriad at fethiant pennaeth i gydymffurfio â dyletswydd neu weithredu afresymol ganddo.
9.Mae'r adran hon yn darparu y caiff yr awdurdod lleol, os yw un neu ragor o seiliau 1 i 6 a nodir yn adran 2 yn bodoli, roi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol, ac mae'n pennu pa wybodaeth y mae'n rhaid i hysbysiad rhybuddio ei chynnwys. Yn gyffredinol, dechrau'r broses ymyrryd gan awdurdod lleol mewn ysgol yw'r hysbysiad rhybuddio a gall arwain at y pwerau ymyrryd yn cael eu harfer ganddo.
10.Mae'r adran hon yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff awdurdod lleol arfer y pwerau i ymyrryd mewn ysgol a gynhelir. Nodir y pwerau ymyrryd yn adrannau 5 i 9.
11.Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod un neu ragor o seiliau 1 i 6 yn bodoli, ac wedi cydymffurfio â'r weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad rhybuddio a nodir yn adran 3, yna caiff arfer ei bwerau ymyrryd. Fodd bynnag, os yw awdurdod lleol o'r farn bod un neu ragor o seiliau 1 i 6 yn bodoli a hefyd o’r farn bod risg gysylltiedig i iechyd a diogelwch unrhyw berson a honno'n risg sy'n galw am weithredu brys, yna nid oes rhaid iddo gydymffurfio â'r weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad rhybuddio cyn arfer ei bwerau ymyrryd.
12.Yn ychwanegol, caiff yr awdurdod lleol arfer ei bwerau ymyrryd os yw wedi ei fodloni bod sail 7 neu sail 8 yn bodoli (ysgolion y mae arolygiad wedi barnu bod arnynt angen gwelliant sylweddol neu fesurau arbennig). Yn yr achos hwn, nid oes rhaid i'r awdurdod lleol ddyroddi hysbysiad rhybuddio.
13.Mae'r adran hon yn darparu pŵer newydd i awdurdod lleol gyfarwyddo corff llywodraethu ysgol i wneud trefniadau neu ymrwymo i gontract i ddarparu gwasanaethau cynghori, neu i gydlafurio yn unol ag adran 5(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2011, er mwyn gwella perfformiad yr ysgol.
14.Mae'r adran hon yn disodli'r pŵer ymyrryd yn adran 16 o Ddeddf 1998, ac yn darparu i awdurdodau lleol bŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir.
15.Mae'r adran hon yn disodli'r pŵer ymyrryd yn adran 16A o Ddeddf 1998. Mae'n darparu i awdurdodau lleol bŵer i benodi corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn arbennig yn lle'r llywodraethwyr presennol mewn ysgol pan fo gan yr awdurdod lleol bŵer i ymyrryd. Gelwir y corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn arbennig yn fwrdd gweithrediaeth interim a bydd yn cymryd drosodd y gwaith o redeg yr ysgol. Mae Atodlen 1 yn gwneud darpariaeth bellach ynghylch byrddau gweithrediaeth interim.
16.O dan adran 49 o Ddeddf 1998, mae gan bob ysgol a gynhelir hawl i gael cyllideb ddirprwyedig, sy'n golygu bod gan eu cyrff llywodraethu hawlogaeth i reoli cyllideb yr ysgol. Mae'r adran hon yn disodli'r pŵer ymyrryd yn adran 17 o Ddeddf 1998, ac yn darparu pŵer i awdurdodau lleol atal dros dro hawl ysgol i gael cyllideb ddirprwyedig os oes gan awdurdod lleol y pŵer i ymyrryd yn yr ysgol.
17.Mae'r adran hon yn darparu pŵer cyffredinol i’r awdurdod lleol ddyroddi'r cyfarwyddiadau hynny y mae o'r farn eu bod yn briodol i gorff llywodraethu neu bennaeth ysgol y mae’r awdurdod yn ei chynnal, a chymryd unrhyw gamau eraill, pan fo un neu ragor o'r seiliau dros ymyrryd yn bodoli.
18.Mae'r adran hon yn disodli adran 62 o Ddeddf 1998 (pŵer awdurdod lleol i atal methiant mewn disgyblaeth). Mae hefyd yn darparu i awdurdodau lleol bwerau tebyg i bwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru yn adrannau 496 a 497 o Ddeddf Addysg 1996 (ond yn annhebyg i adrannau 496 a 497, nid yw'r pŵer i ymyrryd yma yn gyfyngedig i'r achosion hynny lle y mae sail 5 neu sail 6 yn bodoli).
19.Mae'r adran hon yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio ffurfiol i ysgol a gynhelir. Yn gyffredinol, dechrau'r broses ymyrryd gan Weinidogion Cymru mewn ysgol yw hysbysiad rhybuddio, a gall arwain at bwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru yn cael eu harfer.
20.Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol pan fo un neu ragor o seiliau 1 i 6 (a nodir yn adran 2) yn bodoli, ond bod yr awdurdod lleol heb roi hysbysiad rhybuddio neu wedi gwneud hynny mewn termau sy’n annigonol ym marn Gweinidogion Cymru. Bydd yr hysbysiad rhybuddio yn esbonio i'r corff llywodraethu y rhesymau pam y mae'n cael ei roi a'r camau y dylai'r corff llywodraethu eu cymryd.
21.Mae'r adran hon yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau i ymyrryd mewn ysgol a gynhelir. Nodir y pwerau ymyrryd yn adrannau 12 i 17 o’r Ddeddf.
22.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu ragor o seiliau 1 i 6 yn bodoli, ac wedi cydymffurfio â'r weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad rhybuddio a nodir yn adran 10, cânt arfer eu pwerau ymyrryd. Fodd bynnag, os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu ragor o seiliau 1 i 6 yn bodoli a bod risg gysylltiedig i iechyd a diogelwch unrhyw berson a honno'n risg sy'n galw am weithredu brys, yna nid oes rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â'r weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad rhybuddio cyn arfer eu pwerau ymyrryd.
23.Yn ychwanegol, caiff Gweinidogion Cymru arfer eu pwerau ymyrryd os ydynt wedi eu bodloni bod sail 7 neu sail 8 yn bodoli (ysgolion y mae arolygiad wedi barnu bod arnynt angen gwelliant sylweddol neu fesurau arbennig). Yn yr achos hwn, nid oes rhaid i Weinidogion Cymru gydymffurfio â'r weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad rhybuddio.
24.Mae'r adrannau hyn yn darparu pwerau sy'n adlewyrchu pwerau’r awdurdod lleol a geir yn adran 5, 6 a 7.
25.Mae'r adran hon yn disodli'r pŵer ymyrryd yn adran 18B o Ddeddf 1998 ac yn darparu i Weinidogion Cymru bŵer i ddyroddi cyfarwyddiadau ynghylch ffedereiddio ysgolion. Mae ffederasiwn o ysgolion yn grŵp o ddwy neu ragor o ysgolion o dan un corff llywodraethu.
26.Mae'r adran hon yn disodli'r pŵer ymyrryd yn adran 19 o Ddeddf 1998 ac yn darparu i Weinidogion Cymru bŵer i gyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau os oes ganddynt bŵer i ymyrryd ar dir sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig). Pan fo Gweinidogion Cymru yn cyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau o dan yr adran hon, nid oes angen i awdurdod lleol wneud cynigion i derfynu'r ysgol o dan Ran 3.
27.Mae'r adran hon yn darparu pŵer sy'n adlewyrchu pŵer yr awdurdod lleol yn adran 9 (pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau).
28.Mae adran 18 yn cyflwyno Atodlen 1 sy'n gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â byrddau gweithrediaeth interim (a gyfansoddwyd yn dilyn cyfarwyddyd o dan adran 7 neu 14). Mae'n ymwneud â'r trosi o gorff a gyfansoddwyd yn normal i gorff o aelodau gweithrediaeth interim, a hefyd y trosi o gorff llywodraethu o aelodau gweithrediaeth interim yn ôl i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal. Yn ystod y cyfnod y mae'r aelodau gweithrediaeth interim yn eu swyddi, rhaid iddynt gyflawni swyddogaethau aelodau'r corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal. Mae hyn yn golygu eu bod yn ddarostyngedig i'r un gyfraith ag aelodau'r corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal, ac eithrio mewn perthynas â’u cyfansoddiad a gweithdrefn (paragraff 13 o Atodlen 1). Fodd bynnag, caniateir i reoliadau a wneir o dan baragraffau penodol o adran 19(3) o Ddeddf Addysg 2002 gael eu cymhwyso i'r bwrdd, er enghraifft, mewn perthynas â materion staffio ysgolion.
29.Mae adran 19 yn darparu bod yn rhaid i bennaeth neu gorff llywodraethu ysgol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru o dan Bennod 1 o Ran 2 o’r Ddeddf hon. Rhaid i gyfarwyddyd fod yn ysgrifenedig a chaniateir ei orfodi drwy orchymyn mandadol llys.
30.Mae adran 20 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol o ran arfer eu swyddogaethau o dan y Bennod hon. Yn unol â hynny, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau o'r fath.
31.Mae'r Bennod hon yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru ymyrryd yn y ffordd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau addysg (sef y swyddogaethau hynny a nodir yn Atodlen 36A i Ddeddf Addysg 1996).
32.Mae'r adran hon yn nodi'r seiliau dros ymyrryd y mae'n rhaid iddynt fodoli i Weinidogion Cymru ymyrryd mewn awdurdod lleol. Mae'r seiliau hyn yn disodli'r seiliau dros ymyrryd mewn awdurdodau lleol a nodir yn adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996 o ran Cymru. Os yw un neu ragor o'r seiliau hyn yn bodoli, caiff Gweinidogion Cymru ddechrau'r broses ymyrryd.
33.Ni fydd adrannau 496 i 497A o Ddeddf Addysg 1996 bellach yn gymwys ond i awdurdodau lleol yn Lloegr.
34.Mae'r adran hon yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, os yw un neu ragor o'r tair sail a nodir yn adran 21 yn bodoli, ddyroddi hysbysiad rhybuddio i'r awdurdod lleol, ac mae'n pennu pa wybodaeth y mae'n rhaid i hysbysiad rhybuddio ei chynnwys. Rhaid i'r hysbysiad rhybuddio, ymhlith pethau eraill, esbonio pam y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried bod y seiliau dros ymyrryd yn bodoli a'r hyn y mae'n rhaid i'r awdurdod lleol ei wneud i ymdrin â hwy. Yn gyffredinol, dechrau'r broses ymyrryd gan Weinidogion Cymru mewn awdurdod lleol yw hysbysiad rhybuddio, a gall arwain at bwerau ymyrryd Gweinidogion Cymru yn cael eu harfer.
35.Mae'r adran hon yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff Gweinidogion Cymru arfer y pwerau i ymyrryd mewn awdurdod lleol. Nodir y pwerau ymyrryd yn adrannau 24 i 28.
36.Pan fo Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu ragor o seiliau 1 i 3 yn bodoli, a’u bod wedi cydymffurfio â'r weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad rhybuddio a nodir yn adran 22, yna cânt arfer eu pwerau ymyrryd. Fodd bynnag, os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod un neu ragor o seiliau 1 i 3 yn bodoli a bod risg gysylltiedig i iechyd a diogelwch unrhyw berson a honno'n risg sy'n galw am weithredu brys, neu fod yr awdurdod lleol yn annhebyg o allu cydymffurfio neu sicrhau cydymffurfedd â hysbysiad rhybuddio, yna nid oes rhaid iddynt gydymffurfio â'r weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad rhybuddio cyn arfer eu pwerau ymyrryd.
37.Mae'r adran hon yn disodli'r pŵer ymyrryd yn adran 63 o Ddeddf Addysg 2002 ac yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod lleol i gael gwasanaethau cynghori gan drydydd parti.
38.Mae'r adran hon yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol i ddefnyddio gwasanaethau trydydd parti i gyflawni ei swyddogaethau.
39.Mae'r adran hon yn caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo bod swyddogaethau awdurdod lleol yn cael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir gan Weinidogion Cymru.
40.Mae adran 27 yn galluogi Gweinidogion Cymru, wrth ddyroddi cyfarwyddiadau o dan adran 25 neu 26, i gynnwys cyfarwyddiadau sy'n ymwneud ag unrhyw un neu ragor o swyddogaethau addysg yr awdurdod lleol, ac nid yn unig y swyddogaethau hynny y mae'r pwerau ymyrryd yn ymwneud â hwy.
41.Pan fo'r pŵer i ymyrryd yn bodoli, mae'r adran hon yn darparu pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau i awdurdod lleol, a chymryd camau mewn perthynas ag ef. Mae cymryd camau yn galluogi Gweinidogion Cymru i wneud pethau eraill y maent yn ystyried y gallent helpu i ymdrin â'r seiliau dros ymyrryd, ac eithrio gwneud cyfarwyddyd.
42.Mae'r adran hon, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu gynorthwyo gyda'r camau y mae'n ofynnol eu cymryd i gydymffurfio â chyfarwyddiadau, yn disodli adran 497AA o Ddeddf Addysg 1996 (pŵer i sicrhau bod swyddogaethau'n cael eu cyflawni’n briodol: dyletswydd awdurdod pan fo cyfarwyddiadau'n cael eu hystyried) gyda rhai diwygiadau.
43.Mae'r adran hon, sy'n nodi hawliau mynediad mewn cysylltiad â chyflawni cyfarwyddiadau, yn disodli adran 497B o Ddeddf Addysg 1996 (pŵer i sicrhau bod swyddogaethau'n cael eu cyflawni’n briodol: darpariaethau pellach) gyda rhai diwygiadau.
44.Mae'r Bennod hon yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i benaethiaid, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ynghylch sut i arfer eu swyddogaethau er mwyn gwella safonau addysg.
45.Mae'r adran hon yn diffinio'r term “awdurdod ysgol” i olygu awdurdod lleol, corff llywodraethu neu bennaeth ysgol a gynhelir yng Nghymru.
46.Mae adran 33 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau ysgol sy’n nodi'r ffordd y maent i wella safonau addysg mewn ysgolion.
47.Mae adran 34 yn nodi'r weithdrefn y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ei dilyn cyn dyroddi canllawiau gwella ysgolion. Ymhlith pethau eraill mae'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ynghylch y canllawiau a gosod copi ohonynt gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
48.Mae'r adran hon yn gosod dyletswydd ar awdurdodau ysgol i gydymffurfio â'r canllawiau a ddyroddir o dan adran 33.
49.Mae'r adran hon yn caniatáu i awdurdodau ysgol wyro oddi wrth y canllawiau hynny mewn amgylchiadau penodol er mwyn darparu ar gyfer rhywfaint o hyblygrwydd ac arloesi. Pan fo awdurdod ysgol sy’n awdurdod lleol neu’n gorff llywodraethu yn dymuno gwyro oddi wrth y canllawiau, rhaid iddo ddyroddi datganiad polisi gan roi manylion ynghylch ei bolisi amgen ar gyfer arfer y swyddogaethau addysg o dan sylw. Yna, rhaid iddo ddilyn y polisi amgen hwnnw. Os bydd yr awdurdodau ysgol yn gwyro'n rhannol oddi wrth y canllawiau (is-adran (2) neu (3) ac adran 36), bydd yn rhaid iddynt lynu wrth y datganiad polisi ac (i'r graddau nad yw'r datganiad polisi yn ymwneud â mater) y canllawiau.
50.Yn ychwanegol, ni fydd y ddyletswydd i ddilyn y canllawiau gwella ysgolion neu ddatganiad polisi yn gymwys o ran unrhyw awdurdod ysgol pe byddai gwneud hynny'n afresymol.
51.Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw'r ffordd amgen o weithredu a nodir yn natganiad polisi awdurdod ysgol yn debyg o wella safonau addysgol, cânt ddyroddi i'r awdurdod ysgol gyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r canllawiau. Rhaid dyroddi cyfarwyddyd yn ysgrifenedig a chaniateir ei orfodi drwy orchymyn mandadol.