Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 2 – Safonau

Adran 4 – Pŵer i ymyrryd

10.Mae'r adran hon yn nodi'r amgylchiadau pan gaiff awdurdod lleol arfer y pwerau i ymyrryd mewn ysgol a gynhelir. Nodir y pwerau ymyrryd yn adrannau 5 i 9.

11.Pan fo awdurdod lleol wedi ei fodloni bod un neu ragor o seiliau 1 i 6 yn bodoli, ac wedi cydymffurfio â'r weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad rhybuddio a nodir yn adran 3, yna caiff arfer ei bwerau ymyrryd. Fodd bynnag, os yw awdurdod lleol o'r farn bod un neu ragor o seiliau 1 i 6 yn bodoli a hefyd o’r farn bod risg gysylltiedig i iechyd a diogelwch unrhyw berson a honno'n risg sy'n galw am weithredu brys, yna nid oes rhaid iddo gydymffurfio â'r weithdrefn ar gyfer rhoi hysbysiad rhybuddio cyn arfer ei bwerau ymyrryd.

12.Yn ychwanegol, caiff yr awdurdod lleol arfer ei bwerau ymyrryd os yw wedi ei fodloni bod sail 7 neu sail 8 yn bodoli (ysgolion y mae arolygiad wedi barnu bod arnynt angen gwelliant sylweddol neu fesurau arbennig). Yn yr achos hwn, nid oes rhaid i'r awdurdod lleol ddyroddi hysbysiad rhybuddio.