Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 2 – Safonau

Pennod 3 – Canllawiau Gwella Ysgolion

44.Mae'r Bennod hon yn darparu bod yn rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i benaethiaid, cyrff llywodraethu ac awdurdodau lleol ynghylch sut i arfer eu swyddogaethau er mwyn gwella safonau addysg.

Adran 32 - Ystyr “awdurdod ysgol”

45.Mae'r adran hon yn diffinio'r term “awdurdod ysgol” i olygu awdurdod lleol, corff llywodraethu neu bennaeth ysgol a gynhelir yng Nghymru.

Adran 33 - Pŵer i ddyroddi canllawiau gwella ysgolion

46.Mae adran 33 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau ysgol sy’n nodi'r ffordd y maent i wella safonau addysg mewn ysgolion.

Adran 34 - Ymgynghori a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

47.Mae adran 34 yn nodi'r weithdrefn y mae'n rhaid i Weinidogion Cymru ei dilyn cyn dyroddi canllawiau gwella ysgolion. Ymhlith pethau eraill mae'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori ynghylch y canllawiau a gosod copi ohonynt gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 35 - Dyletswydd i ddilyn canllawiau gwella ysgolion

48.Mae'r adran hon yn gosod dyletswydd ar awdurdodau ysgol i gydymffurfio â'r canllawiau a ddyroddir o dan adran 33.

49.Mae'r adran hon yn caniatáu i awdurdodau ysgol wyro oddi wrth y canllawiau hynny mewn amgylchiadau penodol er mwyn darparu ar gyfer rhywfaint o hyblygrwydd ac arloesi. Pan fo awdurdod ysgol sy’n awdurdod lleol neu’n gorff llywodraethu yn dymuno gwyro oddi wrth y canllawiau, rhaid iddo ddyroddi datganiad polisi gan roi manylion ynghylch ei bolisi amgen ar gyfer arfer y swyddogaethau addysg o dan sylw. Yna, rhaid iddo ddilyn y polisi amgen hwnnw. Os bydd yr awdurdodau ysgol yn gwyro'n rhannol oddi wrth y canllawiau (is-adran (2) neu (3) ac adran 36), bydd yn rhaid iddynt lynu wrth y datganiad polisi ac (i'r graddau nad yw'r datganiad polisi yn ymwneud â mater) y canllawiau.

50.Yn ychwanegol, ni fydd y ddyletswydd i ddilyn y canllawiau gwella ysgolion neu ddatganiad polisi yn gymwys o ran unrhyw awdurdod ysgol pe byddai gwneud hynny'n afresymol.

Adran 37 - Cyfarwyddiadau

51.Pan fo Gweinidogion Cymru yn ystyried nad yw'r ffordd amgen o weithredu a nodir yn natganiad polisi awdurdod ysgol yn debyg o wella safonau addysgol, cânt ddyroddi i'r awdurdod ysgol gyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol iddo gydymffurfio â'r canllawiau. Rhaid dyroddi cyfarwyddyd yn ysgrifenedig a chaniateir ei orfodi drwy orchymyn mandadol.