Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Rhan 2 – Safonau

Adrannau 18, 19 ac 20 ac Atodlen 1 – Darpariaethau atodol

28.Mae adran 18 yn cyflwyno Atodlen 1 sy'n gwneud darpariaeth bellach mewn perthynas â byrddau gweithrediaeth interim (a gyfansoddwyd yn dilyn cyfarwyddyd o dan adran 7 neu 14). Mae'n ymwneud â'r trosi o gorff a gyfansoddwyd yn normal i gorff o aelodau gweithrediaeth interim, a hefyd y trosi o gorff llywodraethu o aelodau gweithrediaeth interim yn ôl i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal. Yn ystod y cyfnod y mae'r aelodau gweithrediaeth interim yn eu swyddi, rhaid iddynt gyflawni swyddogaethau aelodau'r corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal. Mae hyn yn golygu eu bod yn ddarostyngedig i'r un gyfraith ag aelodau'r corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal, ac eithrio mewn perthynas â’u cyfansoddiad a gweithdrefn (paragraff 13 o Atodlen 1). Fodd bynnag, caniateir i reoliadau a wneir o dan baragraffau penodol o adran 19(3) o Ddeddf Addysg 2002 gael eu cymhwyso i'r bwrdd, er enghraifft, mewn perthynas â materion staffio ysgolion.

29.Mae adran 19 yn darparu bod yn rhaid i bennaeth neu gorff llywodraethu ysgol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir iddo gan awdurdod lleol neu Weinidogion Cymru o dan Bennod 1 o Ran 2 o’r Ddeddf hon. Rhaid i gyfarwyddyd fod yn ysgrifenedig a chaniateir ei orfodi drwy orchymyn mandadol llys.

30.Mae adran 20 yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdodau lleol o ran arfer eu swyddogaethau o dan y Bennod hon. Yn unol â hynny, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau o'r fath.