xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013

2013 dccc 1

Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i ddiwygio pwerau awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru i ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir gan awdurdodau lleol ac sy’n peri pryder; diwygio pwerau Gweinidogion Cymru i ymyrryd ym materion arfer swyddogaethau addysg gan awdurdodau lleol; darparu ar gyfer canllawiau gwella ysgolion; diwygio’r trefniadau statudol ar gyfer trefniadaeth ysgolion a gynhelir; darparu ar gyfer cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg; gwneud darpariaeth amrywiol mewn perthynas ag ysgolion a gynhelir; ac at ddibenion cysylltiedig.

[4 Mawrth 2013]

Gan ei fod wedi ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Mawrhydi, deddfir fel a ganlyn:

RHAN 1CYFLWYNIAD

1Trosolwg ar y Ddeddf hon

(1)Mae 6 Rhan i’r Ddeddf hon.

(2)Mae Rhan 2 wedi ei rhannu’n 3 Pennod sy’n cynnwys darpariaethau sy’n ymwneud â chynnal a gwella safonau—

(a)mewn ysgolion a gynhelir, a

(b)yn y modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdodau lleol.

(3)Mae Pennod 1 o Ran 2 (gan gynnwys Atodlen 1)—

(a)yn nodi’r seiliau dros ymyrraeth gan awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir sy’n peri pryder, a

(b)yn darparu amrediad o bwerau ymyrryd i alluogi awdurdodau lleol a Gweinidogion Cymru i ymdrin ag achosion y pryder.

(4)Mae Pennod 2—

(a)yn nodi’r seiliau dros ymyrraeth gan Weinidogion Cymru ym materion arfer swyddogaethau addysg gan awdurdodau lleol sy’n peri pryder, a

(b)yn darparu amrediad o bwerau ymyrryd i alluogi Gweinidogion Cymru i ymdrin ag achosion y pryder.

(5)Mae Pennod 3 yn gwneud darpariaeth i Weinidogion Cymru roi canllawiau i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir, penaethiaid ysgolion o’r fath ac awdurdodau lleol ynghylch sut y dylai swyddogaethau gael eu harfer gyda golwg ar wella safon yr addysg sy’n cael ei darparu mewn ysgolion a gynhelir.

(6)Mae Rhan 3 wedi ei rhannu’n 6 Phennod sy’n cynnwys darpariaeth am drefniadaeth ysgolion a gynhelir.

(7)Mae Pennod 1 o Ran 3 yn darparu ar gyfer Cod Trefniadaeth Ysgolion ynghylch arfer swyddogaethau o dan Ran 3.

(8)Mae Pennod 2 (gan gynnwys Atodlenni 2 i 4) yn gwneud darpariaeth sy’n ei gwneud yn ofynnol i sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelir yn unol â phroses benodedig.

(9)Mae Pennod 3 yn darparu ar gyfer rhesymoli lleoedd ysgol os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod darpariaeth ormodol neu annigonol ar gyfer addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir.

(10)Mae Pennod 4 yn darparu ar gyfer gwneud darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig.

(11)Mae Pennod 5 yn darparu pwerau i Weinidogion Cymru ailstrwythuro addysg chweched dosbarth.

(12)Mae Pennod 6 yn darparu ar gyfer materion amrywiol ac atodol sy’n ymwneud â threfniadaeth ysgolion.

(13)Mae Rhan 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg, sydd—

(a)i’w paratoi gan awdurdodau lleol,

(b)i’w cymeradwyo gan Weinidogion Cymru, ac

(c)i’w cyhoeddi a’u gweithredu gan awdurdodau lleol (adrannau 84, 85 a 87).

(14)Mae Rhan 4 hefyd yn darparu pŵer sy’n arferadwy drwy reoliadau i Weinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol wneud asesiad o’r galw ymhlith rhieni am addysg cyfrwng Cymraeg i’w plant (adran 86).

(15)Mae Rhan 5 yn gwneud darpariaeth am swyddogaethau amrywiol sy’n ymwneud ag ysgolion a gynhelir, gan gynnwys darpariaeth—

(a)sy’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ddarparu brecwast ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd a gynhelir ar gais cyrff llywodraethu’r ysgolion hynny (adrannau 88 i 90);

(b)sy’n diwygio pwerau presennol awdurdodau lleol a chyrff llywodraethu i godi tâl am brydau ysgol, fel bod—

(i)gofyniad cysylltiedig i godi’r un pris ar bob person am yr un maint o’r un eitem yn cael ei ddileu, a

(ii)gofyniad newydd na fydd y pris a godir am eitem yn fwy na chost darparu’r eitem honno yn cael ei osod (adran 91);

(c)yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol sicrhau darpariaeth resymol am wasanaeth sy’n cwnsela mewn cysylltiad ag anghenion iechyd, anghenion emosiynol ac anghenion cymdeithasol i ddisgyblion ysgol penodedig a phlant eraill (adran 92);

(d)yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir gynnal cyfarfod os gofynnir iddynt wneud hynny gan rieni mewn deiseb (adran 94) ac yn diddymu dyletswydd sy’n bodoli eisoes i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni (adran 95);

(e)yn diddymu dyletswydd Gweinidogion Cymru i ddyroddi cod ymarfer ar gyfer sicrhau perthynas effeithiol rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir (adran 96).

(16)Mae Rhan 6—

(a)yn cyflwyno Atodlen 5, sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth arall sy’n codi o ddarpariaethau’r Ddeddf hon;

(b)yn cynnwys diffiniadau sy’n gymwys at ddibenion y Ddeddf hon yn gyffredinol a mynegai o ddiffiniadau sy’n gymwys i nifer o ddarpariaethau, ond nid yr holl Ddeddf (adran 98);

(c)yn cynnwys darpariaethau eraill sy’n gymwys yn gyffredinol at ddibenion y Ddeddf hon.

RHAN 2SAFONAU

PENNOD 1YMYRRYD YM MATERION RHEDEG YSGOLION A GYNHELIR

Y seiliau dros ymyrryd

2Y seiliau dros ymyrryd

At ddibenion y Bennod hon, mae’r seiliau dros ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir fel a ganlyn—

Ymyrraeth gan awdurdod lleol

3Hysbysiad rhybuddio

(1)Os yw awdurdod lleol wedi ei fodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas ag un o’i ysgolion a gynhelir, caiff yr awdurdod roi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu’r ysgol.

(2)Rhaid i’r awdurdod lleol bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)y seiliau dros ymyrryd;

(b)y rhesymau pam y mae’r awdurdod wedi ei fodloni bod y seiliau’n bodoli;

(c)y camau y mae’r awdurdod yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu eu cymryd er mwyn ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd;

(d)y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan y corff llywodraethu (“y cyfnod cydymffurfio”);

(e)y camau y mae’r awdurdod â’i fryd ar eu cymryd os bydd y corff llywodraethu’n methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.

(3)Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol, rhaid iddo yr un pryd roi copi o’r hysbysiad rhybuddio i—

(a)y pennaeth;

(b)os yw’r ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol;

(c)Gweinidogion Cymru.

4Pŵer i ymyrryd

(1)Mae gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir o dan y Bennod hon os yw is-adran (2), (3) neu (4) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 3 i gorff llywodraethu’r ysgol, a

(b)os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu â sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad yr awdurdod o fewn y cyfnod cydymffurfio.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw’r awdurdod lleol wedi ei fodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol a bod ganddo reswm dros gredu bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw sail 7 (ysgol y mae arni angen gwelliant sylweddol) neu sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig) yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a

(b)os yw cyfnod heb fod yn llai na 10 niwrnod wedi mynd heibio er y dyddiad y rhoes y Prif Arolygydd hysbysiad i’r awdurdod lleol o dan adran 37(2) o Ddeddf Addysg 2005, yn ddarostyngedig i is-adran (5).

(5)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu, mewn perthynas ag ysgol benodol, bod is-adran (4)(b) yn cael effaith fel petai’r cyfeiriad at 10 niwrnod yn cyfeirio at gyfnod byrrach a bennir yn y penderfyniad.

(6)Pan fo gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd, rhaid iddo gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.

(7)Os yw’r awdurdod yn dod i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth ei fodd, neu na fyddai arfer ei bwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddo ysgrifennu at y corff llywodraethu i’w hysbysu am ei gasgliad.

(8)Os yw awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (7), rhaid iddo anfon copi yr un pryd—

(a)os yw’r ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol—

(i)at y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, at y corff crefyddol priodol, a

(b)at Weinidogion Cymru.

(9)Mae pŵer awdurdod lleol i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y bydd un o’r camau canlynol yn digwydd—

(a)bod yr awdurdod yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (7);

(b)bod Gweinidogion Cymru yn penderfynu nad oes effaith mwyach i’r pŵer i ymyrryd a’u bod yn ysgrifennu at yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu i’w hysbysu am eu penderfyniad;

(c)bod Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu’r ysgol o dan adran 10.

(10)Nid yw awdurdod lleol sydd â phwer i ymyrryd wedi ei gyfyngu i gymryd y camau y dywedodd ei fod â’i fryd ar eu cymryd mewn hysbysiad rhybuddio.

5Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sicrhau cyngor neu gydlafurio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)Caiff yr awdurdod lleol, gyda golwg ar wella perfformiad yr ysgol, gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu’r ddau ohonynt—

(a)ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig (a gaiff fod yn gorff llywodraethu ysgol arall) i ddarparu i’r corff llywodraethu wasanaethau penodedig sy’n gynghorol eu natur;

(b)arfer y pwerau o dan adran 5(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (pwerau cydlafurio) a bennir yn y cyfarwyddyd, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 6 o’r Mesur hwnnw.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu’r ysgol, a

(b)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(4)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu’r trefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

6Pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)Caiff yr awdurdod lleol benodi cymaint o lywodraethwyr ychwanegol i gorff llywodraethu’r ysgol ag y gwêl yn dda; ac mae’r offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol yn cael effaith fel petai’n darparu ar gyfer penodiadau o’r fath (er gwaethaf unrhyw beth mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002).

(3)Caiff yr awdurdod lleol enwebu un o’r llywodraethwyr hynny i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn lle unrhyw berson a etholwyd yn gadeirydd y corff hwnnw.

(4)Cyn gwneud unrhyw benodiad neu enwebiad o’r fath mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, rhaid i’r awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(b)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(5)Bydd llywodraethwr a benodir o dan yr adran hon yn dal ei swydd am gyfnod a benderfynir gan yr awdurdod lleol.

(6)Bydd llywodraethwr a enwebir gan yr awdurdod lleol i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn gadeirydd am gyfnod a benderfynir gan yr awdurdod lleol.

(7)Caiff yr awdurdod lleol dalu tâl cydnabyddiaeth a lwfansau i lywodraethwyr a benodir o dan yr adran hon.

7Pŵer awdurdod lleol i gyfansoddi corff llywodraethu o aelodau gweithrediaeth interim

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)Caiff yr awdurdod lleol ysgrifennu at gorff llywodraethu’r ysgol i’w hysbysu bod y corff llywodraethu, o ddyddiad a bennir yn yr hysbysiad, i’w gyfansoddi’n unol ag Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim).

(3)Cyn rhoi hysbysiad rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)ymgynghori â chorff llywodraethu’r ysgol,

(b)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ymgynghori â’r canlynol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol, ac

(c)sicrhau cydsyniad Gweinidogion Cymru.

8Pŵer awdurdod lleol i atal dros dro yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig

(1)Mae’r adran hon yn gymwys—

(a)os oes gan awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir, a

(b)os oes gan yr ysgol gyllideb ddirprwyedig o fewn ystyr Rhan 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

(2)Caiff yr awdurdod lleol atal dros dro hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig drwy roi i’r corff llywodraethu hysbysiad am yr ataliad dros dro.

(3)Mae’r ataliad dros dro ar yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig yn dod yn weithredol o’r adeg y bydd y corff llywodraethu’n cael yr hysbysiad.

(4)Os yw’r awdurdod lleol yn rhoi hysbysiad yn atal dros dro yr hawl i gael cyllideb ddirprwyedig, rhaid iddo roi copi o’r hysbysiad i’r pennaeth yr un pryd.

(5)Mae ataliad dros dro sy’n cael ei osod o dan yr adran hon yn cael effaith at ddibenion Pennod 4 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (ariannu ysgolion a gynhelir) fel petai wedi ei wneud o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i’r Ddeddf honno (atal dros dro ddirprwyiad ariannol).

9Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan yr awdurdod lleol bwer i ymyrryd ym materion rhedeg un o’i ysgolion a gynhelir.

(2)Os yw’r awdurdod lleol yn credu ei bod yn briodol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd, caiff—

(a)rhoi cyfarwyddiadau i’r corff llywodraethu neu’r pennaeth, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

Ymyrraeth gan Weinidogion Cymru

10Hysbysiad rhybuddio

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir—

(a)os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a

(b)os yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol naill ai—

(i)heb roi hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu o dan adran 3 ar un neu fwy o’r seiliau hynny, neu

(ii)wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, ond yn nhermau sy’n annigonol ym marn Gweinidogion Cymru.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)y seiliau dros ymyrryd;

(b)y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;

(c)y camau y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r corff llywodraethu eu cymryd er mwyn ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd;

(d)y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan y corff llywodraethu (“y cyfnod cydymffurfio”);

(e)y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd y corff llywodraethu yn methu â chymryd y camau sy’n ofynnol.

(3)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad rhybuddio i gorff llywodraethu ysgol, rhaid iddynt yr un pryd ag y byddant yn rhoi’r hysbysiad rhybuddio i’r corff llywodraethu roi copi o’r hysbysiad rhybuddio i—

(a)yr awdurdod lleol;

(b)y pennaeth;

(c)os yw’r ysgol yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

11Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd

(1)Mae gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir o dan y Bennod hon os yw is-adran (2), (3), (4) neu (5) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw’r awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 3 i gorff llywodraethu’r ysgol,

(b)os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio, ac

(c)os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni nad yw’r awdurdod lleol wedi cymryd, ac nad yw’n debyg o gymryd, camau digonol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio o dan adran 10 i gorff llywodraethu’r ysgol, a

(b)os yw’r corff llywodraethu wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

(4)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 6 yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol a bod ganddynt reswm dros gredu bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon.

(5)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw sail 7 (ysgol y mae arni angen gwelliant sylweddol) neu sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig) yn bodoli mewn perthynas â’r ysgol, a

(b)os yw cyfnod heb fod yn llai na 10 niwrnod wedi mynd heibio er y dyddiad y rhoes y Prif Arolygydd hysbysiad i Weinidogion Cymru o dan adran 37(2) o Ddeddf Addysg 2005, yn ddarostyngedig i is-adran (6).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu, mewn perthynas ag ysgol benodol, bod is-adran (5)(b) yn cael effaith fel petai’r cyfeiriad at 10 niwrnod yn cyfeirio at gyfnod byrrach a bennir yn y penderfyniad.

(7)Pan fo gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, rhaid iddynt gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.

(8)Os yw Gweinidogion Cymru’n credu bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth eu bodd, neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt ysgrifennu at y corff llywodraethu a’r awdurdod lleol i’w hysbysu am eu casgliad.

(9)Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (8) mewn perthynas ag ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, rhaid iddynt anfon copi yr un pryd at—

(a)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(b)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(10)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (8).

(11)Os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.

12Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu sicrhau cyngor neu gydlafurio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru, gyda golwg ar wella perfformiad yr ysgol, gyfarwyddo corff llywodraethu’r ysgol i wneud y naill neu’r llall o’r canlynol neu’r ddau ohonynt—

(a)ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig (a gaiff fod yn gorff llywodraethu ysgol arall) i ddarparu i’r corff llywodraethu wasanaethau penodedig sy’n gynghorol eu natur;

(b)arfer y pwerau o dan adran 5(2) o Fesur Addysg (Cymru) 2011 (pwerau cydlafurio) a bennir yn y cyfarwyddyd, yn ddarostyngedig i ddarpariaeth a wneir mewn rheoliadau o dan adran 6 o’r Mesur hwnnw.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)corff llywodraethu’r ysgol, a

(b)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(4)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu’r trefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

13Pŵer Gweinidogion Cymru i benodi llywodraethwyr ychwanegol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru benodi cymaint o lywodraethwyr ychwanegol i gorff llywodraethu’r ysgol ag y gwelant yn dda; ac mae’r offeryn llywodraethu ar gyfer yr ysgol yn cael effaith fel petai’n darparu ar gyfer penodiadau o’r fath (er gwaethaf unrhyw beth mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002).

(3)Caiff Gweinidogion Cymru enwebu un o’r llywodraethwyr hynny i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn lle unrhyw berson a etholwyd yn gadeirydd y corff hwnnw.

(4)Cyn gwneud unrhyw benodiad neu enwebiad o’r fath mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(b)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(5)Bydd llywodraethwr a benodir o dan yr adran hon yn dal ei swydd am gyfnod a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(6)Bydd llywodraethwr a enwebir gan Weinidogion Cymru i fod yn gadeirydd y corff llywodraethu yn gadeirydd am gyfnod a benderfynir gan Weinidogion Cymru.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru dalu tâl cydnabyddiaeth a lwfansau i lywodraethwyr a benodir o dan yr adran hon.

(8)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pŵer o dan yr adran hon mewn perthynas ag unrhyw ysgol—

(a)ni chaiff yr awdurdod lleol atal dros dro hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i Ddeddf Safonau a Fframwaith 1998, a

(b)os yw’r awdurdod lleol eisoes wedi arfer y pŵer hwnnw neu ei bwer o dan adran 8, caiff Gweinidogion Cymru ddirymu’r ataliad dros dro.

(9)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi arfer eu pwerau o dan yr adran hon mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir, nid oes dim mewn rheoliadau o dan adran 19 o Ddeddf Addysg 2002 i’w ddarllen fel petai’n awdurdodi penodi llywodraethwyr sefydledig er mwyn eu gwneud yn fwy niferus na’r llywodraethwyr eraill fel y bydd eu nifer hwy wedi ei gynyddu gan y rhai a gaiff eu penodi gan Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(10)O ran dirymu ataliad dros dro o dan is-adran (8)(b)—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol gael ei hysbysu’n ysgrifenedig amdano, a

(b)daw’n weithredol o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hwnnw.

14Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfansoddi corff llywodraethu o aelodau gweithrediaeth interim

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ysgrifennu at gorff llywodraethu’r ysgol i’w hysbysu bod y corff llywodraethu, o’r dyddiad a bennir yn yr hysbysiad, i’w gyfansoddi’n unol ag Atodlen 1 (cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim).

(3)Cyn rhoi hysbysiad rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol,

(b)corff llywodraethu’r ysgol, ac

(c)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(4)Nid yw Gweinidogion Cymru yn gorfod ymgynghori â’r personau a grybwyllwyd yn isadran (3)(b) ac (c) os yw’r awdurdod lleol wedi ymgynghori â hwy am gyfansoddiad corff llywodraethu o dan adran 7 ar sail pŵer i ymyrryd y daethpwyd ag ef i ben drwy effaith adran 4(9)(b) neu (c).

15Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgolion yn cael eu ffedereiddio

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir (“yr ysgol sy’n peri pryder”).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo unrhyw un o’r personau canlynol i ddarparu ar gyfer un neu fwy o’r trefniadau a nodir yn is-adran (3)—

(a)awdurdod lleol;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(c)corff llywodraethu ffederasiwn.

(3)Dyma’r trefniadau—

(a)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(b)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder a ffederasiwn sy’n bodoli eisoes;

(c)ffedereiddio’r ysgol sy’n peri pryder a ffederasiwn sy’n bodoli eisoes ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(d)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(e)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw a ffederasiwn arall sy’n bodoli eisoes;

(f)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, ffedereiddio’r ffederasiwn hwnnw a ffederasiwn arall sy’n bodoli eisoes ac un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(g)pan fo’r ysgol sy’n peri pryder yn rhan o ffederasiwn, bod yr ysgol yn ymadael â’r ffederasiwn hwnnw.

(4)Cyn rhoi cyfarwyddiad o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol,

(b)y cyrff llywodraethu sydd o dan sylw, ac

(c)yn achos ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

(5)Yn yr adran hon mae i “ffederasiwn” yr ystyr a roddir gan adran 21(1) o Fesur Addysg (Cymru) 2011.

16Pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir ar dir sail 8 (ysgol y mae arni angen mesurau arbennig).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cyfarwyddyd i’r awdurdod lleol yn ei gwneud yn ofynnol i’r ysgol gael ei therfynu ar ddyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (2), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol,

(b)corff llywodraethu’r ysgol,

(c)yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol, ac

(d)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(4)Wrth roi cyfarwyddyd i derfynu’r ysgol, rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig hefyd am y cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r ysgol a’i phennaeth.

(5)Pan fo cyfarwyddyd yn cael ei roi i’r awdurdod lleol o dan is-adran (2), rhaid iddo derfynu’r ysgol o dan sylw ar y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd; ac nid oes dim yn Rhan 3 sy’n gymwys i derfynu’r ysgol o dan yr adran hon.

(6)Yn yr adran hon mae unrhyw gyfeiriad at derfynu ysgol a gynhelir yn cyfeirio at yr awdurdod lleol yn peidio â’i chynnal.

17Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd ym materion rhedeg ysgol a gynhelir.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd, cânt—

(a)rhoi cyfarwyddiadau i’r corff llywodraethu neu’r pennaeth, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

Darpariaethau atodol

18Cyrff llywodraethu sydd wedi eu ffurfio o aelodau gweithrediaeth interim

Mae Atodlen 1 (penodi aelodau o fyrddau gweithrediaeth interim, swyddogaethau’r byrddau, eu gweithdrefnau a materion cysylltiedig) yn cael effaith.

19Cyfarwyddiadau

(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu bennaeth sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan y Bennod hon gydymffurfio ag ef.

(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn y corff llywodraethu neu’r pennaeth.

(3)O ran cyfarwyddyd o dan y Bennod hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais gan, neu ar ran, y person a roes y cyfarwyddyd.

20Canllawiau

Wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Bennod hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

PENNOD 2YMYRRYD MEWN AWDURDODAU LLEOL

Y seiliau dros ymyrryd

21Y seiliau dros ymyrryd

At ddibenion y Bennod hon, mae’r seiliau dros ymyrryd â’r modd y mae awdurdod lleol yn arfer ei swyddogaethau addysg fel a ganlyn—

Hysbysiad rhybuddio

22Hysbysiad rhybuddio

(1)Caiff Gweinidogion Cymru roi hysbysiad rhybuddio i awdurdod lleol os ydynt wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru bennu pob un o’r canlynol yn yr hysbysiad rhybuddio—

(a)y seiliau dros ymyrryd;

(b)y rhesymau pam y maent wedi eu bodloni bod y seiliau yn bodoli;

(c)y camau y maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol eu cymryd er mwyn ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd;

(d)y cyfnod y mae’r camau i’w cymryd ynddo gan yr awdurdod lleol (“y cyfnod cydymffurfio”);

(e)y camau y maent â’u bryd ar eu cymryd os bydd yr awdurdod lleol yn methu â chymryd y camau gofynnol.

Pwerau ymyrryd

23Pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd

(1)Mae gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd o dan y Bennod hon â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol os yw is-adran (2) neu (3) yn gymwys.

(2)Mae’r is-adran hon yn gymwys—

(a)os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi hysbysiad rhybuddio, a

(b)os yw’r awdurdod lleol wedi methu â chydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â’r hysbysiad er boddhad Gweinidogion Cymru o fewn y cyfnod cydymffurfio.

(3)Mae’r is-adran hon yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru wedi eu bodloni bod un neu fwy o seiliau 1 i 3 yn bodoli mewn perthynas â’r awdurdod lleol a bod ganddynt reswm dros gredu—

(a)bod risg cysylltiedig i iechyd neu ddiogelwch unrhyw berson a hwnnw’n risg sy’n galw am ymyriad brys o dan y Bennod hon, neu

(b)bod yr awdurdod lleol yn annhebyg o allu cydymffurfio, neu sicrhau cydymffurfedd, â hysbysiad rhybuddio.

(4)Pan fo gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, rhaid iddynt gadw golwg ar yr amgylchiadau a arweiniodd at y pwer.

(5)Os yw Gweinidogion Cymru yn dod i’r casgliad bod y seiliau dros ymyrryd wedi eu trin wrth eu bodd, neu na fyddai arfer eu pwerau o dan y Bennod hon yn briodol am unrhyw reswm arall, rhaid iddynt ysgrifennu at yr awdurdod lleol i’w hysbysu am eu casgliad.

(6)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i ymyrryd yn parhau i gael effaith hyd nes y byddant yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (5).

(7)Os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd, nid ydynt wedi eu cyfyngu i gymryd y camau yr oeddent wedi dweud mewn hysbysiad rhybuddio eu bod â’u bryd ar eu cymryd.

24Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol gael gwasanaethau cynghori

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod lleol i ymrwymo i gontract neu drefniant arall gyda pherson penodedig, neu berson sy’n dod o fewn dosbarth penodedig, i ddarparu i’r awdurdod neu gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo (neu’r ddau ohonynt), wasanaethau penodedig sy’n gynghorol eu natur.

(3)Caiff y cyfarwyddyd ei gwneud yn ofynnol i’r contract neu’r trefniant arall gynnwys telerau ac amodau penodedig.

(4)Yn yr adran hon ystyr “penodedig” yw wedi ei bennu mewn cyfarwyddyd o dan yr adran hon.

25Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan bersonau eraill ar ran awdurdod

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi unrhyw gyfarwyddiadau i’r awdurdod lleol neu i unrhyw un neu rai o swyddogion yr awdurdod y maent yn credu eu bod yn briodol i sicrhau bod y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy yn cael eu cyflawni ar ran yr awdurdod gan berson a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (2) ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gontract neu drefniant arall a wneir gan yr awdurdod â’r person penodedig gynnwys telerau ac amodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

26Pŵer i’w gwneud yn ofynnol i swyddogaethau gael eu cyflawni gan Weinidogion Cymru neu enwebai

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu cyflawni gan awdurdod lleol.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo bod y swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd i’w harfer gan Weinidogion Cymru neu berson a enwebir ganddynt.

(3)Os yw cyfarwyddyd wedi ei wneud o dan is-adran (2), rhaid i’r awdurdod lleol gydymffurfio ag arweiniad Gweinidogion Cymru neu eu henwebai mewn perthynas ag arfer y swyddogaethau.

27Pŵer i gyfarwyddo’r modd y mae swyddogaethau addysg eraill yn cael eu harfer

(1)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn hwylus, caiff cyfarwyddyd o dan adran 25 neu 26 ymwneud â chyflawni swyddogaethau addysg yn ychwanegol at y swyddogaethau y mae’r seiliau dros ymyrryd yn ymwneud â hwy.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi sylw (ymhlith pethau eraill) i ystyriaethau ariannol wrth benderfynu a yw’n hwylus i gyfarwyddyd ymwneud â swyddogaethau addysg nad ydynt yn swyddogaethau sy’n ymwneud â’r seiliau dros ymyrryd.

28Pŵer cyffredinol i roi cyfarwyddiadau a chymryd camau

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os oes gan Weinidogion Cymru bwer i ymyrryd â’r modd y mae swyddogaethau addysg yn cael eu harfer gan awdurdod lleol.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn credu ei bod yn briodol at ddibenion ymdrin â’r seiliau dros ymyrryd, cânt—

(a)rhoi cyfarwyddiadau i’r corff llywodraethu neu’r pennaeth, neu

(b)cymryd unrhyw gamau eraill.

Darpariaethau atodol

29Cyfarwyddiadau

(1)Rhaid i awdurdod lleol, neu swyddog i awdurdod, sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd neu arweiniad o dan y Bennod hon gydymffurfio ag ef.

(2)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd neu arweiniad i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn yr awdurdod lleol neu swyddog i’r awdurdod.

(3)O ran cyfarwyddyd o dan y Bennod hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais gan Weinidogion Cymru neu ar eu rhan.

30Dyletswydd i gydweithredu

(1)Rhaid i awdurdod lleol a chorff llywodraethu ysgol a gynhelir roi i Weinidogion Cymru, ac unrhyw berson a bennir yn is-adran (3) gymaint o gymorth mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon ag y gallant yn rhesymol ei roi.

(2)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol sicrhau hefyd, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, fod personau sy’n gweithio yn yr ysgol yn gwneud yr un fath.

(3)Y personau penodedig yw—

(a)unrhyw berson a awdurdodir at ddibenion yr adran hon gan Weinidogion Cymru;

(b)unrhyw berson sy’n gweithredu o dan gyfarwyddiadau o dan y Bennod hon;

(c)unrhyw berson sy’n cynorthwyo—

(i)Gweinidogion Cymru, neu

(ii)person a grybwyllwyd ym mharagraff (a) neu (b).

31Pwerau mynd i mewn ac arolygu

(1)Ar bob adeg resymol mae gan berson sy’n dod o fewn is-adran (2)—

(a)hawl i fynd i mewn i fangre’r awdurdod lleol o dan sylw ac unrhyw ysgol a gynhelir ganddo;

(b)hawl i arolygu unrhyw gofnodion neu ddogfennau eraill a gedwir gan yr awdurdod neu unrhyw ysgol a gynhelir ganddo, ac unrhyw ddogfennau eraill sy’n cynnwys gwybodaeth ynglyn â’r awdurdod neu unrhyw ysgol o’r fath, y mae’r person yn barnu eu bod yn berthnasol i’r modd y mae swyddogaethau yn cael eu harfer gan y person o dan neu yn rhinwedd y Bennod hon ac i wneud copïau o unrhyw gofnodion neu ddogfennau o’r fath.

(2)Y personau canlynol sy’n dod o fewn yr is-adran hon—

(a)y person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 24 neu, pan fo’r cyfarwyddyd yn pennu dosbarth ar bersonau, y person y mae’r awdurdod lleol yn ymrwymo gydag ef i’r contract neu’r trefniant arall sy’n ofynnol gan y cyfarwyddyd;

(b)y person a bennir mewn cyfarwyddyd o dan adran 25;

(c)Gweinidogion Cymru yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 26;

(d)y person a enwebir drwy gyfarwyddyd o dan adran 26.

(3)Wrth arfer yr hawl o dan is-adran (1)(b) i arolygu cofnodion neu ddogfennau eraill, mae person (“P”)—

(a)yn meddu ar yr hawl i gael mynediad i unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw aparatws neu ddeunydd cysylltiedig sy’n cael neu sydd wedi bod yn cael eu defnyddio mewn cysylltiad â’r cofnodion neu’r dogfennau eraill sydd o dan sylw, ac arolygu a gwirio eu gweithrediad, a

(b)yn cael ei gwneud yn ofynnol i’r personau canlynol roi unrhyw gymorth y mae ar P angen rhesymol amdano (gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, trefnu bod gwybodaeth ar gael i’w harolygu neu ei chopïo ar ffurf ddarllenadwy)—

(i)y person y defnyddir neu y defnyddiwyd y cyfrifiadur felly ganddo neu ar ei ran;

(ii)unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, yr aparatws neu’r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â’i weithredu.

(4)Mae unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at berson sy’n dod o fewn is-adran (2) yn cynnwys cyfeiriad at unrhyw berson sy’n cynorthwyo’r person hwnnw.

(5)Yn yr adran hon mae’r termau “dogfen” a “cofnodion” ill dau yn cynnwys gwybodaeth a gofnodir ar unrhyw ffurf.

PENNOD 3CANLLAWIAU GWELLA YSGOLION

32Ystyr “awdurdod ysgol”

Yn y Bennod hon ystyr “awdurdod ysgol” yw—

(a)awdurdod lleol wrth iddo arfer ei swyddogaethau addysg;

(b)corff llywodraethu ysgol a gynhelir;

(c)pennaeth ysgol a gynhelir.

33Pŵer i ddyroddi canllawiau gwella ysgolion

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ddyroddi canllawiau i awdurdod ysgol ynglyn â’r ffordd y dylai’r awdurdod arfer ei swyddogaethau gyda golwg ar wella safon yr addysg sy’n cael ei darparu gan unrhyw ysgol a gynhelir y mae’r awdurdod yn arfer swyddogaethau mewn cysylltiad â hi (“canllawiau gwella ysgolion”).

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)dyroddi canllawiau gwella ysgolion i awdurdodau ysgolion yn gyffredinol neu i un neu fwy o awdurdodau penodol;

(b)dyroddi canllawiau gwahanol ynghylch gwella ysgolion i wahanol awdurdodau ysgolion;

(c)diwygio neu ddirymu canllawiau gwella ysgolion drwy ganllawiau pellach;

(d)dirymu canllawiau gwella ysgolion drwy ddyroddi hysbysiad i’r awdurdodau ysgolion y mae’r canllawiau wedi eu cyfeirio atynt.

(3)Rhaid i Weinidogion Cymru sicrhau bod canllawiau gwella ysgolion, neu hysbysiad yn dirymu’r canllawiau hynny, yn datgan—

(a)eu bod yn cael eu dyroddi, neu ei fod yn cael ei ddyroddi, o dan yr adran hon, a

(b)y dyddiad y deuant neu y daw yn weithredol arno.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru drefnu i gyhoeddi canllawiau gwella ysgolion, neu hysbysiad yn dirymu’r canllawiau hynny.

34Ymgynghori a gweithdrefnau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio canllawiau gwella ysgolion, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ynghylch drafft o’r canllawiau—

(a)awdurdodau ysgolion y mae’r canllawiau yn debyg o effeithio arnynt,

(b)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac

(c)unrhyw berson arall sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Os yw’r Cynulliad Cenedlaethol, cyn diwedd y cyfnod o 40 o ddiwrnodau, yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o’r canllawiau, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â’u dyroddi ar ffurf y drafft hwnnw.

(4)Os na chaiff unrhyw benderfyniad ei wneud cyn diwedd y cyfnod hwnnw, rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r canllawiau (neu’r canllawiau diwygiedig) ar ffurf y drafft.

(5)O ran y cyfnod o 40 o ddiwrnodau—

(a)mae’n dechrau ar y diwrnod y mae’r drafft yn cael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, a

(b)nid yw’n cynnwys unrhyw bryd y mae’r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn atal drafft newydd o ganllawiau arfaethedig neu ganllawiau diwygiedig arfaethedig rhag cael eu gosod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

35Dyletswydd i ddilyn canllawiau gwella ysgolion

(1)Rhaid i awdurdod ysgol ddilyn y llwybr a nodir mewn canllawiau gwella ysgolion a ddyroddir iddo yn unol â’r Bennod hon pan fydd yn arfer pŵer neu ddyletswydd (gan gynnwys pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn yr awdurdod ysgol); ond mae hyn yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon.

(2)Nid yw awdurdod ysgol sy’n awdurdod lleol yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) cyhyd—

(a)â bod yr awdurdod yn meddwl bod rheswm da iddo beidio â dilyn y canllawiau mewn categorïau achos penodol neu beidio â’u dilyn o gwbl,

(b)â’i fod yn penderfynu ar bolisi amgen ar gyfer arfer ei swyddogaethau mewn cysylltiad â phwnc y canllawiau, ac

(c)â bod effaith i ddatganiad polisi a ddyroddir gan yr awdurdod yn unol ag adran 36.

(3)Nid yw awdurdod ysgol sy’n gorff llywodraethu ysgol a gynhelir neu’n bennaeth arni yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1) cyhyd â bod—

(a)y corff llywodraethu’n meddwl bod rheswm da iddo ef neu’r pennaeth beidio â dilyn y canllawiau mewn categorïau achos penodol neu beidio â’u dilyn o gwbl,

(b)y corff llywodraethu’n penderfynu ar bolisi amgen ar gyfer arfer ei swyddogaethau neu rai’r pennaeth mewn cysylltiad â phwnc y canllawiau, ac

(c)effaith i ddatganiad polisi a ddyroddir gan y corff llywodraethu yn unol ag adran 36.

(4)Pan fo is-adran (2) neu (3) yn gymwys yn achos awdurdod ysgol—

(a)rhaid i’r awdurdod ddilyn y llwybr a nodir yn y datganiad polisi, a

(b)dim ond i’r graddau nad yw pwnc y canllawiau gwella ysgolion wedi ei ddisodli gan y datganiad polisi y mae’r awdurdod yn ddarostyngedig i’r ddyletswydd o dan is-adran (1).

(5)Nid yw’r dyletswyddau yn is-adrannau (1) a (4) yn gymwys i awdurdod ysgol i’r graddau y byddai’n afresymol i’r awdurdod ddilyn y canllawiau gwella ysgolion neu’r datganiad polisi mewn achos penodol neu gategori penodol o achos.

36Datganiadau polisi: gofynion a phwerau ategol

(1)Rhaid i ddatganiad polisi a ddyroddir o dan adran 35(2) neu (3) nodi—

(a)sut mae’r awdurdod lleol neu’r corff llywodraethu (yn ôl y digwydd) yn cynnig y dylai swyddogaethau gael eu harfer yn wahanol i’r llwybr a nodir yn y canllawiau gwella ysgolion, a

(b)rhesymau’r awdurdod neu’r corff dros gynnig y llwybr gwahanol hwnnw.

(2)Caiff awdurdod neu gorff sydd wedi dyroddi datganiad polisi—

(a)dyroddi datganiad polisi diwygiedig;

(b)rhoi hysbysiad sy’n dirymu datganiad polisi.

(3)Rhaid i ddatganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig am bolisi) ddatgan—

(a)ei fod wedi ei ddyroddi o dan adran 35(2) neu (3) (yn ôl y digwydd), a

(b)y dyddiad y mae i ddod yn weithredol arno.

(4)Rhaid i’r awdurdod neu’r corff sy’n dyroddi datganiad polisi (neu ddatganiad diwygiedig am bolisi), neu sy’n rhoi hysbysiad o dan is-adran (2)(b)—

(a)trefnu bod datganiad neu hysbysiad yn cael ei gyhoeddi;

(b)anfon copi o unrhyw ddatganiad neu hysbysiad at Weinidogion Cymru.

37Cyfarwyddiadau

(1)Mae is-adran (2) yn gymwys os yw Gweinidogion Cymru yn credu, mewn perthynas â datganiad polisi a ddyroddir gan awdurdod ysgol, nad yw polisi amgen yr awdurdod ar gyfer arfer swyddogaethau (yn gyfan gwbl neu’n rhannol) yn debyg o wella safon yr addysg a ddarperir yn yr ysgol y mae’r datganiad polisi yn ymwneud â hi.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo’r awdurdod ysgol i gymryd unrhyw gamau y mae Gweinidogion Cymru yn credu eu bod yn briodol er mwyn sicrhau bod yr awdurdod yn arfer ei swyddogaethau yn unol â’r canllawiau gwella ysgolion a ddyroddir i’r awdurdod yn unol â’r Bennod hon.

(3)Rhaid i awdurdod ysgol sy’n ddarostyngedig i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gydymffurfio ag ef.

(4)Mae hyn yn cynnwys cyfarwyddyd i arfer pŵer neu ddyletswydd sy’n ddibynnol ar farn yr awdurdod ysgol.

(5)O ran cyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo gael ei roi’n ysgrifenedig;

(b)caniateir ei amrywio neu ei ddirymu drwy gyfarwyddyd diweddarach;

(c)gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru neu ar eu rhan.

RHAN 3TREFNIADAETH YSGOLION

PENNOD 1COD TREFNIADAETH YSGOLION

38Cod Trefniadaeth Ysgolion

(1)Rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi cod am drefniadaeth ysgolion (“y Cod”), a chaniateir iddynt ei ddiwygio o dro i dro.

(2)Mae’r Cod i gynnwys darpariaeth ynghylch arfer swyddogaethau’r personau canlynol o dan y Rhan hon—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)awdurdodau lleol;

(c)cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir;

(d)personau eraill mewn cysylltiad â chynigion a wneir (neu sydd i’w gwneud) ganddynt o dan y Rhan hon.

(3)Caiff y Cod osod gofynion, a chaiff gynnwys canllawiau sy’n nodi nodau, amcanion a materion eraill.

(4)Rhaid i’r personau y cyfeiriwyd atynt yn is-adran (2), wrth arfer eu swyddogaethau o dan y Rhan hon—

(a)gweithredu’n unol ag unrhyw ofynion perthnasol a gynhwysir yn y Cod, a

(b)rhoi sylw i unrhyw ganllawiau perthnasol a gynhwysir ynddo.

(5)Mae’r ddyletswydd a osodir gan is-adran (4) yn gymwys hefyd i berson sy’n arfer swyddogaeth at ddibenion cyflawni swyddogaethau o dan y Rhan hon gan—

(a)Gweinidogion Cymru,

(b)awdurdod lleol,

(c)corff llywodraethu ysgol a gynhelir, neu

(d)personau eraill mewn cysylltiad â chynigion a wneir (neu sydd i’w gwneud) ganddynt o dan y Rhan hon.

(6)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi ar eu gwefan y Cod sydd mewn grym am y tro.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru wneud darpariaeth ar wahân (drwy gyfrwng codau ar wahân) mewn perthynas â swyddogaethau gwahanol o dan y Rhan hon sy’n perthyn i’r personau a grybwyllwyd yn is-adran (2).

(8)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at “y Cod” neu at swyddogaethau o dan y Rhan hon yn cael effaith, mewn perthynas â chod ar wahân, fel cyfeiriadau at y cod hwnnw neu at swyddogaethau o dan y Rhan hon y mae’n ymwneud â hwy.

39Llunio a chymeradwyo Cod Trefniadaeth Ysgolion

(1)Cyn dyroddi neu ddiwygio cod o dan adran 38, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r personau a ganlyn ynghylch drafft o’r cod (neu’r cod diwygiedig)—

(a)pob awdurdod lleol,

(b)corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir,

(c)Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru, ac

(d)unrhyw berson arall sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno bwrw ymlaen â’r drafft (gydag addasiadau neu hebddynt), rhaid iddynt osod copi o’r drafft gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

(3)Os yw’r Cynulliad Cenedlaethol, cyn diwedd y cyfnod o 40 o ddiwrnodau, yn penderfynu peidio â chymeradwyo’r drafft o’r cod, rhaid i Weinidogion Cymru beidio â dyroddi’r cod arfaethedig ar ffurf y drafft hwnnw.

(4)Os na chaiff unrhyw benderfyniad o’r fath ei wneud cyn diwedd y cyfnod hwnnw—

(a)rhaid i Weinidogion Cymru ddyroddi’r cod (neu’r cod diwygiedig) ar ffurf y drafft, a

(b)daw’r cod (neu’r cod diwygiedig) i rym ar y dyddiad a bennir drwy orchymyn gan Weinidogion Cymru.

(5)O ran y cyfnod o 40 o ddiwrnodau—

(a)mae’n dechrau ar y diwrnod y caiff y drafft ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a

(b)nid yw’n cynnwys unrhyw amser pryd y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi ei ddiddymu neu wedi cymryd saib am fwy na phedwar diwrnod.

(6)Nid yw is-adran (3) yn atal drafft newydd o god arfaethedig rhag cael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol.

(7)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at god arfaethedig yn cynnwys cod diwygiedig arfaethedig.

(8)Caniateir i’r gofyniad i ymgynghori a osodir gan is-adran (1) gael ei fodloni drwy ymgynghoriad yr ymgymerwyd ag ef cyn i’r Rhan hon ddod i rym er bod y cod a ddyroddir o dan adran 38(1) yn cymryd i ystyriaeth (i unrhyw raddau) unrhyw ddarpariaeth a wneir gan y Rhan hon.

PENNOD 2CYNIGION TREFNIADAETH YSGOLION

Sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelir

40Cyfyngu ar sefydlu, newid a therfynu ysgolion a gynhelir

(1)Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caniateir i ysgol gymunedol, ysgol wirfoddol neu ysgol arbennig gymunedol newydd gael ei sefydlu yng Nghymru.

(2)Ni chaniateir i ysgol sefydledig nac ysgol arbennig sefydledig newydd gael ei sefydlu yng Nghymru.

(3)Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caniateir i ysgol a gynhelir gael ei therfynu.

(4)Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caniateir i newid gael ei wneud i ysgol a gynhelir sy’n newid rheoleiddiedig mewn perthynas â’r math o ysgol o dan sylw. (5) Ni chaniateir i unrhyw newid gael ei wneud i ysgol a gynhelir sy’n newid cymeriad crefyddol yr ysgol neu’n peri i ysgol gaffael neu golli ei chymeriad crefyddol.

(6)Mae is-adran (3) yn cael effaith yn ddarostyngedig i adran 16(5) (pŵer Gweinidogion Cymru i gyfarwyddo bod ysgol yn cau).

(7)Mae Atodlen 2 (sy’n disgrifio newidiadau rheoleiddiedig) yn cael effaith.

41Cynigion i sefydlu ysgolion prif ffrwd

(1)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion i sefydlu—

(a)ysgol gymunedol newydd, neu

(b)ysgol feithrin newydd a gynhelir.

(2)Caiff unrhyw berson wneud cynigion i sefydlu ysgol wirfoddol newydd.

42Cynigion i newid ysgolion prif ffrwd

(1)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion—

(a)i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol gymunedol;

(b)gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru, i wneud newid a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 (agor neu gau chweched dosbarth ysgol) i ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig;

(c)i wneud newid a ddisgrifir ym mharagraff 10, 11, 12 neu 13 o Atodlen 2 (cynyddu a lleihau capasiti) i ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig os nad oes gan yr ysgol honno gymeriad crefyddol;

(d)i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol feithrin a gynhelir.

(2)Caiff corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol wneud cynigion i wneud newid rheoleiddiedig i’r ysgol.

43Cynigion i derfynu ysgolion prif ffrwd

(1)Caiff awdurdod lleol wneud cynigion i derfynu—

(a)ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu

(b)ysgol feithrin a gynhelir.

(2)Caiff corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol wneud cynigion i derfynu’r ysgol.

44Cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion arbennig cymunedol

Caiff awdurdod lleol wneud cynigion—

(a)i sefydlu ysgol arbennig gymunedol newydd,

(b)i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol o’r fath, neu

(c)i derfynu ysgol o’r fath.

Newidiadau categori

45Cynigion i newid categori ysgol

(1)Caiff corff llywodraethu ysgol gymunedol wneud cynigion i’r ysgol ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir.

(2)Caiff corff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir wneud cynigion i’r ysgol ddod yn ysgol gymunedol neu’n ysgol wirfoddol a reolir (ond gweler is-adran (5)).

(3)Caiff corff llywodraethu ysgol wirfoddol a reolir wneud cynigion i’r ysgol ddod yn ysgol gymunedol neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir (ond gweler is-adran (5)).

(4)Caiff corff llywodraethu ysgol sefydledig wneud cynigion i’r ysgol ddod yn ysgol gymunedol, yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir (ond gweler is-adran (5)).

(5)Ni chaniateir gwneud cynigion i ysgol sefydledig sydd â chymeriad crefyddol neu ysgol wirfoddol sydd â chymeriad crefyddol ddod yn ysgol gymunedol.

46Cyfyngiadau ar newid categori ysgol

(1)Dim ond yn unol â’r Rhan hon y caiff ysgol a gynhelir o fewn un o’r categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ddod yn ysgol o fewn un arall o’r categorïau hynny (ac eithrio ysgol sefydledig neu ysgol arbennig sefydledig).

(2)Ni chaiff ysgol newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir oni fydd corff llywodraethu’r ysgol yn bodloni Gweinidogion Cymru y byddai’n gallu cyflawni ei rwymedigaethau o dan Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (cyllido ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir) am gyfnod o bum mlynedd o leiaf ar ôl y dyddiad y cynigir bod y newid categori yn digwydd.

(3)Ni chaiff ysgol wirfoddol neu ysgol sefydledig ddod yn ysgol gymunedol onid ydys wedi ymrwymo i unrhyw gytundeb trosglwyddo ac unrhyw gytundeb i drosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau sy’n ofynnol o dan Ran 3 o Atodlen 4.

47Effaith newid categori

(1)Nid yw newid yng nghategori ysgol yn unol â chynigion a wneir o dan adran 45 i’w drin fel petai’n awdurdodi unrhyw newid yng nghymeriad yr ysgol nac fel petai’n ei gwneud yn ofynnol i unrhyw newid o’r fath gael ei wneud (gan gynnwys, yn benodol, unrhyw newid yng nghymeriad crefyddol yr ysgol).

(2)Nid yw newid yng nghategori ysgol yn unol â chynigion a wneir o dan adran 45 i’w drin fel petai’n awdurdodi ysgol i sefydlu corff sefydledig, nac i ymuno neu ymadael â chorff o’r fath.

Cyhoeddi, ymgynghori a gwrthwynebu

48Cyhoeddi ac ymgynghori

(1)Rhaid i gynigydd gyhoeddi cynigion a wneir o dan y Bennod hon yn unol â’r Cod.

(2)Cyn cyhoeddi cynigion a wneir o dan y Bennod hon, rhaid i gynigydd ymgynghori ynglyn â’i gynigion yn unol â’r Cod.

(3)Nid yw’r gofyniad i ymgynghori yn gymwys i gynigion i derfynu ysgol sy’n ysgol fach (gweler adran 56).

(4)Cyn diwedd 7 niwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod eu cyhoeddi, rhaid i’r cynigydd anfon copïau o’r cynigion cyhoeddedig—

(a)at Weinidogion Cymru, a

(b)at yr awdurdod lleol (os nad hwnnw yw’r cynigydd) sy’n cynnal, neu y cynigir ei fod yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.

(5)Rhaid i’r cynigydd gyhoeddi adroddiad ar yr ymgynghori y mae wedi ei wneud yn unol â’r Cod.

49Gwrthwynebu

(1)Caiff unrhyw berson wrthwynebu cynigion a gyhoeddir o dan adran 48.

(2)Rhaid i wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig at y cynigydd cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd y cynigion eu cyhoeddi (“y cyfnod gwrthwynebu”).

(3)Rhaid i’r cynigydd gyhoeddi crynodeb o’r holl wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag isadran (2) (ac nas tynnwyd yn eu hôl) a’i ymateb i’r gwrthwynebiadau hynny—

(a)yn achos awdurdod lleol y mae’n ofynnol iddo benderfynu ar ei gynigion ei hun o dan adran 53, cyn diwedd 7 niwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod ei benderfyniad o dan adran 53(1), a

(b)ym mhob achos arall, cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y mae’r cyfnod gwrthwynebu’n dod i ben.

Cymeradwyo cynigion a phenderfynu arnynt

50Eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru

(1)Mae’n ofynnol i gynigion a gyhoeddir o dan adran 48 gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon—

(a)os yw’r cynigion yn effeithio ar addysg chweched dosbarth, neu

(b)os yw’r cynigion wedi eu gwneud gan gynigydd ac eithrio’r awdurdod lleol perthnasol ac os yw gwrthwynebiad wedi ei wneud gan yr awdurdod hwnnw yn unol ag adran 49(2) ac os nad yw wedi ei dynnu yn ôl yn ysgrifenedig cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.

(2)Mae cynigion yn effeithio ar addysg chweched dosbarth—

(a)os ydynt yn gynigion i sefydlu neu derfynu ysgol sy’n darparu addysg sy’n addas at anghenion personau sydd dros oedran ysgol gorfodol yn unig, neu

(b)os ydynt yn gynigion i wneud newid rheoleiddiedig i ysgol, y byddai ei effaith yn golygu bod darparu addysg sy’n addas i anghenion personau sydd dros oedran ysgol gorfodol yn yr ysgol yn cynyddu neu’n lleihau.

(3)Pan fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon, rhaid i’r cynigydd anfon copi o’r dogfennau a restrir yn is-adran (4) at Weinidogion Cymru cyn diwedd 35 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.

(4)Y dogfennau yw’r canlynol—

(a)yr adroddiad a gyhoeddir o dan adran 48(5),

(b)y cynigion cyhoeddedig,

(c)unrhyw wrthwynebiadau a wneir yn unol ag adran 49(2) (ac nad ydynt wedi eu tynnu’n ôl), a

(d)pan fo gwrthwynebiadau wedi eu gwneud felly (a heb gael eu tynnu’n ôl), yr ymateb a gyhoeddir o dan adran 49(3).

(5)Pan fo angen i gynigion gael cymeradwyaeth o dan yr adran hon, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)gwrthod y cynigion,

(b)eu cymeradwyo heb eu haddasu, neu

(c)eu cymeradwyo gydag addasiadau—

(i)ar ôl cael cydsyniad y cynigydd â’r addasiadau, a

(ii)(ac eithrio os y cynigydd yw’r corff llywodraethu neu’r awdurdod lleol, yn ôl y digwydd), ar ôl ymgynghori â chorff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi a’r awdurdod lleol perthnasol.

(6)Caniateir i gymeradwyaeth ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.

(7)Caiff Gweinidogion Cymru, ar gais y cynigydd, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae’r digwyddiad y cyfeiriwyd ato yn is-adran (6) i ddigwydd.

(8)Nid yw is-adran (1) yn atal cynigion rhag cael eu tynnu’n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y cynigydd i Weinidogion Cymru ar unrhyw bryd cyn iddynt gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon.

(9)Nid yw’n ofynnol i gynigion a wneir o dan adran 43 neu 44 i derfynu ysgol sy’n ysgol fach (gweler adran 56) gael unrhyw gymeradwyaeth o dan yr adran hon.

(10)Yn yr adran hon ystyr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir ei fod yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.

51Eu cymeradwyo gan awdurdod lleol

(1)Mae’n ofynnol i gynigion a gyhoeddir o dan adran 48 gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon os—

(a)nad yw’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo o dan adran 50,

(b)ydynt wedi eu gwneud gan gynigydd ac eithrio’r awdurdod lleol perthnasol, ac

(c)yw gwrthwynebiad i’r cynigion wedi ei wneud yn unol ag adran 49(2) ac nad yw wedi ei dynnu’n ôl yn ysgrifenedig cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.

(2)Pan fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon, rhaid i’r cynigydd anfon copi o’r dogfennau a restrir yn is-adran (3) at yr awdurdod lleol perthnasol cyn diwedd 35 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.

(3)Y dogfennau yw’r canlynol—

(a)yr adroddiad a gyhoeddir o dan adran 48(5),

(b)y cynigion cyhoeddedig,

(c)gwrthwynebiadau a wneir yn unol ag adran 49(2) (ac nad ydynt wedi eu tynnu’n ôl), a

(d)yr ymateb a gyhoeddir o dan adran 49(3).

(4)Pan fo’n ofynnol i gynigion gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon, caiff yr awdurdod lleol perthnasol—

(a)gwrthod y cynigion,

(b)eu cymeradwyo heb eu haddasu, neu

(c)eu cymeradwyo gydag unrhyw un o’r addasiadau a bennir yn is-adran (5)—

(i)ar ôl cael cydsyniad Gweinidogion Cymru a‘r cynigydd â’r addasiadau, a

(ii)(ac eithrio os y cynigydd yw’r corff llywodraethu), ar ôl ymgynghori â chorff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.

(5)Caiff yr awdurdod lleol perthnasol addasu—

(a)y dyddiad neu’r dyddiadau a bennir yn y cynigion cyhoeddedig fel y dyddiad neu’r dyddiadau y bwriedir gweithredu’r cynigion;

(b)nifer y disgyblion a bennir yn y cynigion cyhoeddedig fel y nifer sydd i’w derbyn i’r ysgol (mewn unrhyw grwp oedran ac mewn unrhyw flwyddyn ysgol).

(6)Caniateir i gymeradwyaeth ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y gymeradwyaeth yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.

(7)Caiff yr awdurdod lleol perthnasol, ar gais y cynigydd, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y mae’r digwyddiad y cyfeiriwyd ato yn is-adran (6) i ddigwydd.

(8)Rhaid i’r awdurdod lleol perthnasol wneud penderfyniad o dan is-adran (4) p’un ai i wrthod neu i gymeradwyo’r cynigion cyn diwedd y cyfnod o 16 o wythnosau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu.

(9)Nid yw is-adran (1) yn atal cynigion rhag cael eu tynnu’n ôl drwy hysbysiad ysgrifenedig a roddir gan y cynigydd i’r awdurdod lleol perthnasol ar unrhyw bryd cyn iddynt gael eu cymeradwyo o dan yr adran hon.

(10)Nid yw’n ofynnol i gynigion a wneir o dan adran 43 neu 44 i derfynu ysgol sy’n ysgol fach (gweler adran 56) gael unrhyw gymeradwyaeth o dan yr adran hon.

(11)Yn yr adran hon ystyr “awdurdod lleol perthnasol” yw’r awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir ei fod yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.

52Cynigion cysylltiedig

(1)Rhaid i gynigydd anfon at Weinidogion Cymru gynigion (“cynigion B”) y mae wedi eu gwneud—

(a)os yw o’r farn eu bod yn gysylltiedig â chynigion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo o dan adran 50 (“cynigion A”), a

(b)os nad yw’r cynigydd wedi penderfynu a fyddai’n gweithredu cynigion B o dan adran 53 cyn bod Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo neu’n gwrthod cynigion A.

(2)Os yw Gweinidogion Cymru o’r farn bod cynigion B yn gysylltiedig â chynigion A, mae cynigion B i’w trin fel petai’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo o dan adran 50.

(3)Rhaid i gynigydd anfon at awdurdod lleol gynigion (“cynigion D”) y mae wedi eu gwneud—

(a)os yw o’r farn eu bod yn gysylltiedig â chynigion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo gan yr awdurdod lleol o dan adran 51 (“cynigion C”), a

(b)os nad yw’r cynigydd wedi penderfynu a ddylid gweithredu cynigion D o dan adran 53 cyn bod yr awdurdod lleol yn cymeradwyo neu’n gwrthod cynigion C.

(4)Os yw’r awdurdod lleol o’r farn bod cynigion D yn gysylltiedig â chynigion C, mae cynigion D i’w trin fel petai’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo o dan adran 51.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gynigion eraill gael eu trin fel rhai y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo o dan adran 50—

(a)os ydynt o’r farn eu bod yn gysylltiedig â chynigion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo ganddynt hwy o dan adran 50, a

(b)os nad yw’r cynigydd wedi penderfynu a ddylid eu gweithredu o dan adran 53 cyn bod Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo neu’n gwrthod y cynigion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo.

(6)Caiff awdurdod lleol ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gynigion eraill gael eu trin fel rhai y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo o dan adran 51—

(a)os yw o’r farn eu bod yn gysylltiedig â chynigion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo ganddo o dan adran 51, a

(b)os nad yw’r cynigydd wedi penderfynu a ddylid eu gweithredu o dan adran 53 cyn bod yr awdurdod lleol yn cymeradwyo neu’n gwrthod y cynigion y mae’n ofynnol iddynt gael eu cymeradwyo.

(7)Nid yw’r adran hon yn gymwys i gynigion a gyfeirir i ymchwiliad lleol o dan adran 61 (ymchwiliad lleol i gynigion i resymoli lleoedd ysgol).

53Penderfynu

(1)Pan nad yw’n ofynnol i unrhyw gynigion a gyhoeddir o dan adran 48 gael eu cymeradwyo o dan adran 50 neu 51, rhaid i’r cynigydd benderfynu a ddylid gweithredu’r cynigion.

(2)Os na fydd penderfyniad o dan is-adran (1) wedi ei wneud cyn diwedd 16 o wythnosau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu, bernir bod y cynigydd wedi tynnu’r cynigion yn eu hôl.

(3)Cyn diwedd 7 niwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod ei benderfyniad o dan is-adran (1), rhaid i’r cynigydd hysbysu’r canlynol am y penderfyniad—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)(ac eithrio os y cynigydd yw ef) yr awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir ei fod yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;

(c)(ac eithrio os y cynigydd yw ef) corff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.

54Eu hatgyfeirio i Weinidogion Cymru

(1)Mae’r adran hon yn gymwys os yw awdurdod lleol wedi—

(a)penderfynu cymeradwyo neu wrthod cynigion o dan adran 51(4), neu

(b)penderfynu o dan adran 53(1) i weithredu cynigion y gwnaed gwrthwynebiad iddynt yn unol ag adran 49 (ac nas tynnwyd yn ei ôl yn ysgrifenedig cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwedd y cyfnod gwrthwynebu).

(2)Cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar ddiwrnod penderfynu’r awdurdod lleol o dan adran 51(4) neu 53(1), caiff y canlynol atgyfeirio’r cynigion i Weinidogion Cymru—

(a)awdurdod lleol arall y mae’n debyg y bydd y cynigion yn effeithio arno;

(b)awdurdod lleol yn Lloegr y mae’n debyg y bydd y cynigion yn effeithio arno;

(c)y corff crefyddol priodol ar gyfer—

(i)yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi os yw’n ysgol sydd â chymeriad crefyddol, neu y bwriedir iddi fod yn ysgol o’r fath, neu

(ii)unrhyw ysgol arall sydd â chymeriad crefyddol ac y mae’n debyg y bydd y cynigion yn effeithio arni;

(d)os yw’r ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi yn ysgol sefydledig neu’n ysgol wirfoddol, corff llywodraethu’r ysgol;

(e)ymddiriedolaeth sy’n dal eiddo at ddibenion yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;

(f)sefydliad o fewn y sector addysg bellach y mae’n debyg y bydd y cynigion yn effeithio arno.

(3)Cwestiwn i gael ei benderfynu gan Weinidogion Cymru yw a yw awdurdod, ysgol neu sefydliad yn debyg o gael ei effeithio gan y cynigion at ddiben is-adran (2).

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru ystyried cynigion a atgyfeiriwyd iddynt o dan yr adran hon o’r newydd ac mae is-adrannau (5) i (8) o adran 50 yn gymwys fel petai angen eu cymeradwyaeth o dan yr adran honno.

(5)Ni chaniateir i gynigion a wneir o dan adran 43 neu 44 i derfynu ysgol sy’n ysgol fach (gweler adran 56) gael eu hatgyfeirio i Weinidogion Cymru o dan yr adran hon.

(6)Os yw’n ofynnol i Weinidogion Cymru ystyried cynigion a atgyfeiriwyd o dan yr adran hon, nid yw’r cynigion hynny i’w trin at ddibenion adran 55 neu 61 fel rhai a gymeradwywyd o dan adran 51 neu fel cynigion y mae’r cynigydd wedi penderfynu eu gweithredu o dan adran 53.

(7)Os yw Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo cynigion yn unol â’r adran hon, mae’r cynigion i’w trin at ddibenion adran 55 fel petaent wedi eu cymeradwyo o dan adran 50.

(8)Os yw Gweinidogion Cymru yn gwrthod cynigion yn unol â’r adran hon, mae’r cynigion i’w trin at ddibenion paragraff 35(3)(e) o Atodlen 4 fel petaent wedi eu gwrthod o dan adran 50.

55Gweithredu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i’r canlynol—

(a)cynigion sydd wedi eu cymeradwyo o dan adran 50 neu 51, neu

(b)cynigion y mae’r cynigydd wedi penderfynu o dan adran 53 y byddai’n eu gweithredu.

(2)Rhaid i’r cynigion (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon) gael eu gweithredu ar y ffurf y cawsant eu cymeradwyo neu eu penderfynu i gael eu gweithredu ynddi—

(a)yn achos cynigion a wneir o dan adran 41, 42, 43 neu 44 (sefydlu, newid neu derfynu ysgolion), yn unol ag Atodlen 3;

(b)yn achos cynigion a wneir o dan adran 45 (newid categori), yn unol ag Atodlen 4.

(3)Caiff y cynigydd (yn ddarostyngedig i is-adran (6)) benderfynu gohirio gweithredu am gyfnod o hyd at dair blynedd o’r dyddiad neu’r dyddiadau a bennwyd yn y cynigion (fel y cawsant eu cymeradwyo neu eu penderfynu) fel y dyddiad neu’r dyddiadau y maent i’w gweithredu arno neu arnynt, os yw wedi ei fodloni—

(a)y byddai gweithredu’r cynigion ar y dyddiad hwnnw neu’r dyddiadau hynny yn afresymol o anodd, neu

(b)bod yr amgylchiadau wedi newid i’r fath graddau ers i’r cynigion gael eu cymeradwyo o dan adran 50 neu 51 neu eu penderfynu o dan adran 53, y byddai gweithredu’r cynigion ar y dyddiad hwnnw neu’r dyddiadau hynny yn amhriodol.

(4)Yn achos cynigion i derfynu ysgol a wneir o dan adran 43 neu 44, caiff y cynigydd (yn ddarostyngedig i is-adran (6)) benderfynu dod â’r gweithredu ymlaen gan gyfnod o hyd at 13 o wythnosau o’r dyddiad neu’r dyddiadau a bennir yn y cynigion (fel y’u cymeradwyir neu eu penderfynir) fel y dyddiad neu’r dyddiadau pan gânt eu gweithredu.

(5)Caiff y cynigydd (yn ddarostyngedig i is-adran (6)) benderfynu na fydd is-adran (2) yn gymwys i gynigion os yw wedi ei fodloni—

(a)y byddai gweithredu’r cynigion yn afresymol o anodd, neu

(b)bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i’r cynigion gael eu cymeradwyo o dan adran 50 neu 51 neu eu penderfynu o dan adran 53, y byddai’n amhriodol gweithredu’r cynigion.

(6)Yn achos cynigion sydd wedi eu cymeradwyo o dan adran 50 neu 51, dim ond gyda chytundeb Gweinidogion Cymru y caiff y cynigydd wneud penderfyniad o dan is-adran (3), (4) neu (5).

(7)Cyn diwedd 7 niwrnod gan ddechrau ar ddiwrnod y penderfyniad, rhaid i’r cynigydd hysbysu’r canlynol am unrhyw benderfyniad y mae’n ei wneud o dan is-adran (3), (4) neu (5)—

(a)Gweinidogion Cymru;

(b)(ac eithrio os y cynigydd yw ef) yr awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir ei fod yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;

(c)(ac eithrio os y cynigydd yw ef) corff llywodraethu (os oes un) yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi.

(8)Pan fo is-adran (2), yn rhinwedd is-adran (5), yn peidio â bod yn gymwys i unrhyw gynigion, mae’r cynigion hynny i’w trin fel petaent wedi eu gwrthod o dan adran 50(5)(a) neu 51(4)(a) neu fel petai’r cynigydd wedi penderfynu o dan adran 53 y byddai’n peidio â’u gweithredu.

56Dehongli Pennod 2

(1)Yn y Bennod hon—

(2)Caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio drwy orchymyn y diffiniad o “ysgol fach” yn isadran (1) yn y fath fodd ag i roi cyfeiriad at ddyddiad gwahanol yn lle’r cyfeiriad at y dyddiad a bennir am y tro.

PENNOD 3RHESYMOLI LLEOEDD YSGOL

Cyfarwyddiadau i wneud cynigion i resymoli lleoedd ysgol

57Cyfarwyddiadau i wneud cynigion i gywiro darpariaeth ormodol neu annigonol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod darpariaeth ormodol neu fod, neu ei bod yn debygol y bydd, darpariaeth annigonol ar gyfer addysg gynradd neu uwchradd mewn ysgolion a gynhelir—

(a)yn ardal awdurdod lleol, neu

(b)mewn rhan o’r ardal honno.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cyfarwyddo’r awdurdod lleol i arfer ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, a

(b)cyfarwyddo corff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol a gynhelir gan yr awdurdod i arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.

(3)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (2)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd,

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion, wrth iddynt roi effaith i’r cyfarwyddyd, gymhwyso unrhyw egwyddorion a bennir ynddo, ac

(c)pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn bod, neu ei bod yn debygol y bydd, darpariaeth annigonol, pennu’r nifer ychwanegol o ddisgyblion y mae lle i’w drefnu ar eu cyfer.

(4)Ni chaniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (2)(a) ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion ymwneud ag ysgol a enwir.

58Darpariaeth bellach am gynigion a wneir ar ôl cyfarwyddyd o dan adran 57(2)

(1)Ni chaniateir i gynigion a wneir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 57(2) gael eu tynnu’n ôl heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cydsyniad at ddibenion is-adran (1) yn ddarostyngedig i amodau.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol ad-dalu gwariant yr aed iddo’n rhesymol gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo wrth wneud cynigion yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 57(2).

(4)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol gwrdd â’r gost o weithredu cynigion a wneir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 57(2) a rheini’n gynigion sydd wedi eu cymeradwyo neu y penderfynwyd eu gweithredu.

Cynigion gan Weinidogion Cymru i resymoli lleoedd ysgol

59Gwneud a chyhoeddi cynigion gan Weinidogion Cymru

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi gwneud cyfarwyddyd o dan adran 57(2), a

(b)naill ai—

(i)cynigion wedi eu cyhoeddi’n unol â’r cyfarwyddyd, neu

(ii)yr amser a ganiatawyd o dan y cyfarwyddyd ar gyfer cyhoeddi’r cynigion wedi dirwyn i ben.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw gynigion y gellid fod wedi eu gwneud yn unol â’r cyfarwyddyd.

(3)Rhaid i’r cynigion gael eu cyhoeddi’n unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

(4)Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cynigion—

(a)at yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal, a

(b)at gorff llywodraethu pob ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hwy.

Y weithdrefn ar gyfer ymdrin â chynigion o dan adran 59

60Gwrthwynebiadau

(1)Caiff unrhyw berson wrthwynebu cynigion a gyhoeddir o dan adran 59.

(2)Rhaid i wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig at Weinidogion Cymru cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd y cynigion eu cyhoeddi.

61Ymchwiliad lleol i gynigion

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru wedi gwneud cynigion o dan adran 59 (ac eithrio cynigion a wnaed yn rhinwedd adran 62(1)) nad ydynt wedi eu tynnu’n ôl.

(2)Os yw gwrthwynebiadau wedi eu gwneud yn unol ag adran 60(2), yna, oni fydd pob gwrthwynebiad sydd wedi ei wneud felly wedi ei dynnu’n ôl yn ysgrifenedig o fewn yr 28 o ddiwrnodau y cyfeiriwyd atynt yn yr adran honno, rhaid i Weinidogion Cymru beri bod ymchwiliad lleol yn cael ei gynnal.

(3)Diben yr ymchwiliad lleol yw ystyried cynigion Gweinidogion Cymru, unrhyw gynigion eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu cyfeirio at yr ymchwiliad a’r gwrthwynebiadau a grybwyllwyd yn is-adran (2).

(4)Mae cynigion a gyfeirir at ymchwiliad lleol o dan yr adran hon i’w penderfynu o dan adran 62 ac nid yw adrannau 50, 51, 53, 54, 70 a 73 yn gymwys iddynt.

(5)Pan fo’n ofynnol i ymchwiliad lleol gael ei gynnal, rhaid i Weinidogion Cymru gyfeirio’r cynigion a restrir yn is-adran (6) i’r ymchwiliad os yw’r cynigion—

(a)heb gael eu penderfynu cyn i drafodion yr ymchwiliad ddechrau, a

(b)yn ymddangos i Weinidogion Cymru eu bod yn rhai sy’n gysylltiedig â’r cynigion a wnaed o dan adran 59 ac y mae’r ymchwiliad i’w gynnal mewn cysylltiad â hwy.

(6)Y cynigion sydd i’w cyfeirio yw—

(a)unrhyw gynigion eraill a gyhoeddir o dan adran 59 mewn perthynas ag ardal yr awdurdod lleol (ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl);

(b)unrhyw gynigion a wneir gan yr awdurdod hwnnw wrth arfer eu pwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion (ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl);

(c)unrhyw gynigion a wneir gan gorff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol yn yr ardal wrth arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol (a’r rheini’n gynigion sydd heb gael eu tynnu’n ôl);

(d)unrhyw gynigion a wneir o dan adran 68 neu 71 (ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl).

(7)Os bydd Gweinidogion Cymru, cyn bod trafodion yr ymchwiliad yn dechrau, yn ffurfio barn y dylid gweithredu unrhyw gynigion, nid yw is-adran (5) yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyfeirio’r cynigion hynny i’r ymchwiliad oni fyddant yn ffurfio barn wahanol cyn bod—

(a)trafodion yr ymchwiliad wedi eu cwblhau, neu

(b)(os ydynt yn gynharach) y cynigion wedi eu penderfynu.

(8)Nid yw’n agored i’r ymchwiliad gwestiynu’r egwyddorion a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 57(2).

(9)Mae cyfeiriadau yn yr adran hon at benderfynu cynigion yn cyfeirio at—

(a)penderfyniad p’un ai i fabwysiadu neu i gymeradwyo’r cynigion o dan adran 50, 51, 62, 70 neu 73;

(b)penderfyniad p’un ai i weithredu’r cynigion o dan adran 53 ai peidio;

(c)penderfyniad p’un ai i gymeradwyo cynigion a atgyfeiriwyd i Weinidogion Cymru o dan adran 54 ai peidio.

62Mabwysiadu cynigion

(1)Pan fo ymchwiliad lleol wedi ei gynnal, caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried adroddiad y person a benodwyd i gynnal yr ymchwiliad, wneud un neu fwy o’r canlynol —

(a)mabwysiadu, gydag addasiadau neu hebddynt, neu benderfynu peidio â mabwysiadu unrhyw un o’r cynigion a wnaed gan Weinidogion Cymru (gan gynnwys cynigion a wnaed ganddynt, a gyfeiriwyd o dan adran 61(5)) ac a ystyriwyd gan yr ymchwiliad;

(b)cymeradwyo, gydag addasiadau neu hebddynt, neu wrthod unrhyw gynigion eraill a gyfeiriwyd at yr ymchwiliad o dan adran 61(5);

(c)gwneud cynigion pellach o dan adran 59.

(2)Os bydd Gweinidogion Cymru’n gwneud cynigion pellach o dan adran 59 yn unol ag isadran (1)(c), ni fydd y gofyniad yn adran 61(2) i beri i ymchwiliad lleol gael ei gynnal yn gymwys.

(3)Pan fo Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi cynigion o dan adran 59 nad yw’n ofynnol iddynt gael eu hystyried gan ymchwiliad lleol, cânt, ar ôl ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag adran 60(2) (ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl)—

(a)mabwysiadu’r cynigion gydag addasiadau neu hebddynt, neu

(b)penderfynu peidio â mabwysiadu’r cynigion.

(4)Caniateir i fabwysiad neu gymeradwyaeth cynigion ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y mabwysiad neu’r gymeradwyaeth yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.

63Gweithredu cynigion

(1)Mae cynigion sydd wedi eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 62 yn cael effaith fel petaent wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 ar ôl iddynt gael eu gwneud—

(a)gan yr awdurdod lleol o dan ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, neu

(b)yn achos cynigion i newid ysgol sefydledig neu wirfoddol, gan y corff llywodraethu o dan ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.

(2)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol dan sylw gwrdd â’r gost o weithredu cynigion sy’n cael eu mabwysiadu neu eu cymeradwyo o dan adran 62 ac sy’n cael effaith fel a grybwyllwyd yn is-adran (1)(b).

PENNOD 4DARPARIAETH RANBARTHOL AR GYFER ANGHENION ADDYSGOL ARBENNIG

64Ystyr “darpariaeth ranbarthol” a “swyddogaethau addysg arbennig”

Yn y Bennod hon—

65Cyfarwyddyd i ystyried gwneud darpariaeth ranbarthol

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdodau lleol i ystyried a fyddent hwy (neu unrhyw rai ohonynt) yn gallu cyflawni eu swyddogaethau addysg arbennig, mewn cysylltiad â phlant sydd â’r anghenion addysgol arbennig a bennir yn y cyfarwyddyd, yn fwy effeithlon neu effeithiol pe câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud.

(2)Rhaid i’r awdurdodau y rhoddir cyfarwyddyd iddynt gyflwyno adroddiad ar eu casgliadau i Weinidogion Cymru heb fod yn hwyrach na’r amser a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Caniateir i gyfarwyddyd o dan yr adran hon gael ei roi i awdurdodau lleol yn gyffredinol neu i un neu fwy o awdurdodau a bennir yn y cyfarwyddyd.

66Cyfarwyddiadau i wneud cynigion i sicrhau darpariaeth ranbarthol

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo Gweinidogion Cymru o’r farn y byddai dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gallu cyflawni eu swyddogaethau addysg arbennig, mewn cysylltiad â phlant sy’n syrthio o fewn disgrifiad penodol, yn fwy effeithiol neu effeithlon os câi darpariaeth ranbarthol ei gwneud mewn perthynas ag ardaloedd yr awdurdodau hynny.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi un neu fwy o’r cyfarwyddiadau a bennir yn is-adran (3) er mwyn sicrhau bod darpariaeth ranbarthol yn cael ei gwneud mewn perthynas â’r disgrifiad o blant o’r ardaloedd a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Y cyfarwyddiadau yw—

(a)bod awdurdod lleol yn arfer ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion;

(b)bod corff llywodraethu ysgol sefydledig neu wirfoddol yn arfer ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol;

(c)bod dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau—

(i)y bydd darpariaeth ar gyfer addysg yn cael ei gwneud odanynt gan un o’r awdurdodau mewn cysylltiad â phersonau o ardal (neu ardaloedd) yr awdurdod arall (neu’r awdurdodau eraill), a

(ii)y bydd darpariaeth yn cael ei gwneud odanynt i benderfynu’r taliadau sydd i’w gwneud o dan y trefniadau mewn cysylltiad â darparu’r addysg honno;

(d)bod dau neu fwy o awdurdodau lleol yn gwneud trefniadau sy’n darparu bod un o’r awdurdodau hynny’n cyflenwi i’r llall (neu’r lleill) nwyddau neu wasanaethau sydd i’w pennu yn y trefniadau ar delerau (gan gynnwys telerau o ran talu) a fyddai’n cael eu pennu felly;

(e)bod awdurdod lleol a chyrff llywodraethu un neu fwy o ysgolion sefydledig neu wirfoddol yn gwneud trefniadau sy’n darparu bod yr awdurdod yn cyflenwi i’r cyrff llywodraethu nwyddau neu wasanaethau sydd i’w pennu yn y trefniadau, ar delerau (gan gynnwys telerau o ran talu) a fyddai’n cael eu pennu felly.

(4)Pan fo Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (3)(c) a chyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a) neu (3)(b), caniateir i’r taliadau y mae is-adran (3)(c) yn cyfeirio atynt gynnwys swm mewn cysylltiad â’r costau sy’n gysylltiedig â sefydlu, newid neu derfynu’r ysgol o dan sylw.

(5)Rhaid i gyfarwyddyd o dan is-adran (3)(a) neu (3)(b)—

(a)ei gwneud yn ofynnol i’r cynigion o dan sylw i gael eu cyhoeddi heb fod yn hwyrach na’r dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd, a

(b)ei gwneud yn ofynnol i’r corff sy’n gwneud y cynigion anfon copi o’r cynigion cyhoeddedig, ynghyd â gwybodaeth arall (o fath a bennir yn y cyfarwyddyd) mewn cysylltiad â’r cynigion hynny i Weinidogion Cymru.

67Darpariaeth bellach am gynigion a wneir ar ôl cyfarwyddyd o dan adran 66

(1)Ni chaniateir i gynigion a wneir yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 66 gael eu tynnu’n ôl heb gydsyniad Gweinidogion Cymru.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru roi cydsyniad at ddibenion is-adran (1) yn ddarostyngedig i amodau.

(3)Rhaid i’r awdurdod lleol ad-dalu gwariant yr aed iddo’n rhesymol gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir ganddo wrth wneud cynigion yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 66.

(4)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol gwrdd â’r gost o weithredu cynigion a wneir gan gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gan yr awdurdod yn unol â chyfarwyddyd o dan adran 66 a’r rheini’n gynigion sydd wedi eu cymeradwyo neu y penderfynwyd eu gweithredu.

68Cynigion gan Weinidogion Cymru

(1)Mae’r adran hon yn gymwys pan fo—

(a)Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd o dan adran 66, a

(b)naill ai—

(i)cynigion wedi eu cyhoeddi’n unol â’r cyfarwyddyd, neu

(ii)yr amser a ganiatawyd o dan y cyfarwyddyd ar gyfer cyhoeddi’r cynigion wedi dirwyn i ben.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw gynigion y gellid fod wedi eu gwneud yn unol â’r cyfarwyddyd.

(3)Cyn cyhoeddi cynigion o dan yr adran hon, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ynglyn â’r cynigion yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

(4)Rhaid i’r cynigion gael eu cyhoeddi’n unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru anfon copi o’r cynigion—

(a)at yr awdurdodau lleol y mae’r cynigion yn effeithio ar eu hardaloedd, a

(b)at gorff llywodraethu pob ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hwy.

69Gwrthwynebiadau

(1)Caiff unrhyw berson wrthwynebu cynigion a gyhoeddir o dan adran 68.

(2)Rhaid i wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig at Weinidogion Cymru cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cafodd y cynigion eu cyhoeddi.

70Mabwysiadu cynigion

(1)Caiff Gweinidogion Cymru, ar ôl ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag adran 69 (ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl)—

(a)mabwysiadu’r cynigion gydag addasiadau neu hebddynt, neu

(b)penderfynu peidio â mabwysiadu’r cynigion.

(2)Caniateir i fabwysiad cynigion ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y mabwysiad yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.

(3)Mae cynigion sydd wedi eu mabwysiadu gan Weinidogion Cymru yn cael effaith fel petaent wedi eu cymeradwyo gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 ar ôl cael eu gwneud—

(a)gan yr awdurdod lleol o dan ei bwerau i wneud cynigion i sefydlu, newid neu derfynu ysgolion, neu

(b)yn achos cynigion i newid ysgol sefydledig neu wirfoddol, gan y corff llywodraethu o dan ei bwerau i wneud cynigion i newid ei ysgol.

(4)Er gwaethaf unrhyw beth yn Rhan 1 o Atodlen 3 (cyfrifoldeb dros weithredu cynigion statudol), rhaid i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol dan sylw gwrdd â’r gost o weithredu cynigion sy’n cael eu mabwysiadu o dan is-adran (1) ac sy’n cael effaith fel a grybwyllwyd yn is-adran (3)(b).

PENNOD 5CYNIGION I AILSTRWYTHURO ADDYSG CHWECHED DOSBARTH

Gwneud cynigion a’u penderfynu

71Pwerau Gweinidogion Cymru i ailstrwythuro addysg chweched dosbarth

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud cynigion o dan yr adran hon—

(a)i un neu fwy o ysgolion cymunedol neu arbennig cymunedol newydd gael eu sefydlu gan awdurdod lleol i ddarparu addysg uwchradd sy’n addas at anghenion disgyblion chweched dosbarth (ac nid unrhyw addysg uwchradd arall);

(b)ar gyfer newid a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 i un neu fwy o ysgolion a gynhelir;

(c)i derfynu un neu fwy o ysgolion a gynhelir sy’n darparu addysg uwchradd sy’n addas at anghenion disgyblion chweched dosbarth (ac nid unrhyw addysg uwchradd arall).

(2)Mae “disgybl chweched dosbarth” yn berson sydd dros oedran ysgol gorfodol ond o dan 19 oed.

72Ymgynghori, cyhoeddi a gwrthwynebiadau

(1)Cyn cyhoeddi cynigion a wneir o dan adran 71, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ynglyn â’r cynigion yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

(2)Rhaid i Weinidogion Cymru gyhoeddi cynigion a wneir o dan adran 71 yn unol â’r cod a ddyroddwyd o dan adran 38(1) ac sydd mewn grym am y tro.

(3)Caiff unrhyw berson wrthwynebu’r cynigion.

(4)Rhaid i wrthwynebiadau gael eu hanfon yn ysgrifenedig at Weinidogion Cymru cyn diwedd 28 o ddiwrnodau gan ddechrau ar y diwrnod y cyhoeddwyd y cynigion.

73Penderfyniad gan Weinidogion Cymru

(1)Ar ôl diwedd yr 28 o ddiwrnodau y cyfeiriwyd atynt yn adran 72(4), rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylid—

(a)mabwysiadu’r cynigion, gydag addasiadau neu hebddynt, neu

(b)tynnu’r cynigion yn eu hôl.

(2)Wrth wneud penderfyniad o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw wrthwynebiadau a wnaed yn unol ag adran 72(4) ac sydd heb gael eu tynnu’n ôl.

(3)Cyn mabwysiadu cynigion yn ddarostyngedig i addasiadau, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau y maent yn credu eu bod yn briodol.

(4)Caniateir i fabwysiad cynigion ddatgan mai dim ond os bydd digwyddiad a bennir yn y mabwysiad yn digwydd erbyn dyddiad a bennir felly, y byddai’n dod yn weithredol.

(5)Os na fydd y digwyddiad yn digwydd erbyn y dyddiad penodedig rhaid i Weinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad o dan is-adran (1).

(6)Caiff Gweinidogion Cymru dynnu eu cynigion yn ôl ar unrhyw bryd cyn iddynt wneud penderfyniad o dan is-adran (1).

Gweithredu cynigion ar gyfer ailstrwythuro addysg chweched dosbarth

74Y ffurf weithredu

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gynigion sydd wedi eu mabwysiadu gan Weinidogion Cymru o dan adran 73.

(2)Rhaid i’r cynigion (yn ddarostyngedig i ddarpariaethau canlynol yr adran hon) gael eu gweithredu ar y ffurf y cawsant eu mabwysiadu.

(3)Ar gais corff penodedig, caiff Gweinidogion Cymru—

(a)addasu cynigion sydd wedi eu mabwysiadu o dan adran 73 ar ôl ymgynghori â’r cyrff penodedig, a

(b)pan fo wedi ei datgan bod mabwysiad y cynigion yn dod yn weithredol yn ddarostyngedig i ddigwyddiad penodedig, bennu dyddiad diweddarach erbyn pryd y bydd yn rhaid i’r digwyddiad hwnnw ddigwydd.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru benderfynu nad yw is-adran (2) yn gymwys i’r cynigion os ydynt wedi eu bodloni, ar ôl ymgynghori â’r cyrff penodedig—

(a)y byddai gweithredu’r cynigion yn afresymol o anodd, neu

(b)bod yr amgylchiadau wedi newid cymaint ers i’r cynigion gael eu mabwysiadu y byddai’n amhriodol gweithredu’r cynigion.

(5)“Corff penodedig” yw pob un o’r canlynol at ddibenion is-adrannau (3) a (4)—

(a)corff llywodraethu’r ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;

(b)yn achos cynnig i sefydlu ysgol newydd, y corff llywodraethu dros dro a gyfansoddwyd yn unol â threfniadau a wnaed o dan adran 34 o Ddeddf Addysg 2002;

(c)yr awdurdod lleol sy’n cynnal, neu y cynigir y bydd yn cynnal, yr ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi;

(d)pan fo’r ysgol y mae’r cynigion yn ymwneud â hi yn ysgol arbennig gymunedol, pob awdurdod lleol sy’n cynnal datganiad o anghenion addysgol arbennig o dan Ran 4 o Ddeddf Addysg 1996 mewn cysylltiad â disgybl cofrestredig yn yr ysgol.

75Y cyfrifoldeb dros weithredu

(1)Rhaid i gynigion i sefydlu ysgol gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol y cynigir y bydd yn cynnal yr ysgol.

(2)Rhaid i gynigion i wneud newid a ddisgrifir ym mharagraff 6 o Atodlen 2 gael eu gweithredu—

(a)yn achos cynigion sy’n ymwneud ag ysgol gymunedol, gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol;

(b)yn achos cynigion sy’n ymwneud ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir—

(i)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu unrhyw fangre berthnasol, gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, a

(ii)fel arall, gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol a chorff llywodraethu’r ysgol i’r graddau (os o gwbl) y mae’r cynigion yn darparu bod pob un ohonynt yn gwneud hynny;

(c)yn achos cynigion sy’n ymwneud ag unrhyw ysgol arall, gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol a chorff llywodraethu’r ysgol i’r graddau (os o gwbl) y mae’r cynigion yn darparu bod pob un ohonynt yn gwneud hynny.

(3)Yn is-adran (2) ystyr “mangre berthnasol” yw—

(a)caeau chwarae, neu

(b)adeiladau sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol ond nad ydynt i fod yn adeiladau’r ysgol.

(4)Rhaid i gynigion i derfynu ysgol gael eu gweithredu—

(a)yn achos cynigion sy’n ymwneud ag ysgol gymunedol neu ysgol arbennig gymunedol, gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, a

(b)mewn unrhyw achos arall, gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol a chorff llywodraethu’r ysgol.

(5)Os bydd ysgol yn newid categori o fod yn ysgol gymunedol ar ôl i gynigion gael eu cyhoeddi o dan adran 72 ond cyn iddynt gael eu gweithredu, rhaid i’r cynigion (i’r graddau nad ydynt wedi eu gweithredu) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol (er gwaethaf is-adrannau (2) a (4)).

76Darpariaeth bellach o ran gweithredu

(1)Pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol yn rhinwedd adran 75 ddarparu safle ar gyfer ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir, mae paragraff 7 o Atodlen 3 (darparu safle ac adeiladau i ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir) yn gymwys fel y bo’n gymwys yn yr amgylchiadau a grybwyllir yn is-baragraff (1) o’r paragraff hwnnw.

(2)Mae paragraff 8 o Atodlen 3 (grantiau mewn cysylltiad â gwariant penodol ynghylch ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn gymwys mewn perthynas â’r rhwymedigaeth o dan adran 75(2)(b)(ii) fel y bo’n gymwys mewn perthynas â’r rhwymedigaethau y cyfeirir atynt ym mharagraff 8(1)(a) o’r Atodlen honno.

(3)Mae paragraff 9 o Atodlen 3 (cymorth gan awdurdod lleol mewn cysylltiad ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir) yn gymwys mewn perthynas â rhwymedigaethau a osodir ar gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir o dan adran 75(2)(b)(ii) fel y bo’n gymwys mewn perthynas â’r rhwymedigaethau y cyfeirir atynt yn y paragraff 9 hwnnw, ac mae paragraff 11 o’r Atodlen honno (dyletswydd ar awdurdod lleol i drosglwyddo buddiant mewn mangre a ddarperir o dan baragraff 9 neu 10) yn gymwys yn unol â hynny.

Darpariaethau atodol

77Diwygiadau canlyniadol i adroddiadau arolygu ar addysg chweched dosbarth

Ar ôl adran 44 o Ddeddf Addysg 2005 mewnosoder—

Sixth forms requiring significant improvement in Wales
44ASchools with sixth forms

(1)Sections 44B to 44D apply to a maintained school in Wales which—

(a)provides full-time education suitable to the requirements of pupils over compulsory school age, and

(b)provides full-time education suitable to the requirements of pupils of compulsory school age.

(2)For the purposes of those sections a school requires significant improvement in relation to its sixth form if—

(a)the school is failing to give its pupils over compulsory school age an acceptable standard of education, or

(b)in relation to its provision for pupils over compulsory school age, the school is performing significantly less well than it might in all the circumstances reasonably be expected to perform.

44BInspection reports on schools with sixth forms requiring significant improvement

(1)Where a person inspecting a school under Chapter 3 is of the opinion that the school requires significant improvement in relation to its sixth form, the provisions specified in subsection (2) apply (with the necessary modifications) as they apply where the person is of the opinion that special measures are required to be taken in relation to the school.

(2)Those provisions are section 34(1) to (6) (registered inspectors) or, as the case requires, section 35(1) of that Act (members of the Inspectorate).

44CReport after area inspection on schools with sixth forms requiring significant improvement

(1)This section applies if in the course of an area inspection under section 83 of the Learning and Skills Act 2000 the Chief Inspector forms the opinion that a school requires significant improvement in relation to its sixth form.

(2)The Chief Inspector must make a report about the school stating that opinion.

(3)The report is to be treated for the purposes of this Part as if it were a report of an inspection of the school under section 28.

44DCopies of report and action plan

(1)This section applies to a report of an inspection under Chapter 3 which—

(a)states an opinion that a school requires significant improvement in relation to its sixth form, and

(b)is made by a member of the Inspectorate or states that the Chief Inspector agrees with the opinion.

(2)The person making the report must send a copy (together with a copy of the summary, if there is one)—

(a)to the Welsh Ministers, and

(b)if the person making the report is a member of the Inspectorate, to the appropriate authority for the school.

(3)The following provisions apply (with the necessary modifications) in relation to a report to which this paragraph applies—

(a)section 38(2) (additional copies),

(b)section 38(4) (publication by appropriate authority),

(c)section 39 (action plan by appropriate authority), and

(d)where the local authority receives a copy of a report about a school the governing body of which have a delegated budget, section 40(2) and (3) (measures by local authority).

(4)In the application of those provisions—

(a)a reference to a report and summary is to be taken as a reference to a report and, if there is one, its summary, and

(b)a reference to a summary alone is to be taken, in a case where there is no summary, as a reference to the report.

44EReport on sixth form schools causing concern after area inspection

(1)This section applies if in the course of an area inspection under section 83 of the Learning and Skills Act 2000 the Chief Inspector forms the opinion that—

(a)special measures are required to be taken in relation to a sixth form school, or

(b)that a sixth form school requires significant improvement.

(2)The Chief Inspector must make a report about the school stating that opinion.

(3)The report is to be treated for the purpose of this Part as if it were a report of an inspection of the school under section 28.

(4)A “sixth form school” is a maintained school which—

(a)provides full-time education suitable to the requirements of pupils over compulsory school age, and

(b)does not provide full-time education suitable to the requirements of pupils of compulsory school age.

44FInterpretation of sections 44A to 44E

In sections 44A to 44E—

PENNOD 6DARPARIAETHAU AMRYWIOL AC ATODOL

78Ysgolion ffederal

Caiff cynigion a wneir o dan y Rhan hon i sefydlu ysgol newydd fod yn gysylltiedig â sefydlu’r ysgol fel ysgol ffederal (o fewn yr ystyr a roddir gan adran 21(1) o the Fesur Addysg (Cymru) 2011).

79Gwaharddiad ar awdurdodau lleol rhag sefydlu ysgolion yn Lloegr

Ni chaniateir i unrhyw gynigion gael eu gwneud ar gyfer sefydlu ysgol yn Lloegr y cynigir ei bod yn cael ei chynnal gan awdurdod lleol yng Nghymru.

80Hysbysiad gan gorff llywodraethu am derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol

(1)Caiff corff llywodraethu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol derfynu’r ysgol drwy gyflwyno i Weinidogion Cymru a’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol hysbysiad sy’n rhoi dwy flynedd o rybudd o’i fwriad i wneud hynny.

(2)Mae’n ofynnol cael cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn cyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon os aed i wariant ar fangre’r ysgol (ac eithrio mewn cysylltiad ag atgyweiriadau)—

(a)gan Weinidogion Cymru, neu

(b)gan unrhyw awdurdod lleol.

(3)Rhaid i’r corff llywodraethu ymgynghori â Gweinidogion Cymru cyn cyflwyno hysbysiad o dan yr adran hon os byddai terfynu’r ysgol yn effeithio ar y cyfleusterau ar gyfer addysg lawnamser sy’n addas at anghenion personau dros oedran ysgol gorfodol nad ydynt wedi cyrraedd 19 oed.

(4)Os yw’r corff llywodraethu, tra bo hysbysiad o dan yr adran hon mewn grym, yn hysbysu’r awdurdod lleol ei fod yn anabl neu’n anfodlon rhedeg yr ysgol hyd nes y bydd yr hysbysiad yn dirwyn i ben, mae’r awdurdod—

(a)yn cael rhedeg yr ysgol am y cyfan neu ran o gyfnod yr hysbysiad nad yw wedi dirwyn i ben fel petai’n ysgol gymunedol, a

(b)yn meddu ar hawl i ddefnyddio mangre’r ysgol yn ddi-dâl at y diben hwnnw.

(5)Tra bo’r ysgol yn cael ei rhedeg felly—

(a)rhaid i’r awdurdod gadw mangre’r ysgol mewn cyflwr da, a

(b)mae unrhyw fuddiant yn y fangre a ddelir at ddibenion yr ysgol i’w drin, at bob diben sy’n ymwneud â chyflwr y fangre, ei meddiannu neu ei defnyddio, neu wneud newidiadau iddi, fel buddiant sydd wedi ei freinio yn yr awdurdod.

(6)Er gwaethaf is-adran (5) caiff y corff llywodraethu ddefnyddio’r fangre, neu unrhyw ran ohoni, pan nad oes ei hangen at ddibenion yr ysgol i’r un graddau â phetai wedi parhau i redeg yr ysgol yn ystod cyfnod yr hysbysiad nad oedd wedi dirwyn i ben.

(7)Ni chaniateir i hysbysiad o dan is-adran (1) gael ei dynnu’n ôl heb gydsyniad yr awdurdod lleol.

(8)Os yw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol wedi ei therfynu o dan yr adran hon, mae dyletswydd yr awdurdod lleol i gynnal yr ysgol fel ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn peidio.

(9)Nid oes dim yn adran 43 yn gymwys mewn perthynas â therfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol o dan yr adran hon.

(10)Mae is-adran (11) yn gymwys—

(a)pan fo tir sydd wedi ei feddiannu gan yr ysgol yn cael ei ddal gan unrhyw ymddiriedolwyr at ddibenion yr ysgol,

(b)pan fo’r ymddiriedolwyr (a hwythau â’r hawl i wneud hynny) yn bwriadu rhoi hysbysiad i gorff llywodraethu’r ysgol i derfynu meddiannaeth yr ysgol ar y tir hwnnw, ac

(c)pan fyddai terfynu meddiannaeth yr ysgol ar y tir hwnnw yn arwain at y canlyniad nad oedd yn rhesymol ymarferol i’r ysgol barhau i gael ei rhedeg ar ei safle presennol.

(11)Rhaid i’r hysbysiad y mae’r ymddiriedolwyr yn ei roi i’r corff llywodraethu i derfynu meddiannaeth yr ysgol ar y tir gael ei roi o leiaf ddwy flynedd ymlaen llaw; ond os, yn ystod y ddeuddeng mis cyntaf o gyfnod yr hysbysiad hwnnw, yw’r corff llywodraethu yn rhoi hysbysiad o dan is-adran (1), nid yw hysbysiad yr ymddiriedolwyr yn cael yr effaith o derfynu meddiannaeth yr ysgol ar y tir hyd nes i hysbysiad y corff llywodraethu ddod i ben.

(12)Rhaid i gopi o hysbysiad yr ymddiriedolwyr hefyd gael ei roi i Weinidogion Cymru a’r awdurdod lleol adeg rhoi’r hysbysiad i’r corff llywodraethu.

(13)Pan fo ymddiriedolwyr yn rhoi, yr un (neu i raddau helaeth yr un) pryd, hysbysiadau sy’n honni terfynu meddiannaeth ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol ar ddau neu fwy o ddarnau o dir sy’n cael eu dal gan yr ymddiriedolwyr at ddibenion yr ysgol, yna er mwyn penderfynu a yw is-adran (10)(c) yn gymwys mewn perthynas ag unrhyw un neu rai o’r darnau hynny o dir, caniateir i ystyriaeth gael ei rhoi i effaith gyfun terfynu meddiannaeth yr ysgol ar y ddau neu’r cyfan ohonynt.

(14)Os bydd cwestiwn yn codi ynghylch a fyddai terfynu meddiannaeth ysgol ar unrhyw dir yn arwain at y canlyniad a grybwyllwyd yn is-adran (10)(c) (gan gynnwys cwestiwn ynghylch a yw is-adran (13) yn gymwys mewn unrhyw amgylchiadau penodol), mae i’w benderfynu gan Weinidogion Cymru.

81Cyfarwyddyd sy’n ei gwneud yn ofynnol bod ysgol arbennig gymunedol yn cael ei therfynu

(1)Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol i derfynu ysgol arbennig gymunedol a gynhelir ganddo ar ddiwrnod penodedig, os ydynt yn credu ei bod yn hwylus gwneud hynny er iechyd, diogelwch neu les disgyblion yn yr ysgol.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol hysbysu personau penodedig neu ddosbarth penodedig ar bersonau.

(3)Cyn rhoi cyfarwyddyd o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol—

(a)yr awdurdod lleol,

(b)unrhyw awdurdod lleol arall y byddai terfynu’r ysgol yn effeithio arno yn eu barn hwy, ac

(c)unrhyw bersonau eraill sy’n briodol ym marn Gweinidogion Cymru.

(4)Wrth roi cyfarwyddyd o dan is-adran (1), rhaid i Weinidogion Cymru roi hysbysiad ysgrifenedig am y cyfarwyddyd i gorff llywodraethu’r ysgol a’i phennaeth.

(5)Rhaid i awdurdod lleol y rhoddir cyfarwyddyd iddo o dan is-adran (1) derfynu’r ysgol o dan sylw ar y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd.

(6)Nid oes dim yn adran 44 sy’n gymwys i derfynu ysgol o dan yr adran hon.

82Gorchmynion esemptio trosiannol at ddibenion Deddf Cydraddoldeb 2010

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i gynigion bod ysgol yn peidio â bod yn ysgol un rhyw.

(2)Mae gwneud cynigion o’r fath o dan adran 59, 68 neu 71 i’w drin fel cais gan y corff sy’n gyfrifol i Weinidogion Cymru am orchymyn esemptio trosiannol o dan Ddeddf 2010, a chaiff Gweinidogion Cymru wneud gorchymyn o’r fath yn unol â hynny.

(3)Yn yr adran hon—

83Dehongli Rhan 3

(1)Yn y Rhan hon—

(2)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at gategori ysgol yn golygu un o’r categorïau a nodir yn adran 20(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (ac mae cyfeiriadau at newid categori i’w darllen yn unol â hynny).

(3)Mae cyfeiriad yn y Rhan hon at derfynu ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol yn peidio â’i chynnal.

RHAN 4CYNLLUNIAU STRATEGOL CYMRAEG MEWN ADDYSG

84Llunio cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg

(1)Cynllun yw cynllun strategol Cymraeg mewn addysg sy’n cynnwys—

(a)cynigion awdurdod lleol ynghylch sut y bydd yn cyflawni ei swyddogaethau addysg er mwyn—

(i)gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg drwy gyfrwng y Gymraeg (“addysg cyfrwng Cymraeg”) yn cael ei darparu yn ei ardal;

(ii)gwella safonau addysg cyfrwng Cymraeg a safonau addysgu Cymraeg yn ei ardal;

(b)targedau’r awdurdod lleol ar gyfer gwella’r broses o gynllunio’r modd y mae addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei darparu yn ei ardal ac ar gyfer gwella safonau’r addysg honno ac addysgu Cymraeg yn ei ardal;

(c)adroddiad ar y cynnydd a wnaed i fodloni’r targedau a gynhwyswyd yn y cynllun blaenorol neu’r cynllun diwygiedig blaenorol.

(2)Rhaid i awdurdod lleol lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg ar gyfer ei ardal.

(3)Rhaid i awdurdod lleol gadw golwg ar ei gynllun, ac os yw’n angenrheidiol, ei ddiwygio.

(4)Wrth lunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg neu gynllun diwygiedig, rhaid i awdurdod lleol ymgynghori â’r canlynol—

(a)ei awdurdodau lleol cyfagos;

(b)pennaeth pob ysgol a gynhelir ganddo;

(c)corff llywodraethu pob ysgol a gynhelir ganddo;

(d)pob sefydliad o fewn y sector addysg bellach yn ei ardal;

(e)mewn perthynas ag unrhyw ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol yn ei ardal—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol;

(f)personau rhagnodedig eraill.

(5)Os yw awdurdod lleol yn cynnal asesiad o’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yn unol â rheoliadau o dan adran 86, rhaid iddo ystyried canlyniadau’r asesiad hwnnw y tro nesaf y bydd yn llunio neu’n diwygio ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg.

85Cymeradwyo, cyhoeddi a gweithredu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg

(1)Rhaid i awdurdod lleol sydd wedi llunio cynllun strategol Cymraeg mewn addysg ei gyflwyno i Weinidogion Cymru ei gymeradwyo.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru—

(a)cymeradwyo’r cynllun fel y’i cyflwynwyd,

(b)cymeradwyo’r cynllun gydag addasiadau, neu

(c)gwrthod y cynllun a llunio cynllun arall sydd i’w drin fel cynllun cymeradwy’r awdurdod.

(3)Os yw awdurdod lleol yn dymuno diwygio ei gynllun, rhaid iddo gyflwyno cynllun diwygiedig i Weinidogion Cymru.

(4)Caiff Gweinidogion Cymru gymeradwyo’r cynllun diwygiedig, gydag addasiadau neu hebddynt.

(5)Rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag awdurdod lleol cyn—

(a)addasu cynllun yr awdurdod o dan is-adran (2)(b),

(b)llunio cynllun arall i gymryd lle cynllun yr awdurdod o dan is-adran (2)(c), neu

(c)addasu cynllun diwygiedig yr awdurdod o dan is-adran (4).

(6)Rhaid i awdurdod lleol gyhoeddi ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg (neu ei gynllun diwygiedig) a gymeradwywyd.

(7)Rhaid i awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i weithredu ei gynllun strategol Cymraeg mewn addysg (neu ei gynllun diwygiedig) a gymeradwywyd.

86Asesu’r galw am addysg cyfrwng Cymraeg

(1)Caiff Gweinidogion Cymru ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol, yn unol â rheoliadau, wneud asesiad o’r galw ymhlith rhieni yn ei ardal am addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer eu plant.

(2)Caiff rheoliadau o dan is-adran (1) wneud darpariaeth (ymhlith pethau eraill) ynghylch pryd a sut i wneud asesiad.

87Rheoliadau a chanllawiau

(1)Caiff Gweinidogion Cymru wneud rheoliadau ynghylch cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg.

(2)Caiff rheoliadau wneud darpariaeth bellach am y materion canlynol (ymhlith pethau eraill)—

(a)ffurf a chynnwys cynllun;

(b)amseriad a hyd cynllun;

(c)cadw golwg ar gynllun a’i ddiwygio;

(d)ymgynghori yn ystod y broses o lunio cynllun a’i ddiwygio;

(e)cyflwyno cynllun i gael ei gymeradwyo;

(f)pryd a sut i gyhoeddi cynllun.

(3)Caiff y rheoliadau wneud darpariaeth i alluogi dau neu fwy o awdurdodau lleol i lunio cydgynllun, a chaiff unrhyw reoliadau o’r fath addasu unrhyw ddarpariaeth yn y Rhan hon o ran y modd y mae’n gymwys i gydgynlluniau.

(4)Rhaid i awdurdod lleol, wrth arfer ei swyddogaethau o dan y Rhan hon, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 5SWYDDOGAETHAU AMRYWIOL YSGOLION

Brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd

88Dyletswydd i ddarparu brecwast am ddim i ddisgyblion mewn ysgolion cynradd

(1)Rhaid i awdurdod lleol ddarparu brecwast ar bob diwrnod ysgol i ddisgyblion mewn ysgol gynradd a gynhelir gan yr awdurdod—

(a)os yw corff llywodraethu’r ysgol wedi ysgrifennu at yr awdurdod i ofyn bod brecwast yn cael ei ddarparu, a

(b)os yw 90 o ddiwrnodau wedi mynd heibio, gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cafwyd y cais.

(2)Nid yw’r ddyletswydd yn is-adran (1) yn gymwys (neu y mae’n peidio â bod yn gymwys) mewn perthynas â chais gan gorff llywodraethu os yw’r naill neu’r llall o’r paragraffau canlynol yn gymwys—

(a)bod y corff llywodraethu wedi ysgrifennu at yr awdurdod i ofyn iddo roi’r gorau i ddarparu brecwast;

(b)y byddai’n afresymol darparu’r brecwast ac o ganlyniad bod yr awdurdod lleol wedi hysbysu’r corff llywodraethu’n ysgrifenedig—

(i)nad yw’n mynd i ddarparu brecwast, neu

(ii)ei fod yn mynd i roi’r gorau i ddarparu brecwast.

(3)Os yw’r ddyletswydd o dan is-adran (1) yn gymwys, rhaid i’r awdurdod lleol ddarparu brecwast i bob disgybl sy’n gofyn i’r awdurdod amdano; at y diben hwn, caniateir i’r cais gael ei wneud gan neu ar ran y disgybl.

(4)O ran brecwast a ddarperir gan awdurdod lleol o dan yr adran hon—

(a)caiff fod ar unrhyw ffurf y gwêl yr awdurdod yn dda, yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir o dan adran 4 o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (gofynion ynglyn â bwyd a diod a ddarperir ar fangre ysgol);

(b)rhaid ei ddarparu am ddim;

(c)rhaid iddo fod ar gael ar fangre’r ysgol;

(d)rhaid iddo fod ar gael cyn dechrau pob diwrnod ysgol, ac eithrio yn achos ysgol arbennig gymunedol lle y caniateir i frecwast fod ar gael cyn neu ar ddechrau pob diwrnod ysgol.

(5)Wrth arfer ei swyddogaethau, rhaid i awdurdod lleol neu gorff llywodraethu ysgol gynradd a gynhelir gan awdurdod lleol roi sylw i unrhyw ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru am ddarparu brecwast i ddisgyblion.

89Darpariaeth drosiannol

(1)Pan fo awdurdod lleol sy’n cynnal ysgol gynradd, neu ei gorff llywodraethu, eisoes yn darparu brecwast i ddisgyblion yr ysgol ar yr adeg y daw adran 88 i rym, mae’r adran honno’n gymwys mewn perthynas â’r ysgol fel petai—

(a)cais wedi ei wneud o dan yr adran honno i frecwast gael ei ddarparu gan y corff llywodraethu,

(b)90 o ddiwrnodau wedi mynd heibio, gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cafwyd y cais, ac

(c)pob disgybl y mae brecwast eisoes yn cael ei ddarparu ar ei gyfer wedi gwneud cais i’r awdurdod.

(2)Mae is-adran (3) yn gymwys pan fo cais ysgrifenedig am ddarparu brecwast i ddisgyblion wedi ei wneud, cyn i adran 88 ddod i rym, gan gorff llywodraethu’r ysgol gynradd i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol, ond nad yw’r awdurdod lleol na’r corff llywodraethu wedi bod yn darparu brecwast i ddisgyblion yr ysgol.

(3)Mae cais a wneir cyn i adran 88 ddod i rym yn cael effaith fel cais o dan yr adran honno a wnaed ar y diwrnod y daeth yr adran i rym.

90Dehongli adrannau 88 a 89

Yn adrannau 88 a 89—

Pŵer i godi tâl am brydau bwyd

91Diwygio’r pŵer i godi tâl am brydau bwyd ysgol etc

(1)Mae Rhan 9 o Ddeddf Addysg 1996 (swyddogaethau atodol) wedi ei diwygio fel a nodir yn is-adrannau (2) a (3).

(2)Yn adran 512ZA (pŵer i godi tâl am brydau bwyd etc)—

(a)yn is-adran (1A), hepgorer “in England”;

(b)hepgorer is-adran (2).

(3)Yn adran 533 (swyddogaethau cyrff llywodraethu ysgolion a gynhelir mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd ysgol etc)—

(a)yn is-adran (3A), hepgorer “in England”;

(b)hepgorer is-adran (4).

Cwnsela mewn ysgolion

92Gwasanaethau cwnsela annibynnol ar gyfer disgyblion ysgol a phlant eraill

(1)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau darpariaeth resymol ar gyfer gwasanaeth sy’n cwnsela mewn cysylltiad ag anghenion iechyd, anghenion emosiynol ac anghenion cymdeithasol (“gwasanaeth cwnsela annibynnol”) i’r canlynol—

(a)disgyblion cofrestredig sy’n cael addysg uwchradd—

(i)mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, a

(ii)mewn ysgolion eraill yn ei ardal;

(b)personau eraill sy’n perthyn i ardal yr awdurdod ac sydd wedi cyrraedd 11 oed ond nid 19 oed;

(c)disgyblion cofrestredig sy’n ymgymryd â blwyddyn academaidd olaf eu haddysg gynradd—

(i)mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, a

(ii)mewn ysgolion eraill yn ei ardal;

(d)y personau eraill sy’n cael addysg gynradd a bennir gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau.

(2)Wrth sicrhau bod gwasanaeth cwnsela annibynnol yn cael ei ddarparu o dan yr adran hon, rhaid i awdurdod lleol roi sylw—

(a)i’r egwyddor bod y gwasanaeth i fod yn annibynnol ar—

(i)corff llywodraethu neu berchennog arall ysgol lle y mae person y darperir y gwasanaeth iddo yn cael addysg, a

(ii)rheolwyr ysgol lle y mae person y darperir y gwasanaeth iddo yn cael addysg;

(b)i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

(3)Rhaid i awdurdod lleol sicrhau bod gwasanaeth cwnsela annibynnol yn cael ei ddarparu ar safle pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod sy’n darparu addysg uwchradd (p’un a yw’n darparu mathau eraill o addysg hefyd ai peidio).

(4)Caiff awdurdod lleol sicrhau bod gwasanaeth cwnsela annibynnol yn cael ei ddarparu mewn mannau eraill.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ei gwneud yn ofynnol i wasanaeth cwnsela annibynnol gael ei ddarparu mewn mannau eraill.

93Gwybodaeth am wasanaethau cwnsela annibynnol eraill

(1)Rhaid i awdurdod lleol gydymffurfio â chyfarwyddyd a roddir gan Weinidogion Cymru i’r awdurdod i wneud y canlynol—

(a)crynhoi gwybodaeth am y gwasanaeth cwnsela annibynnol y mae’n ei sicrhau o dan adran 92;

(b)darparu gwybodaeth am y gwasanaeth hwnnw i Weinidogion Cymru.

(2)Caiff cyfarwyddyd o dan is-adran (1) gynnwys arweiniad i grynhoi neu ddarparu gwybodaeth mewn modd, ac ar adeg, a bennir yn y cyfarwyddyd.

(3)Ni chaniateir i gyfarwyddyd o dan is-adran (1) ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol—

(a)darparu gwybodaeth am unigolyn dynodedig;

(b)darparu gwybodaeth mewn modd sydd, naill ai ar ei phen ei hun, neu mewn cyfuniad ag unrhyw wybodaeth arall, yn dynodi unrhyw unigolyn y mae’n ymwneud ag ef neu sy’n galluogi’r unigolyn hwnnw i gael ei ddynodi.

(4)Os nad yr awdurdod lleol yw’r person sy’n darparu gwasanaeth cwnsela annibynnol—

(a)rhaid i’r awdurdod lleol roi i’r person sy’n darparu’r gwasanaeth gopi o unrhyw gyfarwyddyd a roddir o dan is-adran (1), a

(b)rhaid i’r person sy’n darparu’r gwasanaeth grynhoi’r wybodaeth sy’n angenrheidiol i gydymffurfio â’r cyfarwyddyd, a’i darparu i’r awdurdod lleol mewn modd nad yw’n dynodi’r unigolion y mae’n ymwneud â hwy, nac yn ei gwneud yn bosibl iddynt gael eu dynodi (naill ai ar ei phen ei hun neu mewn cyfuniad â gwybodaeth arall).

(5)O ran cyfarwyddyd o dan yr adran hon—

(a)rhaid iddo fod yn ysgrifenedig;

(b)caniateir iddo gael ei amrywio neu ei ddirymu gan gyfarwyddyd diweddarach;

(c)gellir ei orfodi drwy orchymyn mandadol ar gais Gweinidogion Cymru neu ar eu rhan.

Cyfarfodydd rhieni

94Dyletswydd corff llywodraethu ysgol a gynhelir i gynnal cyfarfodydd yn dilyn deiseb gan rieni

(1)Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir gynnal cyfarfod (“y cyfarfod”) os yw’n cael deiseb gan rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol yn gofyn am gyfarfod a’i fod wedi cael ei fodloni bod pob un o’r pedwar amod canlynol wedi ei fodloni.

(2)Yr amod cyntaf yw bod y ddeiseb yn cynnwys llofnodion y nifer gofynnol o rieni disgyblion cofrestredig yn yr ysgol.

(3)Y nifer gofynnol o rieni yw’r isaf o’r canlynol—

(a)rhieni 10% o ddisgyblion cofrestredig, neu

(b)rhieni 30 disgybl cofrestredig.

(4)At ddibenion is-adran (3), mae nifer y disgyblion cofrestredig i’w gyfrifo drwy gyfeirio at nifer y disgyblion cofrestredig ar y diwrnod y ceir y ddeiseb.

(5)Yr ail amod yw bod y cyfarfod y gofynnir amdano yn un at ddibenion trafod mater sy’n ymwneud â’r ysgol.

(6)Y trydydd amod, pe bai cyfarfod yn cael ei gynnal, yw na ddylid cynnal mwy na thri chyfarfod o dan yr adran hon yn ystod y flwyddyn ysgol y ceir y ddeiseb.

(7)Y pedwerydd amod yw bod digon o ddiwrnodau ysgol ar ôl yn y flwyddyn ysgol i gydymffurfio â’r gofyniad yn is-adran (8).

(8)Rhaid i’r gyfarfod gael ei gynnal cyn diwedd cyfnod o 25 o ddiwrnodau.

(9)At ddibenion is-adran (8)—

(a)mae’r cyfnod o 25 o ddiwrnodau yn dechrau ar y diwrnod cyntaf ar ôl y diwrnod y ceir y ddeiseb (yn ddarostyngedig i is-adran (10)), a

(b)nid yw’r cyfnod o 25 o ddiwrnodau yn cynnwys unrhyw ddiwrnod nad yw’n ddiwrnod ysgol.

(10)Os cynhelir cyfarfod arall y mae’n ofynnol ei gynnal o dan yr adran hon o ganlyniad i ddeiseb wahanol (“y cyfarfod arall”) ar ddiwrnod yn ystod y cyfnod o 25 o ddiwrnodau yn is-adran (9), ond cyn y diwrnod y cynhelir y cyfarfod, bydd y cyfnod o 25 o ddiwrnodau yn dechrau ar y diwrnod cyntaf ar ôl y diwrnod y cynhelir y cyfarfod arall.

(11)Mae’r cyfarfod i fod yn agored i’r canlynol—

(a)rhieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol,

(b)y pennaeth, ac

(c)personau eraill a wahoddir gan y corff llywodraethu.

(12)Rhaid i’r corff llywodraethu, cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl cael deiseb sy’n ei gwneud yn ofynnol i gynnal cyfarfod, ysgrifennu at rieni pob disgybl cofrestredig yn yr ysgol i’w hysbysu am ddyddiad y cyfarfod a’r mater sydd i’w drafod.

(13)Wrth arfer ei swyddogaethau o dan yr adran hon, rhaid i gorff llywodraethu ysgol a gynhelir roi sylw i ganllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru.

95Diddymu dyletswydd i gynnal cyfarfod blynyddol rhieni

Mae adran 33 o Ddeddf Addysg 2002 wedi ei diddymu.

Cod ymarfer ar y berthynas rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion

96Diddymu’r ddarpariaeth am god ymarfer ar gyfer y berthynas rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion

Mae adran 127 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (cod ymarfer i sicrhau perthynas effeithiol rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir yng Nghymru) wedi ei diddymu.

RHAN 6CYFFREDINOL

97Gorchmynion a rheoliadau

(1)Rhaid i bwer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon gael ei arfer drwy offeryn statudol.

(2)Mae pŵer Gweinidogion Cymru i wneud gorchymyn neu reoliadau o dan y Ddeddf hon yn cynnwys pwer—

(a)i wneud darpariaeth wahanol ar gyfer achosion gwahanol neu ddosbarthau gwahanol ar achos, gwahanol ardaloedd neu ddibenion gwahanol;

(b)i wneud darpariaeth wahanol yn gyffredinol neu’n ddarostyngedig i esemptiadau neu eithriadau penodedig neu mewn perthynas ag achosion penodol neu ddosbarthau penodol ar achos yn unig;

(c)i wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, atodol, canlyniadol, dros dro, trosiannol neu ddarpariaethau arbed ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.

(3)Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau a gaiff eu gwneud o dan y Ddeddf hon neu orchymyn o dan adran 56(2) yn ddarostyngedig i’w ddiddymu’n unol â phenderfyniad gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

(4)Ni chaniateir i offeryn statudol sy’n cynnwys gorchymyn o dan baragraff 26(1) o Atodlen 2 gael ei wneud oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo.

98Dehongli’n gyffredinol a mynegai o ymadroddion sydd wedi eu diffinio

(1)Mae darpariaethau’r Ddeddf hon a darpariaethau Ddeddf Addysg 1996 i’w darllen fel petai nhw i gyd wedi eu cynnwys yn Neddf Addysg 1996.

(2)Ond pan roddir i ymadrodd at ddibenion unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon ystyr sy’n wahanol i’r un a roddwyd iddo at ddibenion Deddf Addysg 1996, mae’r ystyr a roddir at ddibenion y ddarpariaeth honno i fod yn gymwys yn lle’r un a roddwyd at ddibenion Deddf Addysg 1996.

(3)Yn y Ddeddf hon—

(4)Ar gyfer cyfeiriadau yn Rhan 3 at—

(a)terfynu ysgol a gynhelir, gweler adran 83;

(b)categori ysgol, gweler adran 83.

(5)Mae cyfeiriad yn y Ddeddf hon at ysgol â chymeriad crefyddol yn cyfeirio at ysgol sydd wedi ei dynodi’n un sydd â chymeriad o’r fath drwy orchymyn o dan adran 69(3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

99Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

Mae Atodlen 5 yn cynnwys mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol.

100Cychwyn

(1)Daw’r darpariaethau canlynol i rym y diwrnod ar ôl y diwrnod y caiff y Ddeddf hon Gydsyniad Brenhinol—

(2)Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar 1 Ebrill 2013 —

(3)Daw’r darpariaethau canlynol i rym ar ddiwedd y cyfnod o ddeufis gan ddechrau ar y diwrnod y caiff y Ddeddf hon Gydsyniad Brenhinol—

(4)Daw gweddill y darpariaethau yn y Ddeddf hon i rym ar ddyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

101Enw byr y Ddeddf hon a’i chynnwys yn un o’r Deddfau Addysg

(1)Enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013.

(2)Mae’r Ddeddf hon i’w chynnwys yn y rhestr o Ddeddfau Addysg a nodir yn adran 578 o Ddeddf Addysg 1996.

(a gyflwynwyd gan adran 18)

ATODLEN 1CYRFF LLYWODRAETHU SYDD WEDI EU FFURFIO O AELODAU GWEITHREDIAETH INTERIM

Dehongli’r Atodlen

1(1)Yn yr Atodlen hon—

(2)Yn yr Atodlen hon mae unrhyw gyfeiriad at derfynu ysgol a gynhelir yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol yn peidio â’i chynnal.

Y corff llywodraethu i gael ei ffurfio o aelodau a benodir gan awdurdod priodol

2(1)Mae corff llywodraethu’r ysgol i gael ei ffurfio o aelodau a benodir gan yr awdurdod priodol, yn lle cael ei gyfansoddi’n unol â rheoliadau a wneir yn rhinwedd adran 19 o Ddeddf Addysg 2002.

(2)Yn narpariaethau canlynol yr Atodlen hon—

(a)cyfeirir at y corff llywodraethu fel y’i cyfansoddir yn unol â’r Atodlen hon fel “y bwrdd gweithrediaeth interim”, a

(b)cyfeirir at aelodau’r corff llywodraethu fel y’u cyfansoddir felly fel “aelodau gweithrediaeth interim”.

Effaith hysbysiad o dan adran 7 neu 14

3(1)Ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14, mae’r llywodraethwyr presennol yn gadael eu swydd.

(2)Nid yw is-paragraff (1) yn atal llywodraethwr presennol rhag cael ei benodi’n aelod gweithrediaeth interim.

(3)Yn ystod y cyfnod interim, mae unrhyw gyfeiriad mewn unrhyw ddarpariaeth sydd yn y Deddfau Addysg, neu sydd wedi ei gwneud oddi tanynt, at lywodraethwr neu lywodraethwr sefydledig ysgol yn cael effaith, o ran yr ysgol, fel cyfeiriad at aelod gweithrediaeth interim.

(4)Yn ystod y cyfnod interim, mae adran 83 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (addasu’r darpariaethau sy’n gwneud llywodraethwyr ysgol sefydledig neu wirfoddol yn ymddiriedolwyr ex officio) yn cael effaith o ran yr ysgol drwy roi yn lle paragraffau (a) i (c) gyfeiriad at yr aelodau gweithrediaeth interim.

Nifer yr aelodau gweithrediaeth interim

4(1)Rhaid i nifer yr aelodau gweithrediaeth interim beidio â bod yn llai na dau.

(2)Rhaid i benodiad cychwynnol aelodau gweithrediaeth interim gael ei wneud yn y fath fodd ag i ddod yn weithredol ar y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14.

(3)Caiff yr awdurdod priodol benodi aelodau gweithrediaeth interim pellach ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod interim.

Telerau penodi aelodau gweithrediaeth interim

5(1)Rhaid i bob penodiad aelod gweithrediaeth interim gael ei wneud drwy offeryn ysgrifenedig yn gosod telerau’r penodiad.

(2)O ran aelod gweithrediaeth interim—

(a)mae’n dal swydd yn unol â thelerau’r penodiad ac yn ddarostyngedig i baragraff 16, a

(b)caniateir iddo gael ei symud o’i swydd gan yr awdurdod priodol am anghymhwyster neu gamymddygiad.

(3)Caiff telerau penodi aelod gweithrediaeth interim ddarparu i’r penodiad fod yn derfynadwy gan yr awdurdod priodol drwy hysbysiad.

Dyletswydd yr awdurdod priodol i hysbysu personau eraill

6(1)Rhaid i’r awdurdod priodol roi copi o’r hysbysiad o dan adran 7 neu 14 ac o bob offeryn penodi aelod gweithrediaeth interim—

(a)i bob aelod gweithrediaeth interim,

(b)i bob llywodraethwr presennol yr ysgol,

(c)os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priodol, i Weinidogion Cymru,

(d)os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol, i’r awdurdod lleol, ac

(e)yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—

(i)i’r person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, i’r corff crefyddol priodol.

(2)Nid yw methiant â chydymffurfio ag is-baragraff (1) yn annilysu’r hysbysiad na’r penodiad.

Pŵer i bennu hyd cyfnod interim

7Caiff yr awdurdod priodol bennu hyd y cyfnod interim yn yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14.

Cadeirydd

8Caiff yr awdurdod priodol enwebu un o’r aelodau gweithrediaeth interim i fod yn gadeirydd y bwrdd gweithrediaeth interim.

Cydnabyddiaeth a lwfansau

9Caiff yr awdurdod priodol dalu i unrhyw aelod gweithrediaeth interim unrhyw gydnabyddiaeth a lwfansau y bydd yr awdurdod priodol yn eu penderfynu, yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir o dan baragraff 13(2).

Dyletswydd y bwrdd gweithrediaeth interim

10(1)Yn ystod y cyfnod interim, rhaid i’r bwrdd gweithrediaeth interim redeg yr ysgol yn y fath fodd ag i sicrhau, cyhyd â’i bod yn ymarferol gwneud hynny, bod sail gadarn yn cael ei darparu ar gyfer gwella yn y dyfodol y modd y mae’r ysgol yn cael ei rhedeg.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn effeithio ar ddyletswyddau eraill y bwrdd gweithrediaeth interim fel corff llywodraethu.

Trafodion y bwrdd gweithrediaeth interim

11(1)Caiff y bwrdd gweithrediaeth interim benderfynu ei weithdrefn ei hun.

(2)Caiff y bwrdd gweithrediaeth interim wneud unrhyw drefniadau y gwêl yn dda i unrhyw berson arall gyflawni ei swyddogaethau.

(3)Mae’r paragraff hwn yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir o dan baragraff 13(2).

Effaith ar atal dros dro gyllideb ddirprwyedig

12(1)Os nad oes gan yr ysgol, yn union cyn y dyddiad a bennir mewn hysbysiad o dan adran 7 neu 14, gyllideb ddirprwyedig, mae ataliad dros dro ar hawl y corff llywodraethu i gael cyllideb ddirprwyedig wedi ei ddirymu yn rhinwedd yr is-baragraff hwn o’r dyddiad hwnnw.

(2)Os yw hysbysiad o dan baragraff 1 o Atodlen 15 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (atal cyllideb ddirprwyedig dros dro am gamreoli etc) wedi ei roi i’r corff llywodraethu cyn y dyddiad a bennwyd mewn hysbysiad o dan adran 7 neu 14 ond nad yw wedi dod yn weithredol eto, mae effaith yr hysbysiad yn peidio ar y dyddiad hwnnw.

(3)Yn ystod y cyfnod interim, ni chaiff yr awdurdod lleol arfer y pŵer a roddir gan adran 8 (pŵer i atal dros dro hawl i gael cyllideb ddirprwyedig).

(4)Mae is-baragraff (1) i’w ddehongli’n unol ag adran 49(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

Eithrio darpariaethau statudol penodol

13(1)Nid yw rheoliadau a wneir o dan adran 19(2) neu (3) o Ddeddf Addysg 2002 (cyrff llywodraethu) yn gymwys mewn perthynas â’r bwrdd gweithrediaeth interim.

(2)Ond caniateir i reoliadau a wneir o dan adran 19(3)(f), (g), (i), (j), (k) neu (l) o Ddeddf Addysg 2002 (ac eithrio rheoliadau o dan adran 19(3)(l) sy’n ymwneud â chyfansoddiad cyrff llywodraethu) gael eu cymhwyso mewn perthynas â’r bwrdd (gydag addasiadau neu hebddynt) drwy reoliadau.

(3)Nid yw offeryn llywodraethu’r ysgol yn cael effaith mewn perthynas â’r bwrdd gweithrediaeth interim i’r graddau y mae’n ymwneud â chyfansoddiad y corff llywodraethu.

(4)Yn ystod y cyfnod interim—

(a)ni chaiff yr awdurdod lleol arfer unrhyw bwer a roddir gan adran 6 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol), a

(b)ni chaiff Gweinidogion Cymru arfer unrhyw bwer a roddir gan adran 13 (pŵer i benodi llywodraethwyr ychwanegol).

Cau’r ysgol

14(1)Ar unrhyw bryd yn ystod y cyfnod interim, caiff y bwrdd gweithrediaeth interim, os gwêl yn dda, wneud adroddiad i’r awdurdod lleol a Gweinidogion Cymru yn argymell y dylai’r ysgol gael ei therfynu, a chan ddatgan y rhesymau dros yr argymhelliad hwnnw.

(2)Ni chaiff y bwrdd gweithrediaeth interim—

(a)cyhoeddi o dan adran 43 gynigion i derfynu’r ysgol, na

(b)cyflwyno hysbysiad o dan adran 80.

(3)Bydd is-baragraff (4) yn gymwys os, yn ystod y cyfnod interim—

(a)bydd Gweinidogion Cymru yn rhoi cyfarwyddyd o dan adran 16 neu 81 mewn perthynas â’r ysgol, neu

(b)bydd yr awdurdod lleol yn penderfynu terfynu’r ysgol.

(4)Mae’r cyfnod interim i barhau tan y dyddiad terfynu, hyd yn oed pan fyddai’n dod i ben fel arall cyn y dyddiad hwnnw.

(5)Yn y paragraff hwn ystyr “y dyddiad terfynu” yw un o’r canlynol (yn ôl fel y digwydd)—

(a)y dyddiad y bydd cynigion i derfynu’r ysgol yn cael eu gweithredu arno o dan Ran 1 o Atodlen 3;

(b)y dyddiad y caiff yr ysgol ei therfynu arno o dan adran 80;

(c)y dyddiad a bennir yn y cyfarwyddyd o dan adran 16 neu 81(1).

Hysbysu bod y corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal wedi ailddechrau llywodraethu

15(1)Bydd yr is-baragraff canlynol yn gymwys—

(a)os nad yw’r hysbysiad o dan adran 7 neu 14 yn pennu hyd y cyfnod interim, a

(b)os nad yw paragraff 14(4) yn gymwys.

(2)Caiff yr awdurdod priodol roi hysbysiad i’r personau a grybwyllir yn is-baragraff (3) yn pennu dyddiad pan fydd y corff llywodraethu’n dod yn gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal.

(3)Y personau hynny yw’r canlynol—

(a)pob aelod gweithrediaeth interim,

(b)os yr awdurdod lleol yw’r awdurdod priodol, Gweinidogion Cymru,

(c)os Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod priodol, yr awdurdod lleol, a

(d)yn achos ysgol sefydledig neu wirfoddol—

(i)y person sy’n penodi’r llywodraethwyr sefydledig, a

(ii)os yw’r ysgol yn ysgol sydd â chymeriad crefyddol, y corff crefyddol priodol.

Yr amser pan fydd aelodau gweithrediaeth interim yn peidio â dal eu swydd

16(1)Mae aelodau gweithrediaeth interim i adael eu swydd—

(a)mewn achos lle y mae is-baragraff (4) o baragraff 14 yn gymwys, ar y dyddiad terfynu o fewn ystyr y paragraff hwnnw,

(b)mewn achos lle nad yw’r is-baragraff hwnnw yn gymwys a bod yr hysbysiad o dan adran 7 neu 14 yn pennu hyd y cyfnod interim, ar ddiwedd y cyfnod penodedig, ac

(c)mewn unrhyw achos arall, ar y dyddiad a bennir o dan baragraff 15(2).

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn atal terfynu penodiad aelod gweithrediaeth interim ynghynt o dan baragraff 5(2)(b) neu’n unol â thelerau ei benodiad.

Sefydlu corff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal

17(1)Pan fo aelodau gweithrediaeth interim i adael eu swydd ar y dyddiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff 16(1)(b) neu (c), rhaid i’r awdurdod lleol wneud trefniadau sy’n darparu ar gyfer cyfansoddi’r corff llywodraethu ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw.

(2)Caiff Gweinidogion Cymru wneud, drwy reoliadau, ddarpariaeth ynglyn â’r trosi o fwrdd gweithrediaeth interim i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd yn normal, a chânt, mewn cysylltiad â’r trosi hwnnw—

(a)addasu unrhyw ddarpariaeth a wnaed o dan unrhyw un neu rai o adrannau 19, 20 a 23 o Ddeddf Addysg 2002 neu gan Atodlen 1 i’r Ddeddf honno,

(b)cymhwyso unrhyw ddarpariaeth o’r fath gydag addasiadau neu hebddynt, ac

(c)gwneud darpariaeth sy’n cyfateb i unrhyw ddarpariaeth o’r fath neu’n gyffelyb iddi.

(3)Mae’r ddarpariaeth y caniateir ei gwneud yn rhinwedd is-baragraff (2) yn cynnwys, ymhlith pethau eraill, ddarpariaeth sy’n galluogi llywodraethwyr i gael eu hethol neu eu penodi, ac i arfer swyddogaethau, cyn diwedd y cyfnod interim.

(Cyflwynwyd gan adran 40)

ATODLEN 2NEWIDIADAU RHEOLEIDDIEDIG

RHAN 1POB YSGOL A GYNHELIR

1Mae paragraffau 2 a 3 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir.

Trosglwyddo safle

2Trosglwyddo ysgol i safle neu safleoedd newydd oni fyddai prif fynedfa’r ysgol ar ei safle neu safleoedd newydd o fewn 1.609344 cilomedr (un filltir) o brif fynedfa’r ysgol ar ei safle neu safleoedd presennol.

Ysgolion rhyw gymysg ac ysgolion un rhyw

3(1)Newid a wneir i ysgol fel a ganlyn—

(a)bod ysgol a oedd yn derbyn disgyblion o un rhyw yn unig yn derbyn disgyblion o’r ddau ryw, neu

(b)bod ysgol a oedd yn derbyn disgyblion o’r ddau ryw yn derbyn disgyblion o un rhyw yn unig.

(2)At ddibenion y paragraff hwn mae ysgol i’w thrin fel un sy’n derbyn disgyblion o un rhyw yn unig os yw trefn derbyn disgyblion o’r rhyw arall—

(a)yn gyfyngedig i ddisgyblion dros oedran ysgol gorfodol; a

(b)heb fod yn fwy na 25% o nifer y disgyblion yn y grwp oedran a dan sylw sydd fel arfer yn yr ysgol.

RHAN 2POB YSGOL A GYNHELIR AR WAHÂN I YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR

4Mae paragraffau 5 i 8 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol ac ysgolion arbennig cymunedol.

Ystod oedran

5(1)Newid oedran isaf y disgyblion y darperir addysg iddynt yn arferol yn yr ysgol gan flwyddyn neu fwy.

(2)Newid oedran uchaf y disgyblion y darperir addysg iddynt yn arferol yn yr ysgol gan flwyddyn neu fwy os yw’r ysgol, cyn ac ar ôl y newid, yn darparu addysg sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol ond heb fod yn darparu addysg sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol.

Darpariaeth chweched dosbarth

6(1)Cyflwyno’r ddarpariaeth o addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol mewn ysgol sy’n darparu addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol.

(2)Terfynu’r ddarpariaeth o addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion dros oedran ysgol gorfodol mewn ysgol sydd i barhau i ddarparu addysg lawnamser sy’n addas i ofynion disgyblion mewn oedran ysgol gorfodol.

Cyfrwng iaith – addysg gynradd

7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—

(a)ysgolion cynradd,

(b)ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac

(c)ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg gynradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.

(2)Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu dosbarth o ddisgyblion mewn grwp oedran (neu grwpiau oedran) mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 1 isod, ac os cynigir newid addysgu’r dosbarth cyfatebol o ddisgyblion yn y grwp oedran hwnnw (neu’r grwpiau oedran hynny) fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.

(3)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “grwp oedran” yw—

(i)grwp blwyddyn o’r cyfnod sylfaen (o fewn yr ystyr a roddir i “foundation phase” gan adran 102 o Ddeddf Addysg 2002), neu

(ii)grwp blwyddyn o’r ail gyfnod allweddol (o fewn yr ystyr a roddir i “second key stage” gan adran 103 o Ddeddf Addysg 2002);

(b)nid yw cyfeiriad at addysgu dosbarth o ddisgyblion yn cynnwys gwasanaeth ysgol na gweithgareddau eraill mewn ysgol a gynhelir fel arfer gyda grwpiau mawr o ddisgyblion.

TABL 1
12
Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y SaesnegCynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae o leiaf 20% ond dim mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y GymraegCynnydd neu leihad o fwy na 20% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg
Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y GymraegCynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae mwy nag 80% o’r addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae rhywfaint o addysgu yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y SaesnegCynnydd o fwy na 10% yn yr addysgu sy’n cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg
Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y GymraegCynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
Ni chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y SaesnegCynhelir mwy na 10% o’r addysgu drwy gyfrwng y Saesneg
Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y SaesnegNi chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Saesneg
Cynhelir rhywfaint o addysgu drwy gyfrwng y GymraegNi chynhelir dim addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg

Cyfrwng iaith – addysg uwchradd

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys ar gyfer—

(a)ysgolion uwchradd,

(b)ysgolion arbennig ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion, ac

(c)ysgolion canol ond dim ond mewn perthynas â darparu addysg uwchradd i ddisgyblion yn yr ysgolion.

(2)Daw newid o fewn y paragraff hwn os yw addysgu disgyblion mewn grwp blwyddyn mewn ysgol yn dod o fewn disgrifiad mewn cofnod yng ngholofn 1 o dabl 2 isod, ac os cynigir newid addysgu’r disgyblion yn y grwp blwyddyn hwnnw fel ei fod yn dod o fewn y disgrifiad yn y cofnod cyfatebol yng ngholofn 2.

(3)Yn y paragraff hwn “pwnc perthnasol” yw unrhyw bwnc ar wahân i Gymraeg a Saesneg a addysgir yn yr ysgol i ddisgyblion yn y grwp blwyddyn o dan sylw.

TABL 2
12
Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgyblLleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl
Addysgir pump neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgyblLleihad o bedwar neu ragor o’r pynciau perthnasol a addysgir (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl
Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i bob disgyblAddysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl
Addysgir pob pwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i bob disgyblAddysgir tri neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl
Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgyblNid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Gymraeg i unrhyw ddisgybl
Addysgir un neu ragor o bynciau perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgyblNid addysgir unrhyw bwnc perthnasol (yn gyfan gwbl neu’n bennaf) drwy gyfrwng y Saesneg i unrhyw ddisgybl

RHAN 3YSGOLION CYMUNEDOL, YSGOLION SEFYDLEDIG AC YSGOLION GWIRFODDOL

9Mae paragraffau 10 i 17 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol.

Newidiadau i fangreoedd

10(1)Ehangu mangre’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti’r ysgol gan o leiaf 25% neu 200 o ddisgyblion o’i gymharu â chapasiti’r ysgol ar y dyddiad priodol.

(2)Wrth benderfynu cynnydd mewn capasiti at ddibenion is-baragraff (1), mae pob ehangiad a wnaed ar ôl y dyddiad priodol i’w cymryd i ystyriaeth ynghyd â’r ehangiad arfaethedig.

(3)Y “dyddiad priodol” yw’r diweddaraf o’r canlynol—

(a)y dyddiad sy’n dod bum mlynedd cyn y dyddiad y cynllunnir gweithredu’r cynigion i wneud yr ehangiad;

(b)y dyddiad pan dderbyniodd yr ysgol ddisgyblion gyntaf;

(c)dyddiad (neu ddyddiad diweddaraf) gweithredu cynigion i wneud unrhyw newid i’r ysgol a oedd yn golygu ehangu ei mangre ac y cyhoeddwyd y cynigon hynny o dan—

(i)adran 48, 59, 68 neu 72, neu

(ii)adran 28 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 neu baragraff 5 o Atodlen 7 i’r Ddeddf honno.

(4)Nid yw cyfeiriadau yn y paragraff hwn at ehangu yn cynnwys ehangu dros dro.

11(1)Ehangu mangre’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti’r ysgol os yw’r dyddiad y cynllunnir gweithredu’r cynigion i wneud yr ehangiad yn dod o fewn y cyfnod a ddisgrifir yn isbaragraff (2).

(2)Pum mlynedd yw’r cyfnod ac mae’n dechrau ar ddyddiad gweithredu’r cynigion (neu’r dyddiad diweddaraf) sy’n dod o fewn paragraff 13 (lleihau capasiti ysgol).

(3)Nid yw “ehangu” yn y paragraff hwn yn cynnwys ehangu dros dro.

12Gwneud ehangu dros dro, a fyddai ar yr adeg y’i gwnaed wedi dod o fewn paragraff 10 (heblaw am y ffaith ei fod dros dro), yn ehangu parhaol.

13Newid a wneir i fangre’r ysgol a fyddai’n lleihau capasiti’r ysgol, lle y byddai’r capasiti arfaethedig yn is na’r nifer uchaf o ddisgyblion cofrestredig yn yr ysgol ar unrhyw adeg yn ystod y ddwy flynedd cyn y dyddiad y lluniodd y cynigydd ei gynnig i wneud y newid arfaethedig.

14At ddibenion paragraffau 10 i 13—

(a)mae cyfeiriadau at gapasiti ysgol yn gyfeiriadau at nifer y disgyblion y gall yr ysgol drefnu lle ar eu cyfer fel a ddyfernir yn unol â chanllawiau a roddir gan Weinidogion Cymru, a

(b)“ehangu dros dro” yw ehangu mangre ysgol y rhagwelir y bydd yr ehangiad, ar yr adeg y’i gwneir, yn ei le am lai na thair blynedd.

Anghenion addysgol arbennig

15(1)Sefydlu darpariaeth neu ddirwyn darpariaeth i ben a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

(2)Os oes darpariaeth a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, newid yn y math o’r cyfryw ddarpariaeth.

Trefniadau derbyn

16Cyflwyno trefniadau derbyn y mae adran 101(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (bandio disgyblion) yn gymwys iddynt.

Darpariaeth fyrddio

17(1)Cyflwyno darpariaeth ar gyfer llety byrddio neu ei dirwyn i ben.

(2)Newid y ddarpariaeth ar gyfer llety byrddio fel bod y nifer o ddisgyblion y gwneir darpariaeth o’r fath ar eu cyfer yn cael ei gynyddu neu ei leihau gan 50 o ddisgyblion neu ragor neu gan 50% neu ragor.

RHAN 4YSGOLION ARBENNIG

18Mae paragraffau 19 i 21 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion arbennig cymunedol.

Cynnydd yn nifer disgyblion

19(1)Ac eithrio pan fo ysgol wedi ei sefydlu mewn ysbyty, cynnydd yn nifer y disgyblion y mae’r ysgol yn gwneud darpariaeth ar eu cyfer, a fyddai o’i gymryd ynghyd â phob cynnydd blaenorol ar ôl y dyddiad priodol, yn cynyddu nifer y disgyblion gan o leiaf 10% neu gan y nifer perthnasol o’i gymharu â nifer y disgyblion ar y dyddiad priodol.

(2)Yn y paragraff hwn—

Darpariaeth fyrddio

20Newid y ddarpariaeth ar gyfer llety byrddio fel bod y nifer o ddisgyblion y gwneir darpariaeth o’r fath ar eu cyfer yn cael ei gynyddu neu ei leihau gan 5 disgybl neu ragor.

Darpariaeth anghenion addysgol arbennig

21Newid yn y math o anghenion addysgol arbennig y trefnwyd yr ysgol i wneud darpariaeth ar ei gyfer.

RHAN 5YSGOLION MEITHRIN A GYNHELIR

22Mae paragraffau 23 i 25 yn disgrifio newidiadau rheoleiddiedig mewn perthynas ag ysgolion meithrin a gynhelir.

Y man addysgu

23(1)Ehangu’r man addysgu, ac eithrio ehangu dros dro, gan 50% neu fwy.

(2)Gwneud ehangu dros dro y man addysgu gan 50% neu fwy yn ehangu parhaol.

(3)Yn y paragraff hwn—

Anghenion addysgol arbennig

24(1)Sefydlu darpariaeth neu ddirwyn darpariaeth i ben a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig.

(2)Os oes darpariaeth a gydnabyddir gan yr awdurdod lleol yn ddarpariaeth a gadwyd yn ôl ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig, newid yn y math o’r cyfryw ddarpariaeth.

Cyfrwng iaith

25(1)Yn achos ysgol y caiff grwp o ddisgyblion ynddi ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg, unrhyw newid i’r ysgol fel y byddai pob disgybl yn cael ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg.

(2)Yn achos ysgol y caiff grwp o ddisgyblion ynddi ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Saesneg, unrhyw newid i’r ysgol fel y byddai pob disgybl yn cael ei addysgu yn gyfan gwbl neu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.

RHAN 6ATODOL

Y pŵer i ddiwygio

26(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio unrhyw ddarpariaeth yn yr Atodlen hon.

(2)Caiff gorchymyn o dan is-baragraff (1) wneud diwygiadau canlyniadol i unrhyw ddarpariaeth yn Rhan 3 o’r Ddeddf hon.

(Cyflwynwyd gan adran 55)

ATODLEN 3GWEITHREDU CYNIGION STATUDOL

RHAN 1CYFRIFOLDEB DROS WEITHREDU

Dehongli

1Yn y Rhan hon o’r Atodlen hon—

(a)ystyr “cynigion” yw cynigion sydd i’w gweithredu o dan adran 55;

(b)mae cyfeiriad at awdurdod lleol mewn perthynas ag ysgol neu ysgol arfaethedig yn gyfeiriad at yr awdurdod lleol sy’n cynnal neu a fydd yn cynnal yr ysgol honno.

Cynigion ynghylch ysgolion cymunedol neu ysgolion meithrin a gynhelir

2(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol gymunedol neu ysgol feithrin a gynhelir neu ysgol gymunedol arfaethedig neu ysgol feithrin a gynhelir sy’n arfaethedig.

(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 41, 42 neu 43 gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol.

Cynigion ynghylch ysgolion sefydledig neu ysgolion gwirfoddol a reolir

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n arfaethedig.

(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 41(2) neu 43(1)(a) gael eu gweithredu gan yr awdurdod.

(3)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 42(1)(b) neu (c) gael eu gweithredu gan yr awdurdod a chan y corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.

(4)Rhaid i gynigion a wneir o dan adran 41(2) (nas gwneir gan awdurdod lleol) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol a chan y person a wnaeth y cynigion i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.

(5)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 42(2) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol a’r corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.

(6)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 43(2) gael eu gweithredu gan y corff llywodraethu a chan yr awdurdod lleol.

Cynigion ynghylch ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy’n arfaethedig.

(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 42(1)(b) neu (c) gael eu gweithredu—

(a)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a

(b)fel arall gan yr awdurdod a’r corff llywodraethu i’r graddau y mae’r cynigion yn darparu (os ydynt) i bob un ohonynt wneud hynny.

(3)Rhaid i gynigion a wneir o dan adran 41(2) gael eu gweithredu—

(a)os yr awdurdod lleol yw’r cynigydd, gan yr awdurdod lleol, a

(b)os nad yr awdurdod lleol yw’r cynigydd—

(i)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a

(ii)fel arall gan y person a wnaeth y cynigion.

(4)Nid oes dim sydd yn is-baragraff (3)(b) yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol ddarparu mangre berthnasol—

(a)pan fo’r ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir i’w sefydlu yn lle un neu ragor o ysgolion annibynnol, sefydledig neu wirfoddol sy’n rhai presennol ac sydd i’w terfynu ar neu cyn dyddiad gweithredu’r cynigion, a

(b)pan oedd y fangre honno yn rhan o fangre unrhyw un neu rai o’r ysgolion presennol ond na chafodd ei darparu gan yr awdurdod.

(5)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 42(2) gael eu gweithredu—

(a)i’r graddau y maent yn ymwneud â darparu mangre berthnasol i’r ysgol, gan yr awdurdod lleol, a

(b)fel arall gan y corff llywodraethu.

(6)Ystyr “mangre berthnasol” yw—

(a)caeau chwarae, neu

(b)adeiladau sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol ond nad ydynt i fod yn adeiladau ysgol.

(7)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 43(1) gael eu gweithredu gan yr awdurdod.

(8)Rhaid i gynigion a wneir gan gorff llywodraethu o dan adran 43(2) gael eu gweithredu gan y corff llywodraethu a chan yr awdurdod lleol.

Cynigion ynghylch ysgolion arbennig cymunedol

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion ynghylch ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig gymunedol arfaethedig.

(2)Rhaid i gynigion a wneir gan awdurdod lleol o dan adran 44 gael eu gweithredu gan yr awdurdod.

Newid categori

6Os bydd ysgol yn newid categori o ysgol gymunedol ar ôl i gynigion cael eu cyhoeddi o dan adran 48 ond cyn iddynt gael eu gweithredu, rhaid i’r cynigion (i’r graddau na chawsant eu gweithredu) gael eu gweithredu gan yr awdurdod lleol (er gwaethaf paragraffau 3 a 4).

RHAN 2DARPARU MANGREOEDD A CHYMORTH ARALL

Darparu safle ac adeiladau i ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir

7(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo’n ofynnol i awdurdod lleol yn rhinwedd paragraff 3(2), (3), (4) neu (5) ddarparu safle i ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a reolir, neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n arfaethedig.

(2)Rhaid i’r awdurdod drosglwyddo ei fuddiant yn y safle ac yn unrhyw adeiladau sydd ar y safle sydd i ffurfio rhan o fangre’r ysgol—

(a)i ymddiriedolwyr yr ysgol, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol, neu

(b)os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, i gorff sefydledig yr ysgol neu (yn absenoldeb corff o’r fath) i’r corff llywodraethu, i’w ddal gan y corff hwnnw at y dibenion perthnasol.

(3)Os bydd unrhyw amheuaeth neu anghydfod yn codi o ran y personau y mae’n ofynnol i’r awdurdod wneud y trosglwyddiad iddynt, rhaid iddo gael ei wneud i’r personau hynny y mae Gweinidogion Cymru’n barnu eu bod yn briodol.

(4)Rhaid i’r awdurdod dalu i’r personau y gwneir y trosglwyddiad iddynt eu costau rhesymol mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.

(5)Mae is-baragraff (6) yn gymwys—

(a)pan fo trosglwyddiad yn cael ei wneud o dan y paragraff hwn, a

(b)pan fo’r trosglwyddiad yn cael ei wneud i bersonau (“y trosglwyddeion”) y mae ganddynt unrhyw swm, neu sydd â hawl ganddynt iddo neu y gellid bod ganddynt yr hawl iddo, sef swm sy’n cynrychioli’r enillion ar werthiant mangre arall a gafodd ei defnyddio at ddibenion yr ysgol.

(6)Rhaid i’r trosglwyddeion hysbysu’r awdurdod lleol bod is-baragraff (5)(b) yn gymwys iddynt a rhaid iddynt hwy neu eu holynwyr dalu i’r awdurdod lleol gymaint o’r swm hwnnw, gan roi sylw i werth y buddiant a drosglwyddwyd, ag y benderfynir ei fod yn gyfiawn, naill ai drwy gytundeb rhyngddynt hwy a’r awdurdod neu, yn niffyg cytundeb, gan Weinidogion Cymru.

(7)Yn is-baragraff (5)(b) mae’r cyfeiriad at enillion ar werthiant mangre arall yn cynnwys cyfeiriad at y canlynol—

(a)cydnabyddiaeth am greu neu am waredu unrhyw fath o fuddiant mewn mangre arall, gan gynnwys rhent, a

(b)unrhyw log sydd wedi cronni mewn perthynas â chydnabyddiaeth o’r fath.

(8)Mae unrhyw swm a delir o dan is-baragraff (6) i’w drin at ddibenion adran 14 o Ddeddf Safleoedd Ysgolion 1841 (sy’n ymwneud â gwerthu neu gyfnewid tir sy’n cael ei ddal ar ymddiried at ddibenion ysgol) fel swm a ddefnyddir at brynu safle i’r ysgol.

(9)Caniateir i benderfyniad gael ei wneud o dan is-baragraff (6) mewn cysylltiad ag unrhyw eiddo sy’n ddarostyngedig i ymddiriedolaeth sydd wedi codi o dan adran 1 o Ddeddf Dychweliad Safleoedd 1987 (hawl dychweliad yn cael ei disodli gan ymddiried i werthu) —

(a)os gwneir y penderfyniad gan Weinidogion Cymru (a dim ond bryd hynny), a

(b)maent wedi eu bodloni (a dim ond bryd hynny) bod camau wedi eu cymryd i amddiffyn buddiannau’r buddiolwyr o dan yr ymddiriedolaeth.

(10)Mae is-baragraff (6) yn gymwys at ddibenion digolledu’r awdurdod a hysbysir o dan yr is-baragraff hwnnw mewn perthynas yn unig â’r rhan honno o’r swm a grybwyllir yn isbaragraff (5)(b) (os oes un) sy’n weddill ar ôl cymhwyso paragraffau 1 i 3 o Atodlen 22 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (gwaredu tir - ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol ac ysgolion arbennig sefydledig) i’r swm hwnnw.

(11)Yn y paragraff hwn—

Grantiau mewn cysylltiad â gwariant penodol ynghylch ysgol wirfoddol a gynorthwyir boed hi’n un bresennol neu’n un arfaethedig

8(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn rhinwedd paragraff 4(5) i weithredu cynigion i wneud newid rheoleiddiedig i’r ysgol, neu

(b)pan fo’n ofynnol i berson yn rhinwedd paragraff 4(3)(b) i weithredu cynigion i sefydlu ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir.

(2)Mae paragraff 5 o Atodlen 3 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (grantiau i ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir mewn cysylltiad â gwariant ar fangre neu gyfarpar)—

(a)yn gymwys mewn perthynas â’r ysgol a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a), a

(b)yn gymwys mewn perthynas â’r ysgol newydd a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b) fel y mae’n gymwys mewn perthynas ag ysgol bresennol sy’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

(3)Wrth gymhwyso’r paragraff hwnnw mewn perthynas ag ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir—

(a)mae cyfeiriadau at y corff llywodraethu, mewn perthynas ag unrhyw adeg cyn i’r corff llywodraethu gael ei gyfansoddi, yn gyfeiriadau at y person a wnaeth y cynigion o dan adran 41(2), a

(b)pan osodir gofynion mewn perthynas a grant a delir yn rhinwedd y paragraff hwn i’r person a wnaeth y cynigion, rhaid i gorff llywodraethu, pan gyfansoddir ef, yn ogystal â’r person hwnnw, gydymffurfio â’r gofynion.

Cymorth mewn cysylltiad â chynnal a chadw a rhwymedigaethau eraill mewn perthynas ag ysgol wirfoddol a gynorthwyir

9Caiff awdurdod lleol roi i gorff llywodraethu ysgol wirfoddol a gynorthwyir y cymorth y gwêl yr awdurdod yn dda i’w roi pan fo’r corff llywodraethu’n cyflawni unrhyw rwymedigaeth sy’n codi yn rhinwedd paragraff 4(5) mewn perthynas â chynigion a wnaed ganddo o dan adran 42(2).

Cymorth mewn cysylltiad ag ysgol newydd wirfoddol a gynorthwyir

10Caiff awdurdod lleol roi i’r personau y mae’n ofynnol iddynt yn rhinwedd paragraff 4(3) (b) i weithredu cynigion i sefydlu ysgol wirfoddol a gynorthwyir y cymorth y gwêl yn dda i’w roi pan fo’r personau hynny’n cyflawni unrhyw rwymedigaeth sy’n codi yn rhinwedd y paragraff hwnnw.

Dyletswydd i drosglwyddo buddiant mewn mangre a ddarperir o dan baragraff 9 neu 10

11(1)Pan fo cymorth o dan baragraff 9 neu 10 yn golygu darparu unrhyw fangre i’w defnyddio at ddibenion ysgol, rhaid i’r awdurdod leol drosglwyddo ei fuddiant yn y fangre—

(a)i ymddiriedolwyr yr ysgol i’w ddal ar ymddiried at ddibenion yr ysgol, neu

(b)os nad oes ymddiriedolwyr gan yr ysgol, i gorff sefydledig yr ysgol, i’w ddal gan y corff hwnnw at ddibenion yr ysgolion sy’n ffurfio’r grwp y mae’r corff hwnnw’n gweithredu drosto.

(2)Os bydd unrhyw amheuaeth neu anghydfod yn codi o ran y personau y mae’n ofynnol i’r awdurdod wneud y trosglwyddiad iddynt, rhaid iddo gael ei wneud i’r personau hynny y mae Gweinidogion Cymru’n barnu eu bod yn briodol.

(3)Rhaid i’r awdurdod dalu i’r personau y gwneir y trosglwyddiad iddynt eu costau rhesymol mewn cysylltiad â’r trosglwyddiad.

RHAN 3GORCHMYNION ESEMPTIO TROSIANNOL AT DDIBENION DEDDF CYDRADDOLDEB 2010

Ysgolion un rhyw

12(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys i gynigion i wneud newid rheoleiddiedig a ddisgrifir ym mharagraff 3(1)(a) o Atodlen 2 (ysgol i beidio â bod yn un sy’n derbyn disgyblion o un rhyw yn unig).

(2)Mae is-baragraff (3) yn gymwys pan wneir cynigion o’r fath o dan adran 42 neu 44 ac, yn unol ag adran 48(4), pan fo’r cynigydd yn anfon copi o’r cynigion wedi eu cyhoeddi at Weinidogion Cymru.

(3)Mae anfon y cynigion wedi eu cyhoeddi i Weinidogion Cymru i’w drin fel cais gan y cynigydd am orchymyn esemptio trosiannol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, a chaniateir i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn o’r fath yn unol â hynny.

(4)Yn y paragraff hwn—

(Cyflwynwyd gan adran 55)

ATODLEN 4GWEITHREDU CYNIGION I NEWID CATEGORI YSGOL

RHAN 1CYFLWYNIAD

Dehongli

1Yn yr Atodlen hon—

Gweithredu

2Ar y dyddiad gweithredu mae’r ysgol i newid categori yn unol â’r cynigion.

RHAN 2TROSGLWYDDO STAFF

Newid i ysgol wirfoddol a gynorthwyir

3(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yn newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

(2)Mae’r contract cyflogaeth rhwng P a’r awdurdod lleol yn cael effaith o’r dyddiad gweithredu fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng P a’r corff llywodraethu.

(3)Caiff holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau’r awdurdod lleol o dan y contract cyflogaeth neu mewn cysylltiad ag ef eu trosglwyddo i’r corff llywodraethu ar y dyddiad gweithredu.

(4)Mae unrhyw beth a gafodd ei wneud cyn y dyddiad hwnnw gan yr awdurdod lleol neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â’r contract hwnnw neu â P i’w drin o’r dyddiad hwnnw ymlaen fel pe bai wedi ei wneud gan y corff llywodraethu neu mewn perthynas ag ef.

(5)Yn y paragraff hwn, “P” yw person sydd—

(a)yn union cyn y dyddiad gweithredu yn gyflogedig gan yr awdurdod lleol i weithio dim ond yn yr ysgol o dan sylw, neu

(b)cyn y dyddiad gweithredu, wedi ei benodi gan yr awdurdod lleol i weithio yn yr ysgol o’r dyddiad gweithredu ymlaen neu ar ddyddiad diweddarach.

(6)Ond nid yw cyfeiriad at “P” yn cynnwys—

(a)person y mae ei gontract cyflogaeth yn terfynu ar y diwrnod yn union cyn y dyddiad gweithredu, neu

(b)person a gyflogir gan yr awdurdod lleol i weithio yn yr ysgol dim ond mewn cysylltiad â darparu prydau bwyd.

(7)Nid yw’r paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw hawl gan gyflogai i derfynu’r contract os gwneir (ar wahân i newid cyflogwr) newid sylweddol sy’n niweidiol i amodau gwaith y cyflogai.

Newid i ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir

4(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn newid categori i ddod yn ysgol gymunedol neu’n ysgol wirfoddol a reolir.

(2)Mae’r contract cyflogaeth rhwng P a’r corff llywodraethu yn cael effaith o’r dyddiad gweithredu fel pe bai wedi ei wneud yn wreiddiol rhwng P a’r awdurdod lleol.

(3)Caiff holl hawliau, pwerau, dyletswyddau a rhwymedigaethau’r corff llywodraethu o dan y contract cyflogaeth neu mewn cysylltiad ag ef eu trosglwyddo i’r awdurdod lleol ar y dyddiad gweithredu.

(4)Mae unrhyw beth a gafodd ei wneud cyn y dyddiad hwnnw gan y corff llywodraethu neu mewn perthynas ag ef mewn cysylltiad â’r contract hwnnw neu â P i’w drin o’r dyddiad hwnnw ymlaen fel pe bai wedi ei wneud gan yr awdurdod lleol neu mewn perthynas ag ef.

(5)Yn y paragraff hwn, “P” yw person sydd—

(a)yn union cyn y dyddiad gweithredu yn gyflogedig gan y corff llywodraethu i weithio yn yr ysgol o dan sylw, neu

(b)cyn y dyddiad gweithredu, wedi ei benodi gan y corff llywodraethu i weithio yn yr ysgol o’r dyddiad gweithredu ymlaen neu ar ddyddiad diweddarach.

(6)Ond nid yw “P” yn cynnwys person y mae ei gontract cyflogaeth yn terfynu ar y diwrnod yn union cyn y dyddiad gweithredu.

(7)Nid yw’r paragraff hwn yn effeithio ar unrhyw hawl gan gyflogai i derfynu’r contract os gwneir (ar wahân i newid cyflogwr) newid sylweddol sy’n niweidiol i amodau gwaith y cyflogai.

Newid i ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol

5(1)Mae’r paragraff hwn yn gymwys pan fo ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol sefydledig sydd â chymeriad crefyddol yn newid categori i ddod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir sydd â chymeriad crefyddol.

(2)Mae is-baragraff (3) yn gymwys os bydd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, athro neu athrawes yn yr ysgol wirfoddol a reolir neu’r ysgol sefydledig yn mwynhau hawliau a roddwyd gan adran 59(2) i (4) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn rhinwedd adran 60(2) o’r Ddeddf honno.

(3)Mae’r athro hwnnw neu’r athrawes honno i barhau i fwynhau‘r hawliau hynny tra bydd yn gyflogedig fel athro neu athrawes yn yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir.

RHAN 3TROSGLWYDDO TIR

Effaith trosglwyddo

6(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo tir yn cael ei drosglwyddo a’i freinio mewn corff yn unol â’r Atodlen hon, a

(b)pan fo’r trosglwyddwr yn mwynhau neu’n ysgwyddo unrhyw hawliau neu rwymedigaethau yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn cysylltiad â’r tir hwnnw.

(2)Caiff yr hawliau neu’r rhwymedigaethau hynny hefyd eu trosglwyddo i’r corff hwnnw, ac yn rhinwedd yr Atodlen hon, eu breinio ynddo.

7Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rhan hon o’r Atodlen hon, mewn perthynas ag ysgol, at dir yn cael ei drosglwyddo i gorff sefydledig a’i freinio ynddo yn gyfeiriad ato’n cael ei drosglwyddo i’r corff hwnnw a’i freinio ynddo at ddibenion yr ysgolion sy’n ffurfio’r grwp y mae’r corff hwnnw’n gweithredu drosto.

8Nid yw trosglwyddo tir o dan yr Atodlen hon yn effeithio ar hawliau’r corff llywodraethu mewn perthynas â’r tir o dan Atodlen 13 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

9Yn ei gymhwysiad at drosglwyddo o dan yr Atodlen hon, mae Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 yn cael effaith fel pe bai’r cyfeiriadau sydd ynddi at y dyddiad trosglwyddo yn gyfeiriadau at y dyddiad gweithredu.

Newid o ysgol gymunedol i ysgol wirfoddol a gynorthwyir

10(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol gymunedol yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan na fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

(2)Mae unrhyw dir ar wahân i gaeau chwarae a oedd yn cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i’w freinio ynddynt, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol.

11(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol gymunedol yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

(2)Mae unrhyw dir ar wahân i gaeau chwarae neu dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd yn cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig ac i’w freinio ynddo.

Newid o ysgol gymunedol i ysgol wirfoddol a reolir

12(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol gymunedol yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan na fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

(2)Mae unrhyw dir ar wahân i gaeau chwarae a oedd yn cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i’w freinio ynddynt, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol.

13(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol gymunedol yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto.

(2)Mae unrhyw dir ar wahân i gaeau chwarae neu dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd yn cael ei ddal neu ei ddefnyddio, yn union cyn y dyddiad gweithredu, gan awdurdod lleol at ddibenion yr ysgol gymunedol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig ac i’w freinio ynddo.

Newid o ysgol sefydledig i ysgol gymunedol

14(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.

(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.

(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac i’w freinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo.

15(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.

(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol sefydledig, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.

(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol sefydledig, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac i’w freinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo.

Newid o ysgol sefydledig i ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir

16(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan na fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.

(2)Mae unrhyw dir, ar wahân i dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol sefydledig, ar y dyddiad hwnnw i’w drosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i’w freinio ynddynt, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol.

17(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.

(2)Mae unrhyw dir, ar wahân i dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol sefydledig, ar y dyddiad hwnnw i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig, ac i’w freinio ynddo.

18(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu’n ysgol wirfoddol a reolir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan na fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.

(2)Mae unrhyw dir, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol sefydledig, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol ac i’w freinio ynddynt, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol.

Newid o ysgol wirfoddol a gynorthwyir i ysgol gymunedol

19(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a gynorthwyir nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.

(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.

(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac i’w freinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo.

20(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a gynorthwyir sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.

(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.

(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol wirfoddol a gynorthwyir i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac i’w freinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo.

Newid o ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir i ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir

21(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.

(2)Mae unrhyw dir, ar wahân i dir sy’n cael ei ddal ar ymddiried, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig, ac i’w freinio ynddo.

22(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan na fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp.

(2)Mae unrhyw dir, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol ac i’w freinio ynddynt, i’w ddal ganddynt ar ymddiried at ddibenion yr ysgol.

Newid o ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir i ysgol wirfoddol a reolir neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir

23(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol sefydledig, ysgol wirfoddol a gynorthwyir neu ysgol wirfoddol a reolir sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol wirfoddol a reolir neu’n ysgol wirfoddol a gynorthwyir, a

(b)o’r dyddiad gweithredu ymlaen pan fydd yr ysgol yn aelod o’r grwp y mae corff sefydledig arall yn gweithredu drosto.

(2)Mae unrhyw dir, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig a grybwyllir yn is-baragraff (1)(a) at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r corff sefydledig a grybwyllir yn is-baragraff (1)(b), ac i’w freinio ynddo.

Newid o ysgol wirfoddol a reolir i ysgol gymunedol

24(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a reolir nad yw’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.

(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.

(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan ymddiriedolwyr yr ysgol neu’r corff llywodraethu at ddibenion yr ysgol, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo.

25(1)Mae is-baragraffau (2) a (3) yn gymwys pan fo’n ofynnol o dan adran 55(2) i weithredu cynigion bod ysgol wirfoddol a reolir sy’n aelod o’r grwp y mae corff sefydledig yn gweithredu drosto yn dod yn ysgol gymunedol.

(2)Mae unrhyw dir wedi ei gyllido’n gyhoeddus, a oedd, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgol yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion ysgol wirfoddol a reolir, ar y dyddiad hwnnw, i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w freinio ynddo.

(3)Mae unrhyw dir arall, a oedd, yn union cyn y dyddiad hwnnw, yn cael ei ddal gan y corff sefydledig at ddibenion yr ysgolion yn y grwp ac yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol wirfoddol a reolir i’w drosglwyddo i’r awdurdod lleol, ac i’w freinio ynddo, yn unol â chytundeb trosglwyddo.

Trosglwyddiadau heb eu cwblhau

26(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys, yn union cyn y dyddiad gweithredu, mewn perthynas ag unrhyw newid categori sy’n digwydd mewn cysylltiad ag ysgol—

(a)pan fo’n ofynnol yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth statudol i drosglwyddo unrhyw dir a freiniwyd mewn awdurdod lleol i gorff llywodraethu neu i unrhyw ymddiriedolwyr yr ysgol, ond

(b)pan nad yw’r tir hyd yn hyn wedi ei drosglwyddo felly.

(2)Mae paragraffau 10 i 25 o’r Atodlen hon yn gymwys i’r ysgol fel pe bai’r tir wedi cael ei drosglwyddo felly erbyn yr adeg honno.

Trosglwyddo hawl i ddefnyddio tir

27(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)os yw paragraff 10, 11, 12 neu 13 yn gymwys i ysgol,

(b)os oedd unrhyw dir a oedd yn cael ei ddal gan berson neu gorff ar wahân i awdurdod lleol, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ac

(c)os oedd yr awdurdod lleol yn mwynhau neu’n ysgwyddo unrhyw hawliau neu rwymedigaethau yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn cysylltiad â defnydd o’r tir.

(2)Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, ar y dyddiad gweithredu, i’w trosglwyddo i ymddiriedolwyr yr ysgol, ac i’w freinio ynddynt, ac os nad oes ymddiriedolwyr, y corff llywodraethu.

28(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)os yw paragraff 14, 15, 19, 20, 24 neu 25 yn gymwys i ysgol,

(b)os oedd unrhyw dir a oedd yn cael ei ddal gan berson neu gorff ar wahân i gorff llywodraethu’r ysgol, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ac

(c)os oedd y corff llywodraethu yn mwynhau neu’n ysgwyddo unrhyw hawliau neu rwymedigaethau yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn cysylltiad â’r defnydd o’r tir.

(2)Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, ar y dyddiad gweithredu, i’w trosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w breinio ynddo.

29(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys—

(a)os yw paragraff 14, 15, 19, 20, 24 neu 25 yn gymwys i ysgol,

(b)os oedd unrhyw dir a oedd yn cael ei ddal gan berson neu gorff ar wahân i unrhyw ymddiriedolwyr neu gorff sefydledig, yn union cyn y dyddiad gweithredu, yn cael ei ddefnyddio at ddibenion yr ysgol, ac

(c)os oedd yr ymddiriedolwyr neu’r corff sefydledig yn mwynhau neu’n ysgwyddo unrhyw hawliau neu rwymedigaethau yn union cyn y dyddiad gweithredu mewn cysylltiad â defnydd o’r tir.

(2)Mae’r hawliau a’r rhwymedigaethau hynny, ar y dyddiad gweithredu, i’w trosglwyddo i’r awdurdod lleol ac i’w breinio ynddo yn unol â chytundeb trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau.

(3)Ystyr “cytundeb trosglwyddo hawliau a rhwymedigaethau” yw cytundeb—

(a)a wnaed at ddibenion is-baragraff (2) rhwng yr awdurdod lleol a’r ymddiriedolwyr neu’r corff sefydledig, a

(b)sy’n darparu i’r hawliau neu’r rhwymedigaethau o dan sylw gael eu trosglwyddo i’r awdurdod a chael eu breinio ynddo ar y dyddiad gweithredu, p’un a ydyw mewn cydnabyddiaeth o daliad ai peidio gan yr awdurdod o swm y cytunir arno rhwng y partïon.

Eithrio rhag trosglwyddo

30Nid oes dim ym mharagraffau 10 i 25 yn cael yr effaith o drosglwyddo i unrhyw gorff neu freinio ynddo—

(a)unrhyw dir, hawliau neu rwymedigaethau a eithrir o dan baragraff 31 neu 32,

(b)unrhyw hawliau neu rwymedigaethau o dan gontract cyflogaeth,

(c)unrhyw rwymedigaeth gan awdurdod lleol, corff llywodraethu neu ymddiriedolwyr mewn cysylltiad â phrifswm unrhyw fenthyciad neu logau arno, neu

(d)unrhyw rwymedigaeth mewn cyfraith camwedd.

31(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys os ceir y canlynol cyn y dyddiad gweithredu mewn perthynas ag unrhyw newid categori—

(a)bod y trosglwyddai a’r trosglwyddwr arfaethedig wedi cytuno’n ysgrifenedig y dylid eithrio unrhyw dir rhag gweithrediad paragraffau 10 i 25, a

(b)bod Gweinidogion Cymru wedi rhoi eu cymeradwyaeth ysgrifenedig i’r cytundeb.

(2)Mae’r tir (ac unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy’n ymwneud ag ef) i’w eithrio felly.

32(1)Mae is-baragraff (2) yn gymwys yn absenoldeb cytundeb o dan baragraff 31—

(a)os yw’r trosglwyddai a’r trosglwyddwr arfaethedig wedi gwneud cais i Weinidogion Cymru i eithrio unrhyw dir rhag gweithrediad paragraffau 10 i 25, a

(b)os yw Gweinidogion Cymru wedi rhoi cyfarwyddyd i’w eithrio.

(2)Mae’r tir (ac unrhyw hawliau neu rwymedigaethau sy’n ymwneud ag ef) i’w eithrio felly.

33(1)Caiff cytundeb o dan baragraff 31 ddarparu bod y tir yn cael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion yr ysgol ar y cyfryw delerau ag a bennir neu a ddyfernir yn unol â’r cytundeb.

(2)O ran cyfarwyddiadau o dan baragraff 32—

(a)cânt roi unrhyw hawliau neu osod unrhyw rwymedigaethau y gellid bod wedi eu rhoi neu eu gosod drwy gytundeb o dan baragraff 31, a

(b)maent yn cael effaith fel pe baent wedi eu cynnwys mewn cytundeb o’r fath.

34Ym mharagraffau 31 a 32—

Cyfyngiadau ar waredu neu ddefnyddio tir

35(1)At ddibenion paragraffau 36 a 37 mae’r weithdrefn i ddod yn ysgol mewn categori arall heb ei chwblhau mewn perthynas ag ysgol pan fo’r weithdrefn wedi ei dechrau gan y corff llywodraethu mewn perthynas ag ysgol a heb gael ei therfynu.

(2)Bernir bod y weithdrefn wedi ei dechrau mewn perthynas ag ysgol pan fo’r awdurdod lleol yn cael hysbysiad o gyfarfod y corff llywodraethu y mae cynnig ynddo i ystyried cael penderfyniad i ymgynghori ynghylch cynigion i newid categori.

(3)Bernir bod y weithdrefn wedi ei therfynu—

(a)os na chynhelir y cyfarfod,

(b)os cynhelir y cyfarfod ond na roddir y cynnig gerbron neu, er bod y cynnig wedi ei roi gerbron, nid yw’r penderfyniad yn cael ei basio,

(c)os na wneir yr ymgynghoriad yn unol ag adran 48,

(d)os na chaiff y cynigion y gwnaed yr ymgynghoriad mewn cysylltiad â hwy eu cyhoeddi yn unol ag adran 48,

(e)os caiff y cynigion eu gwrthod gan Weinidogion Cymru o dan adran 50 neu gan awdurdod lleol o dan adran 51 neu os cânt eu tynnu’n ôl neu os yw’r corff llywodraethu wedi penderfynu peidio â’u gweithredu o dan adran 53, neu

(f)ar ddyddiad gweithredu’r cynigion.

36(1)Tra bod y weithdrefn o ddod yn ysgol o gategori arall heb ei chwblhau mewn perthynas ag ysgol, ni chaiff awdurdod lleol, heb gydsyniad Gweinidogion Cymru—

(a)gwaredu unrhyw dir a ddefnyddir yn gyfan gwbl neu’n rhannol at ddibenion yr ysgol, neu

(b)ymrwymo i gontract i waredu tir o’r fath.

(2)Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys mewn perthynas â gwarediad a wneir yn unol â chontract yr ymrwymwyd iddo, neu opsiwn a roddwyd, cyn bod y weithdrefn i ddod yn ysgol o gategori arall wedi ei dechrau mewn perthynas â’r ysgol.

(3)Mae is-baragraff (4) yn gymwys—

(a)os caiff cynigion i ddod yn ysgol o gategori arall eu cymeradwyo neu os yw’r corff llywodraethu wedi penderfynu eu gweithredu, a

(b)os yw’n ofynnol dod i gytundeb o dan baragraff 2(1) o Atodlen 10 i Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (dynodi eiddo, etc.) ar unrhyw fater sy’n ymwneud ag unrhyw dir sydd i’w drosglwyddo.

(4)Nid yw’r weithdrefn i ddod yn ysgol o gategori arall i’w thrin fel un a derfynwyd at ddibenion y paragraff hwn mewn perthynas â‘r tir hwnnw tan y dyddiad y caiff y mater ei benderfynu’n derfynol.

(5)Nid yw gwarediad neu gontract yn annilys neu’n ddi-rym am yr unig reswm iddo gael ei wneud neu yr ymrwymwyd iddo yn groes i’r paragraff hwn ac nid yw person sy’n caffael tir, neu’n ymrwymo i gontract i gaffael tir, oddi wrth awdurdod lleol i ymboeni a ddylid gwneud ymholiadau a gafodd unrhyw gydsyniad sy’n ofynnol gan y paragraff hwn ei roi.

(6)Mae’r paragraff hwn yn cael effaith er gwaethaf unrhyw beth yn adran 123 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (pŵer cyffredinol i waredu tir) neu mewn unrhyw ddeddfiad arall; ac mae’r cydsyniad sy’n ofynnol gan y paragraff hwn yn ychwanegol at unrhyw gydsyniad sy’n ofynnol gan is-adran (2) o’r adran honno neu gan unrhyw ddeddfiad arall.

(7)Yn y paragraff hwn—

(a)mae cyfeiriadau at waredu tir yn cynnwys rhoi neu waredu unrhyw fuddiant yn y tir, a

(b)mae cyfeiriadau at ymrwymo i gontract i waredu tir yn cynnwys rhoi opsiwn i gaffael tir neu fuddiant o’r fath.

37(1)Tra bod y weithdrefn ar gyfer dod yn ysgol o gategori arall heb ei chwblhau mewn perthynas ag ysgol, ni chaiff awdurdod lleol, heb gydsyniad Gweinidogion Cymru, gymryd unrhyw gamau mewn perthynas ag unrhyw dir yr awdurdod sy’n cael ei ddefnyddio neu ei ddal at ddibenion yr ysgol sy’n peri bod y tir i unrhyw raddau yn peidio â chael ei ddefnyddio neu ei ddal felly.

(2)Mae is-baragraff (3) yn gymwys yn achos unrhyw ysgol—

(a)os yw cynigion bod ysgol yn dod yn ysgol o gategori arall yn cael eu cymeradwyo neu os yw’r corff llywodraethu yn penderfynu eu gweithredu, a

(b)os yw awdurdod lleol, mewn perthynas ag unrhyw dir, wedi cymryd camau yn groes i is-baragraff (1).

(3)Mae’r darpariaethau ynghylch trosglwyddo eiddo yn cael effaith fel pe bai’r eiddo, yn union cyn y dyddiad gweithredu, wedi cael ei ddefnyddio neu ei ddal gan yr awdurdod at y dibenion y cafodd ei ddefnyddio neu ei ddal pan ddechreuwyd y weithdrefn o ddod yn ysgol o gategori arall.

(4)Yn y paragraff hwn—

(a)ystyr “y darpariaethau ynghylch trosglwyddo eiddo” yw darpariaethau’r Atodlen hon ac adran 198 of Ddeddf Diwygio Addysg 1988 ac Atodlen 10 iddi, a

(b)mae’r cyfeiriadau at gymryd camau yn cynnwys perchnogi eiddo at unrhyw ddiben.

RHAN 4ATODOL

Llywodraethu ysgol

38(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad â gweithredu cynigion i newid categori ysgol o ran llywodraethu’r ysgol.

(2)Caiff y rheoliadau hynny (ymysg pethau eraill) wneud darpariaeth—

(a)ynghylch adolygu a disodli offeryn llywodraethu’r ysgol,

(b)ynghylch ailgyfansoddi ei chorff llywodraethu,

(c)sy’n cymhwyso, gydag addasiadau neu hebddynt, darpariaeth a wnaed gan neu o dan Bennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Addysg 2002 (llywodraethu ysgolion a gynhelir), a

(d)ynghylch materion trosiannol.

Darpariaethau trosiannol - derbyniadau

39(1)Pan fo ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yn dod yn ysgol wirfoddol a gynorthwyir mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad gweithredu gan yr awdurdod lleol fel awdurdod derbyn o dan unrhyw ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (trefniadau derbyn) yn cael effaith, o’r dyddiad gweithredu ymlaen, fel pe bai wedi ei wneud gan y corff llywodraethu.

(2)Pan fo ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir yn dod yn ysgol gymunedol neu’n ysgol wirfoddol a reolir mae unrhyw beth a wnaed cyn y dyddiad gweithredu gan y corff llywodraethu fel awdurdod derbyn o dan unrhyw ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 yn cael effaith, o’r dyddiad gweithredu ymlaen, fel pe bai wedi ei wneud gan yr awdurdod lleol.

(Cyflwynwyd gan adran 99)

ATODLEN 5MÂN DDIWYGIADAU A DIWYGIADAU CANLYNIADOL

RHAN 1DIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 2 (SAFONAU)

Deddf Diwygio Addysg 1988

1(1)Mae adran 219 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988 (pwerau Gweinidogion Cymru a’r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â sefydliadau addysgol penodol) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn is-adran (3) ar ôl “institution” mewnosoder “in England”.

(3)Ar ôl is-adran (3) mewnosoder—

(3A)Chapter 1 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (“the 2013 Act”) (intervention in conduct of maintained schools) has effect in relation to an institution in Wales to which this section applies as if—

(a)a reference to the governing body of a maintained school included a reference to the governing body of an institution to which this section applies;

(b)the only relevant grounds for intervention were grounds 5 and 6 in section 2 of the 2013 Act; and

(c)sections 3 to 9 and 12 to 16 of the 2013 Act did not apply.

Deddf Addysg 1996

2(1)Mae Deddf Addysg 1996 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 409(4) (cwynion a gorfodi: ysgolion a gynhelir yng Nghymru) yn lle’r geiriau o “section 496” i “duties)” rhodder “Chapter 1 or 2 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (intervention in conduct of maintained schools and local authorities)”.

(3)Yn adran 484(7) (grantiau safonau addysg) yn lle “sections 495 to 497” rhodder “section 495 or in Chapter 2 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

(4)Yn adran 496(2) (y pŵer i atal arfer afresymol o swyddogaethau)—

(a)ym mharagraff (a), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”;

(b)ym mharagraff (b), ar ôl “school” ym mhob man yr ymddengys mewnosoder “in England”.

(5)Yn adran 497(2) (pwerau diofyn cyffredinol am fethu â chyflawni dyletswydd)—

(a)ym mharagraff (a), ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”;

(b)ym mharagraff (b), ar ôl “school” ym mhob man yr ymddengys mewnosoder “in England”.

(6)Yn adran 497A(1) (y pŵer i sicrhau cyflawni swyddogaethau’n briodol) yn lle “a local authority’s education functions” rhodder “the education functions of a local authority in England”.

(7)Yn adran 560(6) (profiad gwaith ym mlwyddyn olaf addysg orfodol mewn ysgol) ar ôl “or 496” mewnosoder “or Chapter 2 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

(8)Ym mharagraff 6(4) o Atodlen 1 (unedau cyfeirio disgyblion) yn lle’r geiriau o “section 496” i “powers)” rhodder “Chapter 2 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (intervention in local authorities)”.

Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998

3Yn adran 19 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (gofyniad i ddilyn cyfnod ymsefydlu) yn lle is-adran (12) rhodder—

(12)Chapter 1 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (“the 2013 Act”) (intervention in conduct of maintained schools) has effect in relation to duties imposed and powers conferred by virtue of this section as if—

(a)references to functions under the Education Acts included duties imposed and powers conferred by virtue of this section;

(b)references to the governing body of a maintained school included—

(i)the governing body of a special school not maintained by a local authority,

(ii)the governing body (within the meaning given by section 90(1) of the Further and Higher Education Act 1992) of a further education institution, and

(iii)an appropriate body for the purposes of subsection (2);

(c)the only relevant grounds for intervention were grounds 5 and 6 in section 2 of the 2013 Act; and

(d)sections 3 to 9 and 12 to 16 of that Act did not apply.

(13)Chapter 2 of Part 2 of the 2013 Act (intervention in local authorities) has effect in relation to duties imposed and powers conferred by virtue of this section as if references to education functions included duties imposed and powers conferred on a local authority by virtue of this section.

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998

4(1)Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Mae Pennod 4 o Ran 1 (ymyrryd mewn ysgolion yng Nghymru sy’n peri pryder) wedi ei diddymu.

(3)Yn adran 51A (gwariant a wnaed at ddibenion cymunedol)—

(a)hepgorer “section 17 or”;

(b)ar ôl “15” mewnosoder “or section 8 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

(4)Yn adran 62 (pŵer wrth gefn i atal methiant mewn disgyblaeth)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”;

(ii)hepgorer “or (3)”;

(b)hepgorer is-adran (3).

(5)Yn adran 89C(2) (darpariaeth bellach ynghylch cynlluniau i gydgysylltu trefniadau derbyn) yn lle “, sections 496” i’r diwedd rhodder—

(a)Chapter 1 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (“the 2013 Act”) (intervention in conduct of maintained schools) is to apply as if any obligations imposed on a governing body under the scheme were duties imposed by the Education Acts.

(b)Chapter 2 of Part 2 of the 2013 Act (intervention in local authorities) is to apply as if any obligation imposed on a local authority were an education function.

(6)Yn adran 142(4)(b) (dehongli cyffredinol) hepgorer “of section 16(6) or (8)”.

(7)Yn adran 143 (mynegai) yn y cofnod ar gyfer “maintained school”, hepgorer y cofnod sy’n dechrau “(in Chapter 4 of Part 1)”.

(8)Hepgorer Atodlen 1A (cyrff llywodraethu a ffurfiwyd o aelodau gweithrediaeth interim).

(9)Yn Atodlen 22 (gwaredu tir), ym mharagraff 5(1)(b)(i) yn lle “section 19(1)” rhodder “section 16 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

Deddf Llywodraeth Leol 2000

5(1)Mae Atodlen 1 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (trefniadau gweithrediaeth yng Nghymru) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn lle paragraff 10 rhodder—

10Chapter 2 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (intervention in local authorities) applies to the performance of any duty imposed on a local authority by virtue of paragraph 8 or 9 as it applies to the performance by a local authority of a duty that is an education function but as if—

(a)the only relevant grounds for intervention were grounds 1 and 2 in section 21 of that Act; and

(b)sections 24 to 27 of that Act did not apply.

(3)Ym mharagraff 11A yn lle “9” rhodder “10”.

Deddf Addysg 2002

6(1)Mae Deddf Addysg 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 34(7) (trefniadau ar gyfer llywodraethu ysgolion newydd) ar ôl “State)” mewnosoder “and Chapter 1 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (intervention in conduct of maintained schools in Wales)”.

(3)Yn adran 35(7) (staffio ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir)—

(a)hepgorer “section 17 of, or”;

(b)ar ôl “2006” mewnosoder “, or section 8 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

(4)Yn adran 36(7) (staffio ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion arbennig sefydledig)—

(a)hepgorer “section 17 of, or”;

(b)ar ôl “2006” mewnosoder “, or section 8 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

(5)Yn adran 37(11) (taliadau mewn cysylltiad â diswyddo, etc)—

(a)hepgorer “section 17 of, or”;

(b)ar ôl “1998 (c 31)” mewnosoder “or section 8 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

(6)Hepgorer adrannau 55 i 59 ac adran 63 (pwerau ymyrryd).

(7)Yn adran 64 (darpariaethau sy’n atodol i bwerau i’w gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol gael gwasanaethau cynghori)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)hepgorer “or 63”,

(ii)hepgorer “or the National Assembly for Wales”,

(iii)hepgorer “or it”,

(iv)hepgorer “or the Assembly” (yn y ddau le);

(b)yn is-adran (2) hepgorer “or 63”;

(c)yn is-adran (7) hepgorer “or 63” ac “or 63(2)”.

(8)Hepgorer Atodlenni 5 a 6 (diwygiadau mewn perthynas ag ysgolion sy’n peri pryder a chyrff llywodraethu a ffurfiwyd o aelodau gweithrediaeth interim).

(9)Yn Atodlen 21 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraffau 92 i 94 a 103.

(10)Gweler hefyd y diwygiad a wnaed gan baragraff 21(11) o’r Atodlen hon i baragraff 5(2) (b)(iii) o Atodlen 1 (sy’n rhannol o ganlyniad i Ran 2 o’r Ddeddf hon).

Deddf Plant 2004

7(1)Mae Deddf Plant 2004 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 50 (ymyrryd)—

(a)yn is-adran (1) ar ôl “local authority” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (2)(c) hepgorer “or under sections 25, 26 and 29 above (in the case of a local authority in Wales)”;

(c)yn y pennawd ar ôl “Intervention” mewnosoder “-England”.

(3)Ar ôl adran 50 mewnosoder—

50AIntervention – Wales

(1)Chapter 2 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (intervention in local authorities) applies in relation to the functions of a local authority in Wales which are specified in subsection (2) as it applies in relation to a local authority’s education functions but as if the only relevant ground for intervention were ground 3 in section 21 of that Act.

(2)The functions of a local authority are—

(a)functions conferred on or exercisable by the authority which are social services functions, so far as those functions relate to children;

(b)the functions conferred on the authority under sections 23C to 24D of the Children Act 1989 (so far as not falling within paragraph (a)); and

(c)the functions conferred on the authority under sections 25, 26 and 29 above.

(3)In the application of Chapter 2 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 by virtue of this section, section 27 of that Act (power to direct exercise of other education functions) has effect as if the reference to education functions included (for all purposes) the functions of the local authority which are specified in subsection (2).

(4)In this section—

Deddf Addysg 2005

8(1)Mae Deddf Addysg 2005 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 45 (y pŵer i gyfarwyddo bod ysgol yn cael ei chau).

(3)Yn adran 114(8) (cyflenwi gwybodaeth am weithlu ysgol)—

(a)hepgorer “and” ar ddiwedd paragraff (a);

(b)ym mharagraff (b) ar y dechrau mewnosoder “in relation to England,”;

(c)ar ôl paragraff (b) mewnosoder— and

(c)in relation to Wales, provide that Chapter 2 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (intervention in local authorities) is to have effect as if—

(i)references to a local authority included a reference to a prescribed person,

(ii)duties imposed by virtue of this section were education functions,

(iii)the only relevant ground for intervention were ground 1 in section 21, and

(iv)sections 24 to 27 did not apply.

(4)Yn Atodlen 9 (diwygiadau mewn perthynas ag arolygu ysgol) hepgorer paragraffau 14 i 20.

(5)Gweler hefyd y diwygiad a wnaed gan baragraff 22(2)(b) o’r Atodlen hon i adran 28(4)(c) o Ddeddf Addysg 2005 (sy’n rhannol o ganlyniad i Ran 2 o’r Ddeddf hon).

Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006

9(1)Mae Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 7 (diwygiadau mewn perthynas ag ysgolion sy’n peri pryder) hepgorer paragraffau 3 i 14, 16, 17, 18, 19(b), a 21.

(3)Yn Atodlen 17 (diwygiadau amrywiol) hepgorer paragraffau 1, 2 a 6.

Deddf Gofal Plant 2006

10Yn lle adran 29 o Ddeddf Gofal Plant 2006 (pwerau Gweinidogion Cymru i sicrhau cyflawniad priodol etc) rhodder—

29Powers of intervention of Welsh Ministers

(1)Chapter 2 of Part 2 the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (intervention in local authorities) applies in relation to a Welsh local authority and the powers conferred or the duties imposed on it by, under or for the purposes of this Part as it applies in relation to the education functions (as defined by section 579(1) of the Education Act 1996) of such an authority.

(2)In the application of Chapter 2 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 by virtue of this section, section 27 of that Act (power to direct exercise of other education functions) has effect as if the reference to education functions included (for all purposes) functions of a Welsh local authority under this Part.

Deddf Cydraddoldeb 2010

11(1)Mae adran 87 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 (cymhwyso pwerau penodol o dan Ddeddf Addysg 1996) wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ar y dechrau mewnosoder—

(A1)Subsections (1) and (2) do not apply in the case of a school in Wales.

(3)Ar ôl is-adran (2) mewnosoder—

(3)In the case of a school in Wales—

(a)Chapter 1 of Part 2 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (“the 2013 Act”) (intervention in conduct of maintained schools) applies to the performance of a duty under section 85, but as if—

(i)the only relevant grounds for intervention were grounds 5 and 6 in section 2 of that Act, and

(ii)sections 3 to 9 and 12 to 16 of that Act did not apply;

(b)Chapter 2 of Part 2 of the 2013 Act (intervention in local authorities) applies to the performance of a duty under section 85, but as if—

(i)the only relevant grounds for intervention were grounds 1 and 2 in section 21 of that Act, and

(ii)sections 24 to 27 of that Act did not apply.

(4)But neither of Chapters 1 and 2 of Part 2 of the 2013 Act applies to the performance of a duty under section 85 by the proprietor of an independent educational institution (other than a special school).

Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009

12Yn Neddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009 hepgorer adran 205 ac Atodlen 14 (pwerau mewn perthynas ag ysgolion sy’n peri pryder).

Mesur Addysg (Cymru) 2011

13(1)Mae Mesur Addysg (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 16 (ffedereiddio ysgolion sy’n peri pryder drwy gyfarwyddyd gan Weinidogion Cymru).

(3)Yn adran 18(1) (ffederasiynau: darpariaethau atodol)—

(a)yn lle paragraff (a) rhodder—

(a)Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (ymyrryd ym materion rhedeg ysgolion a gynhelir), neu;

(b)ym mharagraff (b) yn lle “o’r Ddeddf honno” rhodder “o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998”.

RHAN 2DIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 3 (TREFNIADAETH YSGOL)

Deddf Diwygio Addysg 1988

14(1)Mae Deddf Diwygio Addysg 1988 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 198(1) (trosglwyddo o dan Rannau 1 a 2) ar ôl paragraff (c) mewnosoder— or

(d)Part 3 of Schedule 4 to the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013;.

Mesur Byrddau Addysg Esgobaethol 1991

15(1)Mae Mesur Byrddau Addysg Esgobaethol 1991 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 3 (gweithrediadau pan fo cyngor neu gydsyniad y Bwrdd yn ofynnol)—

(a)hepgorer is-adran (1)(a)(ii), (b)(ii) a (d);

(b)yn is-adran (1)(c) yn lle “1998 Act” rhodder “School Standards and Framework Act 1998 (“the 1998 Act”)”.

(3)Yn adran 7 (pwerau’r Bwrdd i roi cyfarwyddiadau i gyrff llywodraethu ysgolion eglwysig gwirfoddol a gynorthwyir)—

(a)yn is-adran (1)—

(i)hepgorer paragraffau (a)(ii), (b)(ii) ac (c);

(ii)ym mharagraff (b)(i) yn lle “1998 Act” rhodder “School Standards and Framework Act 1998”;

(b)yn is-adran (1A) hepgorer “or paragraph 2 or 3 of Schedule 8 to the 1998 Act”;

(c)yn is-adran (3)—

(i)ym mharagraff (a) hepgorer “or section 28(2)(b) of the 1998 Act”;

(ii)hepgorer paragraff (b);

(iii)yn y geiriau ar ôl paragraff (b) hepgorer “the 1998 Act and”.

Deddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992

16(1)Mae Deddf Addysg Bellach ac Addysg Uwch 1992 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 58 (ad-drefnu ysgolion sy’n ymwneud â sefydlu corfforaeth addysg bellach)—

(a)yn is-adran (3), yn lle paragraff (b) rhodder—

(b)a relevant alteration has been made to the school,;

(b)hepgorer is-adran (4);

(c)ar y diwedd mewnosoder—

(5)In subsection (3)(b) “relevant alteration” means—

(a)in the case of a school in England, a prescribed alteration within the meaning of section 18 of the Education and Inspections Act 2006, and

(b)in the case of a school in Wales, a regulated alteration within the meaning of Chapter 2 of Part 3 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013.

Deddf Addysg 1996

17(1)Mae Deddf Addysg 1996 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 5(3A)(b) (ysgolion cynradd, ysgolion uwchradd ac ysgolion canol)—

(a)mae’r geiriau ar ôl “Wales,” yn mynd yn is-baragraff (i);

(b)ar ôl “1998” mewnosoder— , and

(ii)section 48, 59 or 68 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013.

(3)Yn adran 394 (penderfynu achosion pan nad yw’r gofyniad ar gyfer addoli cynulleidfaol Cristnogol i fod yn gymwys), hepgorer is-adran (9)(b).

(4)Yn adran 409(2) (cwynion a gorfodi: ysgolion a gynhelir yng Nghymru), hepgorer “or foundation special“.

(5)Yn adran 529(2) (y pŵer i dderbyn rhoddion ar ymddiried at ddibenion addysgol)—

(a)yn lle “28 and 31 of the School Standards and Framework Act 1998” rhodder “41 and 44 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”;

(b)yn lle’r geiriau o “(so that” i “in Wales)” rhodder “and sections 48 to 55 of, and Schedule 3 to, that Act (school organisation proposals”.

(6)Yn adran 530(3)(b) (prynu tir yn orfodol) o’r geiriau o “paragraph 18” i’r diwedd rhodder “paragraph 9 of Schedule 3 to the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (assistance in respect of maintenance and other obligations relating to voluntary aided schools) including that paragraph as applied by section 76(3) of that Act”.

Deddf Addysg 1997

18(1)Mae Deddf Addysg 1997 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 29 (swyddogaethau Gweinidogion Cymru mewn perthynas â chwricwlwm ac asesu)—

(a)yn is-adran (5) yn y diffiniad o “maintained school”, hepgorer “or foundation”;

(b)yn is-adran (6) hepgorer “or foundation”.

(3)Yn adran 43(2)(c) (darparu addysg gyrfaoedd mewn ysgolion yng Nghymru), hepgorer “or foundation“.

Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998

19(1)Mae Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 20(2A)(b) (categorïau newydd o ysgolion a gynhelir) ar ôl “this Act” mewnosoder “or sections 45 to 55 of, and Schedule 4 to, the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

(3)Yn adran 21(6) (mathau o ysgolion sefydledig ac ysgolion gwirfoddol a mathau o sefydliadau)—

(a)ym mharagraff (a)—

(i)hepgorer “in accordance with Schedule 8 or”, a

(ii)ar ôl “Act 2006” mewnosoder “or in accordance with proposals made under section 45 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”;

(b)ym mharagraff (f)—

(i)yn is-baragraff (i), hepgorer “under paragraph 2 of Schedule 8 or” ac ar ôl “Act 2006” mewnosoder “or under section 48 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”,

(ii)yn is-baragraff (ii) yn lle “that paragraph or that section” rhodder “either of those sections”,

(iii)hepgorer is-baragraff (iii).

(4)Hepgorer adrannau 28 a 29 (cynigion ar gyfer sefydlu, newid a therfynu ysgolion prif ffrwd).

(5)Yn adran 30 (hysbysiad gan gorff llywodraethu am derfynu ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol)—

(a)yn is-adran (1) ar ôl “voluntary school” mewnosoder “in England”;

(b)yn is-adran (3) hepgorer paragraff (b);

(c)yn is-adran (9) hepgorer paragraff (a);

(d)yn y pennawd ar ôl “voluntary school” mewnosoder “in England”.

(6)Hepgorer adrannau 31 i 35 (darpariaethau’n ymwneud ag ysgolion arbennig, rhesymoli lleoedd ysgol a newid categori ysgolion).

(7)Yn adran 49(6) (ysgolion a gynhelir i gael cyllidebau dirprwyedig)—

(a)hepgorer “paragraph 14(2) of Schedule 6, paragraph 3(3) of Schedule 7A to the Learning and Skills Act 2000”,

(b)ar ôl “2002” mewnosoder “section 75(2)(b) of, or paragraph 4 of Schedule 3 to, the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

(8)Yn adran 82(1) (addasu gweithredoedd ymddiriedolaeth), yn lle “or the Academies Act 2010” rhodder “, the Academies Act 2010 or the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

(9)Hepgorer adran 101(3) (dethol a ganiateir: bandio disgyblion).

(10)Yn adran 103(2)(b) (dethol a ganiateir: cyflwyno, amrywio neu roi’r gorau i ddarpariaeth ar gyfer dethol o’r fath) yn lle “prescribed alteration for the purposes of section 28” rhodder “regulated alteration within the meaning of Chapter 2 of Part 3 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

(11)Yn adran 143 (mynegai)—

(a)hepgorer y cofnod sy’n dechrau “alteration”;

(b)hepgorer y cofnod sy’n dechrau “area”;

(c)hepgorer y cofnod sy’n dechrau “discontinuing”;

(d)hepgorer y cofnod sy’n dechrau “promoters”;

(e)hepgorer y cofnod sy’n dechrau “school opening date”.

(12)Yn Atodlen 3 (cyllido ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol ac ysgolion arbennig sefydledig)—

(a)ym mharagraff 2(2)(a)(ii), yn lle’r geiriau o “or promoters” i “proposals)” rhodder “or the person by whom proposals were made is required to provide by virtue of Part 2 of Schedule 3 to the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 (provision of premises and other assistance)”;

(b)ym mharagraff 7—

(i)yn is-baragraff (3)(a) ar ôl “28,” mewnosoder—

(ia)the implementation of proposals made under section 42 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013 to make a regulated alteration to a school,;

(ii)yn is-baragraff (5) yn lle “to the promoters” rhodder—

(a)in relation to England, to the promoters, and

(b)in relation to Wales, to the person who made the proposals under section 41(2) of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013.

(13)Hepgorer Atodlenni 6 i 8 (darpariaethau’n ymwneud â gweithdrefn a gweithredu cynigion statudol, rhesymoli lleoedd ysgol a newid categori ysgolion).

(14)Yn Atodlen 22 (gwaredu tir)—

(a)ym mharagraff 1,—

(i)yn is-baragraff (1) yn lle “, voluntary or foundation special” rhodder “or voluntary”;

(ii)ar ôl is-baragraff (1)(a) mewnosoder—

(aa)any land acquired under paragraph 7 of Schedule 3 to the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013, under that paragraph as applied by section 76(1) of that Act or under Part 3 of Schedule 4 to that Act;;

(b)ym mharagraff 2, ar ôl is-baragraff (1)(a) mewnosoder—

(aa)any land acquired under paragraph 7 or 11 of Schedule 3 to the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013, under either of those paragraphs as applied by section 76(1) or (3) of that Act or under Part 3 of Schedule 4 to that Act;;

(c)ym mharagraff 2A—

(i)yn is-baragraff (1) hepgorer “or foundation special”;

(ii)ar ôl is-baragraff (1)(a) mewnosoder—

(aa)any land acquired under paragraph 7 of Schedule 3 to the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013, under that paragraph as applied by section 76(1) of that Act or under Part 3 of Schedule 4 to that Act;;

(iii)yn is-baragraff (1)(b) ar ôl “(a)” mewnosoder “or (aa)”;

(iv)yn is-baragraff (1)(c) hepgorer “or foundation special”;

(v)yn is-baragraff (2)(a)(ii) ar ôl “(a)” mewnosoder “or (aa)”;

(vi)yn is-baragraff (2)(b) ar ôl “(a)” mewnosoder “or (aa)”;

(vii)yn is-baragraff (6) hepgorer “or foundation special school”;

(viii)yn y pennawd hepgorer “or foundation special school”;

(d)ym mharagraff 3—

(i)yn is-baragraff (1) yn lle “, voluntary or foundation special” rhodder “or voluntary”;

(ii)ar ôl is-baragraff (1)(a) mewnosoder—

(aa)any land acquired under paragraph 7 or 11 of Schedule 3 to the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013, under those paragraphs as applied by section 76(1) or (3) of that Act or under Part 3 of Schedule 4 to that Act;;

(iii)yn is-baragraff (3) ar ôl “(a)” mewnosoder “or (aa),”;

(iv)yn is-baragraff (4)(c)(ii) ar ôl “this Act” mewnosoder “or under paragraph 7(6) of Schedule 3 to the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”;

(v)yn is-baragraff (8)(b)(i) yn lle “, voluntary or foundation special” rhodder “or voluntary”;

(vi)yn is-baragraff (8)(b)(ii) yn lle “foundation, voluntary or foundation special” rhodder “voluntary”;

(vii)yn is-baragraff (12) yn lle “, voluntary or foundation special” rhodder “or voluntary“;

(viii)yn y pennawd yn lle “, voluntary or foundation special” rhodder “or voluntary”;

(e)ym mharagraff 4(1)(a)(i) yn lle “, voluntary or foundation special” rhodder “or voluntary”;

(f)ym mharagraff 5—

(i)yn is-baragraff (1)(b)(i) yn lle “, voluntary or foundation special” rhodder “or voluntary”;

(ii)hepgorer is-baragraff (1)(b)(ii);

(iii)yn is-baragraff (4)(c) ar ôl “alteration” mewnosoder “or regulated alteration”;

(iv)yn is-baragraff (4A) hepgorer “or foundation special” ac ar ôl “(a),” mewnosoder “(aa),”;

(v)yn is-baragraff (4B)(b)(ii) hepgorer “or foundation special”;

(vi)yn is-baragraff (4B)(d) ar ôl “alteration” mewnosoder “or regulated alteration”;

(vii)yn is-baragraff (6)(a) ar ôl “2A(1)(a),” mewnosoder “(aa),”;

(g)ym mharagraff 6—

(i)yn is-baragraff (1) ar ôl “section 30(1)” mewnosoder “or section 80 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”;

(ii)yn is-baragraff (2)(a) ar ôl “section 30(2)” mewnosoder “or section 80(2) of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”;

(h)ym mharagraff 8—

(i)yn is-baragraff (1) ar ôl “section 30(10)” mewnosoder “or section 80(11) of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”;

(ii)yn is-baragraff (2) ar ôl “section 30(2)(a) to (d)” mewnosoder “or section 80(2) of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”;

(i)ym mharagraff 10 ar ôl is-baragraff (1)(e) mewnosoder—

(f)“regulated alteration” has the same meaning as in Chapter 2 of Part 3 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013.

Deddf Dysgu a Sgiliau 2000

20(1)Mae Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 33P(3)(b)(i) (cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i fyfyrwyr sy’n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig neu fyfyrwyr a chanddynt anawsterau dysgu) hepgorer “or foundation”.

(3)Ar ôl adran 83(9) (arolygiadau ardal) mewnosoder—

(9A)For provision on reporting on sixth forms found to be causing concern in an area inspection, see sections 44C and 44E of the Education Act 2005.

(4)Hepgorer adrannau 113 a 113A.

(5)Yn adran 126(3)(b) (sefydliadau addysgol: gwybodaeth a mynediad) hepgorer “or foundation“.

(6)Hepgorer y darpariaethau a ganlyn—

(a)Atodlenni 7 a 7A;

(b)paragraffau 84, 89 a 90 o Atodlen 9.

Deddf Addysg 2002

21(1)Mae Deddf Addysg 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 19(2)(e) (cyrff llywodraethu) hepgorer “, a foundation special school”.

(3)Hepgorer adran 72 (ailstrwythuro addysg chweched dosbarth).

(4)Yn adran 97 (dehongli Rhan 7)—

(a)ym mharagraff (b) yn y diffiniad o “maintained school” hepgorer “or foundation”;

(b)yn y diffiniad o “maintained secondary school” hepgorer “or foundation”.

(5)Yn adran 111(4) (gwaith datblygu ac arbrofion) yn lle “, voluntary aided or foundation special” rhodder “or voluntary aided”.

(6)Yn adran 116N(3)(b) (cymhwyso darpariaethau cwricwlwm lleol i blant sy’n ddisgyblion cofrestredig mewn ysgolion arbennig) hepgorer “or foundation”.

(7)Yn adran 129(6)(b) (trosglwyddo cyflogaeth) ar ôl “1998” mewnosoder “or Part 3 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”.

(8)Yn adran 153(4) (pwerau awdurdod lleol mewn cysylltiad ag addysg feithrin a ariennir) yn y diffiniad o “maintained school“ hepgorer “or foundation”.

(9)Hepgorer adran 154 (sefydlu neu newid ysgolion meithrin a gynhelir).

(10)Hepgorer adrannau 191 i 193 (darpariaeth ranbarthol ar gyfer anghenion addysgol arbennig).

(11)Ym mharagraff 5(2)(b) o Atodlen 1 (ymgorfforiad a phwerau corff llywodraethu) yn lle paragraffau (i) i (iii) rhodder—

(i)the date on which proposals for discontinuing the school are implemented under Part 3 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013,

(ii)the date on which the school is discontinued under section 80 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013, or

(iii)the date specified in a direction given under section 16(2) or 81(1) of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013.

(12)Hepgorer Atodlenni 9 a 10 (cynigion sy’n ymwneud â chweched dosbarth a sefydlu ysgolion).

(13)Yn Atodlen 21 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraffau 98, 115, 116 a 126.

Deddf Addysg 2005

22(1)Mae Deddf Addysg 2005 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 28 (dyletswydd i drefnu arolygiadau rheolaidd ar ysgolion penodol)—

(a)yn is-adran (2)(b) hepgorer “and foundation”,

(b)yn is-adran (4)—

(i)ym mharagraff (a) hepgorer “or foundation”;

(ii)ym mharagraff (b) yn lle “section 30 of the School Standards and Framework Act 1998 (c31)” rhodder “section 80 of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”;

(iii)ym mharagraff (c) hepgorer “or foundation” ac yn lle “section 19 or 32 of that Act” rhodder “section 16(2) or 81(1) of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”;

(iv)ym mharagraff (d) hepgorer “or foundation”.

(3)Yn adran 31(1) (dehongli Pennod 3) yn y diffiniad o “maintained school” hepgorer “or foundation”.

(4)Yn adran 41(3) (cyrchfan adroddiadau: ysgolion nas cynhelir) hepgorer “or foundation”.

(5)Yn adran 42(4) (datganiad i’w lunio gan berchennog ysgol) hepgorer “or foundation”.

(6)Yn adran 43 (dehongli Pennod 4) yn y diffiniad o “maintained school” hepgorer “or foundation”.

(7)Hepgorer y darpariaethau a ganlyn—

(a)adran 46 (chweched dosbarth lle y mae gwelliant arwyddocaol yn ofynnol);

(b)adrannau 68, 69, 70, 71 (trefniadaeth ysgol).

(8)Ym mharagraff 1 o Atodlen 4 (arolygiadau ysgol yng Nghymru o dan adran 28) yn y diffiniad o “appropriate authority” hepgorer “or foundation”.

(9)Hepgorer y darpariaethau a ganlyn—

(a)Atodlen 5 (chweched dosbarth lle y mae gwelliant arwyddocaol yn ofynnol);

(b)paragraffau 7, 8, 13 a 14 o Atodlen 12 (diwygiadau’n ymwneud â threfniadaeth ysgol).

Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006

23(1)Mae Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 54(1)(e) (bandio disgyblion).

(3)Yn Atodlen 3 (diwygiadau’n ymwneud â threfniadaeth ysgol) hepgorer paragraffau 14(b) (ii), 18, 20, 22 i 26, 33 i 36, 46 a 50.

(4)Yn Atodlen 14 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraffau 61 a 66.

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006

24(1)Mae Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 5(1)(a) a (b) o Atodlen 1 (darpariaeth bellach am Weinidogion Cymru a gwasanaethau o dan y Ddeddf hon) yn lle “, voluntary or foundation special” rhodder “or voluntary”.

Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008

25(1)Mae Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 24(1) (dehongli cyffredinol) yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” hepgorer “neu ysgol arbennig sefydledig“.

Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009

26(1)Mae Mesur Dysgu a Sgiliau (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 44 (llwybrau dysgu: dehongli) yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” hepgorer “neu ysgol arbennig sefydledig”.

Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009

27(1)Mae Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 11 (dehongli) yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” hepgorer “neu sefydledig“.

Deddf Cydraddoldeb 2010

28(1)Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 4 o Atodlen 11 (ysgolion un rhyw yn troi i fod yn ysgolion cydaddysgol) —

(a)yn is-baragraff (2) yn lle’r geiriau o “paragraph 22” i “1998” rhodder “section 82 of, or Part 3 of Schedule 3 to, the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013”;

(b)hepgorer is-baragraff (5).

Mesur Addysg (Cymru) 2011

29(1)Mae Mesur Addysg (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Yn adran 8 (dehongli Rhan 1) yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” hepgorer “neu ysgol arbennig sefydledig”.

(3)Yn adran 13(b) (corff llywodraethu sengl ar gyfer ffederasiynau) yn lle’r geiriau o “ym Mhennod 2” i’r diwedd rhodder “yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 (trefniadaeth ysgolion) neu yn Rhan 3 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (derbyniadau i ysgolion)”.

(4)Hepgorer adran 20 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i Ddeddf Addysg 2005).

(5)Yn adran 21(1) (dehongli Pennod 1) yn y diffiniad o “ysgol a gynhelir” hepgorer “neu ysgol sefydledig arbennig”.

(6)Hepgorer adrannau 26 i 30 (ysgolion sefydledig).

Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011

30(1)Mae Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.

(2)Ym mharagraff 2 o Atodlen 6 yn y diffiniad o “corff llywodraethu ysgolion” hepgorer “neu ysgol arbennig sefydledig”.

RHAN 3DIWYGIADAU SY’N YMWNEUD Â RHAN 5 (DYLETSWYDDAU AMRYWIOL YSGOLION)

Deddf Addysg 1996 a gorchmynion a wneir odani

31(1)Yn adran 512A(6) o Ddeddf Addysg 1996 (trosglwyddo swyddogaethau o dan adran 512 i gyrff llywodraethu), hepgorer o “and such” i’r diwedd.

(2)Yng Ngorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau Ynghylch Ciniawau Ysgol) (Cymru) 1999 (OS 1999/610), hepgorer erthygl 4.

(3)Yng Ngorchymyn Addysg (Trosglwyddo Swyddogaethau Ynghylch Ciniawau Ysgol) (Cymru) (Rhif 2) 1999 (OS 1999/1779), hepgorer erthygl 4.

Deddf Addysg 2002

32Yn Atodlen 21 i Ddeddf Addysg 2002 (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol) hepgorer paragraff 110.

Deddf Addysg 2005

33Yn adran 103 o o Ddeddf Addysg 2005 (cyfarfodydd blynyddol rhieni) hepgorer is-adran (2) a (3)(a)(ii).

Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006

34(1)Mae Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Hepgorer adran 58 (cod ymarfer o ran y berthynas rhwng awdurdodau lleol ac ysgolion a gynhelir).

(3)Yn adran 87 (y pŵer i godi tâl am ddarparu prydau bwyd)—

(a)yn is-adran (1), hepgorer paragraff (b);

(b)yn is-adran (2), hepgorer paragraff (b).

Mesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009

35Yn adran 8(2)(b) o Fesur Bwyta’n Iach mewn Ysgolion (Cymru) 2009 (sy’n darparu i isadran (4A) newydd gael ei mewnosod yn adran 512 o Ddeddf Addysg 1996), yn lle “7(5)” rhodder “4”.

Deddf Addysg 2011

36Yn adran 35 o Ddeddf Addysg 2011 (dyletswyddau mewn perthynas â phrydau bwyd)—

(a)yn is-adran (2) hepgorer paragraff (b);

(b)yn is-adran (3) hepgorer paragraff (b).