Y weithdrefn ar gyfer is-ddeddfau

8Materion ffurfiol, cychwyn a chyhoeddi is-ddeddfau

(1)

Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad.

(2)

Ond nid yw’r adran hon yn gymwys i’r graddau bod y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud is-ddeddf yn gwneud darpariaeth wahanol mewn perthynas ag un neu ragor o’r canlynol –

(a)

llofnodi’r is-ddeddf neu roi sêl arni;

(b)

cyhoeddi’r is-ddeddf;

(c)

trefnu bod copïau o’r is-ddeddf ar gael.

(3)

Rhaid i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu gael eu gwneud o dan sêl gyffredin yr awdurdod, neu, yn achos is-ddeddfau a wneir gan gyngor cymuned nad oes sêl ganddo, wedi’i lofnodi gan ddau aelod o’r cyngor.

(4)

Mae is-ddeddfau yn dod yn effeithiol ar y dyddiad a bennir gan yr awdurdod deddfu, neu, os oes angen eu cadarnhau, y dyddiad a bennir gan yr awdurdod cadarnhau. Os na phennir dyddiad, maent yn dod yn effeithiol ar ddiwedd un mis ar ôl y dyddiad y’u gwnaed (neu’r dyddiad y’u cadarnhawyd, fel y bo’n gymwys).

(5)

Rhaid i’r awdurdod deddfu sy’n gwneud yr is-ddeddf –

(a)

cyhoeddi’r is-ddeddf pan wnaed hi ar wefan yr awdurdod, neu os oes angen iddi gael ei chadarnhau, pan gafodd ei chadarnhau;

(b)

adneuo copi o’r is-ddeddf mewn man yn ardal yr awdurdod;

(c)

sicrhau bod y copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl;

(d)

rhoi copi o’r is-ddeddf i unrhyw berson sy’n gwneud cais amdano, ar yr amod bod y person hwnnw’n talu ffi resymol a godir gan yr awdurdod (os oes un).

(6)

Rhaid i swyddog priodol cyngor bwrdeistref sirol neu gyngor sir yng Nghymru anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol cyngor pob cymuned y mae’r is-ddeddf yn gymwys iddi.

(7)

Yn achos is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod Parc Cenedlaethol, rhaid i swyddog priodol yr awdurdod anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol –

(a)

cyngor pob bwrdeistref sirol neu sir y mae ei ardal yn cynnwys y cyfan neu ran o’r Parc Cenedlaethol;

(b)

cyngor pob cymuned y mae ei ardal yn cynnwys y cyfan neu ran o’r Parc Cenedlaethol.

(8)

Yn achos is-ddeddfau a wnaed gan Gyngor Cefn Gwlad Cymru o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, rhaid i’r Cyngor sicrhau ei fod yn anfon copi o is-ddeddf cyn gynted â’i bod wedi ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol cyn gynted â’i bod wedi ei chadarnhau, at swyddog priodol –

(a)

cyngor pob bwrdeistref sirol neu sir y mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal;

(b)

cyngor pob cymuned y mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w ardal.

(9)

Rhaid i swyddog priodol y cyngor cymuned –

(a)

trefnu bod copi o’r is-ddeddf a anfonwyd at y swyddog yn cael ei adneuo gyda dogfennau cyhoeddus y gymuned;

(b)

sicrhau bod y copi ar gael i’w weld gan y cyhoedd ar bob adeg resymol yn ddi-dâl.

(10)

Yn is-adrannau (6) i (9) y “swyddog priodol” yw’r swyddog a awdurdodwyd yn briodol at y diben hwnnw gan y corff hwnnw.