Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012

5Dirymu gan Weinidogion CymruLL+C

This section has no associated Explanatory Notes

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddirymu unrhyw is-ddeddf a wnaed gan awdurdod deddfu y maent wedi penderfynu ei bod yn anarferedig.

(2)Cyn gwneud gorchymyn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned) y maent o’r farn ei bod yn debygol y bydd ganddo ddiddordeb yn nirymiad yr is-ddeddf neu a effeithir gan y dirymiad.

(3)Caiff gorchymyn wneud darpariaeth wahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol, gan gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer broydd gwahanol ac ar gyfer awdurdodau gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I2A. 5 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(e)