Amrywiol a chyffredinol
22Cychwyn
(1)
Daw’r darpariaethau canlynol i rym drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon Gydsyniad Brenhinol –
(a)
adran 18(1);
(b)
adran 21;
(c)
yr adran hon;
(d)
adran 23.
(2)
Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddyddiad a bennir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.
(3)
Caiff gorchymyn o dan is-adran (2) –
(a)
penodi diwrnodau gwahanol at ddibenion gwahanol;
(b)
cynnwys darpariaeth drosiannol, darpariaeth arbed neu ddarpariaeth ddarfodol.