Amrywiol a chyffredinol

19Tystiolaeth o is-ddeddfau

(1)

Mae dangos copi ardystiedig o is-ddeddf sy’n honni iddi gael ei gwneud gan awdurdod deddfu, nes profir i’r gwrthwyneb, yn dystiolaeth ddigonol o’r ffeithiau a ddatgenir yn y dystysgrif.

(2)

At ddibenion yr adran hon, copi ardystiedig o is-ddeddf yw copi wedi ei argraffu o’r is-ddeddf a arnodwyd ynghyd â thystysgrif sy’n honni iddi gael ei llofnodi gan swyddog priodol awdurdod deddfu sy’n datgan –

(a)

bod yr is-ddeddf wedi cael ei gwneud gan yr awdurdod;

(b)

bod y copi yn gopi gwir o’r is-ddeddf;

(c)

bod yr is-ddeddf wedi ei chadarnhau ar ddiwrnod penodedig gan yr awdurdod a enwir yn y dystysgrif neu, yn ôl y digwydd, wedi cael ei hanfon at yr awdurdod cadarnhau a heb gael ei gwrthod;

(d)

y dyddiad, os oes un, a bennwyd gan yr awdurdod cadarnhau i’r is-ddeddf ddod yn effeithiol.

(3)

Nid yw’r gofynion ym mharagraffau (c) a (d) o is-adran (2) yn gymwys os nad oedd yr is-ddeddf yn ddarostyngedig i gadarnhad ar ôl iddi gael ei gwneud.