Hysbysiadau cosbau penodedig
15Y defnydd o dderbyniadau am gosbau penodedig
(1)
Rhaid i’r awdurdod roi sylw i’r dymunoldeb o ddefnyddio ei dderbyniadau am gosbau penodedig at ddibenion mynd i’r afael ag unrhyw niwsans y gwnaed isddeddf gan yr awdurdod er mwyn ei atal.
(2)
Ystyr “derbyniadau am gobau penodedig” yw symiau a dalwyd i awdurdod yn unol â hysbysiadau o dan adran 12.