Hysbysiadau cosbau penodedig
13Swm cosb benodedig
(1)
Caiff awdurdod deddfu –
(a)
pennu swm y gosb benodedig sy’n daladwy yn unol â hysbysiad o dan adran 12;
(b)
pennu symiau gwahanol mewn perthynas ag is-ddeddfau gwahanol.
(2)
Os na phennir unrhyw swm felly, swm y gosb benodedig yw £75.
(3)
Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r pwerau o dan is-adran (1).
(4)
Caiff Rheoliadau o dan is-adran (3), yn benodol –
(a)
ei gwneud yn ofynnol bod swm a bennir o dan is-adran (1)(a) yn dod o fewn ystod a ragnodir yn y rheoliadau;
(b)
cyfyngu ar y rhychwant y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan is-adran (1)(b) a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny.
(5)
Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn roi swm arall yn lle’r swm a bennir am y tro yn is-adran (2).