10Tramgwyddau yn erbyn is-ddeddfauLL+C
(1)Caiff is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad ddarparu bod personau sy’n mynd yn groes i’r is-ddeddfau yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy.
(2)Rhaid i’r ddirwy beidio â bod yn uwch na’r canlynol, naill ai –
(a)y swm a bennir gan y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud yr is-ddeddfau, neu
(b)os na phennir y swm felly, lefel 2 ar y raddfa safonol.
(3)Yn achos tramgwydd sy’n parhau, caiff yr is-ddeddfau ddarparu bod y tramgwyddwr yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy bellach.
(4)Rhaid i’r ddirwy bellach beidio â bod yn uwch na’r canlynol, naill ai –
(a)y swm a bennir gan y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud yr is-ddeddfau, neu
(b)os na phennir swm felly, y swm o £5 am bob diwrnod y mae’r tramgwydd yn parhau ar ôl collfarn am y tramgwydd hwnnw.
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)
I2A. 10 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(i)