xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

CyflwyniadLL+C

1TrosolwgLL+C

Mae’r Ddeddf hon –

(a)yn diwygio gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfau yng Nghymru, gan gynnwys tynnu ymaith ofyniad am gadarnhau is-ddeddfau gan Weinidogion Cymru;

(b)yn galluogi i is-ddeddfau penodol gael eu gorfodi drwy hysbysiadau cosbau penodedig;

(c)yn ei gwneud hi’n ofynnol i unrhyw awdurdodau sy’n gwneud is-ddeddfau roi sylw i unrhyw ganllawiau ar weithdrefn a roddir gan Weinidogion Cymru;

(d)yn ailddatgan i Gymru pŵer cyffredinol i wneud is-ddeddfau.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I2A. 1 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(a)