Cyflwyniad
1Trosolwg
Mae’r Ddeddf hon –
(a)
yn diwygio gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfau yng Nghymru, gan gynnwys tynnu ymaith ofyniad am gadarnhau is-ddeddfau gan Weinidogion Cymru;
(b)
yn galluogi i is-ddeddfau penodol gael eu gorfodi drwy hysbysiadau cosbau penodedig;
(c)
yn ei gwneud hi’n ofynnol i unrhyw awdurdodau sy’n gwneud is-ddeddfau roi sylw i unrhyw ganllawiau ar weithdrefn a roddir gan Weinidogion Cymru;
(d)
yn ailddatgan i Gymru pŵer cyffredinol i wneud is-ddeddfau.