Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012

This section has no associated Explanatory Notes

1LL+CMae adran 6 yn gymwys i is-ddeddfau a wnaed –

(a)o dan y deddfiadau a restrir yng ngholofn gyntaf tabl 1,

(b)mewn perthynas â’r pwnc a restrir yn ail golofn tabl 1,

(c)gan y math o awdurdod a restrir yn nhrydedd golofn tabl 1.

TABL 1

Y deddfiad y gwneir is-ddeddfau odanoPwnc yr is-ddeddfauY math o awdurdod sy’n gwneud yr is-ddeddfau
Adran 68 o Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1847Rheoleiddio cerbydau hacnaiCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 164 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1875Rhodfeydd cyhoeddus a thiroedd hamddenCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 6 o Ddeddf Cyfrifoldebau Heddluoedd Trefol 1889Rheoleiddio bysiau a dynnir gan geffylauCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adrannau 12 a 15 o Ddeddf Mannau Agored 1906Mannau agored a mynwentyddCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 82 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907Glan y môrCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 83 o Ddeddf Diwygio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1907PromenadauCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 81 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Atal niwsansau penodolCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 82 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Symud mater neu hylif annymunol drwy strydoeddCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
F1. . .F1. . .F1. . .
Adran 198 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Darparu marwdai ac ystafelloedd post-mortemCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 223 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Rheoleiddio baddonau, ymolchfeydd, pyllau nofio etcCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 231 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Baddonau cyhoeddusCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 233 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936O ran pyllau nofio a baddonau nad ydynt o dan reolaeth awdurdod lleolCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 268 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Atal niwsansau mewn cysylltiad â defnyddio pebyll, faniau etcCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 270 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1936Lletya casglwyr hopys a phersonau a gymerir ymlaen i wneud gwaith tebygCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 75 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961ffeiriau pleser a rhinciau sglefrolioCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 76 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961Cychod neu fadau pleser glan y môrCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 77 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd 1961Trinwyr gwallt a barbwyrCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
[F2Adran 117 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 Rheoleiddio ymddygiad personau mewn toiledauCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned]
Adran 19 o Ddeddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd Cyhoeddus 1964Rheoleiddio ymddygiad personau mewn llyfrgelloedd ac amgueddfeydd a defnyddio’r cyfleusterau hynnyCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
[F3Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg 1973 Ymgymeriadau gwresogiCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol]
Adran 35 o Ddeddf Priffyrdd 1980Rheoleiddio rhodfeyddCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 114 o Ddeddf Priffyrdd 1980Ymddygiad personau sy’n defnyddio neu’n mynd i gyfleusterau cyhoeddus a ddarperir gan awdurdodau priffyrddCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 14 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982AciwbigoCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 15 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982Tatŵio, lliwio croen yn lledbarhaol, tyllu cosmetig ac electrolysisCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 60 o Ddeddf Bwyd 1984Rheoleiddio ac atal niwsansau mewn marchnadoeddCyngor sir, cyngor bwrdeistref sirol a chyngor cymuned
Adran 31 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984Defnyddio ffordd fel lle chwarae i blanCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 57(7) o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984Defnydd o fannau parcioCynghorau cymuned
[F4Adran 41 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985 Canolfannau hamddenCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 42 o Ddeddf Cyngor Sir Clwyd 1985Adeileddau dros droCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol]
Adran 23 o Ddeddf Tai 1985Rheoli, defnyddio a rheoleiddio tai awdurdod lleol, y defnydd o dir a ddarperir mewn cysylltiad â thai ac mewn perthynas â thai llety awdurdod lleolCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
[F5Adran 53 o Ddeddf Cyngor Dinas Abertawe (Morglawdd Tawe) 1986 Yr afon uwchlawCyngor sir (Abertawe)
Adran 31 o Ddeddf Cyngor Sir Morgannwg Ganol 1987Harbwr PorthcawlCyngor bwrdeistref sirol (Pen-y-bont ar Ogwr)
Adran 14 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987Canolfannau hamddenCyngor sir a chyngor bwrdeistref siro
Adran 36 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987Plismona a rheoli ffyrdd i gerddwyrCyngor sir a chyngor bwrdeistref siro
Adran 41 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987Adeileddau dros droCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 63 o Ddeddf Gorllewin Morgannwg 1987Marchnad AbertaweCyngor sir (Abertawe)
Adran 45 o Ddeddf Dyfed 1987Adeileddau dros droCyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol]
Adran 16 o Ddeddf Morglawdd Bae Caerdydd 1993Rheolaeth dda a llywodraeth o faeau mewndirol a harbyrauCyngor Sir (Caerdydd)
Adran 2 o’r Ddeddf honRheolaeth dda a llywodraeth [F6a rhwystro ac atal niwsansau]Cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol
Adran 4(1) o’r Ddeddf hon i’r graddau y mae’n gymwys i is-ddeddfau a wnaed o dan unrhyw un neu ragor o’r deddfiadau a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1.Y pŵer i ddiddymu is-ddeddfauAwdurdod deddfu

Diwygiadau Testunol

Gwybodaeth Cychwyn

I1Atod. 1 para. 1 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I2Atod. 1 para. 1 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(f) (ynghyd ag ergl. 3)