Search Legislation

Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012

Cyflwyniad

1.Mae'r Nodiadau Esboniadol hyn ar gyfer Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012 a basiwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar 3 Gorffennaf 2012 ac a gafodd Gydsyniad Brenhinol ar 29 Tachwedd 2012.  Fe'u lluniwyd gan Adran Llywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Llywodraeth Cymru er mwyn cynorthwyo'r sawl sy'n darllen y Ddeddf.  Dylid darllen y Nodiadau Esboniadol ar y cyd â'r Ddeddf ond nid ydynt yn rhan ohoni.

Sylwebaeth Ar Yr Adrannau

Adran 1 - Trosolwg

2.Adran 1 hon yn rhoi trosolwg ar ddarpariaethau allweddol y Ddeddf a’r hyn y mae’r Ddeddf yn ceisio ei gyflawni. Mae gan y Ddeddf 23 o adrannau a 2 atodlen

Adran 2 - Is-ddeddfau ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth ac atal niwsansau

3.Adran 2 hon yn cydgrynhoi yn y Ddeddf y ddarpariaeth sydd yn adran 235 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (“Deddf 1972”). Mae hyn rhoi'r gallu i gynghorau bwrdeistrefi sirol a chynghorau sir yng Nghymru wneud is-ddeddfau ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth dros eu hardal ac ar gyfer atal a dileu niwsans yn eu hardal. Ni ellir gwneud is-ddeddfau o dan yr adran hon os yw darpariaeth at y diben sydd o dan sylw wedi ei gwneud, neu os gellir ei gwneud, o dan ddeddfiad arall. Er enghraifft, gall is-ddeddfau o dan y pŵer hwn wahardd sglefrfyrddio, gemau pêl neu dowtio mewn rhai mannau  lle y mae’n achosi perygl neu niwsans penodol, neu gallant geisio rheoleiddio’r modd y caniateir i’r gweithgareddau hynny gael eu cyflawni.

Adran 3 – Ystyr "awdurdod deddfu”

4.Adran 3 hon yn diffinio ystyr "awdurdod deddfu" yng Nghymru at ddiben y Ddeddf. Mae'r diffiniad yn cynnwys cynghorau sir, cynghorau bwrdeistrefi sirol, cynghorau cymuned (gan gynnwys cynghorau tref), awdurdodau Parciau Cenedlaethol a Chyngor Cefn Gwlad Cymru, sydd â phŵer i wneud is-ddeddfau.

Adran 4 Dirymu gan awdurdod deddfu

5.Adran 4 hon yn ail-lunio, yn rhannol, adran 236B o Ddeddf 1972. Mae'n rhoi pŵer i awdurdod deddfu wneud is-ddeddf sy'n dirymu is-ddeddf y mae wedi ei gwneud o'r blaen pan nad oes unrhyw bŵer arall i wneud hynny. Bydd hyn yn caniatáu i awdurdodau deddfu ddileu darpariaethau mewn is-ddeddfau sydd bellach yn anarferedig. Bydd awdurdod deddfu yn gallu llunio is-ddeddf newydd yn lle is-ddeddf sydd bellach yn anarferedig (a gaiff ei dirymu ganddo yn unol â’i bwerau o dan adran 4).

6.Os bydd awdurdod deddfu yn gwneud is-ddeddf gan arfer ei bwerau yn unol â’r adran hon, nid oes angen cadarnhau’r is-ddeddf os yw’r deddfiad ar gyfer gwneud yr is-ddeddfau gwreiddiol wedi’i restru yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf. Os lluniwyd yr is-ddeddf wreiddiol o dan ddeddfiad nas rhestrwyd yn Rhan 1 o Atodlen 1, fodd bynnag, yna bydd y weithdrefn yn adran 7 yn berthnasol i ddirymu’r is-ddeddfau, a bydd angen cadarnhad.

Adran 5– Dirymu gan Weinidogion Cymru

7.Adran 5 hon yn ail-lunio, yn rhannol, adran 236B o Ddeddf 1972. Mae'n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn sy'n dirymu is-ddeddf y deuant i’r casgliad ei bod yn anarferedig. Y bwriad y tu ôl i'r ddarpariaeth hon yw na fydd Gweinidogion Cymru yn defnyddio'r pŵer hwn ond pan na fydd yn eglur pa bŵer sydd i ddirymu'r is-ddeddf neu pa awdurdod ddylai ddirymu'r is-ddeddf. Cyn gwneud gorchymyn i ddirymu is-ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw bersonau, gan gynnwys cyngor cymuned, sy’n debygol o fod â buddiant yn nirymiad yr is-ddeddf neu o gael ei heffeithio gan hynny, yn eu tyb hwy. Bydd hyn yn sicrhau bod pob un sydd â buddiant yn y mater hwn yn cael cyfle i ddylanwadu ar benderfyniad Gweinidogion Cymru ynghylch a ddylid dirymu is-ddeddf anarferedig. Yn rhinwedd adran 21, mae gorchymyn o'r fath yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan fod y pŵer i wneud gorchmynion dim ond yn galluogi’r Gweinidogion i ddirymu is-ddeddfau sydd bellach ddim yn berthnasol.

Adran 6 – Is-ddeddfau nad yw cadarnhad yn ofynnol ar eu cyfer

8.Adran 6 hon yn rhagnodi'r weithdrefn amgen i awdurdod deddfu wneud is-ddeddf na fydd yn gofyn am gadarnhad gan Weinidogion Cymru. Mae'r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod perthnasol yn unol ag unrhyw un neu ragor o'r deddfiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Ddeddf.

9.Mae’r adran hon hefyd yn nodi bod darpariaethau adran 6 y Ddeddf yn berthnasol i is-ddeddf a wneir gan awdurdod deddfu i ddiwygio neu ddirymu is-ddeddf sydd eisoes yn bod a wnaed o dan ddeddfiad a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf. O ganlyniad, nid oes angen cadarnhad gan Weinidogion Cymru ar ei chyfer.

10.Mae tri cham yn y weithdrefn:

  • Datganiad ysgrifenedig cychwynnol ac ymgynghoriad â phersonau sydd â buddiant;

  • Cyhoeddi’r penderfyniad a'r is-ddeddfau drafft, fel y bo’n briodol; a

  • Gwneud yr is-ddeddfau a rhoi effaith iddynt.

11.Cyn gwneud is-ddeddfau, rhaid i awdurdod deddfu lunio a chyhoeddi datganiad ysgrifenedig cychwynnol sy'n disgrifio'r mater y mae'r awdurdod deddfu o'r farn y gall gwneud is-ddeddf fynd i'r afael ag ef. Rhaid i'r awdurdod deddfu ymgynghori ag unrhyw bersonau (gan gynnwys cyngor cymuned os yw hynny’n berthnasol) y mae'r awdurdod o'r farn eu bod yn debygol o fod â buddiant yn y mater neu'n cael eu heffeithio ganddo ac, ar ôl ymgynghori â hwy, benderfynu ai gwneud is-ddeddfau yw'r ffordd fwyaf priodol ymlaen. Y bwriad yw y bydd canllawiau yn pwysleisio y dylai awdurdod deddfu gadw meddwl agored am wneud is-ddeddfau fel y ffordd fwyaf priodol ymlaen, cyn yr ymgynghoriad.

12.Yna rhaid i'r awdurdod deddfu gyhoeddi ail ddatganiad ysgrifenedig sy'n cynnwys y datganiad ysgrifenedig cychwynnol, crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, manylion y penderfyniad y daethpwyd iddo wedi i'r ymarfer ymgynghori ddod i ben a'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

13.Pan fo awdurdod deddfu yn penderfynu gwneud is-ddeddfau, rhaid iddo roi hysbysiad o'i fwriad i wneud hynny o leiaf 6 wythnos cyn i'r is-ddeddfau gael eu gwneud mewn un neu ragor o bapurau newydd lleol sy'n cylchredeg yn yr ardal y mae'r is-ddeddfau yn gymwys iddi. Rhaid i'r awdurdod deddfu hefyd gyhoeddi'r hysbysiad hwn drwy ei roi ar wefan yr awdurdod deddfu, os oes gwefan ar gael. Rhaid i'r awdurdod deddfu hefyd, am o leiaf 6 wythnos cyn gwneud is-ddeddfau, gyhoeddi'r is-ddeddfau drafft ar wefan yr awdurdod deddfu, rhoi copi ohonynt ar adnau mewn man yn ardal yr awdurdod deddfu a sicrhau bod copi ohonynt ar gael i'r cyhoedd edrych arno yn ddi-dâl, yn ystod pob awr resymol. Os yw hynny’n berthnasol, rhaid i’r awdurdod deddfu hefyd sicrhau bod copi o’r is-ddeddf yn cael ei anfon at yr holl gynghorau cymuned y cred yr awdurdod deddfu fod yr is-ddeddf yn debygol o effeithio ar eu hardaloedd. Rhaid gwneud yr is-ddeddf cyn pen 6 mis ar ôl y dyddiad pan roddodd yr awdurdod deddfu hysbysiad o'i fwriad i wneud hynny.

14.Mae’n ofynnol i’r awdurdod deddfu gyhoeddi’r datganiad ysgrifenedig cychwynnol, yr ail ddatganiad ysgrifenedig, hysbysiad o fwriad i wneud yr is-ddeddf a’r is-ddeddf ddrafft ar ei wefan (os oes un ganddo).

15.Caiff awdurdod deddfu godi ffi resymol am ddarparu copi o is-ddeddfau drafft i unrhyw berson.

Adran 7 – Is-ddeddfau y mae cadarnhad yn ofynnol ar eu cyfer

16.Adran 7 hon yn disodli ac yn addasu darpariaethau yn adran 236 o Ddeddf 1972. Mae'n ymwneud â'r is-ddeddfau hynny a wneir gan awdurdod deddfu yn unol ag unrhyw ddeddfiad sy'n rhoi pwerau i'r awdurdodau deddfu wneud is-ddeddfau pan na fo darpariaeth benodol o ran y weithdrefn yn cael ei gwneud fel arall. Gweithdrefn adran 236 y manylir arni yn Neddf 1972 yw'r weithdrefn gyffredin i wneud is-ddeddfau y mae cadarnhad yn ofynnol ar eu cyfer.

17.Mae’r adran hon hefyd yn egluro bod darpariaeth adran 7 y Ddeddf yn berthnasol i is-ddeddf i addasu neu ddirymu is-ddeddf bresennol a wneir gan awdurdod deddfu o dan ddeddfiad nad yw wedi ei restru yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf. O ganlyniad, bydd angen cadarnhad Gweinidogion Cymru ar ei chyfer.

18.Mae tri cham yn y weithdrefn:

  • Datganiad ysgrifenedig cychwynnol ac ymgynghori â phersonau sydd â buddiant;

  • Cyhoeddi’r penderfyniad a'r is-ddeddf(au) drafft, fel y bo’n briodol; a

  • Gwneud yr is-ddeddf(au), eu cadarnhau, a rhoi effaith iddynt.

19.Cyn gwneud is-ddeddfau, rhaid i awdurdod deddfu lunio a chyhoeddi datganiad ysgrifenedig cychwynnol sy'n disgrifio'r mater y mae'r awdurdod deddfu yn ystyried y gall gwneud is-ddeddfau fynd i'r afael ag ef. Rhaid i'r awdurdod deddfu ymgynghori ag unrhyw bersonau (gan gynnwys cyngor cymuned os yw hynny’n berthnasol) y mae'r awdurdod o'r farn eu bod yn debygol o fod â buddiant yn y mater neu gael eu heffeithio ganddo ac ar ôl ymgynghori â hwy, benderfynu ai gwneud is-ddeddfau yw'r ffordd fwyaf priodol ymlaen. Y bwriad yw y bydd y canllawiau yn pwysleisio y dylai awdurdod deddfu gadw meddwl agored ynghylch ai gwneud is-ddeddfau yw’r ffordd fwyaf priodol ymlaen, cyn ymgynghori.

20.Yna rhaid i'r awdurdod deddfu gyhoeddi ail ddatganiad ysgrifenedig sy'n cynnwys y datganiad ysgrifenedig cychwynnol, crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad, manylion y penderfyniad y daethpwyd iddo wedi i'r ymarfer ymgynghori ddod i ben a'r rhesymau dros y penderfyniad hwnnw.

21.O leiaf 6 wythnos cyn cyflwyno’r is-ddeddf i’w chadarnhau, rhaid i’r awdurdod deddfu gyhoeddi hysbysiad o’i fwriad i wneud hynny mewn un neu fwy o bapurau newydd lleol sy’n cylchredeg yn yr ardal y mae’r is-ddeddfau yn gymwys iddi. Rhaid i’r awdurdod deddfu hefyd gyhoeddi’r hysbysiad hwn trwy ei roi ar wefan yr awdurdod deddfu, os oes gwefan ar gael.

22.Am o leiaf 6 wythnos cyn cyflwyno’r is-ddeddf i’w chadarnhau rhaid i’r awdurdod deddfu hefyd gyhoeddi’r is-ddeddf arfaethedig ar wefan yr awdurdod deddfu, rhoi copi ar adnau mewn man yn ardal yr awdurdod deddfu a sicrhau bod copi ar gael i'r cyhoedd edrych arno yn ddi-dâl, yn ystod pob awr resymol.

23.Os yw hynny’n berthnasol rhaid i’r awdurdod deddfu hefyd sicrhau bod copi o’r is-ddeddf yn cael ei anfon at bob cyngor cymuned y mae’r is-ddeddf yn debygol o effeithio ar ei ardal, ym marn yr awdurdod deddfu.

24.Rhaid i’r awdurdod deddfu ddarparu copi o’r is-ddeddf i unrhyw berson sy’n gwneud cais am un, yn amodol ar dalu ffi resymol.

25.Caiff yr awdurdod cadarnhau wrthod cadarnhau unrhyw is-ddeddf a gaiff ei chyflwyno i'w chadarnhau. Nid yw is-ddeddfau yn cael effaith hyd oni fyddant wedi eu cadarnhau gan yr awdurdod cadarnhau.

26.Pan na phennir unrhyw awdurdod cadarnhau yn y deddfiad y gwneir yr is-ddeddfau odano mae swyddogaeth gadarnhau Gweinidogion Cymru yn arferadwy ar y cyd â'r Ysgrifennydd Gwladol. Bydd cadw’r swyddogaeth gadarnhau gydredol yn galluogi’r Ysgrifennydd Gwladol i ystyried unrhyw is-ddeddfau a wneir o dan ddeddfwriaeth alluogi sydd eto i’w nodi os cytunir ei bod yn briodol i’r Ysgrifennydd Gwladol perthnasol gadarnhau is-ddeddfau o’r fath.

Adran 8 – Materion ffurfiol, cychwyn a chyhoeddi is-ddeddfau

27.Adran 8 hon yn ail-lunio'r darpariaethau yn adran 236 o Ddeddf 1972 a fydd yn gymwys i is-ddeddfau a wneir yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhau ac is-ddeddfau a wneir yn ddarostyngedig i'r weithdrefn amgen nad yw'n gofyn i Weinidogion Cymru eu cadarnhau. Mae'r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad sy'n rhoi pŵer i'r awdurdod deddfu wneud is-ddeddfau. Dylid nodi na fydd y gweithdrefnau a ddisgrifir yn yr adran hon yn gymwys ond i'r graddau na fydd darpariaeth benodol ynglŷn â’r weithdrefn wedi ei gwneud fel arall.

28.Rhaid i is-ddeddfau gael eu gwneud o dan sêl gyffredin yr awdurdod deddfu, neu drwy lofnod dau aelod o gyngor cymuned nad oes ganddo sêl.

29.Mae is-ddeddfau i ddod yn effeithiol ar y dyddiad a bennir gan yr awdurdod deddfu neu'r awdurdod cadarnhau fel y bo'n briodol i'r weithdrefn y gwneir yr is-ddeddfau odani. Os na phennir dyddiad, bydd is-ddeddfau yn dod yn effeithiol un mis ar ôl iddynt gael eu gwneud (o dan weithdrefn adran 6) neu un mis ar ôl iddynt gael eu cadarnhau (o dan weithdrefn adran 7), fel y bo'n briodol.

30.Rhaid i'r awdurdod deddfu sy'n gwneud yr is-ddeddfau gyhoeddi'r is-ddeddfau ar ei wefan a rhoi copi o'r is-ddeddfau ar adnau mewn man yn ardal yr awdurdod deddfu i'r cyhoedd gael edrych arno. Caiff awdurdod deddfu godi ffi resymol am ddarparu copi o'r is-ddeddfau i unrhyw berson.

31.Rhaid i swyddog priodol awdurdod deddfu anfon copi o'r is-ddeddfau a wnaed gan yr awdurdod deddfu at swyddog priodol cyngor pob cymuned y mae'r is-ddeddfau yn gymwys iddi. Ar gyfer awdurdod Parc Cenedlaethol, rhaid i'r swyddog priodol anfon copi o bob is-ddeddf, ar ôl iddi gael ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol ar ôl iddi gael ei chadarnhau, at swyddog priodol pob bwrdeistref sirol neu sir neu gymuned yng Nghymru y mae ei ardal neu ei hardal yn cynnwys y cyfan neu unrhyw ran o’r Parc Cenedlaethol.

32.Rhaid i swyddog priodol cyngor cymuned roi'r is-ddeddfau ar adnau gyda dogfennau cyhoeddus y gymuned a sicrhau bod copi ar gael i'r cyhoedd edrych arno.

33.Rhaid i Gyngor Cefn Gwlad Cymru sicrhau bod copi o is-ddeddf, wedi iddi gael ei gwneud, neu pan fo’n ofynnol wedi iddi gael ei chadarnhau, yn cael ei anfon at swyddog priodol pob bwrdeistref sirol neu sir y mae’r is-ddeddfau yn gymwys i’w ardal neu i’w hardal ac at swyddog priodol cyngor pob cymuned y mae’r is-ddeddf yn gymwys i’w hardal.

34.Mae'r adran hon yn darparu mai'r swyddog a awdurdodwyd yn briodol gan y corff hwnnw i wasanaethu at y diben hwnnw yw'r "swyddog priodol".

Adran 9 – Y pŵer i ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1

35.Adran 9 hon yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 (is-ddeddfau nad yw cadarnhad yn ofynnol ar eu cyfer) i’r Ddeddf. Wrth wneud unrhyw orchymyn o'r fath caiff Gweinidogion Cymru ddiwygio Rhan 1 o Atodlen 1 drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff wneud is-ddeddfau heb gadarnhad. Yn rhinwedd adran 21(4), mae gorchymyn o'r fath yn ddarostyngedig i benderfyniad cadarnhaol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan y bydd y gorchymyn yn diwygio’r Ddeddf hon a chaiff gynnwys diwygiadau canlyniadol i ddeddfwriaeth sylfaenol arall yn unol â’r pŵer yn adran 21(1).

36.Mae darpariaethau yn adran 21(1) yn caniatáu i Weinidogion Cymru wneud unrhyw ddarpariaethau cysylltiedig, canlyniadol, trosiannol neu atodol ag y gwêl Gweinidogion Cymru yn dda.  Yn achos gorchymyn o dan adran 9, gall hyn gynnwys darpariaeth i ddiwygio, i ddiddymu neu i ddirymu deddfiadau.

Adran 10 – Tramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau

37.Adran 10 hon yn ail-lunio adran 237 o Ddeddf 1972, gan gynnwys yr addasiadau a wnaed o ran y ddirwy daladwy a ddarperir gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 1982. Caiff is-ddeddfau a wneir gan awdurdod perthnasol  ddarparu bod personau sy'n mynd yn groes i'r is-ddeddfau yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy. Ni chaniateir i'r ddirwy honno fod yn uwch na'r swm a bennir gan y deddfiad perthnasol neu, os na phennir swm, lefel 2 ar y raddfa safonol (£500 ar hyn o bryd). Yn yr un modd, y ddirwy ar gollfarn am dramgwydd sy'n parhau yw'r swm a bennir yn y deddfiad perthnasol neu £5 ar gyfer pob diwrnod y mae'r tramgwydd yn parhau.

Adran 11 - Is-ddeddfau adran 2; pwerau ymafael etc

38.Adran 11 hon yn ail-lunio adran 237ZA o Ddeddf 1972, a fewnosodwyd gan adran 150(2) o Ddeddf Diwygio'r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Mae'n galluogi cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol i roi effaith i bwerau ymafael a chadw unrhyw eiddo mewn cysylltiad ag unrhyw doriad o is-ddeddf a wneir o dan adran 2 (rheolaeth dda a llywodraeth a rhwystro ac atal niwsansau) ac, ar gollfarn am ddiffyg cydymffurfiaeth neu fynd yn groes i unrhyw is-ddeddf, darpariaeth am fforffedu unrhyw eiddo o'r fath.

Adran 12 - Y pŵer i gynnig cosbau penodedig am dramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau penodol

39.Adran 12 hon yn galluogi awdurdod deddfu i ddefnyddio cosbau penodedig fel dull amgen o orfodi is-ddeddfau a wnaed o dan y deddfiadau a restrir yn  Rhan 2 o Atodlen 1 i'r Ddeddf.

40.Pan bennir is-ddeddf o fewn Rhan 2 o Atodlen 1 i'r Ddeddf, mae  isadran (2) yn darparu i swyddog a awdurdodwyd gan awdurdod deddfu ddyroddi hysbysiad cosb benodedig sy'n cynnig cyfle i berson fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am dramgwydd yn erbyn is-ddeddfau drwy dalu'r swm a bennir yn yr hysbysiad cosb benodedig. Mae isadran (3) yn gwneud yr un ddarpariaeth i swyddog a awdurdodwyd gan gyngor cymuned ddyroddi hysbysiadau cosb benodedig mewn perthynas â thramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau a gyflawnwyd yn ei ardal, hyd yn oed os cafodd yr is-ddeddf ei gwneud gan awdurdod deddfu ar wahân i’r cyngor cymuned.

41.Mae isadran (4) yn darparu bod cosb benodedig yn daladwy i’r awdurdod deddfu y dyroddwyd yr hysbysiad gan ei swyddog.

42.Mae isadran (5) yn darparu bod gan y sawl sy'n cael hysbysiad cosb benodedig bedwar diwrnod ar ddeg ar ôl iddo gael yr hysbysiad i dalu'r gosb benodedig a thrwy hynny osgoi mynd i Lys yr Ynadon mewn cysylltiad â'r tramgwydd.

43.Mae isadran (6) yn darparu bod rhaid i'r hysbysiad cosb benodedig roi digon o wybodaeth i'r sawl sy'n cael yr hysbysiad fel bod natur y tramgwydd yn eglur iddo.

44.Mae isadran (7) yn darparu bod rhaid i hysbysiad cosb benodedig hefyd nodi manylion am y cyfnod pan na fyddir yn dwyn achos am y tramgwydd, swm y gosb benodedig ac enw'r person y caniateir talu'r gosb benodedig iddo a'r cyfeiriad lle y caniateir ei thalu.

45.Mae isadran (8) yn darparu ar gyfer y dull o dalu'r gosb benodedig drwy ragdalu a phostio llythyr.

46.Mae isadran (9) yn manylu pan fo llythyr yn cael ei anfon sy'n talu'r taliad, bernir y bydd y taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddai'r llythyr wedi cael ei ddosbarthu yn nhrefn arferol y post.

47.Mae isadran (10) yn darparu pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn iddynt allu pennu ffurf yr hysbysiad cosb benodedig a ddyroddir yn unol â'r adran hon. Mae'r pwerau hyn yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

48.Mae isadran (11) yn darparu, os bydd achos llys, y bernir bod tystysgrif a lofnodwyd ar ran prif swyddog cyllid awdurdod sy'n datgan bod taliad cosb benodedig wedi dod i law, neu'n datgan nad yw, yn ôl y digwydd, yn dystiolaeth o'r ffeithiau a ddatgenir.

49.Mae isadran (12) yn gwneud darpariaeth am ba bersonau a awdurdodir i ddyroddi cosbau penodedig. Bydd "swyddogion awdurdodedig" yn cael eu cyfyngu i'r sawl a awdurdodir yn ysgrifenedig gan yr awdurdod deddfu i gyflawni'r swyddogaeth. Cânt fod yn gyflogeion uniongyrchol i'r awdurdod deddfu, neu berson, neu gyflogai i berson, y mae gan yr awdurdod deddfu gontract ag ef i orfodi is-ddeddfau.

50.Mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i bennu, drwy reoliadau, ffurf yr hysbysiad hwn a'r amodau sydd i'w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned ei awdurdodi i roi hysbysiadau. Mae'r pŵer hwn yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 13 - Swm cosb benodedig

51.Adran 13 hon yn darparu ar gyfer lefel cosbau penodedig sy'n daladwy o ran torri is-ddeddfau y caiff yr awdurdod deddfu ei phennu. Mae'r adran yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau er mwyn iddynt gael pennu ystod y mae'n rhaid i swm y gosb benodedig ddod o fewn iddi. Mae arfer y pŵer hwn yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad negyddol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

52.Pan fo ystod wedi ei phennu, caiff awdurdod deddfu ddewis gosod swm o fewn yr ystod honno. Pan na fo ystod wedi ei phennu, bydd awdurdod deddfu yn rhydd i osod y gosb. Pan na fo'r awdurdod deddfu yn pennu cosb am dorri is-ddeddf, mae'r adran yn darparu am swm diofyn o £75. Mae'r adran hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru wneud gorchymyn i newid y swm diofyn fel y bo'r angen, fel bod y lefel yn aros rhywbeth yn debyg i dramgwyddau lefel isel eraill. Mae pŵer Gweinidogion Cymru yn y cyswllt hwn yn ddarostyngedig i benderfyniad cadarnhaol gan Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 14 – Y pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad mewn cysylltiad â chosb benodedig

53.Adran 14 hon yn rhoi pŵer i swyddog awdurdodedig sy'n bwriadu dyroddi hysbysiad cosb benodedig am dorri is-ddeddf i’w gwneud yn ofynnol i'r person y dyroddir yr hysbysiad iddo roi ei enw a'i gyfeiriad. Bydd y sawl nad yw, heb esgus rhesymol, yn rhoi ei enw na'i gyfeiriad neu sy'n rhoi enw a chyfeiriad ffug yn cyflawni tramgwydd a bydd yn agored ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n uwch na lefel tri ar y raddfa safonol (£1,000 ar hyn o bryd). Mae’r tramgwydd o fethu â chydymffurfio yn tanseilio gallu awdurdod deddfu i orfodi’r gyfraith a chaiff y tramgwydd hwn ei adlewyrchu yn lefel y ddirwy.

Adran 15 - Y defnydd o dderbyniadau am gosbau penodedig

54.Adran 15 hon yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod deddfu, wrth iddo ystyried sut i ddefnyddio'r arian a ddaw i mewn yn sgil y cosbau penodedig, roi sylw i ba mor ddymunol fyddai hi i ddefnyddio'r arian i fynd i'r afael â niwsansau y gwnaed is-ddeddf i'w rhwystro. Ystyr hyn yw ei bod yn ofynnol i awdurdodau deddfu ystyried a ddylai'r arian a ddaw i mewn yn sgil cosbau penodedig gael ei ddefnyddio yn gyffredinol i fynd i'r afael â'r niwsansau hyn. Ni fyddai'n angenrheidiol i ddefnyddio'r arian a ddaw i mewn yn unig tuag at fynd i'r afael â'r niwsans y mae a wnelo'r is-ddeddf ag ef.

Adran 16 - Y pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1

55.Adran 16 hon yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, ddiwygio’r rhestr a geir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i’r Ddeddf (is-ddeddfau y caniateir dyroddi hysbysiadau cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio'r math o awdurdod a gaiff gynnig hysbysiadau cosbau penodedig. Mae pŵer hwn i wneud gorchmynion yn ddarostyngedig i weithdrefn penderfyniad cadarnhaol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Adran 17 – Swyddogion Cymorth Cymunedol etc

56.Adran 17 hon yn diwygio Deddf Diwygio'r Heddlu 2002 at y diben a ganlyn. Os yw awdurdod deddfu a phrif swyddog yr heddlu ar gyfer yr ardal yn cytuno, caiff swyddogion cymorth cymunedol a "phersonau achrededig" eraill o dan y Ddeddf honno ddyroddi hysbysiadau cosbau penodedig am dorri is-ddeddfau awdurdod deddfu. Cyn i swyddog cymorth cymunedol neu berson achrededig allu gwneud hyn, mae'n rhaid i brif swyddog yr heddlu ddynodi'r swyddog cymorth cymunedol neu'r person achrededig fel un sydd â'r swyddogaeth honno. Yn ychwanegol at hyn, rhaid i'r is-ddeddf y mae a wnelo'r hysbysiad cosb benodedig â hi ymddangos ar restr a gytunwyd rhwng prif swyddog yr heddlu a'r awdurdod deddfu.

Adran 18 - Canllawiau

57.Adran 18 hon yn rhoi pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol yn ymwneud â’r gweithdrefnau ar gyfer gwneud is-ddeddfau, y mae adran 6 ac adran 7 yn berthnasol iddynt, gorfodi is-ddeddfau ac ynghylch unrhyw fater perthnasol arall. Bydd materion perthnasol eraill yn cynnwys canllawiau ar ymgynghori ar is-ddeddfau newydd a rhoi cyhoeddusrwydd iddynt a'r arferion gorau o ran is-ddeddfau a'r defnydd o hysbysiadau cosbau penodedig. Rhaid i’r awdurdod deddfu roi sylw i'r canllawiau wrth wneud neu wrth orfodi is-ddeddfau.

Adran 19 - Tystiolaeth o is-ddeddfau

58.Adran 19 hon yn ail-lunio adran 238 o Ddeddf 1972. Mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer darparu tystiolaeth bod is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod deddfu yn bodoli pan na fydd yr is-ddeddfau hynny yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhau. Bernir mai copi wedi ei argraffu o’r is-ddeddf a arnodwyd ynghyd â thystysgrif a lofnodwyd gan swyddog priodol awdurdod deddfu yw copi ardystiedig o is-ddeddf.

59.Rhaid i’r copi ardystiedig o’r is-ddeddf ddatgan bod yr is-ddeddf wedi ei gwneud gan yr awdurdod deddfu, ei fod yn gopi gwir o’r is-ddeddf a wnaed, y dyddiad pan gadarnhawyd yr is-ddeddf gan yr awdurdod deddfu a enwir yn y dystysgrif, neu, yn ôl y digwydd, ei bod wedi ei hanfon i’r awdurdod cadarnhau a heb gael ei gwrthod. Yn ychwanegol at hyn, rhaid i’r copi ardystiedig ddatgan y dyddiad, os oes un, a bennwyd gan yr awdurdod cadarnhau i’r is-ddeddf ddod yn effeithiol.

60.Mae'r adran hon yn darparu bod dangos copi ardystiedig o is-ddeddf yn cael ei farnu yn dystiolaeth ddigonol o'r ffeithiau a ddatgenir yn y dystysgrif oni phrofir fel arall.

61.Ni fyddai'n rhaid i awdurdod deddfu ddatgan yn y copi ardystiedig y gofynion a nodir yn isadran 19(2)(c) a (d) pe na bai'r is-ddeddf yn ddarostyngedig i weithdrefn gadarnhau ar ôl iddi gael ei gwneud.

Adran 20 – Diwygiadau canlyniadol

62.Adran 20 hon yn darparu ar gyfer rhoi effaith i Atodlen 2 i’r Ddeddf sy’n gwneud mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol i nifer o ddeddfiadau sy’n cynnwys darpariaethau ynghylch gwneud is-ddeddfau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhau yn unol ag adran 236 o Ddeddf 1972. Pan fo is-ddeddfau’n ddarostyngedig i’r weithdrefn amgen a nodir yn y rhestr yn Rhan 1 o Atodlen 1 i’r Ddeddf, mae unrhyw ofyniad i gael cadarnhad i fod yn gymwys yn unig yn Lloegr.

63.Gwneir diwygiadau sy’n gosod ar awdurdod deddfu'r dyletswyddau a gafodd eu harfer yn flaenorol gan Weinidogion Cymru wrth iddynt weithredu fel yr awdurdod cadarnhau.

64.Gwneir diwygiadau hefyd i adrannau 235, 236, 236B ac adran 238 o Ddeddf 1972 i ddatgymhwyso'r darpariaethau hyn o ran Cymru.

Adran 21 – Gorchmynion a rheoliadau

65.Adran 21 hon yn cynnwys pŵer i wneud rheoliadau a gorchmynion o dan y Ddeddf hon sy’n cynnwys pŵer i wneud darpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth atodol.

66.Yn achos y pwerau i wneud gorchmynion o dan adrannau 9 ac 16, (diwygiadau i Rannau 1 a 2 o Atodlen 1) mae'r ddarpariaeth gysylltiedig, darpariaeth ganlyniadol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth atodol y caniateir eu gwneud yn gallu cynnwys darpariaeth sy’n diwygio, diddymu neu ddirymu deddfiadau.

67.Caiff gorchmynion o dan adran 9 ac 16 ac unrhyw orchymyn o dan adran 13(5) eu gwneud yn ddarostyngedig i’r weithdrefn penderfyniad cadarnhaol Cynulliad Cenedlaethol Cymru gan eu bod yn bwriadu diwygio’r Ddeddf hon a chânt wneud diwygiadau yn sgil hynny i ddeddfwriaeth sylfaenol arall.

68.Mae gorchmynion a rheoliadau eraill (ar wahân i orchmynion cychwyn) yn ddarostyngedig i'r weithdrefn penderfyniad negyddol.

Adran 22- Cychwyn

69.Mae'r adran hon yn darparu y daw adran 18(1), 21, 22 a 23 i rym ar y diwrnod ar ôl y diwrnod y cymeradwya Ei Mawrhydi y Ddeddf yn Ei Chyngor. Daw darpariaethau eraill y Ddeddf i rym yn unol â darpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru drwy orchymyn.

Adran 23 - Enw byr

70.Mae'r adran hon yn darparu mai enw byr y Ddeddf hon yw Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012.

Atodlen 1 – Rhestrau o bwerau i wneud is-ddeddfau

71.Mae Rhan 1 o Atodlen 1 yn rhestru'r deddfiadau y gwneir is-ddeddfau odanynt nad ydynt yn ddarostyngedig i'w cadarnhau gan Weinidogion Cymru. Darperir y bydd adran 6 o'r Ddeddf yn gymwys i is-ddeddfau a wneir o dan y deddfiadau a’r math o awdurdod deddfu a restrir yn Rhan 1 o Atodlen 1.

72.Mae Rhan 2 o Atodlen 1 yn rhestru'r deddfiadau y gwneir is-ddeddfau odanynt y caniateir eu bodloni drwy hysbysiad cosb benodedig. Darperir y bydd adran 12 o'r Ddeddf yn gymwys i is-ddeddfau a wneir o dan y deddfiadau a’r math o awdurdod deddfu a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1.

Atodlen 2 – Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol

73.Mae Atodlen 2 yn rhestru’r mân ddiwygiadau a’r diwygiadau canlyniadol a wneir gan y Ddeddf i nifer o ddeddfiadau sy’n cynnwys darpariaethau ynghylch gwneud is-ddeddfau yn ddarostyngedig i’r weithdrefn gadarnhau yn unol ag adran 236 o Dde

Cofnod O’r Trafodion Yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru

74.Mae’r tabl canlynol yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Ddeddf drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael Cofnod o’r Trafodion a gwybodaeth bellach am daith y Ddeddf hon ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn: http://www.senedd.assemblywales.org/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=2413

CyfnodDyddiad
Cyflwyno28 Tachwedd 2011
Cyfnod 1 Ystyried yr Egwyddorion Cyffredinol – Dadl mewn Cyfarfod Llawn24 Ebrill 2012
Cyfnod 2 Ystyriaeth fanwl gan Bwyllgor – ystyried gwelliannau17 Mai 2012
Cyfnod 3 Ystyriaeth fanwl gan Bwyllgor – ystyried gwelliannau3 Gorffennaf 2012
Cyfnod 4 Cam Olaf3 Gorffennaf 2012
Cydsyniad Brenhinol29 Tachwedd 2012

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Explanatory Notes

Text created by the Welsh Government department responsible for the subject matter of the Act to explain what the Act sets out to achieve and to make the Act accessible to readers who are not legally qualified. Explanatory Notes accompany all Acts of the Welsh Parliament.

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources