xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(1)Caiff cyngor ar gyfer sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru wneud is-ddeddfau –
(a)ar gyfer rheolaeth dda a llywodraeth y cyfan neu unrhyw ran o’i ardal;
(b)ar gyfer rhwystro ac atal niwsansau yn ei ardal.
(2)Ond ni chaiff is-ddeddfau wneud darpariaeth –
(a)a wnaed gan Ddeddf Seneddol, Mesur neu Ddeddf y Cynulliad;
(b)a wnaed, neu a gellid ei wneud, gan is-ddeddfwriaeth (sy’n golygu deddfwriaeth a wneir gan offeryn statudol).
Gwybodaeth Cychwyn
I1A. 2 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)
I2A. 2 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(b) (ynghyd ag ergl. 3)