xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Hysbysiadau cosbau penodedigLL+C

12Y pŵer i gynnig cosbau penodedig am dramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau penodolLL+C

(1)Mae’r adran hon yn gymwys i is-ddeddfau a wnaed gan awdurdod deddfu o dan y deddfiadau a restrir yn Rhan 2 o Atodlen 1 (is-ddeddfau y caniateir dyroddi cosbau penodedig mewn perthynas â hwy).

(2)Pan fo gan swyddog a awdurdodwyd gan awdurdod deddfu reswm dros gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd yn erbyn is-ddeddf a wnaed gan yr awdurdod hwnnw, i’r swyddog roi hysbysiad i’r person hwnnw yn cynnig y cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd drwy dalu cosb benodedig.

(3)Pan fo swyddog a awdurdodwyd gan gyngor cymuned reswm dros gredu bod person wedi cyflawni tramgwydd yn ei ardal yn erbyn is-ddeddf a wnaed gan awdurdod deddfu heblaw’r cyngor cymuned, i’r swyddog roi hysbysiad i’r person hwnnw yn cynnig y cyfle iddo fodloni unrhyw atebolrwydd i gollfarn am y tramgwydd drwy dalu cosb benodedig.

(4)Mae cosb benodedig o dan yr adran hon yn daladwy i awdurdod y swyddog a roddodd yr hysbysiad.

(5)Pan roddir hysbysiad i berson o dan yr adran hon mewn perthynas â thramgwydd –

(a)ni chaniateir cychwyn achos am y tramgwydd cyn diwedd y cyfnod o 14 o ddiwrnodau ar ôl dyddiad yr hysbysiad, a

(b)ni chaniateir collfarnu’r person am y tramgwydd os bydd y person yn talu’r gosb benodedig cyn diwedd y cyfnod hwnnw.

(6)Rhaid i hysbysiad o dan y rheoliad hwn roi’r manylion hynny am yr amgylchiadau yr honnir eu bod yn ffurfio tramgwydd fel sy’n angenrheidiol i esbonio paham fod tramgwydd wedi digwydd.

(7)Rhaid i hysbysiad o dan yr adran hon hefyd ddatgan –

(a)o fewn pa gyfnod, yn rhinwedd is-adran (5), ni ddygir achos am y tramgwydd;

(b)swm y gosb benodedig;

(c)enw’r person y caniateir i’r gosb benodedig gael ei thalu iddo a’r cyfeiriad lle y caniateir iddi gael ei thalu.

(8)Heb ragfarnu taliad drwy unrhyw ddull arall, caniateir talu cosb benodedig drwy ragdaliad a phostio llythyr sy’n cynnwys swm y gosb (mewn arian parod neu fel arall) i’r person y cyfeirir ato yn yr hysbysiad yn y cyfeiriad a roddir ynddo.

(9)Os anfonir llythyr bernir bod taliad wedi ei wneud ar yr amser y byddid yn traddodi’r llythyr hwnnw yn nhrefn arferol y post.

(10)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau bennu ffurf hysbysiad o dan yr adran hon.

(11)Mewn unrhyw achos mae tystysgrif –

(a)sy’n honni ei bod wedi ei llofnodi ar ran prif swyddog cyllid awdurdod, a

(b)sy’n datgan y daeth neu na ddaeth taliad o gosb benodedig i law erbyn y dyddiad a bennwyd yn y dystysgrif,

yn dystiolaeth o’r ffeithiau a ddatganwyd.

(12)Yn yr adran hon –

(13)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau ragnodi’r amodau sydd i’w bodloni gan berson cyn y caiff cyngor cymuned awdurdodi’r person yn ysgrifenedig at ddibenion rhoi hysbysiadau o dan yr adran hon.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 12 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I2A. 12(1)-(12) mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(k)

I3A. 12(13) mewn grym ar 15.8.2014 gan O.S. 2014/2121, ergl. 2(b)

13Swm cosb benodedigLL+C

(1)Caiff awdurdod deddfu –

(a)pennu swm y gosb benodedig sy’n daladwy yn unol â hysbysiad o dan adran 12;

(b)pennu symiau gwahanol mewn perthynas ag is-ddeddfau gwahanol.

(2)Os na phennir unrhyw swm felly, swm y gosb benodedig yw £75.

(3)Caiff Gweinidogion Cymru drwy reoliadau wneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r pwerau o dan is-adran (1).

(4)Caiff Rheoliadau o dan is-adran (3), yn benodol –

(a)ei gwneud yn ofynnol bod swm a bennir o dan is-adran (1)(a) yn dod o fewn ystod a ragnodir yn y rheoliadau;

(b)cyfyngu ar y rhychwant y caiff awdurdod wneud darpariaeth o dan is-adran (1)(b) a chyfyngu ar yr amgylchiadau pan all wneud hynny.

(5)Caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn roi swm arall yn lle’r swm a bennir am y tro yn is-adran (2).

Gwybodaeth Cychwyn

I4A. 13 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I5A. 13(1)(2)(5) mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(l)

I6A. 13(3)(4) mewn grym ar 15.8.2014 gan O.S. 2014/2121, ergl. 2(c)(d)

14Y pŵer i ofyn am enw a chyfeiriad mewn cysylltiad â chosb benodedigLL+C

(1)Os bydd swyddog awdurdodedig yn bwriadu rhoi hysbysiad i berson o dan adran 12, caniateir i’r swyddog ei gwneud yn ofynnol bod y person yn rhoi ei enw a’i gyfeiriad.

(2)Mae person yn cyflawni tramgwydd os yw’r person hwnnw –

(a)heb esgus rhesymol yn methu â rhoi ei enw a’i gyfeiriad pan fo hynny’n ofynnol, neu

(b)os yw’n rhoi enw neu gyfeiriad anwir neu anghywir wrth ymateb i ofyniad o dan yr is-adran honno.

(3)Mae person sy’n euog o dramgwydd o dan is-adran (2) yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw’n uwch na lefel 3 ar y raddfa safonol.

(4)Yn yr adran hon mae i “swyddog awdurdodedig” yr un ystyr ag sydd ganddo yn adran 12.

Gwybodaeth Cychwyn

I7A. 14 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I8A. 14 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(m)

15Y defnydd o dderbyniadau am gosbau penodedigLL+C

(1)Rhaid i’r awdurdod roi sylw i’r dymunoldeb o ddefnyddio ei dderbyniadau am gosbau penodedig at ddibenion mynd i’r afael ag unrhyw niwsans y gwnaed isddeddf gan yr awdurdod er mwyn ei atal.

(2)Ystyr “derbyniadau am gobau penodedig” yw symiau a dalwyd i awdurdod yn unol â hysbysiadau o dan adran 12.

Gwybodaeth Cychwyn

I9A. 15 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I10A. 15 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(n)

16Y pŵer i ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1LL+C

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddiwygio Rhan 2 o Atodlen 1 (isddeddfau y caniateir dyroddi hysbysiadau cosbau penodedig mewn perthynas â hwy) drwy ychwanegu at y rhestr o ddeddfiadau neu dynnu oddi arni, neu drwy ddiwygio’r math o awdurdod a gaiff gynnig hysbysiadau cosbau penodedig.

Gwybodaeth Cychwyn

I11A. 16 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I12A. 16 mewn grym ar 15.8.2014 gan O.S. 2014/2121, ergl. 2(e)

17Swyddogion Cymorth Cymunedol etcLL+C

(1)Mae Deddf Diwygio’r Heddlu 2002 wedi ei diwygio fel a ganlyn.

(2)Yn Atodlen 4 (pwerau sy’n cael eu harfer gan heddlu sy’n sifiliaid) –

(a)ym mharagraff 1ZA(3) ar ôl “1972” mewnosoder “or under section 12 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012”;

(b)ym mharagraff 1ZA(5)(a) ar ôl “1972” mewnosoder “or to which section 12 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012 applies”.

(3)Yn Atodlen 5 (pwerau sy’n cael eu harfer gan bersonau achrededig) –

(a)ym mharagraff 1A(3) ar ôl “1972” mewnosoder “or under section 12 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012”;

(b)ym mharagraff 1A(5)(a) ar ôl “1972” mewnosoder “or to which section 12 of the Local Government Byelaws (Wales) Act 2012”.

Gwybodaeth Cychwyn

I13A. 17 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I14A. 17 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(o)