Deddf Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru) 2012

Gorfodi is-ddeddfauLL+C

10Tramgwyddau yn erbyn is-ddeddfauLL+C

(1)Caiff is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad ddarparu bod personau sy’n mynd yn groes i’r is-ddeddfau yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

(2)Rhaid i’r ddirwy beidio â bod yn uwch na’r canlynol, naill ai –

(a)y swm a bennir gan y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud yr is-ddeddfau, neu

(b)os na phennir y swm felly, lefel 2 ar y raddfa safonol.

(3)Yn achos tramgwydd sy’n parhau, caiff yr is-ddeddfau ddarparu bod y tramgwyddwr yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy bellach.

(4)Rhaid i’r ddirwy bellach beidio â bod yn uwch na’r canlynol, naill ai –

(a)y swm a bennir gan y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud yr is-ddeddfau, neu

(b)os na phennir swm felly, y swm o £5 am bob diwrnod y mae’r tramgwydd yn parhau ar ôl collfarn am y tramgwydd hwnnw.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 10 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I2A. 10 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(i)

11Is-ddeddfau adran 2; pwerau ymafael etcLL+C

Caiff is-ddeddf a wnaed o dan adran 2 gynnwys darpariaeth ar gyfer neu mewn cysylltiad â’r canlynol –

(a)ymafael mewn unrhyw eiddo a’i gadw mewn cysylltiad ag unrhyw doriad o’r is-ddeddf, a

(b)fforffedu unrhyw eiddo o’r fath pan gaiff person ei gollfarnu o dramgwydd am dorri’r is-ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I3A. 11 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

I4A. 11 mewn grym ar 31.3.2015 gan O.S. 2015/1025, ergl. 2(j)