Gorfodi is-ddeddfau

10Tramgwyddau yn erbyn is-ddeddfau

1

Caiff is-ddeddfau a wneir gan awdurdod deddfu o dan unrhyw ddeddfiad ddarparu bod personau sy’n mynd yn groes i’r is-ddeddfau yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy.

2

Rhaid i’r ddirwy beidio â bod yn uwch na’r canlynol, naill ai –

a

y swm a bennir gan y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud yr is-ddeddfau, neu

b

os na phennir y swm felly, lefel 2 ar y raddfa safonol.

3

Yn achos tramgwydd sy’n parhau, caiff yr is-ddeddfau ddarparu bod y tramgwyddwr yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy bellach.

4

Rhaid i’r ddirwy bellach beidio â bod yn uwch na’r canlynol, naill ai –

a

y swm a bennir gan y deddfiad sy’n rhoi’r pŵer i wneud yr is-ddeddfau, neu

b

os na phennir swm felly, y swm o £5 am bob diwrnod y mae’r tramgwydd yn parhau ar ôl collfarn am y tramgwydd hwnnw.

11Is-ddeddfau adran 2; pwerau ymafael etc

Caiff is-ddeddf a wnaed o dan adran 2 gynnwys darpariaeth ar gyfer neu mewn cysylltiad â’r canlynol –

a

ymafael mewn unrhyw eiddo a’i gadw mewn cysylltiad ag unrhyw doriad o’r is-ddeddf, a

b

fforffedu unrhyw eiddo o’r fath pan gaiff person ei gollfarnu o dramgwydd am dorri’r is-ddeddf.