Dirymu is-ddeddfau

4Dirymu gan awdurdod deddfu

(1)

Caiff awdurdod deddfu wneud is-ddeddf i ddirymu is-ddeddf a wnaed yn flaenorol ganddo.

(2)

Ond caniateir arfer y pŵer hwn dim ond pan nad oes pŵer arall gan yr awdurdod i ddiddymu is-ddeddf.

5Dirymu gan Weinidogion Cymru

(1)

Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddirymu unrhyw is-ddeddf a wnaed gan awdurdod deddfu y maent wedi penderfynu ei bod yn anarferedig.

(2)

Cyn gwneud gorchymyn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned) y maent o’r farn ei bod yn debygol y bydd ganddo ddiddordeb yn nirymiad yr is-ddeddf neu a effeithir gan y dirymiad.

(3)

Caiff gorchymyn wneud darpariaeth wahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol, gan gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer broydd gwahanol ac ar gyfer awdurdodau gwahanol.