xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Valid from 31/03/2015

Dirymu is-ddeddfauLL+C

4Dirymu gan awdurdod deddfuLL+C

(1)Caiff awdurdod deddfu wneud is-ddeddf i ddirymu is-ddeddf a wnaed yn flaenorol ganddo.

(2)Ond caniateir arfer y pŵer hwn dim ond pan nad oes pŵer arall gan yr awdurdod i ddiddymu is-ddeddf.

Gwybodaeth Cychwyn

I1A. 4 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)

5Dirymu gan Weinidogion CymruLL+C

(1)Caiff Gweinidogion Cymru drwy orchymyn ddirymu unrhyw is-ddeddf a wnaed gan awdurdod deddfu y maent wedi penderfynu ei bod yn anarferedig.

(2)Cyn gwneud gorchymyn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori ag unrhyw berson (gan gynnwys cyngor cymuned) y maent o’r farn ei bod yn debygol y bydd ganddo ddiddordeb yn nirymiad yr is-ddeddf neu a effeithir gan y dirymiad.

(3)Caiff gorchymyn wneud darpariaeth wahanol ar gyfer ardaloedd gwahanol, gan gynnwys darpariaeth wahanol ar gyfer broydd gwahanol ac ar gyfer awdurdodau gwahanol.

Gwybodaeth Cychwyn

I2A. 5 ddim mewn grym ar y Cydsyniad Brenhinol, gweler a. 22(2)