Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 Explanatory Notes

Sylwadau Ar Adrannau

Adran 1 - Diwygio adran 35 y Ddeddf (Trin yn gyfartal)

12.Mae'r adran hon yn disodli adran 35(1) o Ddeddf 2006 ac yn cyflwyno pum is-adran newydd.

13.Mae is-adran (1) newydd yn cynnwys datganiad clir, syml mai Cymraeg a Saesneg yw ieithoedd swyddogol y Cynulliad Cenedlaethol.

14.Mae is-adran (1A) yn ailddatgan, mewn ffurf newydd, yr egwyddor a gaiff ei chynnwys yn adran 35(1) ar hyn o bryd. Mae'r newid yn y ffordd y mynegir y ddyletswydd, sy'n cyfeirio‘n syml at ddyletswydd i drin yr ieithoedd "ar y sail eu bod yn gyfartal", yn adlewyrchu newid cymesur a wnaed gan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011 (gweler adran 1(3) (a) "deddfiadau sy'n ... ei gwneud yn ofynnol i'r Gymraeg a'r Saesneg gael eu trin ar y sail eu bod yn gyfartal yn nhrafodion Cynulliad Cenedlaethol Cymru".)

15.Mae is-adran (1B) eto yn adlewyrchu arfer deddfwrfeydd dwyieithog eraill o roi'r hawl i ddefnyddio'r ddwy iaith yn glir ar wyneb y ddeddfwriaeth lywodraethu.  Mae'r is-adran yn ei gwneud yn glir hefyd nad Aelodau'r Cynulliad yn unig sydd â'r hawl i ddefnyddio'r Gymraeg neu'r Saesneg, ond hefyd pobl eraill sy'n cymryd rhan yn y trafodion, ee tystion sy'n rhoi tystiolaeth mewn pwyllgorau (mae hyn yn unol ag arferion presennol ond ni chaiff ei nodi‘n benodol mewn deddfwriaeth.)

16.Mae is-adran (1C) yn ei gwneud yn ofynnol bod y cofnod o drafodion y Cynulliad Cenedlaethol, fel y'i diffinnir yn adran 1(5)(a) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (trafodion y Cynulliad cyfan, hynny yw, yn y Cyfarfod Llawn) yn gwbl ddwyieithog.  Mae hyn yn golygu nid yn unig cofnod llawn o'r hyn a ddywedwyd yn yr iaith a siaradwyd, ond hefyd cyfieithiad llawn i'r iaith swyddogol arall. Felly, mae'n ymgorffori arferion presennol y Cynulliad mewn statud.

17.Ar yr amod bod Comisiwn y Cynulliad yn darparu staff a chyfleusterau eraill i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud ei waith, gall y Cynulliad gydymffurfio â'r dyletswyddau o dan is-adrannau (1A) hyd at (1C).  Mae is-adran (1D) yn cyfeirio at baragraff 8 o Atodlen 2, sy'n cynnwys y dyletswyddau perthnasol o ran Comisiwn y Cynulliad.

Adran 2 - Diwygio Atodlen 2 i'r Ddeddf (Comisiwn y Cynulliad)

18.Mae'r adran hon yn disodli is-baragraff 8(3) o Atodlen 2 i Ddeddf 2006 gyda deg is-baragraff newydd sy'n cynnwys darpariaethau manwl yn diffinio dyletswyddau Comisiwn y Cynulliad o ran defnyddio'r Gymraeg a‘r Saesneg, gan gynnwys cymorth y Comisiwn i alluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 35(1)-(1C) o Ddeddf 2006 (fel y'i diwygiwyd).

19.Yn gyntaf, mae'r is-baragraff (3) newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad drin y ddwy iaith ar y sail eu bod yn gyfartal.  Mae hyn yn ailddatgan, ar ffurf newydd, y ddyletswydd yn yr is-baragraff (3) blaenorol o Atodlen 2.  Fodd bynnag, yn ogystal, mae'r is-baragraff newydd yn ei gwneud yn ofynnol i Gomisiwn y Cynulliad wneud trefniadau ar gyfer galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i gyflawni ei ddyletswyddau o dan adran 35 (fel y'i diwygiwyd).

20.Mae gweddill yr is-baragraffau newydd yn ategu'r dyletswyddau o dan is-baragraff (3) drwy ddarparu dulliau ar gyfer sicrhau cydymffurfio'n effeithiol â'r dyletswyddau hynny.

21.Y ffordd o wneud hynny yw drwy Gynllun Ieithoedd Swyddogol sy‘n nodi‘r mesurau y mae Comisiwn y Cynulliad yn bwriadu eu cymryd er mwyn cydymffurfio â‘i ddyletswyddau o dan is-baragraff (3).  Mae is-baragraffau (4), (10) ac (11) yn ymdrin â'r broses o baratoi, mabwysiadu ac adolygu'r Cynllun.  Bydd angen cyhoeddi drafft o'r Cynllun a'i osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol, ac ymgynghori arno.  Bydd angen i Gomisiwn y Cynulliad ystyried sylwadau a wnaed amdano gan y sawl yr ymgynghorodd â hwy a chan y Cynulliad Cenedlaethol (er enghraifft adroddiad unrhyw un o bwyllgorau'r Cynulliad a ystyriodd y Cynllun drafft).  Yna, bydd angen i'r Cynllun (fel y'i diwygiwyd o ganlyniad i'r broses ymgynghori hon) gael ei gymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.

22.Bydd y darpariaethau hyn yn ei gwneud yn glir y bydd Comisiwn y Cynulliad yn atebol yn uniongyrchol i‘r Cynulliad Cenedlaethol (ac felly i'r cyhoedd) am ei wasanaethau dwyieithog, yn hytrach nag i Gomisiynydd y Gymraeg a Gweinidogion Cymru fel yn achos cyrff cyhoeddus y gosodir safonau arnynt o dan Fesur y Gymraeg (Cymru) 2011.

23.Mae is-baragraff (11) yn ei gwneud yn glir y bydd yn agored i Gomisiwn y Cynulliad fabwysiadu Cynllun a baratowyd yn unol â gofynion y Ddeddf, hyd yn oed os bydd y camau angenrheidiol wedi cael eu cymryd cyn i'r Ddeddf ddod i rym.

24.Mae is-baragraffau (5), (6) a (7) yn ymdrin â rhai (ond nid yr holl) faterion y bydd angen i'r Cynllun ymdrin â hwy.  Yn is-baragraff (5), nodir yr hyn a ganlyn:

(a)

cyfieithu ar y pryd;

(b)

cyhoeddi dogfennau'n ddwyieithog;

(c)

ymgysylltu â'r cyhoedd;

(d)

mesurau i feithrin a gwella'r hawl i ddewis pa iaith swyddogol i'w defnyddio;

(e)

pennu targedau ac amserlenni ar gyfer gweithredu’r Cynllun;

(f)

dyrannu cyfrifoldebau ar gyfer gweithredu’r Cynllun;

(g)

dulliau gwrthrychol o fesur cynnydd o ran gweithredu’r Cynllun; a

(h)

strategaeth sgiliau iaith ar gyfer staff.

25.Mae is-baragraff (6) yn cynnwys gofyniad penodol i'r Cynllun gynnwys darpariaethau ynghylch cwynion o fethiant i roi effaith i ddarpariaethau'r Cynllun yn dod i law a'r broses o ymchwilio i'r cwynion hynny a’u hystyried.

26.Mae is-baragraff (7) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynllun nodi'r gwasanaethau i'w darparu yn yr ieithoedd swyddogol ac yn egluro sut y byddant yn cael eu darparu yn unol ag is-baragraff (5).

27.Mae is-baragraff (8) yn cyflwyno dyletswydd ar Gomisiwn y Cynulliad i baratoi adroddiad blynyddol ar weithredu'r Cynllun, a osodir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Mae is-baragraff (9) yn nodi'r materion y mae'n rhaid eu cynnwys yn yr adroddiad hwnnw.

28.Mae is-baragraff (10) yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn adolygu'r Cynllun cyn gynted ag sy'n bosibl ar ôl pob etholiad cyffredinol cyffredin o Aelodau Cynulliad.  Mae is-baragraff (11) yn nodi'r gofynion ymgynghori a amlinellir ym mharagraff 21 uchod.  Yr un fydd y trefniant ar ôl pob etholiad cyffredinol anghyffredin sy'n golygu (yn sgîl adran 5(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) na chynhelir yr etholiad cyffredinol cyffredin dilynol os caiff yr etholiad anghyffredin ei gynnal llai na chwe mis cyn y dyddiad y byddai'r etholiad cyffredin wedi'i gynnal fel arall.

29.Unwaith y caiff y Cynllun ei fabwysiadu'n ffurfiol, mae is-baragraff (12) yn ei gwneud yn glir ei bod yn ddyletswydd ar Gomisiwn y Cynulliad i'w roi ar waith.

Adran 3 - Enw byr a chychwyn

30.Mae hwn yn cynnwys teitl y ddeddfwriaeth ac yn darparu i'r ddeddfwriaeth ddod i rym y diwrnod ar ôl i'r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol.

Back to top