xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
Amaethyddiaeth, Cymru
Gwnaed
24 Ionawr 2024
Yn dod i rym
15 Gorffennaf 2024
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 34(1) a 50(3) o Ddeddf Amaethyddiaeth (Cymru) 2023 (“y Ddeddf”)(1) a pharagraff 9 o Atodlen 1 iddi.
Ymgynghorwyd â’r cyhoedd mewn modd agored a thryloyw wrth lunio’r Rheoliadau hyn yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a’r Cyngor sy’n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd(2).
Yn unol ag adran 50(6) o’r Ddeddf, gosodwyd drafft o’r Rheoliadau hyn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwin (Diwygio) (Cymru) 2024.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 15 Gorffennaf 2024.
2. Yn Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/33 dyddiedig 17 Hydref 2018 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ceisiadau am warchod dynodiadau tarddiad, dynodiadau daearyddol a thermau traddodiadol yn y sector gwin, y weithdrefn ar gyfer gwrthwynebu, cyfyngiadau ar ddefnydd, diwygiadau i fanylebau cynnyrch, canslo gwarchodaeth, a labelu a chyflwyniad(3), yn Erthygl 53, ar ôl paragraff 6 mewnosoder—
“7. No person may market a product in Wales using a term mentioned in paragraph 8 unless the product is a wine made exclusively from grapes naturally frozen on the vine.
8. The terms referred to in paragraph 7 are:
(a)‘ice wine’;
(b)‘icewine’;
(c)‘ice-wine’;
(d)a term similar to a term mentioned in point (a), (b) or (c);
(e)a term having the same meaning as a term mentioned in point (a), (b) or (c) in a language other than English;
(f)a term having a similar meaning to a term mentioned in point (a), (b) or (c) in a language other than English.”.
3.—(1) Mae Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/934 dyddiedig 12 Mawrth 2019 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ardaloedd tyfu gwin lle y caniateir cynyddu’r cryfder alcoholaidd, arferion gwinyddol awdurdodedig a chyfyngiadau sy’n gymwys i gynhyrchu a chadw cynhyrchion gwinwydd, isafswm y ganran o alcohol ar gyfer sgil-gynhyrchion a’u gwaredu, a chyhoeddi ffeiliau OIV(4) wedi ei ddiwygio fel a ganlyn.
(2) Yn Erthygl 1a—
(a)rhifer y paragraff presennol yn baragraff (1) ;
(b)ar ôl paragraff (1) (fel y’i hailrifir gan is-baragraff (a)) mewnosoder—
“(2) In this Regulation, insofar as it relates to the use of oenological practices in Wales, ‘OIV Code of Oenological Practices’ means the 2023 issue of the International Code of Oenological Practices published by the International Organisation of Vine and Wine in Dijon in France in January 2023 (ISBN 978-2-85038-071-6).”
(3) Mae Rhan A o Atodiad 1 wedi ei diwygio yn unol â pharagraffau (4), (5) a (6).
(4) Ar ôl pennawd Rhan A a chyn pennawd Tabl 1 mewnosoder—
“In this Part, insofar as it relates to the use of oenological practices in Wales, ‘OIV Codex’ and ‘International Oenological Codex’ mean the 2023 issue of the International Oenological Codex published by the International Organisation of Vine and Wine in Paris in January 2023 (ISBN 978-2-85038-063-1).”.
(5) Yn Nhabl 1 (prosesau gwinyddol awdurdodedig y cyfeirir atynt yn Erthygl 3(1) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/934)—
(a)yn y rhes ddisgrifiadol o benawdau, yn y drydedd golofn wedi ei rhifo 2, ar y diwedd mewnosoder “(including any geographic limitations)”;
(b)ar ôl y rhes wedi ei rhifo 2 mewnosoder—
“2a | Cold treatments (Wales) | For use in Wales for fresh grapes and the products defined in points (1) to (12) inclusive, (15) and (16) of Part 2 of Annex 7 to Regulation (EU) No 1308/2013. Subject to the conditions set out in— (a) point 1(c) of Section B of Part 1 of Annex 8 to Regulation (EU) No 1308/2013; (b) files 1.14 (2005), 1.15 (2005), 2.1.12.4 (1998), 2.3.6 (1988), 3.1.2 (1979), 3.1.2.1 (1979), 3.3.4 (2004) and 3.5.11.1 (2001) of the OIV Code of Oenological Practices.”; |
(c)yn y rhes wedi ei rhifo 8 (arnofio), yn y drydedd golofn wedi ei rhifo 2, ar ôl yr ail frawddeg mewnosoder—
“This row does not apply to the use of flotation in Wales. (See row 8a for the use of flotation in Wales.)”;
(d)ar ôl y rhes wedi ei rhifo 8 (arnofio) mewnosoder y rhes a ganlyn—
“8a | Flotation (Wales) | For use in Wales for the products defined in points (10) to (12) (inclusive) of Part 2 of Annex 7 to Regulation (EU) No 1308/2013 but only when using nitrogen or carbon dioxide or by aerating. Subject to the conditions set out in file 2.1.14 (2022) of the OIV Code of Oenological Practices.”; |
(e)ar y diwedd mewnosoder y rhesi a ganlyn—
“20 | Partial concentration (Wales) | For use in Wales, for grape must, subject to the conditions laid down in— (a) point 1(b) of Section B of Part 1 of Annex 8 to Regulation (EU) No 1308/2013; (b) files 2.1.12 (1998), 2.1.12.1 (1993), 2.1.12.2 (2001), 2.1.12.3 (1998) and 2.1.12.4 (1998) of the OIV Code of Oenological Practices. For use in Wales for wine, subject to the conditions laid down in— (a) point 1(c) of Section B of Part 1 of Annex 8 to Regulation (EU) No 1308/2013; (b) files 3.5.11 (2001) and 3.5.11.1 (2001) of the OIV Code of Oenological Practices. The treatment in relation to use for grape must and wine must be recorded in the register referred to in Article 147(2) of Regulation (EU) No 1308/2013. |
21 | Treatment by discontinuous high pressure processes (Wales) | For use in Wales with fresh grapes, grape must, partially fermented grape must and partially fermented grape must extracted from raisined grapes. Subject to the conditions laid down in files 1.18 (2019) and 2.1.26 (2019) of the OIV Code of Oenological Practices. |
22 | Treatment by continuous high pressure processes (Wales) | For use in Wales with grape must, partially fermented grape must and partially fermented grape must extracted from raisined grapes. Subject to the conditions laid down in file 2.2.10 (2020) of the OIV Code of Oenological Practices. |
23 | Treatment by ultrasound (Wales) | For use in Wales on crushed grapes for a rapid extraction of grape compounds. Subject to conditions laid down in file 1.17 (2019) of the OIV Code of Oenological Practices. |
24 | Treatment of grapes by pulsed electric fields (Wales) | For use in Wales with fresh grapes. Subject to the conditions laid down in file 2.1.27 (2020) of the OIV Code of Oenological Practices. |
25 | Treatment using adsorbent styrene-divinylbenzene beads (Wales) | For use in Wales on the products defined in points (1) to (12) (inclusive), (15) and (16) of Part 2 of Annex 7 to Regulation (EU) No 1308/2013. Subject to the conditions laid down in files 2.2.11 (2020) and 3.4.22 (2020) of the OIV Code of Oenological Practices.”. |
(6) Yn Nhabl 2 (cyfansoddion gwinyddol awdurdodedig y cyfeirir atynt yn Erthygl 3(1) o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/934)—
(a)yn y rhes ddisgrifiadol o benawdau, yn yr wythfed golofn wedi ei rhifo 7, ar y diwedd mewnosoder “(including any geographic limitations)”;
(b)yn adran 1 (rheolyddion asidedd)—
(i)ar ôl y rhes wedi ei rhifo 1.7 mewnosoder y rhes yn Rhan 1 o’r Atodlen;
(ii)ar ôl y rhes wedi ei rhifo 1.9 mewnosoder y rhesi yn Rhan 2 o’r Atodlen;
(c)yn adran 2 (cyffeithyddion a gwrthocsidyddion), ar ôl y rhes wedi ei rhifo 2.7 mewnosoder y rhes yn Rhan 3 o’r Atodlen;
(d)yn adran 3 (secwestryddion)—
(i)yn y rhes ag enw wedi ei rhifo 3, yn yr ail golofn, yn lle “Sequestrants” rhodder “Adsorbents”;
(ii)yn y rhes wedi ei rhifo 3.2 (ffibrau llysieuol detholus), yn yr wythfed golofn wedi ei rhifo 7 mewnosoder—
“This row does not apply to the use of selective vegetal fibres in Wales. (See row 3.2a for the use of selective vegetal fibres in Wales.)”;
(iii)ar ôl y rhes wedi ei rhifo 3.2 mewnosoder y rhes yn Rhan 4 o’r Atodlen;
(e)yn adran 4 (actifadyddion ar gyfer eplesu alcoholaidd a malolactig)—
(i)yn y rhes wedi ei rhifo 4.1 (cellwlos microgrisialog), yn yr wythfed golofn wedi ei rhifo 7, ar ôl y frawddeg gyntaf mewnosoder—
“This row does not apply to the use of microcrystalline cellulose in Wales. (See row 4.1a for the use of microcrystalline cellulose in Wales.)”;
(ii)ar ôl y rhes wedi ei rhifo 4.1 mewnosoder y rhes yn Rhan 5 o’r Atodlen;
(f)yn adran 6 (sefydlogyddion)—
(i)yn y rhes wedi ei rhifo 6.8 (gwm arabig), yn yr wythfed golofn wedi ei rhifo 7, ar y diwedd mewnosoder—
“This row does not apply to the use of gum arabic in Wales. (See row 6.8a for the use of gum Arabic in Wales.)”;
(ii)ar ôl y rhes wedi ei rhifo 6.8 mewnosoder y rhes yn Rhan 6 o’r Atodlen;
(iii)yn y rhes wedi ei rhifo 6.11 (carbocsimethylcellwlos) yn yr wythfed golofn wedi ei rhifo 7, ar ôl y frawddeg gyntaf mewnosoder—
“This row does not apply to the use of carboxymethylcellulose in Wales. (See row 6.11a for the use of carboxymethylcellulose in Wales.)”;
(iv)ar ôl y rhes wedi ei rhifo 6.11 mewnosoder y rhes yn Rhan 7 o’r Atodlen;
(g)yn adran 7 (ensymau), ar ôl y rhes wedi ei rhifo 7.8 mewnosoder y rhesi yn Rhan 8 o’r Atodlen.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd, un o Weinidogion Cymru
24 Ionawr 2024
Rheoliad 3(6)
“1.8 | Calcium sulphate (Wales) | E 516/- | File 2.1.3.1.1.1 (2017) | X | For use in Wales. | (3)” |
“1.10 | Citric acid (Wales) | E 330 | Files 3.1.1 (1979) and 3.1.1.1 (2001). | COEI-1-CITACI | X | For use in Wales. Conditions and limits laid down in Sections C and D of Part 1 of Annex 8 to Regulation (EU) No 1308/2013. The treatment must be recorded in the register referred to in Article 147(2) of Regulation (EU) No 1308/2013. Maximum content in treated wine and placed on the market: 1 g/l. | (1), (3) to (9) (inclusive), (15) and (16) | |
1.11 | Yeasts for wine production (Wales) | Files 2.3.1 (2016), 2.1.3.2.3 (2019) and 2.1.3.2.3.1 (2019). | COEI-1-SACCHA COEI-1-NOSACC | X | For use in Wales. Conditions and limits laid down in Sections C and D of Part 1 of Annex 8 to Regulation (EU) No 1308/2013. The treatment must be recorded in the register referred to in Article 147(2) of Regulation (EU) No 1308/2013. | (10), (11) and (12) | ||
1.12 | Lactic acid bacteria (Wales) | Files 2.1.3.2.3 (2019), 2.1.3.2.3.2 (2019), 3.1.2 (1979) and 3.1.2.3 (1980). | COEI-1-BALACT | X | For use in Wales. Conditions and limits laid down in Sections C and D of Part 1 of Annex 8 to Regulation (EU) No 1308/2013. The treatment must be recorded in the register referred to in Article 147(2) of Regulation (EU) No 1308/2013. | (1) to (12) (inclusive), (15) and (16)” |
“2.8 | Fumaric acid (Wales) | File 3.4.23 (2023) | X | For use in Wales. Only to inhibit malolactic fermentation. | (1), (3) to (9) (inclusive), (15) and (16)” |
“3.2a | Selective vegetal fibres (Wales) | File 3.4.20 (2022) | COEI-1-FIBVEG | X | For use in Wales. | (1), (3) to (9) (inclusive), (15) and (16)” |
“4.1a | Microcrystalline cellulose (Wales) | E 460(i)/CAS 9004-34-6 | Files 2.3.2 (2019) and 3.4.21 (2015) | COEI-1-CELMIC | X | For use in Wales. Its use must comply with the specifications laid down in the Annex to Regulation (EU) No 231/2012(5). | Fresh grapes, (1) to (12) (inclusive), (15) and (16)” |
“6.8a | Gum arabic (Wales) | E 414/CAS 9000-01-5 | File 3.3.6 (2022) | COEI-1-GOMARA | X | For use in Wales. Use at a level not higher than necessary to achieve its intended purpose as a stabilising agent . | Partially fermented must for direct human consumption as such, (1), (3) to (9) (inclusive), (15) and (16)” |
“6.11a | Carboxymethylcellulose (Wales) | E466/- | File 3.3.14 (2020) | COEI-1-CMC | X | For use in Wales. Only to ensure tartaric stabilisation. | White and rosé wines and (4) to (9) (inclusive)” |
“7.9 | Arabinanase (Wales) | EC 3.2.1.99 | Files 1.13 (2021), 2.1.4 (2021), 2.1.18 (2021), 3.2.8 (2021) and 3.2.11 (2021). | COEI-1-ACTARA COEI-1-PRENZY | X | For use in Wales. Only for oenological purposes in maceration, clarification, stabilisation, filtration and to reveal the aromatic precursors of grapes. | Fresh grapes, (1) to (12) (inclusive) and (15) and (16) | |
7.10 | Beta-glucanase (β1-3, β1-6) (Wales) | EC 3.2.1.6 | File 3.5.7. (2013) | COEI-1-ACTGLU COEI-1-PRENZY | X | For use in Wales. Only for oenological purposes in maceration, clarification, stabilisation, filtration and to reveal the aromatic precursors of grapes. | (1), (3) to (9) (inclusive), (15) and (16) | |
7.11 | Glucosidase (Wales) | EC 3.2.1.21 | Files 2.1.19 (2013) and 3.2.9 (2013). | COEI-1-GLYCOS COEI-1-PRENZY | X | For use in Wales. Only for oenological purposes in maceration, clarification, stabilisation, filtration and to reveal the aromatic precursors of grapes. | (1) to (12) inclusive, (15) and (16) | |
7.12 | Aspergillopepsin I (Wales) | EC 3.4.23.18 | Files 2.2.12 (2021) and 3.3.16 (2021). | COEI-1-PROTEA COEI-1-PRENZY | X | For use in Wales. Only for oenological purposes in maceration, clarification, stabilisation, filtration and to reveal the aromatic precursors of grapes. | (1) to (12) (inclusive), (15) and (16)” |
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth uniongyrchol a gymathwyd sy’n ymwneud â marchnata gwin ac arferion gwinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu a chadw cynhyrchion gwin. Maent yn gymwys yng Nghymru.
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Erthygl 53 o Reoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/33 dyddiedig 17 Hydref 2018 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ceisiadau am warchod dynodiadau tarddiad, dynodiadau daearyddol a thermau traddodiadol yn y sector gwin, y weithdrefn ar gyfer gwrthwynebu, cyfyngiadau ar ddefnydd, diwygiadau i fanylebau cynnyrch, canslo gwarchodaeth, a labelu a chyflwyniad (EUR 2019/33) (“Rheoliad (EU) 2019/33”). Mae’r diwygiad yn mewnosod darpariaeth yn Rheoliad (EU) 2019/33 sy’n gwahardd marchnata cynnyrch gan ddefnyddio’r term “gwin ia” (boed yn Gymraeg neu mewn iaith wahanol) a thermau tebyg (boed yn Gymraeg neu mewn iaith wahanol), onid yw’r cynnyrch yn win sydd wedi ei wneud yn gyfan gwbl o rawnwin sydd wedi rhewi’n naturiol ar y winwydden (rheoliad 2).
Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliad Dirprwyedig y Comisiwn (EU) 2019/934 dyddiedig 12 Mawrth 2019 sy’n ategu Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran ardaloedd tyfu gwin lle y caniateir cynyddu’r cryfder alcoholaidd, arferion gwinyddol awdurdodedig a chyfyngiadau sy’n gymwys i gynhyrchu a chadw cynhyrchion gwinwydd, isafswm y ganran o alcohol ar gyfer sgil-gynhyrchion a’u gwaredu, a chyhoeddi ffeiliau OIV (EUR 2019/934) (“Rheoliad (EU) 2019/934”) (rheoliad 3 a’r Atodlen).
Mae Rheoliad (EU) 2019/934 yn awdurdodi arferion gwinyddol penodedig. Mae’n ategu Erthygl 80(1) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 Senedd Ewrop a’r Cyngor dyddiedig 17 Rhagfyr 2013 sy’n sefydlu cyd-drefniadaeth y marchnadoedd mewn cynhyrchion amaethyddol (EUR 2013/1308) (“Rheoliad (EU) Rhif 1308/2013”). Mae Erthygl 80(1) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 yn gwahardd y defnydd o arferion gwinyddol anawdurdodedig wrth gynhyrchu a chadw gwin a chynhyrchion gwin eraill. Mae’r diwygiadau a wneir i Reoliad (EU) 2019/937 gan yr offeryn hwn yn gwneud newidiadau i’r arferion gwinyddol y caniateir eu defnyddio wrth gynhyrchu a chadw gwin a chynhyrchion gwin eraill.
Mae Rheoliadau 10, 11 a 12 o Reoliadau Gwin 2011 (O.S. 2011/2936) (“Rheoliadau 2011”) yn galluogi cyflwyno hysbysiadau rhybudd, hysbysiadau gorfodi a hysbysiadau gwahardd pan gredir bod Rheoliadau’r UE a ddargedwir, fel y diffinnir “the retained EU Regulations” yn y Rheoliadau hynny, wedi eu torri. Bydd y darpariaethau hysbysu hynny yn gymwys mewn perthynas â thorri’r gwaharddiad gwin iâ etc. newydd yn Erthygl 53 o Reoliad (EU) 2019/33. Maent hefyd yn gymwys mewn perthynas â thorri Erthygl 80(1) o Reoliad (EU) Rhif 1308/2013 pan ddefnyddir arfer winyddol anawdurdodedig i gynhyrchu neu i gadw gwin neu gynnyrch gwin arall.
Mae methiant i gydymffurfio â hysbysiad gorfodi neu wahardd a gyflwynir o dan Reoliadau 2011 yn drosedd o dan reoliad 14(2)(a) o’r Rheoliadau hynny. Mae methiant i gydymffurfio â darpariaeth o Reoliadau’r UE a ddargedwir ar ôl cael hysbysiad rhybudd a gyflwynir o dan Reoliadau 2011 yn drosedd o dan reoliad 14(2)(b) o Reoliadau 2011.
Mae copi electronig o rifyn 2023 o’r Cod Rhyngwladol ar Arferion Gwinyddol (ISBN 978-2-85038-071-6) ar gael ar:
https://www.oiv.int/sites/default/files/publication/2023-04/CPO complet EN 2023.pdf
Mae copi electronig o rifyn 2023 o’r Codecs Gwinyddol Rhyngwladol (ISBN 978-2-85038-063-1) ar gael ar:
https://www.oiv.int/sites/default/files/publication/2023-04/CODEX complet 2023 EN.pdf
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
EUR 2002/178, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.
EUR 2019/33, a ddiwygiwyd gan O.S. 2020/1637; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol.
EUR 2019/934, yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2020/1637, 2021/632.
EUR 2012/231, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn.