2024 Rhif 607 (Cy. 86)

Addysg, Cymru

Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru) 2024

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru, drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adrannau 56(1), (3) a (6), 74(1)(a) a 75(1) o Ddeddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 20211, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn.

Enwi a dod i rym1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru) 2024.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Medi 2024.

Dehongli2

Yn y Rheoliadau hyn—

  • ystyr “yr APC” (“the NPA”) yw’r Asesiadau Personol Cenedlaethol sy’n cynnwys yr APCRh, yr APCDCS a’r APCDCC;

  • ystyr “yr APCDCC” (“the NRPAW”) yw’r Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen – Cyfrwng Cymraeg, sef asesiad ar-lein a roddir i ddisgyblion at ddiben asesu eu sgiliau darllen yn Gymraeg;

  • ystyr “yr APCDCS” (“the NRPAE”) yw’r Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen – Cyfrwng Saesneg, sef asesiad ar-lein a roddir i ddisgyblion at ddiben asesu eu sgiliau darllen yn Saesneg;

  • ystyr “yr APCRh” (“the NNPA”) yw’r Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Rhifedd, sef asesiad ar-lein a roddir i ddisgyblion at ddiben asesu eu sgiliau rhifedd;

  • ystyr “blwyddyn 2” (“year 2”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 7 oed;

  • ystyr “blwyddyn 3” (“year 3”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 8 oed;

  • ystyr “blwyddyn 4” (“year 4”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 9 oed;

  • ystyr “blwyddyn 5” (“year 5”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 10 oed;

  • ystyr “blwyddyn 6” (“year 6”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 11 oed;

  • ystyr “blwyddyn 7” (“year 7”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 12 oed;

  • ystyr “blwyddyn 8” (“year 8”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 13 oed;

  • ystyr “blwyddyn 9” (“year 9”) yw grŵp blwyddyn ysgol y bydd y mwyafrif o’r disgyblion ynddo, yn ystod y flwyddyn ysgol, yn cyrraedd 14 oed;

  • ystyr “blwyddyn ysgol” (“school year”) yw’r cyfnod sy’n dechrau â’r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl mis Gorffennaf ac sy’n dod i ben â dechrau’r tymor cyntaf o’r fath i ddechrau ar ôl y mis Gorffennaf canlynol;

  • ystyr “canllawiau datgymhwyso’r APC” (“the NPA disapplication guidance”) yw’r adran o lawlyfr gweinyddu’r APC sy’n dwyn y teitl “Datgymhwyso” ac sy’n nodi pa ddisgyblion nad oes angen rhoi’r APC iddynt;

  • ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Addysg 1996;

  • ystyr “Deddf 2021” (“the 2021 Act”) yw Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021;

  • mae i “disgybl” yr ystyr a roddir i “pupil” yn adran 3 o Ddeddf 19962;

  • ystyr “grŵp blwyddyn” (“year group”) yw grŵp o blant mewn ysgol y bydd y mwyafrif ohonynt, yn ystod blwyddyn ysgol benodol, yn cyrraedd yr un oedran;

  • ystyr “llawlyfr gweinyddu’r APC” (“the NPA administration handbook”) yw’r ddogfen sy’n dwyn y teitl “Asesiadau Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen a Rhifedd: llawlyfr gweinyddu” a gyhoeddir gan Weinidogion Cymru o bryd i’w gilydd ac sy’n manylu ar drefniadau gweinyddol yr APC;

  • ystyr “pennaeth” (“head teacher”) yw pennaeth, gan gynnwys pennaeth dros dro, ysgol a gynhelir;

  • mae i “ysgol a gynhelir” (“maintained school”) yr ystyr a roddir yn adran 79(1)(a) o Ddeddf 2021.

Yr Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen: Saesneg3

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i—

a

disgybl ym mlwyddyn 4 i flwyddyn 9, a

b

disgybl ym mlwyddyn 2 a blwyddyn 3 pan fo’r mwyafrif o wersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Saesneg.

2

Rhaid i’r pennaeth wneud trefniadau i’r APCDCS gael ei roi i bob disgybl—

a

o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ysgol, a

b

yn unol â llawlyfr gweinyddu’r APC.

3

Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddisgybl sydd, ym marn y pennaeth, yn dod o fewn un o’r categorïau a restrir yng nghanllawiau datgymhwyso’r APC.

Yr Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen: Cymraeg4

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddisgybl ym mlwyddyn 2 i flwyddyn 9 pan fo’r mwyafrif o wersi’r disgybl hwnnw, ym marn y pennaeth, yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

2

Rhaid i’r pennaeth wneud trefniadau i’r APCDCC gael ei roi i bob disgybl—

a

o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ysgol, a

b

yn unol â llawlyfr gweinyddu’r APC.

3

Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddisgybl sydd, ym marn y pennaeth, yn dod o fewn un o’r categorïau a restrir yng nghanllawiau datgymhwyso’r APC.

Yr Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Rhifedd5

1

Mae’r rheoliad hwn yn gymwys i ddisgybl ym mlwyddyn 2 i flwyddyn 9.

2

Rhaid i’r pennaeth wneud trefniadau i’r APCRh gael ei roi i bob disgybl—

a

o leiaf unwaith ym mhob blwyddyn ysgol, a

b

yn unol â llawlyfr gweinyddu’r APC.

3

Ond nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i ddisgybl sydd, ym marn y pennaeth, yn dod o fewn un o’r categorïau a restrir yng nghanllawiau datgymhwyso’r APC.

Diwygio Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 20226

Ym mharagraff 6 o Ran 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 20223, yn lle “Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013” rhodder “Reoliadau Addysg (Trefniadau ar gyfer Asesu Darllen a Rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru) 20244”.

Lynne NeagleYsgrifennydd y Cabinet dros Addysg, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru. Dyma’r Cwricwlwm i Gymru. Mae adran 56 o’r Ddeddf yn darparu bod rhaid i Weinidogion Cymru wneud darpariaeth drwy reoliadau ar gyfer asesu mewn perthynas â’r cwricwlwm perthnasol. Mae i “cwricwlwm perthnasol” yr ystyr a roddir iddo yn adran 56(5) o’r Ddeddf.

Cafwyd cam cyntaf cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru yn y flwyddyn ysgol 2022 i 2023. Yna bydd y Cwricwlwm i Gymru yn cael ei gyflwyno yn flynyddol ar gyfer pob blwyddyn ysgol hyd nes y bydd wedi ei gyflwyno’n llawn ar gyfer pob blwyddyn ysgol yn y flwyddyn ysgol 2026 i 2027.

Mae’r Rheoliadau hyn yn rhoi effaith gyfreithiol i’r trefniadau asesu ar gyfer darllen a rhifedd yn y Cwricwlwm i Gymru ar gyfer disgyblion sy’n mynychu ysgolion (heblaw am ysgol arbennig gymunedol a sefydlir mewn ysbyty) a gynhelir gan awdurdod lleol yng Nghymru (“yr asesiadau personol cenedlaethol”).

Mae’r asesiadau personol cenedlaethol yn cymryd lle’r profion darllen a rhifedd (“y profion cenedlaethol”) y rhoddir effaith gyfreithiol iddynt gan Orchymyn Addysg (Y Cwricwlwm Cenedlaethol) (Trefniadau Asesu ar gyfer Darllen a Rhifedd) (Cymru) 2013 (“Gorchymyn 2013”).

Gwnaeth Rheoliadau Addysg (Dirymu Trefniadau Asesu yn y Cwricwlwm Cenedlaethol a Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau Dirymu”) ddarpariaeth drosiannol fel bod Gorchymyn 2013 yn parhau i weithio gyda’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn ystod y cyfnod y mae’n cael ei gyflwyno. Mae’r Rheoliadau Dirymu yn dirymu Gorchymyn 2013 ar 1 Medi 2024.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen yn Saesneg. Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Darllen yn Gymraeg. Mae rheoliad 5 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â’r Asesiad Personol Cenedlaethol ar gyfer Rhifedd.

Mae’r asesiadau personol cenedlaethol yn cael eu sefyll ar-lein ac yn asesu’r un sgiliau â’r profion cenedlaethol. Fodd bynnag, ceir rhai gwahaniaethau o ran y ffordd y bydd yr asesiadau personol cenedlaethol yn cael eu rhoi o gymharu â’r ffordd y mae’r profion cenedlaethol wedi cael eu rhoi—

a

nid yw’r Rheoliadau hyn yn cynnwys gofyniad i’r pennaeth roi’r asesiadau personol yn unol ag amserlen a bennir gan Weinidogion Cymru. Yn hytrach, caiff y pennaeth benderfynu pryd yn y flwyddyn ysgol y bydd disgyblion yn sefyll yr asesiadau personol cenedlaethol,

b

yn wahanol i Orchymyn 2013 mae’r Rheoliadau hyn yn darparu bod rhaid i’r pennaeth ei gwneud yn ofynnol i ddisgyblion sefyll yr asesiadau personol cenedlaethol o leiaf unwaith mewn blwyddyn ysgol. Felly, mae’n bosibl y bydd yn ofynnol i ddisgybl sefyll yr asesiadau personol cenedlaethol fwy nag unwaith mewn blwyddyn ysgol,

c

nid yw’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r pennaeth lofnodi datganiad i’r perwyl bod yr asesiadau personol cenedlaethol wedi eu rhoi yn unol â darpariaethau erthygl 6 o Orchymyn 2013, ond maent yn ei gwneud yn ofynnol i’r pennaeth eu rhoi yn unol â llawlyfr gweinyddu’r APC,

d

nid yw’r Rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol i’r awdurdod lleol sy’n cynnal yr ysgol fonitro gweinyddu’r asesiadau personol cenedlaethol, ac

e

nid yw’r Rheoliadau hyn yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i ymchwilio i unrhyw fater a atgyfeirir atynt o ganlyniad i unrhyw fonitro ar yr asesiadau personol cenedlaethol nac i gywiro canlyniadau fel y bo’n briodol.

Mae paragraff 6 o Ran 2 o Atodlen 2 i Reoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau Darparu Gwybodaeth”) yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ddarparu sylwadau cryno am ganlyniadau’r asesiadau a gynhelir o dan Orchymyn 2013. O ganlyniad i ddirymu Gorchymyn 2013, mae rheoliad 6 o’r Rheoliadau hyn yn rhoi cyfeiriad at y Rheoliadau hyn yn lle cyfeiriad at Orchymyn 2013 ym mharagraff 6 o Ran 2 o Atodlen 2 i’r Rheoliadau Darparu Gwybodaeth.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas âʼr Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.