2023 Rhif 991 (Cy. 160)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir iddynt gan adran 81(5)(a) a (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20001.

Enwi a dod i rym 1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) (Diwygio) 2023.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 9 Hydref 2023.

Diwygio rheoliad 1(3) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 2

Yn rheoliad 1(3) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 20012, yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”, ar ôl “cyngor cymuned,” mewnosoder “cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir drwy reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021,”.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio rheoliad 1(3) o Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Caniatáu Gollyngiadau) (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2279 (Cy. 169)) (“Rheoliadau 2001”) er mwyn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 1) at y diffiniad o “awdurdod perthnasol”.

Mae Rheoliadau 2001 yn nodi’r weithdrefn ar gyfer caniatáu gollyngiadau rhag gwaharddiadau yn y cod ymddygiad ar gyfer aelodau neu aelodau cyfetholedig o bwyllgorau safonau awdurdodau perthnasol.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gysylltiedig â rheoliadau a oedd yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig penodol o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a gorchmynion a rheoliadau cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar adeg gwneud y rheoliadau sefydlu hynny a dibynnir arno at ddiben y Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.