2023 Rhif 988 (Cy. 159)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru1 yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pŵer a roddir iddynt gan adran 53(11) ac adran 105(2)(a) a (2)(b) a (3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 20002.

Enwi a dod i rym 1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) (Diwygio) 2023 a deuant i rym ar 9 Hydref 2023.

Diwygiadau i Reoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001

2

Mae Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 20013 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3

Yn rheoliad 2—

a

yn y lle priodol mewnosoder “ystyr “cyd-bwyllgor corfforedig” (“corporate joint committee”) yw cyd-bwyllgor corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021;”;

b

yn y diffiniad o “aelod annibynnol”—

i

yn is-baragraff (b), ar ôl “swyddog” hepgorer “neu”;

ii

yn is-baragraff (c), ar ôl “cymuned” mewnosoder “, neu”;

iii

ar ôl is-baragraff (c) mewnosoder “(ch) pan fo awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, yn berson sy’n aelod, yn aelod cyfetholedig nac yn swyddog o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw nac o’i awdurdodau cyfansoddol, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol, nac yn briod nac yn bartner sifil i’r aelod, yr aelod cyfetholedig neu’r swyddog hwnnw;”;

c

yn y diffiniad o “aelod panel lleyg”—

i

yn is-baragraff (a), ar ôl “cymuned,” hepgorer “neu”;

ii

yn is-baragraff (b), ar ôl “cymuned” hepgorer “;” a mewnosoder “, neu”;

iii

ar ôl is-baragraff (b) mewnosoder—

c

pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig,

i

sy’n aelod o awdurdod cyfansoddol nad yw’n aelod o weithrediaeth yr awdurdod hwnnw, neu

ii

sy’n aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol nad yw’n aelod cymwys o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw;

d

yn y diffiniad o “awdurdod perthnasol”—

i

yn is-baragraff (c) hepgorer “ac”;

ii

yn is-baragraff (ch), ar ôl “achub” hepgorer “;” a mewnosoder “, a”;

iii

ar ôl is-baragraff (ch) mewnosoder “(d) cyd-bwyllgor corfforedig;”.

4

Yn rheoliad 4—

a

ar ôl paragraff (a) mewnosoder—

aa

pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, aelodau o awdurdodau cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol y cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw ond nid aelodau cyfetholedig o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw heblaw’r rhai a gyfetholwyd ar gyfer aelodaeth o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,

b

ym mharagraff (c), ar ôl “cymunedol” mewnosoder “ac eithrio pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig”.

5

Yn rheoliad 6—

a

ym mharagraff (1), hepgorer “Rhaid” a mewnosoder “Yn ddarostyngedig i (1A), rhaid”;

b

ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

1A

Pan fo’r awdurdod perthnasol y cyfeirir ato yn rheoliad 6(1) yn gyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i berson sydd wedi bod yn aelod o gyd-bwyllgor corfforedig neu’n aelod o awdurdod cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw, ond nad yw’n aelod mwyach, beidio â bod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw.

c

ym mharagraff (2), ar ôl “nad yw’r person hwnnw wedi bod yn aelod ohono” mewnosoder “, ond, pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, ni chaiff y person fod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau unrhyw awdurdod cyfansoddol nac Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw”.

6

Yn rheoliad 7—

a

ym mharagraff (1)—

i

hepgorer “Rhaid” a mewnosoder “Yn ddarostyngedig i (1A), rhaid”;

ii

yn y testun Cymraeg, ar ôl “nad yw’n” yn lle “aelod” rhodder “swyddog”;

b

ar ôl paragraff (1) mewnosoder—

1A

Pan fo’r awdurdod perthnasol y cyfeirir ato yn rheoliad 7(1) yn gyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i berson sydd wedi bod yn swyddog o gyd-bwyllgor corfforedig neu’n swyddog o awdurdod cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw, ond nad yw’n swyddog ohono mwyach, beidio â bod yn aelod annibynnol o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw.

c

ym mharagraff (2), yn lle “, ond nad yw’n aelod mwyach” rhodder “neu, os yw’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, yn swyddog o’i awdurdodau cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol, ond nad yw’n swyddog mwyach”.

7

Yn rheoliad 8, ar ôl paragraff (3) mewnosoder—

4

Pan fo awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i gadeirydd awdurdod o’r fath beidio â bod yn aelod o bwyllgor safonau’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw.

8

Yn rheoliad 18—

a

ym mharagraff (1)—

i

ar ôl “aelod o’r awdurdod hwnnw” mewnosoder

, neu aelod o bwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig sy’n aelod o awdurdod cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,

ii

ar ôl “ar gyfer yr awdurdod” mewnosoder “neu’r awdurdod cyfansoddol”;

b

ym mharagraff (2), ar ôl “awdurdod lleol o dan sylw” mewnosoder “, neu, yn achos cyd-bwyllgor corfforedig, o awdurdod cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,”.

9

Yn rheoliad 19, ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

3

Pan fo awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, rhaid i gyfnod swydd aelod o bwyllgor safonau’r awdurdod hwnnw sy’n aelod o Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol yr awdurdod hwnnw beidio â bod yn hwy na’r cyfnod tan y bydd aelodaeth yr aelod hwnnw o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol yn dod i ben, a bydd aelodaeth aelod o’r fath o’r pwyllgor safonau hwnnw yn dod i ben os yw aelodaeth yr aelod hwnnw o’r Awdurdod Parc Cenedlaethol hwnnw yn dod i ben.

10

Yn rheoliad 21(1), ar ôl “aelod o’r awdurdod hwnnw,”, mewnosoder “neu, pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, sy’n aelod o awdurdod cyfansoddol neu Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol o’r cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw,”.

11

Yn rheoliad 23(1), yn lle “neu’r awdurdodau perthnasol o dan sylw” rhodder “na’r awdurdodau perthnasol o dan sylw neu, pan fo’r awdurdod perthnasol yn gyd-bwyllgor corfforedig, nad yw’n aelod o’i awdurdodau lleol cyfansoddol nac o’i Awdurdod Parc Cenedlaethol cyfansoddol”.

12

Yn rheoliad 25—

a

ym mharagraff (1), ar ôl “pwyllgor safonau” mewnosoder “, ac eithrio pwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig,”;

b

ym mharagraff (2), ar ôl “pwyllgor safonau” mewnosoder “, ac eithrio pwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig,”;

c

ar ôl paragraff (2) mewnosoder—

2A

Rhaid i bwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig gynnal o leiaf un cyfarfod yn ystod pob cyfnod o 12 mis ar ôl i’r pwyllgor safonau cyd-bwyllgor corfforedig hwnnw gael ei sefydlu.

13

Yn rheoliad 26, mewnosoder—

10

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig.

14

Yn rheoliad 27, mewnosoder—

5

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig.

15

Yn rheoliad 28, mewnosoder—

3

Nid yw’r rheoliad hwn yn gymwys i gyd-bwyllgorau corfforedig.

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 at y diffiniad o “awdurdod perthnasol” yn Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 (“Rheoliadau 2001”).

Mae’r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Rheoliadau 2001 i ddarparu ar gyfer maint, cyfansoddiad, a thrafodion pwyllgorau safonau cyd-bwyllgorau corfforedig a chywiro gwallau yn y testun Cymraeg.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau a gorchmynion cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar adeg gwneud y rheoliadau sefydlu hynny a dibynnir arno at ddiben y Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.