2023 Rhif 944 (Cy. 154)

Llywodraeth Leol, Cymru

Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2023

Gwnaed

Gosodwyd gerbron Senedd Cymru

Yn dod i rym

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 1(5), (6) a (12) a 191(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 19891 ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy2.

Enwi, dod i rym a chymhwyso 1

1

Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2023.

2

Daw’r Rheoliadau hyn i rym ar 2 Hydref 2023.

3

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Diwygiad i Reoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990

2

Mae Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 19903 wedi eu diwygio fel a ganlyn.

3

Yn rheoliad 2, yn y lle priodol mewnosoder—

  • local authority” includes a corporate joint committee established by regulations made under Part 5 of the Local Government and Elections (Wales) Act 20214;

Rebecca EvansY Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, un o Weinidogion Cymru
NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990 (O.S. 1990/851) (“Rheoliadau 1990”) yn gosod cyfyngiadau ar weithgareddau gwleidyddol cyhoeddus swyddogion llywodraeth leol a benodir i swyddi sy’n swyddi o dan gyfyngiadau gwleidyddol, neu a gyflogir mewn swyddi o’r fath, at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989 (p. 42) (“Deddf 1989”). Mae’r cyfyngiadau ar ffurf telerau ac amodau y bernir eu bod wedi eu hymgorffori yn nhelerau penodiad ac amodau cyflogaeth y swyddogion hynny (“y cyfyngiadau”).

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu cyd-bwyllgorau corfforedig a sefydlir gan reoliadau a wneir o dan Ran 5 o Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (dsc 2021) at Reoliadau 1990 er mwyn gosod y cyfyngiadau ar weithgareddau gwleidyddol cyhoeddus swyddogion cyd-bwyllgorau corfforedig sy’n ddeiliaid swyddi o dan gyfyngiadau gwleidyddol yng Nghymru at ddibenion Rhan 1 o Ddeddf 1989.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r rheoliadau sy’n sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig a rheoliadau a gorchmynion cysylltiedig. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol ar adeg gwneud y rheoliadau sefydlu hynny a dibynnir arno at ddiben y Rheoliadau hyn. Gellir cael copi oddi wrth: Yr Is-adran Cyllid Strategol Llywodraeth Leol, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.